Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cyfieithydd Iaith Gymraeg

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

💰 £26k - £32k 📍 Hyblyg Ar gau

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn edrych am Gyfieithydd Iaith Gymraeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant sydd ag ymagwedd hyblyg gyfrannu at waith pwysig y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Rydyn ni’n awyddus i glywed gan ymgeiswyr, waeth beth fo’u hamgylchiadau neu eu lleoliad daearyddol. Mae ein pencadlys modern wedi’i leoli wrth gyffordd 41 yr M4 ar bwys gorsaf trên Baglan, ac yno rydyn ni’n hyrwyddo gweithio hyblyg. Er mai hwn yw lleoliad swyddogol ar gyfer y swydd, bydden ni’n awyddus i glywed gan bobl sydd eisiau hyblygrwydd yn eu lleoliad gwaith. Hefyd byddai’r swydd hon yn addas i rywun sydd eisiau rhannu swydd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau Cymraeg cadarn, ac yn hyderus i’w defnyddio i greu dogfennau ysgrifenedig. Dylech chi gynnwys tystiolaeth o gyfieithu mewn lleoliad ffurfiol ar eich cais. (Cymraeg/Saesneg. Saesneg/Cymraeg).

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â gwahanol ddulliau o gyfieithu. Y dull pwysicaf yw trosi dogfennau o’r naill iaith i’r llall, gan gynnwys adroddiadau, llythyrau a thaflenni gwybodaeth. Hefyd, bydd gwaith trawsgrifio achlysurol o’r Gymraeg i’r Saesneg a’r Saesneg i’r Gymraeg.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio’n fanwl gywir, a meddu ar ddealltwriaeth dda o becyn Microsoft Office. Byddai profiad blaenorol o feddalwedd cyfieithu proffesiynol hefyd yn fuddiol.

Byddai profiad blaenorol a gwybodaeth o waith y GIG yn fanteisiol, ynghyd â phrofiad o a/neu gymhwyster mewn cyfieithu ar y pryd, ond nid yw hyn yn hanfodol.

Rydyn ni’n ymrwymedig i ddatblygu ein staff a sicrhau bod gan yr holl dîm gydbwysedd priodol rhwng eu bywydau a’u gwaith.

Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. 

Cyflog

💰 £25,655 - £31,534

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyfoeth Naturiol Cymru

💰 £31k - £35k 📍 Hyblyg📍 Hybrid Ar gau

Prifysgol Abertawe

💰 £20k - £22k 📍 Abertawe Ar gau

Menter a Busnes

💰 £25k - £27k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +4 Ar gau

Menter a Busnes

💰 £23k - £26k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +4 Ar gau

Four Cymru

💰 Ar gais 📍 Caerdydd📍 Aberystwyth +1 Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £43k - £57k 📍 Aberystwyth Ar gau

Cymdeithas Tai Bro Myrddin

💰 Tua £44k 📍 Caerfyrddin📍 O gartref Ar gau

Estyn

💰 £26k - £29k 📍 Hybrid📍 Caerdydd Ar gau

Barddas

💰 £29k - £33k pro rata 📍 O gartref Ar gau

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

💰 £150 y cyfarfod (TAW) 📍 Hyblyg Ar gau

Coleg Gwent

💰 £23k - £25k 📍 Pont-y-cymer Ar gau

Prifysgol Aberystwyth

💰 £23k - £26k 📍 Hyblyg📍 Aberystwyth Ar gau

Coleg y Cymoedd

💰 £23k - £24k 📍 Campws Nantgarw Ar gau

Cymwysterau Cymru

💰 £40k - £47k 📍 Casnewydd📍 Hyblyg Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £36k - £42k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £22k pro rata 📍 Pont-y-pŵl Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £28k - £30k 📍 Caernarfon Ar gau

Amgueddfa Cymru

💰 £24k - £31k 📍 Llandysul Ar gau

Telesgop

💰 Cystadleuol 📍 Abertawe📍 O gartref Ar gau

Telesgop

💰 I'w drafod 📍 Abertawe📍 O gartref Ar gau

Amgueddfa Cymru

💰 £18k - £22k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £41k - £44k 📍 Llangefni Ar gau

Parc Cenedlaethol Eryri

💰 £28k - £33k 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau