Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Cynhyrchu Cwmni
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn chwilio am Reolwr Cynhyrchu Cwmni profiadol i ymuno â’r tîm.
Os oes gennych chi brofiad proffesiynol mewn cynhyrchu theatr, rheoli llwyfan neu reoli technegol a’r gallu i arwain tîm ac ysgogi eraill, efallai dyma’r rôl i chi.
Mae swydd y Rheolwr Cynhyrchu Cwmni yn un newydd i’r Adran Gynhyrchu, ac wedi ei chreu er mwyn cefnogi’r Pennaeth Cynhyrchu gyda chyfrifoldebau gweithredol yr adran ac i sicrhau fod cynyrchiadau’r cwmni o safon cynhyrchu uchel. Bydd y person yn y swydd hon yn arwain ar yr ochr gynhyrchu o’n cynyrchiadau yn ystod cyfnodau ymarfer a chyfnod perfformio, yn ogystal â chefnogi gweithgareddau eraill y cwmni. Ry’n ni hefyd yn recriwtio Pennaeth Cynhyrchu newydd ar hyn o bryd, felly mae’n gyfnod cyffrous i’r Adran Gynhyrchu.
Dan arweiniad ein Cyfarwyddwr Artistig newydd, mae rhaglen o weithgareddau ar waith ar gyfer 2023 a thu hwnt, sy’n cynnwys cynyrchiadau, cyfleoedd i ymgyfranogi a datblygu sgiliau, a llawer mwy, gyda’r nod o geisio ehangu ein cyrhaeddiad ac ymestyn ein cynulleidfaoedd. Mae hefyd pwyslais cynyddol ar hygyrchedd a chynhwysiant ein gwaith, ar leihau effaith ein gweithgaredd ar yr amgylchedd a chynyddu ymwybyddiaeth o’r argyfwng hinsawdd, ac ar am ofalu am les ein gweithwyr ac artistiaid. Mae’n bwysig fod y person yn y swydd hon yn gweld pwysigrwydd yr holl agweddau hyn o’n gwaith ac yn rhannu gwerthoedd y cwmni.
Mae pencadlys y cwmni yng Nghaerfyrddin, ond ry’n ni’n cynnig amrywiaeth o drefniadau gweithio hyblyg, yn cynnwys trefniant gweithio hybrid sy’n golygu cyfuniad o weithio yn y swyddfa a gweithio o gartref.
Am fwy o wybodaeth am y swydd, y cwmni a sut i ymgeisio, ewch i'n gwefan a darllenwch y pecyn recriwtio.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd – neu i drafod unrhyw rwystrau sy’n eich atal rhag ymgeisio - cysylltwch ag Angharad Jones Leefe ar [email protected] neu 07903 842554.
Cyfweliadau: Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 30 Ionawr 2023
Cyflog
💰 £35,000
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn edrych am Bennaeth Cynhyrchu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn chwilio am Bennaeth Cynhyrchu i ymuno â’r tîm.
Oes gennych chi wybodaeth eang am gynhyrchu, rheoli llwyfan, ac agweddau technegol, yn ogystal â phrofiad o sicrhau safonau iechyd a diogelwch uchel o fewn amgylchedd theatr? Efallai dyma’r swydd i chi.
Mae’r Pennaeth Cynhyrchu yn cefnogi’r gwaith o greu a chyflwyno theatr wych ac yn gyfrifol am oruchwylio llwyfannu llwyddiannus ein cynyrchiadau ar daith, a chefnogi prosiectau eraill y cwmni. Yn ogystal â recriwtio Pennaeth Cynhyrchu newydd, ry’n ni hefyd yn edrych am Reolwr Cynhyrchu Cwmni i gynyddu capasiti Adran Gynhyrchu’r cwmni. Bydd cyfle felly i’r Pennaeth Cynhyrchu newydd ffocysu ar faterion mwy strategol. Bydd datblygu sgiliau yn y maes ac adnabod cyfleoedd hyfforddi i ehangu’r gweithlu hefyd yn flaenoriaeth i’r Pennaeth Cynhyrchu, wrth i ni geisio mynd i’r afael â’r prinder technegwyr a phobl sydd â sgiliau rheoli llwyfan a rheoli cynhyrchu.
Dan arweiniad ein Cyfarwyddwr Artistig newydd, mae rhaglen o weithgareddau ar waith ar gyfer 2023 a thu hwnt, sy’n cynnwys cynyrchiadau, cyfleoedd i ymgyfranogi a datblygu sgiliau, a llawer mwy, gyda’r nod o geisio ehangu ein cyrhaeddiad ac ymestyn ein cynulleidfaoedd. Mae hefyd pwyslais cynyddol ar hygyrchedd a chynhwysiant ein gwaith, ar leihau effaith ein gweithgaredd ar yr amgylchedd a chynyddu ymwybyddiaeth o’r argyfwng hinsawdd, ac ar am ofalu am les ein gweithwyr ac artistiaid. Mae’n bwysig fod y person yn y swydd hon yn gweld pwysigrwydd yr holl agweddau hyn o’n gwaith ac yn rhannu gwerthoedd y cwmni.
Mae pencadlys y cwmni yng Nghaerfyrddin, ond ry’n ni’n cynnig amrywiaeth o drefniadau gweithio hyblyg, yn cynnwys trefniant gweithio hybrid sy’n golygu cyfuniad o weithio yn y swyddfa a gweithio o gartref.
Am fwy o wybodaeth am y swydd a’r cwmni a sut i ymgeisio, ewch i'n gwefan a darllenwch y pecyn recriwtio.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd - neu i drafod unrhyw rwystrau sy’n eich atal rhag ymgeisio - cysylltwch ag Angharad Jones Leefe ar [email protected] neu 07903 842554.
Cyfweliadau: Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 30 Ionawr 2023
Cyflog
💰 £40,000
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Galeri Caernarfon Cyf yn edrych am Gydlynydd Rhaglen Greadigol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi’n angerddol am y celfyddydau?
Oes gennych chi syniadau am ddigwyddiadau byw sydd angen eu clywed?
Mae GALERI, Caernarfon yn chwilio am Gydlynydd Rhaglen Greadigol i weithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr Creadigol i gydlynu a chyflwyno rhaglen artistig amrywiol a byrlymus.
Disgrifiad:
Mae hi’n gyfnod gyffrous yn hanes y cwmni, ac rydym yn edrych i ddatblygu cyfleoedd newydd a lledaenu’n cyrhaeddiad. Ein bwriad felly yw i ehangu’r Tîm Creadigol i gynyddu ein hallbynnau a gwneud y mwyaf o bob cyfle.
Os oes gennych ddiddordeb mewn digwyddiadau byw - boed yn gerddoriaeth, drama, sgyrsiau, dawns neu unrhyw beth arall, rydym yn awyddus i glywed gennych!
Bydd prif gyfrifoldebau’r deilydd yn cynnwys:
• Gweithio'n agos gyda’r Tîm Creadigol a Phenaethiaid Adrannau i gynnal a chefnogi systemau gweinyddol gan gynnwys casglu gwybodaeth cytundebu, cyllido, cyd-arwain prosiectau a chyfathrebu mewnol sy'n drawsadrannol
• Cydlynu trawsadrannol gan gynnwys cynnal cyfarfodydd, rheoli dyddiadur a chydweithio gyda’r Tîm Creadigol i greu adroddiadau adrannol
• Cefnogi'r Cyfarwyddwr Creadigol trwy gynnal systemau gweinyddol a darparu cymorth megis ymchwil, prawfddarllen, nodiadau briffio, trefnu teithiau cenedlaethol a rhyngwladol a datblygu cyflwyniadau
• Casglu gwybodaeth am gynigion prosiectau a mentrau creadigol a anfonwyd at y Cyfarwyddwr Creadigol, cadw ar ben tueddiadau cyfredol ac ymgymryd â thasgau penodol wrth gwmpasu prosiectau a gynhwysir yn y rhaglen megis ymweliadau safle, teithiau, gweithdai, coladu gwybodaeth dechnegol, casglu adborth a chwmpasu cyllidebau
• Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr Creadigol a’r Cydlynydd Marchnata i ymchwilio i batrymau gwerthiant, arferion prynu a gweithgareddau ar-lein
• Ymateb i ymholiadau am y rhaglen yn ôl yr angen a mynychu digwyddiadau allweddol yn yr ardal ar ran y Tîm Creadigol, gan gynrychioli Galeri
• Gweithio gyda’r Cyfarwyddwr Creadigol i raglennu’r sinema
• Gallu gweithredu’r system docynnau ‘Ticketsolve’ (creu digwyddiadau newydd a helpu i werthu tocynnau pan fo’r angen)
• Mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd (gan gynnwys cyfarfodydd gweithrediadau, cyfarfodydd adran ac unrhyw gyfarfodydd eraill fel sy’n briodol)
• Cyd-ddatblygu prosiectau masnachol i ddatblygu cynulleidfaoedd, megis cynllun cyfeillion
• Helpu i sefydlu Galeri fel ychwanegiad dymunol at y gylchdaith ar gyfer darparwyr a pherfformwyr perthnasol
• Bod yn greadigol wrth ddatblygu syniadau
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol a chlir yn y Gymraeg yn hanfodol i’r swydd hon.
