Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol

💰 £27,116 - £30,497 📍 Caerfyrddin Ar gau

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth, ac sy’n ymroi i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu. 

Rydym ni’n cynnig addysgu arloesol, y cyfarpar diweddaraf a chefnogaeth ragorol ar draws ystod eang o leoliadau dysgu a chyrsiau. 

Ymhellach, cawsom ein gosod yn 13eg am ansawdd addysgu yn y Times and Sunday Times Good University Guide 2022 ac 8fed yn y DU am ‘Gynhwysiant Cymdeithasol’ yn y gynghrair hon eleni. 

Rydym ni nawr yn edrych am Lyfrgellydd Gwasanaethau Cwsmeriaid i ymuno â champws Caerfyrddin ar sail lawn amser, barhaol yn gweithio 22 awr yr wythnos.

- Y RÔL –

Rôl y Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol fydd datblygu ar y seiliau cadarn a osodwyd eisoes trwy ddefnydd medrus o ddulliau digidol gan gyfathrebu’n effeithiol a chreu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau digidol sy’n cynnwys nifer o llwyfannau ar-lein (gwefan, cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyron).

Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am ddarganfod ffyrdd amrywiol a dychmygus o gyfathrebu a hyrwyddo cynnig eang y Ganolfan, sy’n cynnwys:

  • y rhaglen artistig a phrosiectau creadigol

  • y gymuned greadigol â digwyddiadau rhyngweithio i’r sector sgrîn

  • cyrsiau hyfforddiant a chyfleon addysgiadol

  • adnoddau'r ganolfan sy’n cynnwys gofodau cynhyrchu a chydweithio

Disgwylir i’r swyddog gyfrannu at, ysgrifennu a/neu olygu copi ar gyfer adroddiadau, cyhoeddiadau, y wefan, datganiadau ac erthyglau, a deunydd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol gan gynnig syniadau o ran deunydd addas i gynulleidfaoedd amrywiol.

** - AMDANOCH CHI - **

I gael eich ystyried fel Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol, bydd angen i chi feddu ar y canlynol:

  • Profiad o ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau digidol i gyflawni ymgyrchoedd yn effeithiol

  • Sgiliau cynllunio a threfnu gan ymdopi â sawl math o waith ar yr un pryd

  • Gradd anrhydedd dda neu gymhwyster cyfatebol

  • Y gallu i adnabod y gynulleidfa darged, ei hanghenion a’i disgwyliadau;

  • Profiad o gynhyrchu a chreu cynnwys addas ar ffurf lluniau a fideos.

  • Y gallu i gydweithio ac ymgynghori gyda chydweithwyr a phartneriaid

  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig

**- BUDDION – **

- Yr hawl gwyliau blynyddol yw 28 diwrnod o wyliau ynghyd â 8 gwyl banc a 4 diwrnod cau’r Brifysgol 

Mae ein gweithwyr yn manteisio ar becyn cyflog a buddion gwych i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys: 

- Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, rydym yn cynnig cyflog cystadleuol 

- Aelodaeth cynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion i chi a’ch teulu 

- Polisïau sy’n dda i deuluoedd sy’n darparu ar gyfer gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl 

- Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cymorth i sicrhau cymwysterau pellach 

- Cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant, yn cynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela 

- Gostyngiadau i staff ar amrywiol gynhyrchion a gwasanaethau 

- Cynlluniau teithio fel y cynllun seiclo i’r gwaith

Cyflog

💰 £27,116 - £30,497

Lleoliad

📍 Caerfyrddin

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £36,000 - £40,000 📍 Caerdydd📍 Hybrid +1 Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £33,075 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 O gwmpas £43,000 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £25,026 - £27,988 📍 Bae Caerdydd📍 Caerfyrddin +2 Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 pro rata 📍 Bangor Ar gau

💰 £23,620 pro rata 📍 Rhondda Cynon Taf Ar gau

💰 £24,285 - £27,131 📍 Bangor Ar gau

💰 £25,662 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 £37,474 📍 Pontypridd Ar gau

💰 £37,519 - £42,404 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £26,894 - £29,080 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £33,820 - £37,261 📍 O gartref📍 Brynbuga Ar gau

💰 £32,458 - £34,318 📍 Hybrid Ar gau

💰 Di-dâl 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £25,000 - £28,000 📍 Wrecsam Ar gau

💰 £20,812 - £21,968 pro rata 📍 Beddgelert Ar gau