Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Aseswr Anghenion Astudio

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Aberystwyth Ar gau

Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Aseswr Anghenion Astudio

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Gwahoddir ceisiadau am y swydd lawn-amser uchod am gyfnod penodol yn gweithio i Ganolfan Asesu Prifysgol Bangor, yng Nghanolfan Allgymorth Prifysgol Aberystwyth.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar radd neu gymhwyster cyfwerth a’i brif swyddogaeth fydd darparu asesiadau anghenion astudio ar gyfer Lwfansau Myfyrwyr Anabl ar ffurf trafodaeth â’r myfyrwyr ynglŷn ag effeithiau eu hamhariad, gofynion eu cwrs, a’u ffordd o weithio. O ganlyniad, ceir argymhellion ar gyfer cefnogaeth briodol sydd fel arfer yn gyfuniad o gefnogaeth ddynol, meddalwedd cynorthwyol a chaledwedd, ynghyd â’r addasiadau rhesymol y gallai sefydliad addysg uwch y myfyriwr eu gwneud. Bydd y swyddog yn egluro’r cymorth y gall y myfyriwr ei gael, neu’n rhoi arddangosiad yn achos technoleg gynorthwyol, ac yn ei drafod â’r myfyriwr. Nodir y drafodaeth, yr argymhellion a’r cyfiawnhad mewn adroddiad, a anfonir i gorff cyllido’r myfyriwr sydd, yn y pen draw, â’r cyfrifoldeb dros benderfynu pa gymorth y dylid talu amdano trwy’r Lwfans Myfyrwyr Anabl.

Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau ar 1 Awst 2022 ac mae’r swydd ar gael ar hyn o bryd tan 31 Gorffennaf 2023. Bydd ceisiadau hefyd yn cael eu hystyried i wneud y swydd hon ar sail ran-amser neu rannu swydd hyd at yr oriau a hysbysebir.

Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 17 Mehefin, 2022.

Cewch wneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â: Dylan Griffiths, Rheolwr y Ganolfan Asesu, ffôn: 01248 383797, e-bost: [email protected]

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal 

Cyflog

💰 £34,304 - £40,927

Lleoliad

📍 Aberystwyth

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Menter a Busnes

💰 Tua £90k 📍 Hyblyg Ar gau

GwE

💰 £17k 📍 Bae Colwyn Ar gau

Prifysgol Caerdydd

💰 £20k - £22k 📍 Caerdydd Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru, Mudiad Meithrin

💰 £21k - £25k 📍 Aberystwyth Ar gau

Amgueddfa Cymru

💰 Costau yn unig 📍 Hyblyg Ar gau

Amgueddfa Cymru

💰 Costau yn unig 📍 Hyblyg Ar gau

Tinopolis

💰 Yn ôl profiad 📍 Llanelli Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £29k - £32k 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £32k - £36k 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £29k - £32k 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £38k - £42k 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

Coleg y Cymoedd

💰 £22k - £42k 📍 Nantgarw Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £35k 📍 Llandudno Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £21k pro rata 📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin Ar gau

Cyfoeth Naturiol Cymru

💰 £31k - £35k 📍 Hyblyg Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £22k pro rata 📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin📍 O gartref Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £26k pro rata 📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin📍 O gartref Ar gau

Amgueddfa Cymru

💰 £12k - £15k 📍 Llanberis Ar gau

Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy

💰 £22k - £23k 📍 Torfaen Ar gau

S4C

💰 Yn ôl profiad 📍 Hyblyg Ar gau

Adra

💰 £55k - £58k 📍 Bangor📍 O gartref Ar gau

Adra

💰 Isafswm cyflog 📍 Bangor📍 O gartref Ar gau