Fel cyflogwr rydym yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Croesewir ceisiadau o bob rhan o gymdeithas er mwyn adlewyrchu’r ddemograffeg leol ac ehangach yn fanwl gywir, a thrwy hynny ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth.
Cyflog
💰 £21,000 - £25,000
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn edrych am Ymddiriedolwyr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ry'n ni'n chwilio am aelodau newydd i’n Bwrdd Ymddiriedolwyr.
Creu theatr Cymraeg eithriadol i bawb yw nod Theatr Genedlaethol Cymru. Ry’n ni’n chwilio am ddau Ymddiriedolwr newydd i ymuno â’r Bwrdd er mwyn ein helpu ni i gyflawni’r weledigaeth hon a llywio’r cwmni drwy’r cyfnod nesaf.
Dyma gyfle gwerthfawr i gyfrannu at ddiwylliant Cymru, i fod yn rhan o fyd y celfyddydau, a mynychu digwyddiadau a pherfformiadau.
Mae’r cyfle hwn yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn y celfyddydau, sydd ag uchelgais, ac sy’n frwdfrydig. Yn ogystal, ry’n ni’n chwilio am rai Ymddiriedolwyr sydd ag arbenigedd neu brofiad yn y meysydd canlynol:
Cyllid
Theatr, fel ffurf artistig
Mae croesawu amrywiaeth o bobl a chymunedau i’r cwmni yn hynod bwysig i ni. Felly, bydden ni’n arbennig o awyddus i dderbyn cais gan unrhyw un sy’n uniaethu gydag un neu ragor o’r grwpiau canlynol: menywod; pobl ifanc (dan 30 oed); pobl o’r Mwyafrif Byd-Eang; a phobl anabl. Os ydych yn teimlo bod rhwystrau yn eich atal rhag mynegi diddordeb mewn bod yn Ymddiriedolwr, cysylltwch â ni i drafod er mwyn i ni geisio dileu’r rhwystrau hynny.
Fel arfer, mae’r Bwrdd yn cyfarfod yn rhithiol, dros Zoom neu Teams gyda’r nos (neu ar amser sy’n gyfleus i’r mwyafrif). Mae’r Bwrdd yn anelu at gyfarfod wyneb yn wyneb o leiaf unwaith y flwyddyn, fel arfer yn swyddfa’r cwmni yng Nghaerfyrddin.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol, mae croeso i chi gysylltu â ni ar y manylion cyswllt uchod.
Mae rhagor o wybodaeth a manylion cofrestru diddordeb ar gael yn y pecyn recriwtio ar ein gwefan.
Cyfweliadau: Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 6 Chwefror 2023.
Cyflog
💰 Rôl wirfoddol - modd hawlio costau
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn edrych am Gadeirydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn chwilio am Gadeirydd newydd.
Creu theatr Cymraeg eithriadol i bawb yw nod Theatr Genedlaethol Cymru. Ry’n ni’n chwilio am Gadeirydd sy’n gallu darparu arweiniad a chefnogaeth i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ac i'r cwmni’n gyffredinol wrth i ni geisio cyflawni’r weledigaeth hon.
Ry’n ni’n edrych am unigolyn sydd â dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth dda o Gymru a’i diwylliant a’r celfyddydau ac sy’n gallu llywio’r cwmni drwy’r cyfnod nesaf.
Mae bod yn Gadeirydd Theatr Genedlaethol Cymru yn rhoi cyfle gwerthfawr i gyfrannu at ddiwylliant Cymru, i fod yn rhan o fyd y celfyddydau, a mynychu digwyddiadau a pherfformiadau. Mae bod yn Gadeirydd yn eich galluogi i wneud gwahaniaeth a chyfrannu at ffyniant y cwmni a theatr Gymraeg yn y dyfodol.
Mae croesawu amrywiaeth o bobl a chymunedau i’r cwmni yn hynod bwysig i ni. Felly, bydden ni’n arbennig o awyddus i dderbyn cais gan unrhyw un sy’n uniaethu gydag un neu ragor o’r grwpiau canlynol: menywod; pobl ifanc (dan 30 oed); pobl o’r Mwyafrif Byd-Eang; a phobl anabl. Os ydych yn teimlo bod rhwystrau yn eich atal rhag mynegi diddordeb mewn bod yn Gadeirydd, cysylltwch â ni i drafod er mwyn i ni geisio dileu’r rhwystrau hynny.
Fel arfer, mae’r Bwrdd yn cyfarfod yn rhithiol, dros Zoom neu Teams gyda’r nos (neu ar amser sy’n gyfleus i’r mwyafrif). Mae’r Bwrdd yn anelu at gyfarfod wyneb yn wyneb o leiaf unwaith y flwyddyn, fel arfer yn swyddfa’r cwmni yng Nghaerfyrddin.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol, mae croeso i chi gysylltu ar y manylion cyswllt uchod.
Cyfweliadau: Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 6 Chwefror 2023.
Cyflog
💰 Rôl wirfoddol - modd hawlio costau
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Darlithydd: Treftadaeth a diwylliant bwyd Cymru (Canolfan Tir Glas)
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Ddarlithydd: Treftadaeth a diwylliant bwyd Cymru (Canolfan Tir Glas)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Darlithydd: Treftadaeth a diwylliant bwyd Cymru (Canolfan Tir Glas)
Yn seiliedig ar gampws Llambed ond dylid gallu gweithio gartref a bod yn barod i wneud hynny, ac mewn lleoliadau eraill, yn ôl yr angen £37,474 hyd at £43,414 y flwyddyn.
- AMDANOM NI -
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymrwymedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn meithrin yr wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Rydym yn cynnig dulliau addysgu arloesol, y cyfarpar diweddaraf, a chymorth rhagorol ar draws ystod eang o leoliadau dysgu a chyrsiau.
At hynny, rydym yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn wythfed yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.
Rydym yn chwilio am Darlithydd: Treftadaeth a diwylliant bwyd Cymru i ymuno â'n campws yng Llambed yn llawn-amser yn gweithio 37 awr yr wythnos am gyfnod parhaol.
- Y RÔL -
Disgwylir i chi chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu Academi Bwyd Cyfoes Cymru ar Gampws y Drindod Dewi Sant yn Llambed. Byddech chi yn cael eich ystyried fel pensaer hollbwysig y prosiect, gan alluogi’r Brifysgol i sefydlu’r Academi i arwain yn y maes, sy’n ganolog i ddatblygiad polisi yng Nghymru a’r DU, a'r gallu i hysbysu a rhyngweithio â mentrau ar lefel ryngwladol. Byddwch hefyd yn arwain agweddau treftadaeth a diwylliant bwyd Cymru mewn perthynas â gweithgareddau ehangach yr Academi wrth iddi ddatblygu.
