Cynorthwyydd Dysgu Cyfnod Penodol Lefel 3
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn edrych am Gynorthwyydd Dysgu Cyfnod Penodol Lefel 3
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli am apwyntio Cynorthwyydd Dysgu Lefel 3 ar gytundeb penodol o flwyddyn i gefnogi disgyblion yn y ganolfan Drochi.
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio cynorthwy-ydd egnïol i gydweithio gyda’r athro dosbarth. Lleolir y ganolfan drochi ar safle dros dro Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli yng Nghaerllion sydd ond 12 milltir o Gaerdydd ac yna fe fydd yn symud i ganol dinas Casnewydd pan fydd y safle parhaol yn barod.
Yn ddelfrydol bydd gennych gymhwyster mewn gofal plant a phrofiad o weithio gyda phlant. Gwerthfawrogir manylion am ddatblygiad proffesiynol ac unrhyw fanylion o weithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol.
Cynigir y ddwy swydd ar sail 31 awr a hanner yr wythnos, yn gweithio yn ystod y tymor ysgol yn unig. Rhaid cymryd gwyliau blynyddol yn ystod cyfnodau gwyliau ysgol.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Mrs Lona Jones-Campbell, Pennaeth Gweithredol, ar 01633 850804 (rhif cyswllt dros dro).
Mae’r swydd hon wedi ei heithrio o Ddeddf Adfer Troseddwyr (1974) ac yn ddibynnol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Rhwystro.
MAE YN OFYNNOL I CHI GOFRESTRU GYDA CGA AM Y SWYDD HON
Cyflog
💰 £22,571 - £24,920 pro rata
Lleoliad
📍 Casnewydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch Diwtor-Dysgu Cymraeg y Fro
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn edrych am Uwch Diwtor-Dysgu Cymraeg y Fro
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
O ganlyniad i benodiad newydd y deiliad presennol, rydym yn chwilio am Uwch Diwtor newydd i gefnogi tîm bach o diwtoriaid ymroddgar sy’n rhoi anghenion y dysgwyr wrth galon pob gweithred.
Amdanom ni
Mae Dysgu Cymraeg y Fro yn darparu rhaglen lawn o gyrsiau Cymraeg i oedolion ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’r tîm yn rhan o’r adran Dysgu Oedolion yn y Gymuned sy’n gwasanaethu oedolion ledled Bro Morgannwg. O ganlyniad i benodiad newydd y deiliad presennol, rydym yn chwilio am Uwch Diwtor newydd i gefnogi tîm bach o diwtoriaid ymroddgar sy’n rhoi anghenion y dysgwyr wrth galon pob gweithred.
Ynglŷn â'r rôl
Manylion am gyflog: JNC Youth & Community Pwynt 19-22, £30,364 - £33,039
Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 37 awr yr wythnos (Llawn amser)
Prif Fan Gwaith: Canolfan Ddysgu Cymunedol Palmerston, y Barri
**Cytundeb: **tair blynedd yn y lle cyntaf
Disgrifiad:
Yn atebol i Reolwr Dysgu Cymraeg y Fro, bydd yr Uwch Diwtor yn cyflawni rôl allweddol, yn gyfrifol am:
- Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol y staff
- Adnoddau a’r Cwricwlwm
- Amserlenni a Chyflenwi
- Arholiadau
- Dysgu Atodol ac Anffurfiol
- Llais y Dysgwr
- Disgwylir i’r Uwch Diwtor ddysgu cyrsiau’n gyson, gan gynnwys dosbarthiadau nos, a chyfrannu at y broses Ansawdd drwy arsylwi gwersi, Safoni ac ysgrifennu adroddiadau.
Amdanat ti/Bydd angen:
- Sgiliau iaith ardderchog yn y Gymraeg a’r Saesneg.
- Profiad o lwyddiant fel Tiwtor Cymraeg i Oedolion ar bob lefel iaith.
- Sgiliau rhagorol mewn trefnu, rheoli amser, cyflwyno ac hyfforddi.
- Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun.
- Gradd Anrhydedd a chymhwyster Addysgu neu Hyfforddiant.
- Ystod eang o sgiliau digidol a thechnoleg chyfathrebu.
Cyflog
💰 £30,364 - £33,039
Lleoliad
📍 Y Barri
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfarwyddwr Gweithredol
Mae Ynni Cymunedol Cymru yn edrych am Gyfarwyddwr Gweithredol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Ynni Cymunedol Cymru'n chwilio am unigolyn creadigol a deinamig i arwain newid mewn sector llewyrchus, gan weithio law yn llaw â chymunedau a'r llywodraeth i gyflawni ynni glân democrataidd a lleol. Dewch i fod yn rhan o dîm hyblyg, sy'n gweithio a adref ac sydd ar flaen y gad yn ymateb cymunedau Cymru i'r trychineb hinsawdd.
Cyflog - £ 40,000
Lleoliad - Byddwn yn ystyried opsiynau gweithio hyblyg
Oriau - 35 awr yr wythnos
Dyddiad Cau - Dydd Llun 11 Gorffennaf, Canol dydd
I wneud cais anfonwch CV a datganiad personol 2 dudalen at [email protected]
Cyflog
💰 £40,000
Lleoliad
📍 O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ti a Fi Teithiol Sir Ddinbych
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Ti a Fi Teithiol Sir Ddinbych
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rhoddir pwyslais gan y Mudiad ar sicrhau bod gan rhieni/gwarchodwyr a phlant ifainc fynediad hwylus i gylchoedd Ti a Fi sy’n agos i’w cartrefi ac sy’n darparu cyfleoedd chwarae a chymdeithasu o ansawdd. Nod y Mudiad yw ceisio sicrhau bod pob cylch Ti a Fi yn cyflogi Arweinydd i fod yn gyfrifol am arwain gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y plant a’u rhieni/gwarchodwyr. Mae hyn eisoes yn digwydd mewn nifer sylweddol o Gylchoedd Ti a Fi. Fodd bynnag mewn ardaloedd lle ceir anhawster recriwtio Arweinyddion parhaol i gylchoedd Ti a Fi, mae’r Mudiad yn chwilio am berson brwdfrydig i arwain gweithgareddau a rhannu negeseuon am ddilyniant i Addysg Gymraeg ar gyfer plant a’u rhieni/gwarchodwyr mewn hyd at 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal. Disgwylir i’r person a benodir fod â phrofiad o arwain gweithgareddau chwarae ar gyfer plant o dan oed ysgol ynghyd â phrofiad o drefnu rhaglen o weithgareddau cefnogol ar gyfer rhieni/gwarchodwyr. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg ac yn gallu trosglwyddo negeseuon i rieni/gwarchodwyr am werth dwyieithrwydd yn ogystal â phwysigrwydd dilyniant o gylch Ti a Fi i Gylch Meithrin ac ymlaen i addysg cyfrwng Cymraeg.
Disgrifiad:
Dyletswyddau’r Swydd Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol: · Cydweithio â’r Rheolwr Talaith i drefnu amserlen wythnosol i gynnal cylchoedd Ti a Fi.
· Ymgymryd â rôl Arweinydd mewn hyd at 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal a bennwyd – gall un neu fwy o’r rhain fod yn Gylch Ti a Fi am dro.
· Dangos hyblygrwydd i weithio’n rhithiol os oes angen.
· Cynnal sesiwn wythnosol yn y cylchoedd Ti a Fi er mwyn arwain a chynnal gweithgareddau addas ar gyfer y plant a’u rhieni/gwarchodwyr.
· Sicrhau bod yr ystafelloedd neu’r ardal tu allan a’r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer cynnal y cylchoedd yn addas ac yn ddiogel. Cynnal Asesiadau Risg gan ddilyn canllawiau Mudiad Meithrin.
· Sicrhau cyhoeddusrwydd i’r cylchoedd Ti a Fi trwy gydweithio â’r Swyddog Cefnogi lleol a’r Rheolwr Talaith er mwyn cynyddu’r defnydd a wneir ohonynt gan deuluoedd.
· Ar y cyd a’r Rheolwr Talaith, Swyddogion Cefnogi, Swyddogion Cymraeg i Blant, meithrin perthynas a nifer o bartneriaethau lleol er mwyn hyrwyddo’r gwaith gan gynnwys Mentrau Iaith, Dechrau’n Deg, Ymwelwyr Iechyd, Dewis, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ayyb.
· Cydweithio’n agos â chynlluniau eraill y Mudiad e.e Sefydlu a Symud a Chynllun Cymraeg i Blant, er mwyn sicrhau’r rhaglen orau yn lleol.
· Codi ymwybyddiaeth o fuddion addysg Gymraeg lleol drwy gynorthwyo i gynnal digwyddiadau ac achlysuron cyhoeddusrwydd e.e. Diwrnodau hwyl i’r teulu.
· Casglu gwybodaeth fel bo galw ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth i gyllidwr / Mudiad Meithrin.
· Cydweithio â’r Swyddog Cefnogi lleol a’r Rheolwr Talaith er mwyn sicrhau cysylltiad agos rhwng y cylchoedd Ti a Fi a chylchoedd meithrin yr ardal.
· Trefnu bod Arweinydd/staff Cylchoedd Meithrin a chynrychiolydd o’r Ysgolion Cynradd Cymraeg lleol yn ymweld â’r cylchoedd Ti a Fi er mwyn trafod manteision dwyieithrwydd a dilyniant i Addysg Gymraeg gyda’r rhieni ac esbonio’r cyfleoedd sydd ar gael yn lleol i’w plant dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg.
· Ar y cyd â’r Rheolwr Talaith trefnu rhaglen o gofrestru pob un o’r cylchoedd yn eu tro ar Gynllun ansawdd Ti a Fi Serennog.
· Mynychu cyfarfodydd tîm, Pwyllgorau Sir ac unrhyw bwyllgor arall perthnasol.
· Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd fel bo’r angen.
· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.
· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £19,138 pro rata
Lleoliad
📍 Sir Ddinbych
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Polisi
Mae UCAC yn edrych am Swyddog Polisi
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae UCAC yn chwilio am berson profiadol, brwdfrydig a medrus i ymuno â'n tîm gweithgar.
Disgrifiad:
Prif waith y Swyddog Polisi fydd paratoi a chydlynu polisïau UCAC mewn cydweithrediad â’r Ysgrifennydd Cyffredinol ac o dan arweiniad y Cyngor Cenedlaethol a’r Gynhadledd Flynyddol
Hyrwyddo polisïau UCAC ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol
Cyflog cychwynnol y swydd: £39,193
Ceir ffurflen gais, disgrifiad swydd a manylion pellach o’r Brif Swyddfa.
Dyddiad cau: Mehefin 28, 2022
01970 639950 |[email protected] www.ucac.cymru
Cyflog
💰 £39,193
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn edrych am Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ymunwch â’n tîm cyfathrebu, marchnata ac ymgysylltu i’n helpu i ddatblygu ymgyrchoedd marchnata arloesol a chreadigol gan hyrwyddo gwasanaethau allweddol a ddarperir gan y cyngor. Gan weithio gyda thîm blaenllaw o arbenigwyr cyfathrebu, a chyda’u cefnogaeth, byddwch yn dod â sgiliau creadigol, digidol a marchnata ynghyd i’n helpu i hyrwyddo prosiectau a gwasanaethau’n effeithiol i’r cyhoedd. Rydym yn chwilio am rywun na fydd ofn rhoi cynnig ar dechnegau newydd o fewn tîm cefnogol sydd yn annog dysgu a newid. Rhywun a fydd yn gwthio’r ffiniau gydag egni.
Os hoffech chi drafod unrhyw agwedd ar y swydd, ffoniwch Sian Owen ar 01824 706125.
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd wag hon, gwnewch gais ar-lein trwy ein gwefan www.sirddinbych.gov.uk Am ddulliau eraill o wneud cais, cysylltwch â’r Adran Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01824 706100.
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau ein ffurflen gais i gael ei ystyried. Mae’n ddrwg gennym nad ydym yn gallu ateb pob cais. Os nad ydych wedi derbyn ateb o fewn tair wythnos i’r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych wedi cyrraedd y rhestr fer am gyfweliad.
Dyddiad Cau: 24 Mehefin 2022
Cyflog
💰 £27,514 - £30,095
Lleoliad
📍 Sir Ddinbych
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Sefydlu a Symud yn y De Orllewin x2
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Sefydlu a Symud yn y De Orllewin x2
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, egnïol a threfnus i weithio ar gynllun penodol sef sefydlu ac agor Cylchoedd Meithrin/Ti a Fi mewn ardal ddaearyddol penodol.
Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel a chyd-weithio ag eraill
Cyflog
💰 £21,453 - £25,017 pro rata
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Addysg Gymunedol
Mae Y Groes Goch Brydeinig yn edrych am Gydlynydd Addysg Gymunedol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Gydlynydd Addysg Gymunedol i ymuno â’n tîm yn Y Groes Goch Brydeinig. Mae angen Addysgwr brwd arnom sydd eisiau cefnogi ei gymunedau a’u galluogi i feithrin y sgiliau hanfodol drwy ddarparu addysg ddyngarol, wyneb yn wyneb ac yn ddigidol, a thrwy ddatblygu a rheoli tîm o wirfoddolwyr ledled Caerdydd a’r ardaloedd cyfagos.
Byddwch chi’n rheoli’r gwaith o ddyrannu adnoddau a gwirfoddolwyr yn yr ardal er mwyn cynyddu ôl troed daearyddol a chapasiti’r Groes Goch Brydeinig mewn cymunedau.
Byddwch chi’n atebol i’r Rheolwr Addysg Gymunedol, yn rheoli cysylltiadau a phartneriaethau cymunedol allanol ac yn cefnogi’r gwaith o weithredu partneriaethau a phrosiectau a gaiff eu hariannu’n allanol.
Byddwch chi hefyd yn atebol am bob agwedd ar y ddarpariaeth dysgu cyfunol ar gyfer Addysg Gymunedol yn eich ardal a byddwch yn sicrhau bod y ddarpariaeth addysg yn gyson ac yn cyrraedd y safon ansawdd briodol.
Mae hwn yn gyfle gwych i gael effaith wirioneddol, drwy ddarparu dysgu wedi’i hwyluso i oedolion a phobl ifanc. Byddwch chi’n ein helpu i baratoi miloedd o bobl yn well ar gyfer ymdopi a chymryd camau os bydd argyfwng.
Cofiwch, er mai 9am i 5pm yw’r oriau craidd ar gyfer y swydd hon, 5 diwrnod yr wythnos, bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd i weithio gyda’r nos ac ar y penwythnos o bryd i’w gilydd yn ôl yr angen.
GAIR AM Y TÎM...
Ein gweledigaeth yw byd lle mae pawb yn cael yr help sydd ei angen arnyn nhw mewn argyfwng.
Mae ein darpariaeth addysg wedi cael ei datblygu ar gyfer y rheini sydd â risg uwch o brofi argyfwng. Rydym ni wedi dylunio ein gwasanaeth i ddatblygu gwytnwch unigolion a chymunedau; gan feithrin sgiliau hanfodol sy’n helpu pobl i ymdopi’n effeithiol ag argyfwng a chymryd camau mewn argyfwng.
Rydym ni am i bawb yn y DU gael y cyfle i ddysgu cymorth cyntaf/addysg, ac rydym ni am i grwpiau risg a nodir feddu ar y sgiliau a’r hyder i allu ymdopi mewn argyfwng, er mwyn iddyn nhw allu helpu eu hunain ac eraill.
GALLAI'R RÔL YMA FOD YN ADDAS I CHI OS...
Mae gennych chi gymhwyster addysg, hyfforddiant neu hwyluso cydnabyddedig (neu gymhwyster cyfatebol drwy brofiad) a sgiliau hyfforddi ac ysgogi rhagorol.
Mae gennych chi brofiad o recriwtio, dewis, rheoli a chefnogi gwirfoddolwyr.
Mae gennych chi brofiad o ddysgu wedi’i hwyluso ac addasu cynnwys dysgu sydd wedi’i gymeradwyo’n genedlaethol i ddiwallu anghenion defnyddwyr.
Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, bydd un cwestiwn yn cael ei ofyn yn Gymraeg.
(Darllenwch y Proffil Rôl/Disgrifiad Swydd llawn i gael rhagor o wybodaeth am y swydd wag hon gan gynnwys cyfrifoldebau a manyleb lawn y person. Cyfeiriwch at y ‘Gwybodaeth Ychwanegol’ sydd ynghlwm i gael cymorth i lenwi’ch cais)
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23.59 ddydd Llun 21 Chwefror 2022 a chynhelir cyfweliadau.
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o fuddion i staff, gan gynnwys:
- 36 diwrnod o wyliau (gan gynnwys Gwyliau Banc) - pro rata ar gyfer swyddi tymor penodol
- Y dewis i brynu 5 diwrnod ychwanegol o wyliau blynyddo
- Hyd at 6% o bensiwn cyfrannol
- Polisi gweithio’n hyblyg
- Buddsoddiad gwirioneddol yn eich hyfforddiant a’ch datblygiad personol
Cyflog
💰 £20,501 - £22,429
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Diogelwch a Cynnal a Chadw Adeiladau
Mae Adra yn edrych am Swyddog Diogelwch a Cynnal a Chadw Adeiladau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ni yw Adra. Darparwr cartrefi o safon yng ngogledd Cymru. Nid ydym yn sefydliad sy'n aros yn ei unfan. Dros y blynyddoedd i ddod byddwn wedi adeiladu nifer sylweddol o gartrefi y tu allan i'r sir, gyda'r uchelgais i fod yn darparu cannoedd fwy o gartrefi o ansawdd uchel ledled gogledd Cymru. Er ein bod yn uchelgeisiol iawn, rydym yr un mor benderfynol o amddiffyn a datblygu diwylliant a threftadaeth gyfoethog y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Fel Swyddog Diogelwch a Chynnal a Chadw Adeiladau, byddwch yn ymuno â'r Tîm Cyfleusterau a Chylchol, o fewn adran Monitro ac Adolygu'r Gwasanaeth Asedau a Buddsoddiadau i sicrhau bod Cyfleusterau Adra, ardaloedd cymunedol o fewn blociau o fflatiau (wedi'u hadeiladu'n bwrpasol ac wedi'u trosi) a modurdai. yn cael eu cynnal, yn cael buddsoddiad lle bo angen ac yn bodloni’r safonau diogelwch gofynnol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan, www.adra.co.uk
Dyddiad Cau: 12pm 07/07/22
Cyflog
💰 £25,641 - £28,250
Lleoliad
📍 Bangor, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Cyllid
Mae Adra yn edrych am Bennaeth Cyllid
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ni yw Adra. Darparwr cartrefi o safon yng ngogledd Cymru. Nid ydym yn sefydliad sy'n aros yn ei unfan. Dros y blynyddoedd i ddod byddwn wedi adeiladu nifer sylweddol o gartrefi y tu allan i'r sir, gyda'r uchelgais i fod yn darparu cannoedd fwy o gartrefi o ansawdd uchel ledled gogledd Cymru. Er ein bod yn uchelgeisiol iawn, rydym yr un mor benderfynol o amddiffyn a datblygu diwylliant a threftadaeth gyfoethog y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Ein bod bob amser un cam ar y blaen, ac yn cynnal y safonau uchaf o ran gonestrwydd ariannol - sicrhau ein bod yn ennyn hyder ein rheoleiddwyr, archwilwyr, cyllidwyr, aelodau bwrdd a’r cyhoedd.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan, www.adra.co.uk
Dyddiad Cau: 12pm 07/07/22
Cyflog
💰 £54,782 - £57,899
Lleoliad
📍 Bangor, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Cyswllt â’r Aelodau
Mae Senedd Cymru yn edrych am Bennaeth Cyswllt â’r Aelodau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am arweinydd cryf sy’n gallu ysgogi ei hun ac sy’n rhoi pwyslais cryf ar wasanaethau cwsmeriaid, sy’n barod i gymryd y camau cyntaf i ddatrys problemau, ac sy’n mwynhau gweithio mewn amgylchedd lle mae pawb yn gweithio dan gryn bwysau.
Byddwch yn arwain y tîm Dysgu ac Ymgysylltu â’r Aelodau sy’n gyfrifol am ddatblygu rhaglen dysgu a datblygu berthnasol ac amserol, o safon uchel, a’i chyflwyno i’r Aelodau a’u staff. Mae'r tîm yn rheoli'r gyllideb ac yn datblygu ffyrdd arloesol o ddarparu hyfforddiant ledled Cymru sy'n berthnasol i bob agwedd ar waith yr Aelodau. Mae hefyd yn gyfrifol am fewnrwyd yr Aelodau ac arolwg bodlonrwydd yr Aelodau.
Gan ddefnyddio ffyrdd cynhyrchiol o ymgysylltu â’r Aelodau i gasglu adborth er mwyn nodi a deall anghenion yr Aelodau, byddwch yn cynorthwyo'r Prif Weithredwr a Bwrdd Gweithredol y Comisiwn i wneud penderfyniadau effeithiol sy'n canolbwyntio ar yr Aelodau gan godi ymwybyddiaeth a chryfhau dealltwriaeth o'r anghenion hynny.
Bydd angen ichi ddangos barn sicr ac ennyn ymddiriedaeth a hyder yr Aelodau a chydweithwyr ac ymgysylltu a chyfathrebu’n effeithiol. Bydd angen ichi ddatblygu a meithrin perthynas ag eraill, cael pobl i ddeall safbwyntiau pobl eraill, a deall rôl y Senedd a’r Comisiwn.
Bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol. Byddwch yn gallu cynhyrchu gwybodaeth sy’n glir a chywir, a chynnig cyngor diduedd, yn ysgrifenedig ac ar lafar. Rhaid ichi fod yn wleidyddol ddiduedd bob amser.
Yn fwy cyffredinol, bydd angen ichi ddangos ymrwymiad personol i werthoedd Comisiwn y Senedd, gan arwain newid i hybu amcanion strategol Comisiwn y Senedd.
Cysylltwch â ni os ydych chi am ymuno â ni.
Cyflog
💰 £55,240 - £66,234
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Addysg Gychwynnol Athrawon
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Addysg Gychwynnol Athrawon
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni’n chwilio am unigolyn i ymgymryd â rôl newydd, gyffrous sy’n cynnwys –
cydlynu a chefnogi prosiectau a gweithgareddau ym maes Addysg Gychwynnol Athrawon
hyrwyddo a marchnata cyfleoedd i hyfforddi fel athrawon
cydlynu trefniadau cymedroli ar gyfer y Fframwaith Cymwyseddau Iaith i Ymarferwyr Addysg cenedlaethol
Mae sicrhau gweithlu addysg gyda sgiliau Cymraeg a dwyieithog yn allweddol i lwyddiant strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Drwy gydweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys y Coleg, darparwyr Addysg Gychwynnol Athrawon a Chyngor y Gweithlu Addysg nod y Llywodraeth ydy annog mwy o ddarpar athrawon i hyfforddi, ac i gefnogi ymdrechion i sicrhau eu bod yn derbyn hyfforddiant o’r radd flaenaf sy’n eu galluogi i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, dysgu’r Gymraeg fel pwnc, neu gyflwyno’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
Bydd y rôl hon yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi elfennau o ‘Gynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg’ Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda darparwyr Addysg Gychwynnol Athrawon i sicrhau fod pawb sydd yn hyfforddi ac yn cymhwyso yng Nghymru yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg fel rhan o’u hyfforddiant, yn ogystal â denu mwy o bobl i ddilyn gyrfa ym myd addysg yng Nghymru.
Cyflog
💰 £27,116 – £33,309
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Caerdydd, Aberystwyth, Bangor, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cymhorthydd Cefnogi Gweinyddol
Mae GwE yn edrych am Gymhorthydd Cefnogi Gweinyddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
GwE yw gwasanaeth gwella ysgolion Gogledd Cymru. Mae’n wasanaeth a gyd-rennir ar draws Chwe Awdurdod Lleol, gan gydweithio’n agos ag ysgolion. Mae holl randdeiliaid GwE wedi ymrwymo i wella cyfleoedd a chanlyniadau addysgol ar gyfer ein dysgwyr. Yr hyn sydd yn gyrru ein gwaith yw uchelgais ddiffuant i weld yr ysgolion a'r sefydliadau yr ydym ni'n gweithio gyda nhw yn cyflawni eu dyheadau a gweld pob dysgwr yn llwyddo.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio mewn tîm i ddarparu cymorth gweinyddol o safon uchel o fewn GwE a bydd yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol a chyfrannu tuag at alluogi’r gwasanaeth i gyflawni ei amcanion a’i nod.
