Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cadeirydd y Coleg

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 Honorariwm 📍 Hyblyg Ar gau

Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Gadeirydd y Coleg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn chwilio am Gadeirydd newydd i’w arwain mewn cyfnod cyffrous.

Mae hwn yn gyfle arbennig i unigolyn profiadol sydd yn awyddus i ddefnyddio’i sgiliau a phrofiadau helaeth ym myd llywodraethiant, arweinyddiaeth ac addysg i arwain corff cynllunio cenedlaethol uchelgeisiol sydd â’r Gymraeg wrth wraidd ei bwrpas a’i weledigaeth.

Y Coleg sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru. Mae’n cyflawni hyn drwy weithio mewn partneriaeth gyda phrifysgolion, sefydliadau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau i adeiladu cyfundrefn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg gynhwysol o’r radd flaenaf. 

Fel Cadeirydd, byddwch yn arwain y Bwrdd Cyfarwyddwyr a’r Coleg wrth weithredu Cynllun Strategol y Coleg, sydd yn canolbwyntio ar ehangu a datblygu cyfleoedd i fyfyrwyr a dysgwyr yng nghyd-destun Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru a blaenoriaethau polisi eraill.

Prif ddyletswyddau’r Cadeirydd yw cynnig a dangos arweiniad strategol, ac arwain y Bwrdd wrth iddo lunio a chymeradwyo strategaethau, monitro perfformiad a sicrhau bod strwythurau llywodraethiant cryf yn goruchwylio holl ystod gwaith y Coleg.

Disgwylir ymrwymiad o tua dau ddiwrnod y mis ar gyfartaledd. Telir honorariwm o £7,500 y flwyddyn ac ad-delir costau yn unol â pholisi costau’r Coleg.

Bydd y penodiad am gyfnod o bedair blynedd, i ddechrau ym mis Gorffennaf 2022. 

Mae’r Coleg yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob rhan o’r gymuned. Gweithredir egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored, a gwneir y penodiad ar sail teilyngdod.

Dyddiad Cau: 1 Mehefin 2022

Ceir manylion llawn a ffurflen gais ar wefan y Coleg, www.colegcymraeg.ac.uk/cadeirydd2022

Cyflog

💰 Honorariwm

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Mudiad Meithrin

💰 £21,049 pro rata 📍 Gogledd Powys📍 Wrecsam Ar gau

Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol

💰 £29,000 - £36,000 📍 Cymru📍 O gartref Ar gau

Comisiynydd Plant Cymru

💰 £31,210 📍 Castell-nedd Port Talbot Ar gau

Rondo

💰 I'w drafod 📍 Caernarfon📍 Caerdydd +2 Ar gau

Rondo

💰 I'w drafod 📍 Caernarfon📍 Caerdydd +2 Ar gau

Rondo

💰 I'w drafod 📍 Caernarfon📍 Caerdydd +2 Ar gau

Rondo

💰 I'w drafod 📍 Caernarfon📍 Hyblyg Ar gau

Rondo

💰 I'w drafod 📍 Caernarfon📍 Hyblyg Ar gau

Rondo

💰 I'w drafod 📍 Caerdydd📍 Hyblyg Ar gau

Dysgu Cymraeg Morgannwg (Prifysgol De Cymru)

💰 £21,686 📍 Pontypridd Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £21,684 📍 Bangor Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £21,684 📍 Bangor Ar gau

Y Comisiwn Etholiadol

💰 £38,000 📍 Caerdydd Ar gau

Cymwysterau Cymru

💰 £40,100 - £47,470 📍 Casnewydd📍 Hybrid Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £39,001 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hyblyg Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £24,063 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hyblyg Ar gau

Adra

💰 £23,379 - £25,641 📍 Bangor📍 O gartref Ar gau

Adra

💰 £20,448 - £22,791 📍 De Gwynedd📍 O gartref Ar gau

Adra

💰 £28,250 📍 Gogledd Cymru Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 tua £56,000 📍 Llangefni Ar gau

Cyngor Caerdydd

💰 £30,095 - £34,373 📍 Caerdydd Ar gau

Llywodraeth Cymru

💰 £350 y dydd 📍 Unrhyw le yng Nghymru Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

💰 £8,125 - £8,288 (15 awr) / £20,043 - £20,444 (37 awr) 📍 Conwy Ar gau