- AMDANOCH CHI - Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer rôl y Darlithydd: Treftadaeth a diwylliant bwyd Cymru, bydd angen i chi feddu ar y canlynol:
- Gradd anrhydedd mewn disgyblaeth berthnasol
- Aelodaeth o gorff proffesiynol perthnasol neu gymhwyster addysgu/darlithio
- Gwybodaeth gadarn am dreftadaeth a diwylliant bwyd Cymru gyda dealltwriaeth eang o’r system fwyd fyd-eang a’r heriau sy’n ei hwynebu
- Tystiolaeth o hanes cryf a llwyddiannus o gyfathrebu’r wybodaeth a'r ddealltwriaeth honno mewn amrywiaeth o gyfryngau
- Tystiolaeth o allu i wneud cyfraniad creadigol sylweddol at ddatblygiad prosiectau newydd ac arloesol sy'n gofyn am lefel uchel o hunan-gymhelliant o fewn amgylchedd tîm deinamig
- Profiad o feithrin perthnasoedd ag amrywiaeth o randdeiliaid fel grwpiau cymunedol, cyrff anllywodraethol a sefydliadau academaidd eraill
- Sgiliau rhyngbersonol, cyflwyno a chyfathrebu effeithiol
- Y gallu i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
- Sgiliau a phrofiad arwain, a lle bo'n briodol, y gallu i reoli ac ysgogi staff yn effeithiol
- Ymrwymiad parhaus amlwg i welliant proffesiynol, ysgolheictod a/neu ymchwil a gwaith prosiect
- Hyfedredd TG a phrofiad o ddefnyddio e-adnoddau gan gynnwys y gallu i ddarlithio a chyflwyno ar-lein, gan gynnwys cyswllt fideo, amgylchedd dysgu rhithiol, darpariaeth e-bost a gwefannau
- Tystiolaeth o allu i gydbwyso pwysau darlithio, ysgolheictod, ymchwil, gofynion gweinyddol a therfynau amser sy’n cystadlu â’i gilydd
- Parodrwydd i weithio’n hyblyg i fodloni gofynion y rôl
- Siaradwr/aig Cymraeg rhugl a hyderus, gyda’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg*, ar lafar ac yn ysgrifenedig
Byddai hefyd o fantais i'ch cais os ydych yn meddu ar y canlynol:
- Cymhwyster ôl-raddedig (MA neu uwch) mewn disgyblaeth berthnasol neu'n gweithio tuag at gymhwyster lefel uwch
- Profiad o oruchwylio myfyrwyr ôl-raddedig ac ymchwil
- Tystiolaeth o ymrwymiad i archwilio cyfleoedd ariannu, dyfarniadau neu grantiau allanol neu gyfleoedd masnachol posibl
- BUDDIANNAU -
- Bydd gennych hawl i 35 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gwyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau
Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddiannau gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:
- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddiannau i chi a'ch teulu
- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau
- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela
- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith
Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.
Dyddiad cau: 8fed o Ionawr 2023, 11:59pm
Cyflog
💰 £37,474 - £43,414 pro rata
Lleoliad
📍 Llanbed
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae CBAC yn edrych am Swyddog Dysgu ac Ymgysylltu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Hoffem benodi Swyddog Dysgu ac Ymgysylltu cyfrwng Cymraeg i ymuno â'n tîm AD. Gan gydweithio'n agos â'r Uwch Bartner Busnes AD: Datblygu Sefydliadol, byddwch chi'n cefnogi'r gwaith o ddarparu strategaethau Dysgu a Datblygu ac Ymgysylltu â'r Cyflogai sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
Disgrifiad:
Swyddog Dysgu ac Ymgysylltu
Cyflog: £27,639 - £29,445 y flwyddyn
Math o gontract: Parhaol, Llawn amser
Hoffem benodi Swyddog Dysgu ac Ymgysylltu cyfrwng Cymraeg i ymuno â'n tîm AD. Gan gydweithio'n agos â'r Uwch Bartner Busnes AD: Datblygu Sefydliadol, byddwch chi'n cefnogi'r gwaith o ddarparu strategaethau Dysgu a Datblygu ac Ymgysylltu â'r Cyflogai sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
Y rôl:
Byddwch chi'n cydlynu, yn trefnu ac yn cyfathrebu ynghylch gweithgareddau Dysgu a Datblygu mewnol ac allanol ar draws y corff. Byddwch chi hefyd yn darparu cefnogaeth weinyddol ragweithiol ddwyieithog ar gyfer mentrau Ymgysylltu â'r Cyflogai, Buddsoddwyr mewn Pobl a Datblygiadau Sefydliadol eraill.
Bydd gennych rôl allweddol yn darparu trefniadau sefydlu mewnol a chyfleoedd dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, a chefnogi'r dasg o sicrhau bod gennym ddiwylliant dysgu cynhwysol.
Amdanoch chi:
I ffynnu yn y rôl hon, byddwch chi'n hyderus wrth gyfathrebu ac yn meddu ar sgiliau cynllunio a threfnu cryf. Bydd y gallu gennych i weithio ac i gyfathrebu'n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn deall pwysigrwydd Dysgu a Datblygu ac yn gallu dangos profiad o weithio mewn tîm sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
Ein Buddion:
Yn CBAC, rydym yn falch o fod yn lle cynhwysol a chefnogol i weithio. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o fuddion ardderchog, gan gynnwys: 25 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (yn ogystal ag 16 o wyliau statudol / ychwanegol), gwersi Cymraeg am ddim, cynllun pensiwn cystadleuol a nifer o bolisïau sy'n ystyriol o deuluoedd.
I gael gwybod mwy am y rôl, neu am weithio gyda ni, peidiwch ag oedi cyn cysylltu ag Elizabeth East (hi) ([email protected]), a fydd yn fwy na pharod i ateb eich cwestiynau.
Dyddiad cau: Dydd Sul, 08 Ionawr 2023
Cyflog
💰 £27,639 - £29,445
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Tinopolis yn edrych am Gynorthwyydd Cyfrifon
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i ymuno â thîm yr adran gyfrifon yn Tinopolis am gyfnod o naw mis.
Cytundeb naw mis (ar gyfer cyfnod mamolaeth)
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio mewn swyddfa gyllid brysur mewn busnes sy’n creu cynyrchiadau teledu byw. Bydd y rôl yma yn cynnwys prosesu anfonebion, rheoli credyd a pharatoi cysoniadau cyffredinol.
Bydd angen ir ymgeisydd llwyddiannus gael sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol. Mae sgiliau TG cryf gan gynnwys Microsoft Excel yn hanfodol. Byddai profiad yn y maes cyfrifon o fantais er and yw’n hanfodol gan bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.
Byddai'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol.
Rydym yn gwmni sydd am adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac yn credu mewn amrywiaeth a chyfle cyfartal. Rydym bob amser yn croesawu ceisiadau gan unigolion o unrhyw oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb a chefndir cymdeithasol yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.
Manylion pellach
Oriau Gwaith: Cyfartaledd o 37.5 awr yr wythnos dros 5 diwrnod.
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn. Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 16 eg Ionawr 2023 at [email protected] neu Swyddi, Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE.
Cyflog
💰 Yn ddibynnol ar brofiad
Lleoliad
📍 Llanelli
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae S4C yn edrych am Bennaeth Cyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae S4C yn chwilio am Bennaeth Cyfathrebu i gynorthwyo’r Prif Weithredwr i greu strategaeth cyfathrebu uchelgeisiol ar gyfer y sefydliad. Byddwch yn cymryd camau cadarnhaol gydag eraill i wireddu uchelgais S4C o wella’r brand gyda’r gynulleidfa, partneriaid a’n rhanddeiliaid.
Byddwch yn cynorthwyo’r Prif Weithredwr i ddatblygu strategaeth 5-mlynedd i esblygu ein proffil ân ddelwedd ymhellach gyda chynulleidfaoedd newydd sydd yn bodoli yn barod boed yng Nghymru neu yn rhyngwladol. Mi fydd gosod cynulleidfaoedd a rhanddeiliaid wrth galon y cynllun yn hanfodol. Yn ogystal, i allu meithrin perthnasoedd gweithredol yn fewnol ac yn allanol a defnyddio sianeli a llwyfannau amrywiol mewn amgylchedd cyflym, cystadleuol. Yn brofiadol ym maes cyfathrebu, a materion cyhoeddus cewch gyfle i arwain tîm o fewn sefydliad sy'n trawsnewid a thirwedd sydd yn newid yn gyflym.