Bydd Telerau ac Amodau Llywodraeth Leol yn berthnasol.
DYDDIAD CAU: 10.00yb, Dydd Iau, 23 Mehefin 2022
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Ann Grenet / Bethan Eleri Roberts ar 07580 711022 neu 01286 685044 neu e-bost [email protected] / [email protected]
Cyflog
💰 GS3
Lleoliad
📍 Yr Wyddgrug
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cymhorthydd Cefnogi Gweinyddol
Mae GwE yn edrych am Gymhorthydd Cefnogi Gweinyddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
GwE yw gwasanaeth gwella ysgolion Gogledd Cymru. Mae’n wasanaeth a gyd-rennir ar draws Chwe Awdurdod Lleol, gan gydweithio’n agos ag ysgolion. Mae holl randdeiliaid GwE wedi ymrwymo i wella cyfleoedd a chanlyniadau addysgol ar gyfer ein dysgwyr. Yr hyn sydd yn gyrru ein gwaith yw uchelgais ddiffuant i weld yr ysgolion a'r sefydliadau yr ydym ni'n gweithio gyda nhw yn cyflawni eu dyheadau a gweld pob dysgwr yn llwyddo.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio mewn tîm i ddarparu cymorth gweinyddol o safon uchel o fewn GwE a bydd yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol a chyfrannu tuag at alluogi’r gwasanaeth i gyflawni ei amcanion a’i nod.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Bydd Telerau ac Amodau Llywodraeth Leol yn berthnasol.
DYDDIAD CAU: 10.00yb, Dydd Iau, 23 Mehefin 2022
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Ann Grenet / Bethan Eleri Roberts ar 07580 711022 neu 01286 685044, neu e-bost [email protected] / [email protected]
Cyflog
💰 GS3
Lleoliad
📍 Bae Colwyn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Pynciol
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Pynciol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Wyt ti’n unigolyn trefnus, brwdfrydig a chreadigol sydd eisiau datblygu prosiectau sy’n cefnogi myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector addysg ôl-16?
Mae’r Coleg yn chwilio am unigolyn i gyfrannu at brosiectau sy’n cyflawni nod Cynllun Academaidd Addysg Uwch newydd y Coleg o roi mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i bob myfyriwr addysg uwch.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn cydlynu, cefnogi a hyrwyddo prosiectau a gweithgareddau boed y rheiny’n fodiwlau neu ddigwyddiadau, sy’n anelu at roi ystod o gyfleoedd i fyfyrwyr yn ein prifysgolion.
Os wyt ti’n unigolyn trefnus sy’n gallu cydlynu prosiectau a chydweithio’n effeithiol ag eraill – ymgeisia am y swydd hon!
Cyflog
💰 £27,116 – £33,309
Lleoliad
📍 Hyblyg, Caerfyrddin, Caerdydd, Aberystwyth, Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cyllid
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Reolwr Cyllid
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dymuna'r Coleg benodi Rheolwr Cyllid, sef rôl newydd a chyffrous i reolwr sydd â phrofiad ym maes cyllid i sicrhau bod yna arweiniad clir a rheolaeth arbenigol wrth ymwneud â holl brosesau cyllid y Coleg. Derbynia’r Coleg Cymraeg oddeutu £8.5m yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru ac mae’r gyllideb wedi ei gytuno ar gyfer 2022/23, 2023/24 a 2024/25.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn profiadol sydd wedi bod yn gwaith ym maes cyllid i ddefnyddio’i sgiliau a phrofiad helaeth i arwain a grymuso ein gwasanaethau cyllid a chynllunio ariannol. Byddwch chi’n arwain ac yn llywio holl brosesau cyllid y Coleg ac yn darparu gwybodaeth a chyngor i reolwyr y Coleg ar holl faterion cyllid, archwilwyr allanol a’r weithdrefn gaffael.
Yn y rôl hon, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod yna gofodau swyddfa briodol ar gyfer staff y Coleg ar draws 4 lleoliad ac yn gyfrifol am reoli tîm Gwasanaethau Gwybodaeth y Coleg ac yn rheolwr llinell i’r Uwch Swyddog Cyllid. Yn rhan o dîm o reolwyr uchelgeisiol, blaengar a chydweithredol byddwch yn darparu sgiliau, gwybodaeth a chyngor arbenigol ar holl faterion ariannol y Coleg i’r cyfnod nesaf a thu hwnt.
Cyflog
💰 £48,835 - £54,943
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ti a Fi Teithiol yn y De Orllewin
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Ti a Fi Teithiol yn y De Orllewin
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rhoddir pwyslais gan y Mudiad ar sicrhau bod gan rhieni/gwarchodwyr a phlant ifainc fynediad hwylus i gylchoedd Ti a Fi sy’n agos i’w cartrefi ac sy’n darparu cyfleoedd chwarae a chymdeithasu o ansawdd.
Nod y Mudiad yw ceisio sicrhau bod pob cylch Ti a Fi yn cyflogi Arweinydd i fod yn gyfrifol am arwain gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y plant a’u rhieni/gwarchodwyr. Mae hyn eisoes yn digwydd mewn nifer sylweddol o Gylchoedd Ti a Fi. Fodd bynnag mewn ardaloedd lle ceir anhawster recriwtio Arweinyddion parhaol i gylchoedd Ti a Fi, mae’r Mudiad yn chwilio am berson brwdfrydig i arwain gweithgareddau a rhannu negeseuon am ddilyniant i Addysg Gymraeg ar gyfer plant a’u rhieni/gwarchodwyr mewn hyd at 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal. Disgwylir i’r person a benodir fod â phrofiad o arwain gweithgareddau chwarae ar gyfer plant o dan oed ysgol ynghyd â phrofiad o drefnu rhaglen o weithgareddau cefnogol ar gyfer rhieni/gwarchodwyr. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg ac yn gallu trosglwyddo negeseuon i rieni/gwarchodwyr am werth dwyieithrwydd yn ogystal â phwysigrwydd dilyniant o gylch Ti a Fi i Gylch Meithrin ac ymlaen i addysg cyfrwng Cymraeg. Ar hyn o bryd oherwydd y cyfyngiadau o ganlyniad i’r pandemig, rydym yn cynnal Cylchoedd Ti a Fi tu allan er mwyn cwrdd â mesuriadau diogelu Llywodraeth Cymru.
