Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cyfarwyddwr Cynorthwyol - Ymgynghori

💰 £65,000 📍 Casnewydd Ar gau

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Gyfarwyddwr Cynorthwyol - Ymgynghori

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn falch o gyflwyno'r cyfle arweinyddiaeth pwysig hwn gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru. Mae rôl y Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn swydd hanfodol o fewn ein Huwch Dîm Rheoli, yn arwain ac yn ysbrydoli tîm o unigolion proffesiynol, hynod gymwys a brwdfrydig. Mae'r tîm Ymgynghori yn arbenigwyr yn eu disgyblaethau proffesiynol a meysydd amrywiol, gan gynnwys meysydd fel rheoli tir, gofal adeiladau, rheoli prosiect, gwirfoddoli, cyfranogiad, rhaglennu, codi arian, cadwraeth a materion allanol. Caiff yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ei harwain gan ei hamcanion strategol, a bydd rôl y Cyfarwyddwr Cynorthwyol, gyda chymorth yr arbenigwyr yn y tîm, yn cynnig mewnwelediad a chyngor ynghylch sut i ddatblygu'r strategaeth yng nghyd-destun y setliad datganoli yng Nghymru.

Gradd 3 - sy'n dechrau o £65,000 y flwyddyn.

Sut brofiad yw gweithio yma

Yn draddodiadol, byddai'r rôl hon wedi ymwneud â chadwraeth a diogelu ein lleoedd, ond bellach, mae ein pobl a'n cefnogwyr a sut rydym yn cysylltu ein lleoedd â'u cymunedau a thirweddau sydd o'u cwmpas, yr un mor bwysig. Mae'r Ymddiriedolaeth wedi parhau i ddatblygu dros 125 o flynyddoedd, ac felly hefyd mae rolau ei harweinwyr. Rydym eisiau denu'r gorau, unigolyn sy'n cael ei yrru gan hyfforddi a chymell yr unigolion a'r timau o'i gwmpas i gyflawni ein strategaeth. 

Fel Cyfarwyddwr cangen Cymru, rwy'n awyddus i greu uwch dîm rheoli sy'n perfformio'n dda, sy'n cynnwys arweinwyr ysbrydoledig sy'n frwd dros Gymru, a'r rôl y gall treftadaeth ddiwylliannol a naturiol ei chwarae yn ei dyfodol. Rwyf wedi ymrwymo i gysylltu ein gwaith â'r themâu cymdeithasol ehangach yng Nghymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol i Gymru a Chynllun Gweithredu LGBTQ+ ar gyfer Cymru, y cynhaliwyd ymgynghoriad yn ei gylch yn ddiweddar; rydym hefyd wedi ymrwymo i gefnogi Cymraeg2050.

Eich gwaith

Bydd meithrin cysylltiadau allanol a mewnol dibynadwy yn rhan allweddol o'r rôl hon, ac mae bod yn llais gwirioneddol dros Gymru, yn gallu siarad yn angerddol ac yn glir a chreu cysylltiadau rhwng ein blaenoriaethau strategol mewnol a phartneriaid ac agendâu allanol yn hanfodol.

Byddwch yn cael y fraint o weithio mewn lleoedd gwirioneddol ysblennydd, ac ein nod yw sicrhau bod y lleoedd hyn yn hygyrch ac yn berthnasol i bawb. Rwy'n dymuno recriwtio arweinwyr sydd â ffordd gynhwysol o feddwl, sy'n gallu herio ymddygiadau ac alinio’n bersonol â'n gwerthoedd sefydliadol craidd.

Mae hwn yn gyfnod allweddol yn strategaeth Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, yn ceisio cyflwyno natur, hanes a harddwch i bobl Cymru ac ymwelwyr. Bydd atebolrwydd ac arweinyddiaeth ein Hymgynghoriad wrth wraidd y rôl hon, gan ganolbwyntio'n benodol ar gyflawni ein canlyniadau uchelgeisiol yn y meysydd Gweithredu dros yr Hinsawdd a Chroeso i Bawb (Amrywiaeth a Chynhwysiant). Mae pob aelod o'r Uwch Dîm Rheoli hefyd yn ymgymryd â rolau arweiniol ar gyfer y rhanbarth sy'n cyd-fynd â chanlyniadau strategol allweddol a Chyfarwyddiaethau cenedlaethol. Bydd hefyd disgwyl ichi noddi prosiectau cadwraeth a / neu ddatblygiad sylweddol o fewn y rhanbarth, sy'n galluogi cyflwyniad ein strategaeth ac agenda twf.