Wrth weithio gyda’r Prif Weithredwr a’r Tîm Rheoli byddwch yn gweithio yn strategol ar bob agwedd o waith S4C gan ddangos gwerthoedd ac ymddygiadau 'un tîm'. Byddwch yn cyfathrebu'n rhagweithiol blaenoriaethau S4C ar y cyd ag eraill, ar draws yr holl gyfryngau, gan ddangos effaith a dealltwriaeth glir o ystyriaethau gwleidyddol a gweithredol.
Manylion Eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Sgwâr Canolog, Caerdydd, CF10 1FT ond disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.
Rydym yn cynnig trefniadau gweithio’n ‘hybrid’ ynghyd ag ystod eang o batrymau hyblyg gwahanol.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: Parhaol
Oriau gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
**Ceisiadau ** Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Mawrth 03 Ionawr 2023 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cyflog
💰 Yn unol a phrofiad
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Mind Cymru yn edrych am Gynghorydd Dylanwadu - System Iechyd Meddwl (Cymru)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae gennym nodau pwysig dros y blynyddoedd nesaf.
Rydyn ni'n mynd i frwydro dros iechyd meddwl mewn ffordd na wnaethom erioed o’r blaen.
Gyda’n gilydd, byddwn yn gweithio i wneud yn siŵr bod pawb sydd â phroblem iechyd meddwl yn cael y gefnogaeth a’r parch maen nhw’n eu haeddu.
Wnewch chi ymuno â ni?
Mind yw un o’r prif elusennau iechyd meddwl yng Nghymru. Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i helpu mwy o bobl sy’n cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl, ac ar hyn o bryd rydym wrthi’n adeiladu tîm o bobl i fwrw ymlaen â’r uchelgais hwn.
Rydym yn chwilio am Gynghorydd Dylanwadu - System Iechyd Meddwl (Cymru) a fydd yn gweithio gyda, yn cefnogi ac yn cynghori gwasanaethau Mind Lleol yng Nghymru i gynyddu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u dylanwad ar y systemau iechyd meddwl y maent yn gweithredu ynddynt, gyda’r bwriad o sicrhau newid o fewn y system, er budd y rhai sydd angen cefnogaeth y gwasanaethau sydd ar gynnig.
Daw’r rôl hon ar adeg dyngedfennol, gyda’r argyfwng iechyd meddwl yn parhau i dyfu ledled Cymru, a’r gwasanaethau presennol yn ei chael yn anodd cefnogi’r galw cynyddol.
Dyddiad cau: 11 Ionawr 2023
Mae Mind yn cadw’r hawl i gau’r cyfnod ymgeisio’n gynnar os byddwn yn cael llawer iawn o ymgeiswyr cryf – felly rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais yn gynnar.
Mae Mind wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac mae ceisiadau yn cael eu hannog gan unigolion waeth beth yw eu hoed, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Edrychwch ar y Disgrifiad o’r Swydd pan fyddwch chi’n cwblhau eich cais oherwydd bydd ymgeiswyr yn cael eu dewis i’r rhestr fer yn seiliedig ar i ba raddau maen nhw’n bodloni’r meini prawf.
Cyflog
💰 £40,457 - £46,359
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Mind Cymru yn edrych am Uwch Swyddog Datblygu Busnes (Cymru)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn awyddus i recriwtio Uwch Swyddog Datblygu Busnes (Cymru) a fydd yn cwmpasu, yn dylunio ac yn datblygu prosiectau a rhaglenni gwaith newydd ar gyfer Cymru.
Disgrifiad:
Uwch Swyddog Datblygu Busnes (Cymru)
Caerdydd
Cyflog: £34,424 - £40,186 (+ Pwysiad Lleoliad)
Tymor Penodol - 30 Mis - 35 Awr
Mae gennym nodau pwysig dros y blynyddoedd nesaf. Rydyn ni'n mynd i frwydro dros iechyd meddwl mewn ffordd na wnaethom erioed o’r blaen.
Gyda’n gilydd, byddwn yn gweithio i wneud yn siŵr bod pawb sydd â phroblem iechyd meddwl yn cael y gefnogaeth a’r parch maen nhw’n eu haeddu.
Wnewch chi ymuno â ni?
Rydym yn awyddus i recriwtio Uwch Swyddog Datblygu Busnes (Cymru) a fydd yn cwmpasu, yn dylunio ac yn datblygu prosiectau a rhaglenni gwaith newydd ar gyfer Cymru.
Byddwch yn cyfrannu at wneud argymhellion i uwch reolwyr Mind ynghylch hyfywedd a/neu werth strategol gwahanol opsiynau ar gyfer gwaith newydd. Byddwch hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau, gan gynnwys darpar sefydliadau partner, cyllidwyr, pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o broblemau iechyd meddwl, ymgynghorwyr, ac eraill. Mae angen rhywun arnom sydd â sgiliau cryf o ran meithrin perthnasau.
Yn y pen draw, rydym yn chwilio am rywun sydd â brwdfrydedd, angerdd a sgiliau trosglwyddadwy. Rydyn ni’n cydnabod bod y swydd hon yn cynnwys llawer o ddisgyblaethau, felly os ydych chi’n gallu ymdrin â rhai o’r meysydd rydyn ni’n chwilio amdanyn nhw, a’ch bod chi’n fodlon dysgu’r gweddill, cofiwch gysylltu gan ei bod yn bwysicach i ni gael y person iawn na rhywun sy’n bodloni holl feini prawf manyleb y person. Mae Mind wedi ymrwymo i’r Gymraeg ac mae llawer o siaradwyr Cymraeg yn ein swyddfa yng Nghaerdydd.
Dyddiad cau: 8 Ionawr 2023
Mae Mind yn cadw’r hawl i gau’r cyfnod ymgeisio’n gynnar os byddwn yn cael llawer iawn o ymgeiswyr cryf – felly rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais yn gynnar.
Mae Mind wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac mae ceisiadau yn cael eu hannog gan unigolion waeth beth yw eu hoed, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Edrychwch ar y Disgrifiad o’r Swydd pan fyddwch chi’n cwblhau eich cais oherwydd bydd ymgeiswyr yn cael eu dewis i’r rhestr fer yn seiliedig ar i ba raddau maen nhw’n bodloni’r meini prawf.
Cyflog
💰 £34,424 - £40,186
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Mind Cymru yn edrych am Uwch Swyddog Datblygu Gwasanaethau (Cymru)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni'n mynd i frwydro dros iechyd meddwl mewn ffordd na wnaethom erioed o’r blaen.
Gyda’n gilydd, byddwn yn gweithio i wneud yn siŵr bod pawb sydd â phroblem iechyd meddwl yn cael y gefnogaeth a’r parch maen nhw’n eu haeddu.
Wnewch chi ymuno â ni?
Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i helpu mwy o bobl sy’n cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl, ac ar hyn o bryd rydym yn cyflogi tîm o bobl i fwrw ymlaen â’r uchelgais hwn.
Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Datblygu Gwasanaeth (Cymru) i ddatblygu modelau gwasanaeth newydd a marchnata rhai presennol. Mae angen rhywun arnom sy’n frwd dros ddylunio a darparu gwasanaethau newydd sydd wir yn diwallu anghenion ein buddiolwyr. Bydd sylfaen dda o ran rheoli prosiectau a gwasanaethau yn ddefnyddiol, yn ogystal â dealltwriaeth o gydgynhyrchu ac ymgysylltu â phrofiad go iawn. Mae angen i ni hefyd farchnata’r modelau i gomisiynwyr posibl, felly bydd dealltwriaeth o sut i ennill contractau cyllido yn ddefnyddiol ond nid yw’n hanfodol.
Mae ein gwaith yn dod â nifer o bartneriaid at ei gilydd felly mae angen rhywun arnom sy’n dda am feithrin perthnasau ar draws ffiniau ac sy’n gallu hwyluso gweithdai.