Cyflog
💰 £19,138
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Cyfadran y Gymraeg
Mae Ysgol Brynhyfryd yn edrych am Bennaeth Cyfadran y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi Pennaeth Cyfadran Y Gymraeg a Ieithoedd Modern. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag ysgol ddynamig lle mae arweinyddiaeth ysbrydoledig a gwaith caled ar draws yr ysgol wedi trawsnewid ei pherfformiad yn erbyn pob un o’r mesuriadau perfformiad. Yn gyson, mae canlyniadau’r ysgol ymysg canlyniadau gorau Gogledd Cymru.
Cyflog
💰 PRC/ URC CAD1b
Lleoliad
📍 Rhuthun
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn edrych am Swyddog Cyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Byddwch yn cyfrannu at gynlluniau cyfryngau a ddatblygwyd gan yr Uwch Swyddog Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus ac yn helpu i gyflawni elfennau allweddol y strategaeth gyfathrebu.
Byddwch yn darparu dull ymatebol iawn o drin y cyfryngau ac yn mynd ati'n rhagweithiol i chwilio a chreu straeon a datblygu cynnwys o safon gan ddefnyddio cyfryngau digidol a chymdeithasol.
Byddwch yn rheoli anghenion gwybodaeth gyhoeddus, cysylltiadau â'r cyfryngau ac ysgrifennu copi y Brifysgol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd weithio yn y Gymraeg i safon uchel.
Beth rydym yn chwilio amdano
Cynorthwyo'r Uwch Swyddog Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus i gyflwyno ymgyrchoedd cyfryngau cenedlaethol a lleol sy'n deilwng o newyddion, wedi'u teilwra, i gynyddu ymwybyddiaeth ymhlith ein rhanddeiliaid allweddol.
Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer galwadau gan y cyfryngau, delio ag ymholiadau'r wasg, a dod o hyd i arbenigwyr ar gyfer sylwadau yn y cyfryngau.
Drafftio datganiadau i'r wasg ansawdd o fewn protocolau y cytunwyd arnynt. Gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar bob lefel o bob rhan o'r Brifysgol i gasglu gwybodaeth a chael cymeradwyaeth.
Cymryd cyfrifoldeb am negeseuon corfforaethol ar gyfryngau cymdeithasol ar draws pob platfform, monitro proffiliau allanol a diogelu enw da'r Brifysgol.
Darparu'r cynnwys diweddaraf i holl grynhowyr tablau Cynghrair gan gysylltu ag adrannau mewnol. Mae hyn yn cynnwys cofnodion ar Wicipedia a phyrth tebyg eraill i sicrhau bod gwybodaeth gorfforaethol yn gywir.
Cefnogi academyddion ar sut y gallant hyrwyddo eu hymchwil/gwaith a chodi eu proffil yn y cyfryngau.
Sefydlu cyfweliadau cyfryngau ar gyfer staff, gan ddarparu sesiynau briffio llawn a phresenoldeb yn ôl yr angen.
Cysylltu â staff ar draws Met Caerdydd i nodi straeon newyddion posibl a negeseuon cyfathrebu pwysig.
Gweithio gydag uwch gydweithwyr i ymchwilio ac ysgrifennu deunydd ar gyfer cyhoeddiadau corfforaethol y Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys cydlynu'r holl gynnwys (gan gynnwys dwyieithog), prawfddarllen a goruchwylio ansawdd cyhoeddiadau lle bo hynny'n briodol.
Meintioli effaith gweithgarwch cyfathrebu Met Caerdydd drwy gasglu gwybodaeth gan y darparwyr cyfathrebu allanol sy'n gwerthuso cysylltiadau cyhoeddus ac adrodd ar y canlyniadau i'r tîm Rheoli.
Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?
Rydym yn falch iawn ein bod ni wedi ennill dwy wobr fawreddog yn ddiweddar – Prifysgol y Flwyddyn y DU 2021 y Times Higher Education a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 The Times a The Sunday Times Good University Guide.
Bydd y Swyddog Cyfathrebu (Mewnol) yn cynorthwyo'r Rheolwr Cyfathrebu i gydlynu â chydweithwyr ar draws Met Caerdydd i ddarparu dulliau cyfathrebu mewnol amserol, clir ac effeithiol.
Yn ogystal, bydd deiliad y swydd yn ymdrin ag ymholiadau cyfathrebu mewnol ac yn helpu i gynghori ar y dull gorau o gyrraedd cynulleidfaoedd, monitro, diweddaru a gwella sianeli cyfathrebu mewnol yn rheolaidd a chefnogi'r gwaith o gyflawni'r strategaeth gyfathrebu integredig yn llwyddiannus.
Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad myfyriwr rhagorol.
Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn cynnig telerau ac amodau hynod gystadleuol gan gynnwys:
Gwyliau blynyddol o 25 diwrnod, yn codi i 30 diwrnod ar ôl blwyddyn o wasanaeth, ynghyd â 12 diwrnod gŵyl banc / consesiynol (pro rata os yn rhan-amser).
Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau hael.
Cyfleoedd gweithio hyblyg ac o bell.
Polisïau rhagorol sy'n ystyriol o deuluoedd.
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd arobryn gydag aelodaeth â chymhorthdal, ynghyd â ffisiotherapi/therapi cyflenwol/tylino chwaraeon â chymhorthdal.
Mynediad i holl gyfleusterau'r llyfrgell.
Cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys beicio i'r gwaith.
Mynediad am ddim i deuluoedd at ein darparwr cymorth lles arbenigol annibynnol, Health Assured.
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch ag Alex Brown, Rheolwr Cyfathrebu, trwy e-bostio [email protected].
Os bydd nifer fawr o geisiadau’n dod i law, efallai y bydd angen inni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i ymgeisio cyn gynted â phosibl.
