Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Sefydlu a Symud Gwynedd

💰 £21,453 - £25,017 pro rata Ar gau

Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Sefydlu a Symud Gwynedd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:

Sefydlu a Symud Ymlaen:

  • Gwireddu cynllun sydd eisoes mewn lle i ddatblygu ac agor Cylchoedd Meithrin/Ti a Fi mewn ardaloedd ddaearyddol benodol trwy:

  • Ehangu gofod trwy gynllun cyfalaf y llywodraeth a neu gyfuno gwasanaeth allanol a Chylch Meithrin er mwyn sicrhau bo mwy o blant yn mynychu’r Cylch Meithrin

  • Adnabod a hwyluso i sefydlu pwyllgor rheoli gwirfoddol yn lleol a threfnu cyfarfodydd sefydlu pwyllgor rheoli

  • Cefnogi’r pwyllgor rheoli i sefydlu strwythurau busnes cadarn i’r Cylch Meithrin/Ti a Fi

  • Adnabod lleoliad posibl

  • Adnabod staff ac arwain proses recriwtio a phenodi

  • Cefnogi ac arwain y pwyllgor rheoli drwy’r broses gofrestru AGC

  • Cydweithio gyda thîm ehangach Mudiad Meithrin i wireddu’r cynllun

  • Cydweithio a chydlynu gyda’r Cyngor Sir

  • Cydweithio gyda’r ysgolion cyfrwng Cymraeg lleol a’r gymuned ehangach

  • Trefnu hyfforddiant perthnasol i bwyllgorau newydd a staff mewn partneriaeth â’r tîm taleithiol

  • Adnabod ffynonellau nawdd a grant a chefnogi ac arwain y pwyllgor ar brosesau ymgeisio ble’n addas a threfnu digwyddiadau codi arian

  • Hybu a hyrwyddo'r Cylch Meithrin/Ti a Fi newydd

  • Ar ôl sicrhau bod y Cylch Meithrin/ Ti a Fi’n sefydlog, cyflwyno’r Cylch Meithrin/ Ti a Fi newydd i Swyddog Cefnogi penodedig o fewn tîm Mudiad Meithrin

Gwaith Cyffredinol:

  • Gweithredu yn unol â nod ac amcanion Mudiad Meithrin, yn benodol polisi iaith Mudiad Meithrin

  • Datblygu ac ehangu darpariaethau o fewn yr ardal

  • Darparu gwybodaeth a pharatoi adroddiadau (ar lafar ac yn ysgrifenedig) at bwrpas cynllunio strategol ar lefel lleol a chenedlaethol e.e. Adroddiad Diweddaru Gwybodaeth

  • Eirioli a hyrwyddo gwaith darpariaethau Mudiad Meithrin a manteision addysg Gymraeg a dilyniant

  • Cynnal a datblygu perthynas gyda phobl a sefydliadau perthnasol e.e. rhieni/gwarchodwyr, ysgolion ayyb

  • Manteisio ar gyfleoedd i fynychu hyfforddiant proffesiynol parhaus a rhannu arfer dda pan fo’n berthnasol

  • Mynychu digwyddiadau ac achlysuron lleol perthnasol ar gyfer hyrwyddo’r gwaith o sefydlu Cylchoedd Meithrin/Ti a Fi newydd mewn ymgynghoriad â’r Rheolwr Talaith a Rheolwr Cymraeg i Blant e.e. sioeau, sioeau babis, eisteddfodau yn ôl yr angen

  • Mynychu cyfarfodydd tîm yn dymhorol a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn 

  • Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.

  • Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Cyflog

💰 £21,453 - £25,017 pro rata

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £543 yr awr o sain 📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £15k - £18k 📍 Caeredin📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £23k 📍 Y Bala Ar gau

💰 £67k - £70k 📍 Caernarfon📍 Hyblyg Ar gau

💰 £30,966 📍 Llandeilo📍 Hyblyg Ar gau

💰 £24,669 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £29k 📍 Caernarfon📍 Hybrid Ar gau

💰 £28k 📍 Llangefni Ar gau

💰 £30k 📍 Bangor📍 Hybrid Ar gau

💰 £28,459 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £28k - £30k 📍 Hybrid📍 Pen-y-bont ar Ogwr Ar gau

💰 £23k 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £31k 📍 Aberystwyth📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £29k - £34k 📍 Corwen Ar gau

💰 £22k - £26k 📍 Corwen📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £22k - 26k 📍 Corwen📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £25k - £30k 📍 Botwnnog Ar gau

💰 £35k - £45k 📍 Botwnnog Ar gau

💰 £21k 📍 Botwnnog Ar gau

💰 £29.5k 📍 Y Fenni📍 Abertyleri +23 Ar gau

💰 Soulbury 27-30 ynghyd â 3 phwynt SPA 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin📍 Caernarfon +1 Ar gau