Yn y pen draw, rydym yn chwilio am rywun sydd â brwdfrydedd, angerdd a sgiliau trosglwyddadwy. Rydyn ni’n cydnabod bod y swydd hon yn cynnwys llawer o ddisgyblaethau, felly os ydych chi’n gallu ymdrin â rhai o’r meysydd rydyn ni’n chwilio amdanyn nhw, a’ch bod chi’n fodlon dysgu’r gweddill, cofiwch gysylltu gan ei bod yn bwysicach i ni gael y person iawn na rhywun sy’n bodloni holl feini prawf manyleb y person. Mae Mind wedi ymrwymo i’r Gymraeg ac mae llawer o siaradwyr Cymraeg yn ein swyddfa yng Nghaerdydd.
Dyddiad cau: 8 Ionawr 2023
Mae Mind yn cadw’r hawl i gau’r cyfnod ymgeisio’n gynnar os byddwn yn cael llawer iawn o ymgeiswyr cryf – felly rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais yn gynnar.
Mae Mind wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac mae ceisiadau yn cael eu hannog gan unigolion waeth beth yw eu hoed, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Edrychwch ar y Disgrifiad o’r Swydd pan fyddwch chi’n cwblhau eich cais oherwydd bydd ymgeiswyr yn cael eu dewis i’r rhestr fer yn seiliedig ar i ba raddau maen nhw’n bodloni’r meini prawf.
Cyflog
💰 £34,424 - £40,186
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Prifysgol Caerdydd yn edrych am Reolwr y Gwasanaeth Cyfieithu Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yn rhan o Adran Cyfathrebu a Marchnata’r Brifysgol, bydd deiliad y swydd yn arwain Tîm Cyfieithu Cymraeg i ddarparu gwasanaeth cyfieithu Cymraeg <> Saesneg o’r radd flaenaf i bob adran ac ysgol.
Gan gydweithio'n agos â Deon y Gymraeg ac Academi Iaith Gymraeg y Brifysgol, bydd deiliad y swydd yn darparu ac yn datblygu gwasanaeth sy'n hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ar draws pob maes a gweithgaredd, gan sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio â gofynion Safonau'r Gymraeg.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fuddion rhagorol, gan gynnwys 37 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â gwyliau banc), pro-rata ar gyfer rhan amser, cynllun pensiwn lleol, gweithio cyfunol (sy'n golygu y byddwch yn gallu gweithio gartref am beth o'ch amser), cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddiadau blynyddol i fyny’r raddfa gyflog, a mwy.
Swydd Gradd 6 amser llawn (35 awr yr wythnos) a phenagored yw hon.
Cyflog: £35,333 - £42,155 y flwyddyn (Gradd 6)
Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 17 Ionawr 2023
Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau‘r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi‘u derbyn.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Cyflog
💰 £35,333 - £42,155
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cymdeithas Amaethyddol Môn yn edrych am Swyddog Cyllid a Gweinyddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cymdeithas Amaethyddol Ynys Môn yn trefnu amryw o ddigwyddiadau drwy’r flwyddyn gan gynnwys y Sioe Sir, Sioe Aeaf, digwyddiadau codi arian, ynghyd â marchnata'r safle barhaol gyda'i holl gyfleusterau i ddarparwyr allanol.
Mae'r Gymdeithas yn chwilio am berson arbennig i weithio fel rhan annatod o'r tîm gweinyddol. Mae hon yn swydd sy'n adrodd i Swyddog Datblygu’r Gymdeithas, a gall fod yn llawn-amser neu ran-amser gan ddibynnu ar ddymuniad yr ymgeisydd. Bydd angen i’r person llwyddiannus fod yn dangos mentergarwch a’r gallu i aml-dasgio, gan bod yna amrywiaeth o ofynnion yn rhan o’r swydd.
Mae'r gallu i gyfathrebu ar lefel uchel yn Gymraeg a Saesneg yn hanfodol, a byddai profiad o weithio ym maes cyllid, marchnata a/neu wasanaeth cwsmer yn fanteisiol, ynghyd â bod yn llythrennog mewn TG. Byddai dealltwriaeth a diddordeb mewn materion amaethyddol a chefn gwlad hefyd yn fanteisiol.
Disgrifiad:
Bydd cyflog rhwng £23,149-£26,357 gan ddibynnu ar sgiliau a phrofiad.
Am ragor o wybodaeth ewch ar wefan y Gymdeithas www.angleseyshow.org.uk, neu E-bost i: [email protected] neu ffoniwch 01407 720072.
Ceisiadau ysgrifenedig gan gynnwys CV cyfredol at sylw: Miss Cain Owen, Cymdeithas Amaethyddol Môn, “Ty Glyn Williams”, Maes Y Sioe, Gwalchmai, Caergybi, Ynys Môn LL65 4RW.
Dyddiad cau: hanner dydd dydd Iau, Ionawr 5ed, 2023
Cyflog
💰 £23,149 - £26,357
Lleoliad
📍 Sir Fôn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae S4C yn edrych am Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae S4C yn chwilio am Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol er mwyn gweithio ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y sianel. Mae cyfrifon cyfryngau cymdeithasol S4C ymysg y cyfrifon Cymraeg sy’n cyrraedd y mwyaf o bobl bob wythnos.
O brif gyfrifon S4C i gyfrifon poblogaidd Hansh, Lŵp ac S4C Chwaraeon, cewch gyfle i weithio ar brosiectau mewn amryw o genres gwahanol, gan berchnogi eich cynnwys chi a defnyddio’r platfformau a’r technegau gorau i gyrraedd cynulleidfaoedd targed y cynnwys.
Disgrifiad:
Beth fydd diwrnod gwaith yn edrych fel?
Bydd pob diwrnod yn wahanol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae gwaith y tîm cyfryngau cymdeithasol wedi cynnig cyfleoedd anhygoel i weithio ar leoliad, o gyfweld â sêr drama fwyaf Cymru i saethu cynnwys TikTok ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl Ryng-Geltaidd Lorient, neu o gyfweld â chefnogwyr Geraint Thomas ar y Tour de France ym Mharis i ddilyn tîm a chefnogwyr Cymru yng Nghwpan Y Byd yn Qatar.
Yn ogystal â gweithio ar leoliad, bydd elfen fawr o greu a golygu cynnwys, gan gynnwys dewis clipiau o raglenni S4C, cynllunio a chynhyrchu cynnwys gwreiddiol gyda chwmnïau cynhyrchu a ffrydio cynnwys yn fyw i Facebook Live a YouTube yn ôl yr angen.
Byddwch chi hefyd yn cyfrannu i waith cyffrous ehangach tîm cyfryngau cymdeithasol S4C wrth neidio ar “trends” a gosod tôn llais S4C ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ym myd y cyfryngau cymdeithasol, mae yna wastad rhywbeth arall i’w wneud, felly bydd bob dydd yn brysur, ond yn gyfle newydd a chyffrous i gyrraedd cynulleidfa eang gyda chynnwys gorau Cymru a’r iaith Gymraeg.
Manylion eraill
Lleoliad: Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin.
Mae S4C yn gweithredu polisi hybrid.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: 9 mis
Cyfnod prawf: 4 mis
Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Iau 5 Ionawr 2023 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Coleg Gwent yn edrych am Gydlynydd Datblygu a Chymorth: Casnewydd a Mynwy
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Dysgu Cymraeg Gwent a leolir yng Ngholeg Gwent ar gampws Crosskeys yn gyfrifol am holl ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion yn siroedd Blaenau Gwent, Casnewydd, Caerffili, Mynwy a Thorfaen. Darperir ystod eang iawn o gyfleoedd dysgu i ddysgwyr o lefel Mynediad hyd at lefel Gloywi gan gynnwys cyrsiau yn y gymuned, y Gweithle a’r teulu (Cymraeg yn y Cartref). Yn ogystal, mae gan Dysgu Cymraeg Gwent raglen eang o weithgareddau cefnogi dysgwyr i atgyfnerthu'r broses ddysgu.
Mae Dysgu Cymraeg Gwent am benodi Cydlynydd Datblygu a Chymorth Casnewydd a Mynwy, a fydd yn parhau i ddatblygu a gwella'i darpariaeth yn bellach. Prif gyfrifoldebau’r swydd fydd trefnu a monitro cyrsiau Cymraeg i Oedolion yn y ddwy ardal hon.
