Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Trefnydd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd

💰 £32,074 - £36,425 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Drefnydd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol sy’n fodlon gwthio’r ffiniau er mwyn rhoi profiadau theatrig o ansawdd uchel i bobl ifanc Cymru.

Amdanom ni:

Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymwneud â chwaraeon, y celfyddydau, gwirfoddoli, hyfforddiant, gwaith dyngarol, rhyngwladol a phreswyl, sy’n eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn ehangach.

Ers ei sefydlu yn 1922, mae’r mudiad wedi meithrin cenedlaethau o bobl ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i eraill ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru. Hyd yma mae dros 4 miliwn o bobl wedi bod yn aelodau o’r Urdd ac eleni mae’r mudiad yn edrych ymlaen at ddathlu ei ganmlwyddiant a chydag nifer o ddigwyddiadau mawr wedi’u cynllunio’n arbennig.

Yr Urdd yw cyflogwr trydydd sector cyfrwng Cymraeg mwyaf yng Nghymru, gyda dros 200 o staff wedi’u lleoli mewn 12 swyddfa ledled Cymru. Roedd ei drosiant blynyddol cyn Covid bron yn £12M, a daeth â gwerth economaidd o £32M i Gymru yn ystod 2019/20.   Y Swydd

Ym mlwyddyn ein canmlwyddiant, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, rydym am ailsefydlu Cwmni Theatr Ieuenctid Cenedlaethol yr Urdd i roi mynediad hawdd a chyfartal i bobl ifanc o bob cefndir cymdeithasol ac economaidd i brofiadau theatr yn y Gymraeg. Bydd y Cydlynydd yn gweithio gyda phartneriaid ac arbenigwyr proffesiynol a blaenllaw i gynnig profiadau o’r safon uchaf i aelodau’r Cwmni Theatr.

Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol sy’n fodlon gwthio’r ffiniau er mwyn rhoi profiadau theatrig o ansawdd uchel i bobl ifanc Cymru.   Am fwy o fanylion cysylltwch â Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a Chelfyddydau ar 07778 968153 neu [email protected].

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected]   Dyddiad Cau: 12pm ar y 6ed o Orffennaf

Cyfweliadau:  Wythnos yr 11eg i’r 15fed o Orffennaf   Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol. 

Cyflog

💰 £32,074 - £36,425

Lleoliad

📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £69k 📍 Casnewydd📍 O gartref Ar gau

💰 £25,878 - £40,478 📍 Casnewydd📍 O gartref Ar gau

💰 £21,630 - £22,662 📍 Bangor Ar gau

💰 £23,000 - £25,000 pro rata 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £21,197 - £23,144 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £29,174 - £33,486 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £22,500 - £23,111 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £18,000 - £25,000 📍 Porthmadog Ar gau

💰 £41,704 - £47,840 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Llanelli Ar gau

💰 £750 y mis 📍 Patagonia Ar gau

💰 £29,174 – £33, 486 pro rata 📍 O gartref Ar gau

💰 £53,440 - £63,900 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £27,929 - £31,411 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £20,919 - £22,367 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £35,142 - £43,694 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

💰 £25,603 - £31,854 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

💰 £25,603 - £31,854 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

💰 £42,625 - £50,161 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

💰 £37,474 - £43,414 📍 Caerfyrddin📍 Abertawe +1 Ar gau