Mae'r Brifysgol yn ymroddedig i greu diwylliant hynod gynhwysol. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein pobl. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rheiny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector addysg uwch yn draddodiadol.
Cyflog
💰 £31,406 - £34,304
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Adnoddau Dynol
Mae S4C yn edrych am Reolwr Adnoddau Dynol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas S4C yw gwasanaethu’r gynulleidfa gyda chynnwys sydd yn diddanu, yn cyffroi ac yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mae gennym ddyletswydd i greu'r platfform ac ecosystem i sbarduno’r diwydiannau creadigol yng Nghymru i greu cynnwys uchelgeisiol ac unigryw sy’n apelio bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol. Nod S4C yw bod yn gyrchfan ar gyfer cynnwys Cymraeg creadigol, gafaelgar a deniadol sydd ar gael i’w fwynhau ar amryw o lwyfannau yng Nghymru a thu hwnt. Mae S4C yn chwilio am Reolwr Adnoddau Dynol profiadol i ymuno a’r tîm. Mi fyddwch yn darparu gwasanaeth AD i S4C gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i hyfforddi a datblygu, reoli absenoldeb, recriwtio, data, polisïau, y gyflogres, a phob agwedd arall sy'n ymwneud ag Adnoddau Dynol a'r Gyflogres.
Mae’r rôl yn atebol i Bennaeth Adnoddau Dynol.
Os hoffech sgwrs am y rôl, plîs cysylltwch â [email protected] sef Pennaeth Adnoddau Dynol.
Manylion Eraill
Lleoliad: Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Rydym yn gweithredu polisi hybrid hefyd.
Cyflog: £30,000 - £38,000 y flwyddyn, yn ddibynnol ar lefel cymhwyster a phrofiad.
Cytundeb: Parhaol
Oriau gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%. Ceisiadau
Os am wneud cais, dylid anfon ffurflen cais i [email protected] neu Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ erbyn 17.00 y prynhawn ar ddydd Iau 30 Mehefin 2022.
Nid ydym yn derbyn CV
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
**Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth **
Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol.
Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.
Cyflog
💰 £30,000 - £38,000
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Cynllunio a Pheirianneg Trafnidiaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Gynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Cynllunio a Pheirianneg Trafnidiaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
CYNLLUN YFORY 2022 - Cynllun Graddedigion Cyngor Gwynedd Mae Cynllun Yfory yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd gyda gradd neu gymhwyster cyfwerth i ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.
Mae'r cynllun yn rhoi cyfle unigryw i hyfforddeion proffesiynol i ddeall mwy am weithio i lywodraeth leol drwy gael amryw o brofiadau ymarferol o bob lefel o'r sefydliad, i ddatblygu sgiliau hanfodol yn y maes Cynllunio a Pheirianneg Trafnidiaeth, i ddatblygu rhwydweithiau ar draws y Cyngor a thu hwnt ac ar yr un pryd ennill cymhwyster Gradd Meistr.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael profiad mewn nifer o feysydd arbenigol Cynllunio a Pheirianneg Trafnidiaeth, gyda golwg ar ddatblygu i fod yn arweinydd ac arbenigwr y dyfodol yn y ddisgyblaeth bwysig hon.
Os ydych chi erioed wedi meddwl y byddech chi’n hoffi gweithio i lywodraeth leol a bod yn rhan o weithlu arbennig, mae Cynllun Yfory yn berffaith i chi.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/cynllunyfory
Mae cyswllt ar y wefan i’r pecyn gwybodaeth sydd yn cynnwys gwybodaeth fanwl o’r cynllun a chanllawiau i chi ar gyfer cwblhau eich cais yn llwyddiannus. Mae’r maes trafnidiaeth yn mynd trwy gyfnod o newid mawr. Yr argyfwng hinsawdd yw un o broblemau diffiniol mwyaf ein hoes. Mae lleihau llygredd carbon yn y maes trafnidiaeth yn rhan bwysig i sicrhau bod Gwynedd yn ceisio cyrraedd y nod o garbon sero-net erbyn 2050. Er mwyn gwneud hynny, mae angen inni addasu'r ffordd rydym yn teithio. Golygai hyn fod angen i’r gwasanaeth ymrwymo i edrych ar nifer o wahanol gynlluniau a byddai modd i drigolion Wynedd ddewis dull mwy cynaliadwy o deithio.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd fyddai’n gallu helpu’r gwasanaeth i wella’r isadeiledd trafnidiaeth a byddai’n helpu pobl Gwynedd i leihau eu hôl troed carbon.
Mi fydd yr hyfforddai Proffesiynol yn rhoi sylw penodol ar wella ein rhwydwaith llwybrau cerdded a beicio, cyflwyno mannau gwefru yn ogystal â gwelliannau i’r isadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus. Ar rhai adegau, mi fydd angen helpu’r gwasanaeth yn yr uned traffig.
Cyflog
💰 £25,419 - £27,514
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Dysgu Cymraeg
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am Gydlynydd Dysgu Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Canlyniad partneriaeth newydd rhwng y Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yw’r swydd hon gyda nawdd ychwanegol o’r Ganolfan trwy’r cynllun Cymraeg Gwaith. Ei bwriad yw i greu, cynnal a chydlynu gwasanaeth newydd ‘Cymraeg Gwaith’ ar gyfer y sector gelfyddydol.
Bydd y cydlynydd yn darparu cyfleoedd i staff y cyngor, artistiaid unigol, mudiadau a chanolfannau celfyddydol i ddatblygu a thyfu eu sgiliau a hyder yn y Gymraeg trwy ddarparu cyrsiau dysgu Cymraeg perthnasol, cydlynu cyfleoedd i fagu hyder yn eu Cymraeg a chreu adnoddau dysgu Cymraeg perthnasol i’r maes celfyddydol.
Bydd y cydlynydd yn ymateb i argymhellion ymchwil ‘Llwybrau datblygu’r Gymraeg o fewn y celfyddydau’ gan ganolbwyntio ar anghenion artistiaid, mudiadau a chanolfannau celfyddydol wrth ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Amdanoch chi
Bydd gofyn defnyddio gwybodaeth a phrofiad dysgu Cymraeg wrth ymateb i ofynion o fewn y sector. Bydd profiad neu sgiliau creadigol yn fanteisiol i’r swydd am y bydd angen ymateb yn greadigol i heriau a chreu dulliau dysgu perthnasol i’r sector.