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar brofiad o faes Cymraeg i Oedolion, gan gynnwys profiad llwyddiannus o drefnu darpariaeth yn ogystal â phrofiad o ddysgu Cymraeg. Mae'n hanfodol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu trefnu a datblygu cyrsiau newydd, dysgu i safon uchel, blaenoriaethu gwaith a gweithio'n dda fel rhan o dîm sy'n arwain a threfnu darpariaeth allweddol.
Swydd llawn amser yw hon, ac fe'i lleolir yn swyddfeydd Dysgu Cymraeg Gwent yn Crosskeys.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r Coleg wedi ymrwymo i ddiogelu a sicrhau diogelwch a lles plant a phobl ifanc. Mae cyflogaeth yn amodol ar Ddatgeliad Manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Sylwch y bydd disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus dalu am y Datgeliad Manwl.
Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan ymgeiswyr sy’n siarad ieithoedd heblaw Saesneg a hefyd gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd, yn unol â’n polisi Cyfleoedd Cyfartal. Mae pob campws yn hygyrch ac mae cyfleusterau fel ystafelloedd gweddïo ar gael.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl ac rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Cyflog
💰 £30,014 - £32,843
Lleoliad
📍 Caerffili
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Boom Cymru yn edrych am Weinyddydd AD
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Boom yn rhan o ITV Studios ac yn un o gwmnïau cynhyrchu teledu mwyaf Cymru. Gyda phencadlys ym Mae Caerdydd, mae ein busnesau cynhyrchu, ôl-gynhyrchu, effeithiau gweledol a graffeg sy’n symud yn darparu cynnwys i S4C, BBC, C4, ITV, C5, UKTV, Netflix a HBO.
Rydym yn awyddus i recriwtio Gweinyddydd AD i gefnogi ein Rheolydd AD. Bydd y person yn y rôl yma yn gyfrifol am lunio cytundebau (yn y Gymraeg a'r Saesneg) i staff a gweithwyr llawrydd, yn helpu staff newydd i gynefino ac yn gweinyddu hyfforddiant. Bydd hefyd yn helpu i gynnal y gwiriadau a chynnal y cofnodion sydd eu hangen ar swyddfa AD brysur yn gywir yn ogystal ag ymgymryd â llawer o ddyletswyddau gweinyddol a chymorth AD cyffredinol eraill.
Mae hwn yn gyfle cyffrous, yn enwedig i rywun sy'n chwilio am yrfa mewn AD. Rhaid bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau trefnu, gweinyddol a TG profedig gyda llygad am fanylyn. Rhaid iddynt allu cyfathrebu’n gryf, bod yn rhagweithiol a meddu ar allu profedig i gyflawni o fewn terfynau amser.
Gwnewch gais trwy anfon eich CV, llythyr eglurhaol a disgwyliadau cyflog i [email protected] erbyn 13eg o Ionawr 2023.
Cytundeb – 12 mis
Mae Boom yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae’n croesawu pobl â safbwyntiau amrywiol ac o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym wedi ymrwymo i adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y DU yn ein holl weithgareddau.
Mae eich Data Personol yn bwysig iawn i Boom a bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Hysbysiad Preifatrwydd Boom (http://boomcymru.co.uk/en/polisi-preifatrwydd/).
Cyflog
💰 Dibynnol ar brofiad
Lleoliad
📍 Bae Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae UCAC yn edrych am Swyddog Cyllid Dros Dro (rhan amser)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae UCAC yn chwilio am berson brwdfrydig a medrus i ymuno â'n tîm gweithgar. Prif waith y Swyddog Cyllid fydd arwain a bod yn gyfrifol am faterion cyllid yr undeb o ddydd i ddydd.
Trosolwg o’r rôl
Mae’r Swyddog Cyllid yn gyfrifol am gynllunio, monitro a gweinyddu materion cyllid yr Undeb
Rheolwr Llinell: Ysgrifennydd Cyffredinol
Cyllid
• Paratoi adroddiadau a rhagamcanion ariannol er mwyn caniatáu monitro a chynllunio ariannol effeithiol
• Mynychu cyfarfodydd mewnol perthnasol i gyflwyno gwybodaeth ac ateb cwestiynau ynghylch materion cyllid
• Paratoi adroddiadau a manylion ariannol ar gyfer yr Archwilwyr erbyn diwedd Ionawr yn flynyddol, a mynychu cyfarfodydd gyda’r Archwilwyr
• Codi anfonebau, derbynebau ac ymdrin â biliau perthnasol gan gynnwys costau teithio
• Gwirio, codio a chofnodi taliadau / symudiadau (transactions) ariannol yr undeb o ddydd i ddydd
• Prosesu a gwirio debyd uniongyrchol / Instruction Run
• Casglu taliadau aelodaeth trwy Debyd Uniongyrchol (BACS) yn fisol, prosesu negeseuon BACS (megis AUDDIS, ADDACS ac ARUDD)
• Talu cyflog a phensiwn staff ar ddiwedd bob mis trwy system BACS a’r meddalwedd perthnasol a chydweithio gyda chwmni allanol sy’n gweinyddu’r gyflogres i ddarparu gwybodaeth berthnasol
• Cynorthwyo’r Ysgrifennydd Cyffredinol i weinyddu trefniadau yswiriant UCAC trwy ddarparu manylion perthnasol
• Gwneud taliadau achlysurol yn seiliedig ar benderfyniadau’r Gymhorthfa / Cynllun Digolledi
• Talu honoraria yn flynyddol i’r Llywydd Cenedlaethol a’r Trysorydd Cenedlaethol
Cyflog
💰 £28,876 pro rata
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cyngor Meddygol Cyffredinol yn edrych am Bennaeth GMC Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Y Cyngor Meddygol Cyffredinol yw'r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer meddygon yn y DU ac mae'n rheoleiddio yng nghyd-destun gweithlu gofal iechyd wedi'i globaleiddio, lle mae gweithlu meddygol y DU yn gynyddol ryngwladol ac amrywiol yn ethnig Mae'r GMC wedi ymrwymo i ddiogelu cleifion ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig trwy sicrhau safonau uchel o addysg ac ymarfer meddygol. Mae'n gwneud hyn trwy weithio gyda meddygon, adrannau iechyd llywodraeth, cyflogwyr, addysgwyr meddygol a grwpiau cleifion. Mae Pennaeth GMC Cymru yn rôl uwch hollbwysig ar gyfer y Cyngor Meddygol Cyffredinol Gan adrodd i'n Cyfarwyddwr Materion Cyhoeddus a Swyddfeydd Cenedlaethol Cynorthwyol, byddwch yn darparu arweinyddiaeth strategol yn fewnol yn ogystal ag yn allanol i sicrhau darparu swyddogaethau statudol ac amcanion strategol GMC o fewn Cymru. Yn fewnol, bydd hyn yn golygu arwain ein swyddfa Cymru a sicrhau bod y gweithrediadau eang a ddarperir gan y tîm yn effeithlon ac effeithiol ym mhob maes, ynghyd â gweithio ar draws y GMC i addysgu, cynorthwyo a chydlynu ymdrechion i uchafu ein heffaith. Yn allanol, byddwch yn chwarae rhan arweiniol yn cynrychioli'r GMC mewn perthnasoedd i'r lefelau uchaf o'r sector iechyd a'r llywodraeth. Byddwch yn cyfrannu'n eang ar amrediad o feysydd polisi a darparu gwahanol. Byddwch yn darparu cymorth i ddarparwyr gofal iechyd ar draws y genedl ac yn cael y cyfle i ffurfio meddwl polisi yn unol a strategaeth GMC ehangach a'ch syniadau eich hun o ble gallwn gael effaith.
