Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Cyfreithiol

💰 £25,419 - £27,514 📍 Caernarfon Ar gau

Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Gynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Cyfreithiol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Cynllun Yfory yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd gyda gradd neu gymhwyster cyfwerth i ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.

Mae'r cynllun yn rhoi cyfle unigryw i hyfforddeion proffesiynol i ddeall mwy am weithio i lywodraeth leol drwy gael amryw o brofiadau ymarferol o bob lefel o'r sefydliad, i ddatblygu sgiliau hanfodol yn y maes cyfreithiol, i ddatblygu rhwydweithiau ar draws y Cyngor a thu hwnt.

Bydd cytundeb hyfforddi yn cael ei gynnig i unigolyn, fydd ar ddiwedd dwy flynedd o hyfforddiant yn cymhwyso fel cyfreithiwr. Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig ac ymroddgar sydd yn barod i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol, proffesiynol ac ymarferwr y gyfraith. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn magu profiad gyda’r golwg ar ddatblygu i ddod yn gyfreithiwr llywodraeth leol ac yn y dyfodol un o reolwyr ac arweinwyr yn y maes yma. Bydd hyn digwydd o fewn tim sydd yn annog dysgu a datblygu mewn awyrgylch cefnogol a chyfeillgar.

Os ydych chi erioed wedi meddwl y byddech chi’n hoffi gweithio i lywodraeth leol a bod yn rhan o weithlu arbennig, mae Cynllun Yfory yn berffaith i chi.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/cynllunyfory

Mae cyswllt ar y wefan i’r pecyn gwybodaeth sydd yn cynnwys gwybodaeth fanwl o’r cynllun a chanllawiau i chi ar gyfer cwblhau eich cais yn llwyddiannus.   Mae cyfle cyffrous wedi codi i hyfforddai arbenigol ymuno gyda’r gwasanaeth Cyfreithiol o fewn y Cyngor. Bydd cytundeb hyfforddi yn cael ei gynnig i unigolyn fydd ar ddiwedd dwy flynedd o hyfforddiant yn cymhwyso fel cyfreithiwr. Mae Gwasanaeth Cyfreithiol Cyngor Gwynedd wedi ei chymhwyso i hyfforddi darpar gyfreithwyr, a bydd yr unigolyn llwyddiannus yn cael profiad o weithredu mewn amrywiaeth eang o feysydd gwaith arbenigol. Bydd cyfle hefyd i gael profiad o gynghori ar faterion corfforaethol megis cyfundrefnau llywodraethu a phriodoldeb y Cyngor. Drwy gydol y cyfnod bydd yr hyfforddai yn datblygu sgiliau craidd megis drafftio dogfennau a chytundebau, darparu cyngor cyfreithiol, trefniadau amryw lysoedd a thribiwnlysoedd ac adfocatiaeth.

Bydd yr hyfforddai yn ymuno a Chymdeithas y Gyfraith ac o dan reolaeth yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr. Mae cefnogi cytundeb hyfforddiant yn flaenoriaeth i’r Gwasanaeth ac rydym yn chwilio felly am ymgeisydd brwdfrydig ac ymroddgar sydd yn barod i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol, proffesiynol ac ymarferwr y gyfraith.

NODER - Byddwch angen fod wedi cwblhau yn llwyddiannus Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (Legal Practice Course - LPC) er mwyn ymgeisio. 

Cyflog

💰 £25,419 - £27,514

Lleoliad

📍 Caernarfon

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £36,000 - £40,000 📍 Caerdydd📍 Hybrid +1 Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £33,075 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 O gwmpas £43,000 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £25,026 - £27,988 📍 Bae Caerdydd📍 Caerfyrddin +2 Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 pro rata 📍 Bangor Ar gau

💰 £23,620 pro rata 📍 Rhondda Cynon Taf Ar gau

💰 £24,285 - £27,131 📍 Bangor Ar gau

💰 £25,662 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 £37,474 📍 Pontypridd Ar gau

💰 £37,519 - £42,404 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £26,894 - £29,080 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £33,820 - £37,261 📍 O gartref📍 Brynbuga Ar gau

💰 £32,458 - £34,318 📍 Hybrid Ar gau

💰 Di-dâl 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Hyblyg Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £25,000 - £28,000 📍 Wrecsam Ar gau

💰 £20,812 - £21,968 pro rata 📍 Beddgelert Ar gau