Bydd gennych ddealltwriaeth am y maes dysgu Cymraeg a chodi hyder yn y defnydd o’r Gymraeg, dealltwriaeth am sector y celfyddydau a sector y Gymraeg yng Nghymru a sut maent yn gweithredu, profiad o weithio gydag amryw bartneriaid ac unigolion, a’r gallu i ysbrydoli pobl i gofleidio'r Gymraeg. Gweler y disgrifiad swydd am fanylion llawn gofynion y rôl.
Yr Iaith Gymraeg
Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.
Bydd Cyngor y Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.
Cyflog
💰 £30,142
Lleoliad
📍 Bae Colwyn, Bae Caerdydd, Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd dan Hyfforddiant
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Gyfieithydd dan Hyfforddiant
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Swydd llawn amser dan hyfforddiant am gyfnod penodol hyd at 31 Awst 2024 yw hon.
Dyma gyfle rhagorol i ymuno â thîm cyfieithu Prifysgol Bangor er mwyn dysgu’r sgiliau sy’n hanfodol eu cael fel cyfieithydd a chyfieithydd ar y pryd. Yn yr ail flwyddyn bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn paratoi i sefyll arholiadau aelodaeth Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Ar ddiwedd y cyfnod penodol, y gobaith yw y bydd cyfle i’r sawl a benodir ymgeisio am swydd lawn amser fel cyfieithydd ar raddfa 7.
Mae’r swydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Bedwyr (Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg y Brifysgol). Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel Cyfieithydd Dan Hyfforddiant yn ymgymryd â gwaith cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn holl adrannau academaidd a gweinyddol y Brifysgol. Fel Cyfieithydd Dan Hyfforddiant yng Nghanolfan Bedwyr byddwch yn cyfrannu at y gwaith o gryfhau a datblygu safle Prifysgol Bangor fel sefydliad dwyieithog a hefyd fel y sefydliad addysg uwch arweiniol o ran gweinyddiaeth a darpariaeth academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar radd neu bron â chwblhau, cefndir academaidd a sgiliau iaith rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd y sawl a benodir yn cael ei hyfforddi i fedru gweithio’n annibynnol ac o dan bwysau fel cyfieithydd, ond hefyd fel aelod o dîm. Bydd hefyd yn cael ei hyfforddi i drin cyfrifiadur yn fedrus a defnyddio cymhorthion cyfieithu cyfrifiadurol.
Disgwylir i’r sawl a benodir ddechrau yn ei swydd ar 5 Medi 2022 neu cyn gynted â phosib ar ôl hynny. Bydd yn atebol i’r Pennaeth Cyfieithu.
Mae manylion pellach a chyfarwyddiadau ar sut i ymgeisio i’w gweld ar wefan ‘Cyfleoedd’ Prifysgol Bangor (http://jobs.bangor.ac.uk/index.php.cy).
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu ag Ifan Prys, Pennaeth Cyfieithu ([email protected])
Dyddiad cau: 4 Gorffennaf 2022
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £27,116
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata
Mae Y Lolfa Cyf yn edrych am Swyddog Marchnata
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson brwd, effeithiol a chreadigol i gynorthwyo gyda gwaith hyrwyddo’r wasg a’i chyhoeddiadau yn y cyfryngau print, radio, teledu ac ar-lein. Mae hon yn swydd am gyfnod penodol o 12 mis. Mae’n swydd amrywiol, diddorol a heriol fydd yn cynnig profiad unigryw o weithio mewn maes sy’n tyfu ac yn newid yn gyflym. Rhoddir hyfforddiant yn ôl y galw.
Disgrifiad:
- Datblygu a gweithredu cynlluniau marchnata ar gyfer llyfrau Cymraeg a Saesneg. Bydd angen trafod â golygyddion Y Lolfa, awduron y cyfrolau, Adran Farchnata Cyngor Llyfrau Cymru ac unrhyw sefydliadau perthnasol eraill.
- Datblygu a diweddaru gwefan Y Lolfa a gofalu am gyfrifon cymdeithasol y cwmni sy’n cynnwys Twitter,_ Facebook_, Instagram ac YouTube. Edrych i’r posibilrwydd o ddatblygu presenoldeb y cwmni ar Tiktok.
- Cynorthwyo gyda threfniadau lansiadau a sesiynau arwyddo a chydgysylltu gyda threfnwyr digwyddiadau eraill fel gwyliau llyfrau, ffeiriau ac ysgolion. Mynychu’r digwyddiadau yma a chadw trefn ar unrhyw daliadau.
- Cydweithio gyda’r Cyngor Llyfrau a dosbarthwyr a chyfanwerthwyr eraill i sicrhau fod y llyfrau ar werth yn eang a bod deunydd hyrwyddo yn y siopau. Paratoi dalennau gwybodaeth o flaen llaw, bwydo gwybodaeth i Gwales a mynychu Cynhadledd Werthu’r Cyngor Llyfrau.
- Gweithio yn stondinau’r Lolfa yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd, hefyd mynychu digwyddiadau gwerthu eraill, yn cynnwys ffeiriau llyfrau pan fo galw.
- Danfon datganiadau i’r wasg a chopïau adolygu i unigolion perthnasol yn y cyfryngau.
- Danfon cylchlythyron digidol i gwsmeriaid y cwmni.
- Archebu a pharatoi hysbysebion digidol a phrint.
- Dylunio a dosbarthu posteri a gwahoddiadau syml. Bydd Y Lolfa yn cynnig hyfforddiant.
- Cynnig syniadau ar sut i farchnata ein llyfrau yn fwy effeithiol gan fanteisio i’r eithaf ar y datblygiadau technolegol diweddaraf.
- Ymgymryd â gwaith gweinyddol a phrosesu data ynghlwm â marchnata llyfrau’r Lolfa.
- Fel â phob swydd yn Y Lolfa, rhaid bod yn barod i ymgymryd â gwaith mewn adrannau eraill yn ôl y gofyn.
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Talybont
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!