Bydd ein Pennaeth GMC Cymru yn dod â dealltwriaeth drwyadl o'r dirwedd, prosesau a blaenoriaethau gwleidyddol, gofal iechyd a pholisi yng Nghymru. Bydd ganddo/ganddi brofiad arweinyddiaeth wedi'i brofi mewn amgylchedd cymhleth sy'n cael ei graffu arno'n fawr, a hanes cryf o arwain a datblygu timau cynhwysol. Bydd yn arddangos y gallu i ymgysylltu ar lefel uwch gredadwy ac i adeiladu perthynas, gan ymgysylltu, dylanwadu a gweithio'n briodol gyda sefydliadau eraill, gan adeiladu consensws a gwneud penderfyniadau cadarn yn wyneb problemau cymhleth. Byddwch yn dod â sgiliau rhyngbersonol rhagorol, byddwch yn wleidyddol graff, â gallu adeiladu perthnasoedd a chyfathrebu neilltuol. Byddwch yn dod â'r mewnwelediad, gallu dadansoddol, gweledigaeth strategol a phenderfyniad i gyflawni pethau yn y rôl ddiddorol ac ymestynnol unigryw hon. Mae diwylliant mor hanfodol â gallu, a bydd ein pennaeth GMC Cymru yn gweithredu'n gwbl unol â'n hymddygiadau arweinyddiaeth, modelu rôl ac yn datblygu hyn yn ein tîm.
Mae'n sefydliad wedi'i adeiladu ar degwch ac ymddiriedaeth - ymddiriedaeth y cleifion a'r proffesiwn meddygol. Rydym yn darparu amgylchedd gwaith cynhwysol lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi ac rydym yn croesawu persbectifau a syniadau newydd y gallech eu cyflwyno. Rydym wedi gosod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad wrth galon ein strategaeth gorfforaethol, fel rheoleiddiwr proffesiwn cynyddol amrywiol yn ogystal â fel sefydliad. Mae cynyddu amrywiaeth ein harweinyddiaeth yn flaenoriaeth allweddol, ac anogir ymgeiswyr o bob cefndir i ymgeisio.
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais cliciwch ar y ddolen isod, ac am sgwrs gyfrinachol galwch ein hymgynghorwyr cynghorol yn GatenbySanderson, Olivia Robinson neu Matt Malone ar 07964 826291.
Cyflog
💰 Deniadol
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn edrych am Gyfieithydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn chwilio am Gyfieithydd.
Llawn amser (37.5 awr yr wythnos) /Rhan amser (unai 22.5 neu 30 awr yr wythnos) parhaol.
Mae swydd llawn amser parhaol gyda ni. Gallwn hefyd ystyried ceisiadau gan unigolion sydd yn edrych am waith cyfieithu yn rhan-amser neu i rannu swydd.
Rydym yn dymuno recriwtio cyfieithwyr i ymuno â Thîm Cyfieithu o fewn yr Uned Iaith Gymraeg ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Rydym yn dîm o ieithyddion a chyfieithwyr sy'n tyfu, er mwyn cefnogi Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a sefydliadau eraill GIG Cymru gyda gwasanaethau cyfieithu. Bydd y gwaith yn amrywiol ac yn ddiddorol, wrth i ni gyfieithu ystod eang o gynnwys yn amrywio o gynnwys tudalennau gwe, taflenni gwybodaeth i gleifion, ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd, swydd-ddisgrifiadau, polisïau, rhyngwynebau ar gyfer systemau a chymwysiadau a llawer mwy. Rhaid bod gennych brofiad sylweddol mewn cyfieithu a phrawfddarllen o'r Saesneg i'r Gymraeg ac i'r gwrthwyneb, yn ddelfrydol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Rhaid bod gennych feistrolaeth ardderchog ar ramadeg yn y ddwy iaith a bydd gennych radd yn y Gymraeg neu ieithoedd eraill a/neu ieithyddiaeth. Rydym yn cynnig cyfraddau cyflog rhagorol, ac i'r ymgeisydd iawn sy'n gallu dangos bod ganddo'r cymwysterau, sgiliau a phrofiad perthnasol rydym yn gallu cynnig cyflog teg i adlewyrchu'r cymwysterau, y sgiliau a'r profiad hynny. Bydd gennych wybodaeth a dealltwriaeth o ddefnyddio meddalwedd cof cyfieithu a chronfeydd termau, a byddwch yn gallu cyfieithu rhwng 2,500 a 3,500 o eiriau o leiaf mewn diwrnod gwaith, yn dibynnu ar gymhlethdod y dogfennau hynny. Mae gennym swyddfeydd ym Mhont-y-pwl, Caerdydd, Nantgarw, Abertawe, Caerfyrddin, Dinbych a Llanelwy. Rydym hefyd yn cynnig gweithio hybrid.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu cyfieithiadau ar ffurf ysgrifenedig o wahanol ddogfennau o'r Saesneg i'r Gymraeg a'r Gymraeg i'r Saesneg, gan ddefnyddio amrywiaeth o offer TG, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i Microsoft Word, PowerPoint, Excel, Outlook, In-design, gan ddefnyddio meddalwedd cof cyfieithu fel Memsource. Fel aelod o'r tîm, bydd y cyfieithydd yn cyfieithu ystod eang o ddogfennau diddorol, cymhleth, technegol, cyfrinachol a sensitif. Bydd y cyfieithydd hefyd yn gyfrifol am gyfieithu cyhoeddiadau, adroddiadau, polisïau, agendâu, cofnodion, papurau bwrdd, datganiadau i'r wasg, llythyrau, ffurflenni, papurau recriwtio a chynnwys gwe/cynnwys cyfryngau cymdeithasol.
Cyfieithu gwybodaeth, dogfennau a ffurflenni ar gyfer cleifion, defnyddwyr gwasanaethau a'r cyhoedd yn gyffredinol sy'n gofyn am gywirdeb a'r defnydd o'r iaith, terminoleg, arddull a chystrawen fwyaf priodol ar gyfer y pwnc a'r derbynwyr.
Prawf-ddarllen eich gwaith eich hun a gwaith aelodau eraill o'r tîm. Sicrhau bod cyfieithiadau'n bodloni ansawdd golygyddol. Dilyn y protocolau a'r gweithdrefnau sydd ar waith yn Uned y Gymraeg i ddarparu gwasanaethau cyfieithu prydlon a chywir o ansawdd uchel i'n cleientiaid o fewn GIG Cymru.
Paratoi pob dogfen cyn ei chyfieithu, gan sicrhau bod y ddogfen yn ramadegol gywir. Bydd hyn yn golygu cyfathrebu ag awdur y ddogfen er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'r pwnc, e.e. polisïau a gweithdrefnau.
Os oes diddordeb gyda chi, cysylltwch gydag Oliver Owen (Rheolwr Cyfieithu) am fwy o wybodaeth: [email protected]
Cyflog
💰 £27,055 - £32,934
Lleoliad
📍 Hybrid, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Prifysgol Caerdydd yn edrych am Swyddog Cyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol am benodi Swyddog Cyfathrebu (Cymraeg yn hanfodol) i gefnogi gweithgareddau cyfathrebu a marchnata’r coleg.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn creadigol â sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ogystal â sgiliau Cymraeg o’r radd flaenaf, a’r gallu i droi gwybodaeth gymhleth yn gopi diddorol a chreadigol o safon uchel. Byddai profiad o greu cynnwys digidol a fideo i'w ledaenu ar y cyfryngau cymdeithasol a sianeli’r we o fantais.
Bydd y Swyddog Cyfathrebu’n cefnogi gweithgareddau marchnata a chyfathrebu ysgolion academaidd penodol y coleg ac yn gweithio’n ddwyieithog. Byddant yn mynd ati i wella sut mae’r ysgolion academaidd yn cyflwyno eu hunain i’r byd allanol, ynghyd â chyfathrebu’n effeithiol ag ystod eang o gwsmeriaid mewnol ac allanol. Mae hyn yn cynnwys gweithio'n agos gyda'r ysgolion academaidd i sicrhau bod eu hunaniaeth, eu gwerthoedd a'u gweledigaeth yn cael eu cyfleu mewn gwahanol ddeunyddiau. Bydd llawer o'r gwaith hwn yn canolbwyntio ar gyfathrebu sy'n ymwneud â recriwtio myfyrwyr a throsi ceisiadau, yn ogystal ag arddangos a dathlu ymchwil.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol a chreu cynnwys perthnasol ar gyfer ystod o brosiectau digidol ac argraffedig. Byddant yn cydweithio yn yr ysgolion academaidd ac adran cyfathrebu ganolog y brifysgol, yn ogystal â chydweithwyr ar draws timau’r coleg ar gyfer y we, marchnata a chyfathrebu.
