Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Gynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Cynllunio a Pheirianneg Trafnidiaeth

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

CYNLLUN YFORY 2022 - Cynllun Graddedigion Cyngor Gwynedd Mae Cynllun Yfory yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd gyda gradd neu gymhwyster cyfwerth i ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.

Mae'r cynllun yn rhoi cyfle unigryw i hyfforddeion proffesiynol i ddeall mwy am weithio i lywodraeth leol drwy gael amryw o brofiadau ymarferol o bob lefel o'r sefydliad, i ddatblygu sgiliau hanfodol yn y maes Cynllunio a Pheirianneg Trafnidiaeth, i ddatblygu rhwydweithiau ar draws y Cyngor a thu hwnt ac ar yr un pryd ennill cymhwyster Gradd Meistr.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael profiad mewn nifer o feysydd arbenigol Cynllunio a Pheirianneg Trafnidiaeth, gyda golwg ar ddatblygu i fod yn arweinydd ac arbenigwr y dyfodol yn y ddisgyblaeth bwysig hon.

Os ydych chi erioed wedi meddwl y byddech chi’n hoffi gweithio i lywodraeth leol a bod yn rhan o weithlu arbennig, mae Cynllun Yfory yn berffaith i chi.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/cynllunyfory

Mae cyswllt ar y wefan i’r pecyn gwybodaeth sydd yn cynnwys gwybodaeth fanwl o’r cynllun a chanllawiau i chi ar gyfer cwblhau eich cais yn llwyddiannus.   Mae’r maes trafnidiaeth yn mynd trwy gyfnod o newid mawr. Yr argyfwng hinsawdd yw un o broblemau diffiniol mwyaf ein hoes. Mae lleihau llygredd carbon yn y maes trafnidiaeth yn rhan bwysig i sicrhau bod Gwynedd yn ceisio cyrraedd y nod o garbon sero-net erbyn 2050. Er mwyn gwneud hynny, mae angen inni addasu'r ffordd rydym yn teithio. Golygai hyn fod angen i’r gwasanaeth ymrwymo i edrych ar nifer o wahanol gynlluniau a byddai modd i drigolion Wynedd ddewis dull mwy cynaliadwy o deithio.

Rydym yn chwilio am ymgeisydd fyddai’n gallu helpu’r gwasanaeth i wella’r isadeiledd trafnidiaeth a byddai’n helpu pobl Gwynedd i leihau eu hôl troed carbon.

Mi fydd yr hyfforddai Proffesiynol yn rhoi sylw penodol ar wella ein rhwydwaith llwybrau cerdded a beicio, cyflwyno mannau gwefru yn ogystal â gwelliannau i’r isadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus. Ar rhai adegau, mi fydd angen helpu’r gwasanaeth yn yr uned traffig.

Cyflog

💰 £25,419 - £27,514

Lleoliad

📍 Caernarfon

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £28,235 - £30,854 📍 Blaenau Ffestiniog📍 Llangefni +2 Ar gau

💰 £51,380 - £61,440 📍 Casnewydd📍 O gartref Ar gau

💰 £24,899 - £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £24,899 - £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £26,209 - £33,813 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £27,344 pro rata 📍 Blaenau Ffestiniog Ar gau

💰 £69k 📍 Casnewydd📍 O gartref Ar gau

💰 £25,878 - £40,478 📍 Casnewydd📍 O gartref Ar gau

💰 £21,630 - £22,662 📍 Bangor Ar gau

💰 £23,000 - £25,000 pro rata 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £21,197 - £23,144 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £29,174 - £33,486 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £22,500 - £23,111 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £18,000 - £25,000 📍 Porthmadog Ar gau

💰 £41,704 - £47,840 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Llanelli Ar gau

💰 £750 y mis 📍 Patagonia Ar gau

💰 £29,174 – £33, 486 pro rata 📍 O gartref Ar gau

💰 £53,440 - £63,900 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £27,929 - £31,411 📍 Caerfyrddin Ar gau