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich ceisiadau, ac os hoffech chi drafod y swydd wag ymhellach, mae croeso ichi gysylltu â mi drwy anfon e-bost at [email protected]

Am bwy ydym ni'n chwilio?

Cyflwynwch dystiolaeth o'r canlynol yn eich CV a llythyr eglurhaol -

- Cefndir llwyddiannus o arweinyddiaeth a rheolaeth ysbrydoledig mewn amgylchedd aml-safle gan drafod, gosod a chyflawni targedau ar lefel uwch

- Arwain a datblygu timau hynod lwyddiannus, wedi'u lleoli ar wahân i'w gilydd

- Cynllunio a rheoli cyllidebau ac adnoddau sylweddol, a chadw trefn arnynt, gan eu defnyddio'n briodol er mwyn cyflawni amcanion

- Rheolaeth ragorol o randdeiliaid, gyda'r gallu i adnabod rhanddeiliaid allweddol, yn fewnol ac allanol, magu a chynnal perthynas â nhw a'u dylanwadu

- Yn gallu dangos agwedd strategol, gyda'r gallu i adnabod tueddiadau'r dyfodol a rheoli newid

- Profiad amlwg o fagu perthnasoedd sydd o fudd i bawb ynghlwm ar lefel uwch gydag asiantaethau allanol, cyllidwyr a sefydliadau partner

- Profiad sylweddol o fod yn nawdd i brosiectau ar lefel ymarferydd medrus

- Yn gallu ymdopi â phwysau sy'n gwrthdaro o sawl cyfeiriad ar yr un pryd a llywio drwy rwystrau heb gael eich llethu

- Cefnogaeth a dealltwriaeth o themâu cymdeithasol ehangach yng Nghymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol i Gymru a Chynllun Gweithredu LGBTQ+ ar gyfer Cymru a Cymraeg2050.

- Er nad yw'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd, mae'n fanteisiol   Y Pecyn

Mae’r arwyddair ‘I bawb, am byth’ yn ganolbwynt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, ble mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ni ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb dderbyn croeso yn ein timau hefyd.

Mae’r buddion o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys:

- Gweithio hyblyg pryd bynnag y bo modd

- Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau

- Mynediad am ddim i’n heiddo i chi, i’ch gwestai a’ch plant (dan 18)

- Cylin pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol

- Cliciwch yma i ddysgu rhagor am y buddion a gynigiwn i chi i'ch cefnogi.

Cyflog

💰 £65,000

Lleoliad

📍 Casnewydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £543 yr awr o sain 📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £15k - £18k 📍 Caeredin📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £23k 📍 Y Bala Ar gau

💰 £67k - £70k 📍 Caernarfon📍 Hyblyg Ar gau

💰 £30,966 📍 Llandeilo📍 Hyblyg Ar gau

💰 £24,669 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £29k 📍 Caernarfon📍 Hybrid Ar gau

💰 £28k 📍 Llangefni Ar gau

💰 £30k 📍 Bangor📍 Hybrid Ar gau

💰 £28,459 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £28k - £30k 📍 Hybrid📍 Pen-y-bont ar Ogwr Ar gau

💰 £23k 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £29k - £33k 📍 Llithfaen Ar gau

💰 £31k 📍 Aberystwyth📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £29k - £34k 📍 Corwen Ar gau

💰 £22k - £26k 📍 Corwen📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £22k - 26k 📍 Corwen📍 Gweithio o Adref Ar gau

💰 £25k - £30k 📍 Botwnnog Ar gau

💰 £35k - £45k 📍 Botwnnog Ar gau

💰 £21k 📍 Botwnnog Ar gau

💰 £29.5k 📍 Y Fenni📍 Abertyleri +23 Ar gau

💰 Soulbury 27-30 ynghyd â 3 phwynt SPA 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin📍 Caernarfon +1 Ar gau