Byddwch yn atebol i'r Rheolwr Cyfathrebu yng Ngholeg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.
Mae'r coleg yn gymuned fywiog, amrywiol ac ysbrydoledig. Mae’r coleg yn cynnwys deg ysgol academaidd, gan gynnwys Ysgol y Gymraeg, ac rydym wedi ymrwymo i ragoriaeth ym meysydd addysgu ac ymchwil.
O fusnes i’r gyfraith a cherddoriaeth i newyddiaduraeth, mae gennym allu deallusol a gydnabyddir yn rhyngwladol i ystyried y cwestiynau damcaniaethol ac ymarferol allweddol wrth astudio’r economi, gwleidyddiaeth a chymdeithas.
Cewch ragor o wybodaeth am y swydd hon drwy gysylltu â Rhys Phillips, Rheolwr Cyfathrebu, Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ([email protected]).
Swydd amser llawn yw hon (35 awr yr wythnos) ac mae’n benagored.
Cyflog: £28,762 hyd at £33,314 y flwyddyn (Gradd 5)
Polisi’r brifysgol yw defnyddio manyleb yr unigolyn i ddethol pobl ar gyfer rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol, yn ogystal â'r meini prawf dymunol, lle bo'n berthnasol. Gofynnir i chi gyflwyno tystiolaeth sut rydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Hanfodol ym Manyleb yr Unigolyn (a'r Meini Prawf Dymunol os yw'n berthnasol), gan ddefnyddio'r drefn/rhifo fel y maent yn ymddangos ar ffurf datganiad ategol. Cadwch fel 'Datganiad Name_XXXXXBR_Supporting' wrth lanlwytho eich atodiad fel y gellir ei adnabod yn hawdd.
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 13 Ionawr 2023 Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau‘r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi‘u derbyn.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Cyflog
💰 £28,762 - £33,314
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Cyfle arlwyo ym Mwthyn Ogwen
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am arbenigwr arlwyo ar gyfer canolfan breswyl Bwthyn Ogwen ger Bethesda. Bydd y contractwr llwyddiannus yn darparu ar gyfer grwpiau o bobl ifanc sy'n aros yn y ganolfan i brofi'r dirwedd naturiol leol gyda'r Outward Bound Trust. Mae hwn fel arfer yn weithrediad o ddydd Llun i ddydd Gwener, gydag archebion trwy gydol y flwyddyn.
Datganiadau o ddiddordeb erbyn 30 Rhagfyr.
Cysylltwch
Datganiadau o Ddiddordeb ac ymholiadau drwy gysylltu a Trystan Edwards, Rheolwr Cyffredinol a Joanne Bewley, Cydlynudd Cyfleusterau;
· [email protected] neu 07779 222180
· [email protected] neu 07890 898113
Amserlen: Datganiadau Diddordeb inni cyn gynted a bo modd, ond ddim hwyrach na 30ain o Ragfyr.
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Bethesda
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Dylunydd Cynnwys Creadigol a Rheolwr Brand (dros dro)
Menter a Busnes
Mae Menter a Busnes yn edrych am Ddylunydd Cynnwys Creadigol a Rheolwr Brand (dros dro)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yn dilyn twf o fewn y cwmni ac o fewn prosiect Cywain, rydym yn chwilio am Ddylunydd Graffeg i ymuno â ni. Dyma gyfle gwych i ymuno a chwmni blaengar a gweithio ar brosiect yn niwydiant byrlymus bwyd a diod Cymru sy’n hollbwysig i dŵf yr economi Gymreig. Bydd y swydd wedi ei rhannu ar gyfartaledd 90% ar brosiect Cywain, a 10% ar waith corfforaethol Menter a Busnes.
Disgrifiad:
Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n darparu cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau micro a BBaCh sy’n gweithredu yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym yn dechrau cyfnod newydd ac rydym wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 i ddarparu gwasanaeth diwygiedig. Mae cyllid y prosiect wedi cael ei gadarnhau tan Mehefin 2023. Darperir gwasanaethau i ddatblygu capasiti a gallu busnesau, hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a gwybodaeth y diwydiant ac atgyfnerthu integreiddiad y gadwyn gyflenwi. Mae’r ddarpariaeth ar gael ledled Cymru gyda phwyslais ar gydweithio drwy glystyru, ychwanegu gwerth a datblygu’r farchnad ar gyfer twf a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac mae dull gweithredu cydlynol gyda phartneriaid datblygu eraill yn ganolog i ddatblygiad y cleientiaid. Mae tair elfen i’r prosiect:
● Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro
● Cefnogaeth diagnosteg ar gael i holl fusnesau bwyd a diod yng Nghymru
● Clystyru a chyd weithio rhwng busnesau er mwyn hyrwyddo twf ac effeithlonrwydd **Nod y Rôl **
● Arwain ar ddatblygu briffiau dylunio a chefnogi’r Arweinydd Marchnata a Digwyddiadau a staff eraill y prosiect gyda datrysiadau a chysyniadau creadigol yn ôl yr angen ar gyfer ystod gwahanol o ofynion prosiect a chwmni, gan gynnwys ond heb eu cyfyngu i gyhoeddiadau, adroddiadau, stondinau arddangos, cynnwys marchnata sy’n wynebu’r defnyddwyr a chynnwys cyfryngau cymdeithasol
● Arwain a rheoli gwaith dylunio a phrosiectau ei hun, gan weithio’n agos gyda’r rheolwr llinell i sicrhau fod prosiectau ar y trywydd iawn ac o fewn y gyllideb a’n alinio gyda gweithgareddau eraill y tîm marchnata
● Creu dogfennau ac ymateb i ofynion eraill Menter a Busnes yn ôl y galw Prif Ddyletswyddau
● Amrediad llawn o wasanaethau dylunio graffeg i Cywain, gan gynnwys creu cysyniadau, graffeg a chynlluniau ar gyfer yr arddangosfeydd a chyhoeddiadau trosglwyddo gwybodaeth
● Aelod canolog yn y tîm marchnata a digwyddiadau gan gymryd rôl ragweithiol wrth reoli ystod o brosiectau dylunio ac arwain ar gynhyrchu gofynion digidol a chynnwys creadigol y cwmni
● Creu a rheoli gwaith dylunio ar gyfer ei argraffu, y we a’r cyfryngau hyrwyddo electronig a sioeau byw, digwyddiadau ac arddangosfeydd
● Gweithio’n agos gyda’r Swyddog Marchnata ac aelodau eraill y tîm i ddatblygu syniadau creadigol, i ffurfio briffiau dylunio a chwblhau prosiectau dylunio o’r dechrau hyd y diwedd
● Helpu i hybu brand Cywain a Menter a Busnes drwy gyfathrebu’n fewnol ac yn allanol
● Defnyddio technegau creadigol ac arloesol i gyrraedd cynulleidfa eang i hyrwyddo’r gwaith
● Gwerthuso gofynion dylunio’r prosiect ac awgrymu’r fformat / opsiynau gorau sydd ar gael o fewn yr amser
● Rheoli’r berthynas gydag amrywiaeth eang o gyflenwyr, yn arbennig cwmniau argraffu, datblygwyr ac ati i sicrhau gwerth am arian ac ansawdd uchel cyson
● Gweithio i amserlen y prosiect, sydd yn aml yn ddyddiadau tynn, gan sicrhau ansawdd a safon uchel
● Sicrhau bod yr holl gyhoeddiadau ac arddangosfeydd sy’n wynebu’r cwsmer yn cwrdd â safonau brandio corfforaethol Llywodraeth Cymru
● Cyfrifoleb am ddatblygu a chynnal canllawiau brand Cywain, gan gynnwys cynorthwyo i sicrhau cysondeb brand ar draws oll brosiectau Cywain a gwaith dylunio allanol
● Cynorthwyo’r tîm ehangach i ddatblygu cynnwys creadigol a datrysiadau i broblemau a syniadau dylunio ac i weithio’n agos gyda’r Swyddog Marchnata i ddatblygu cynlluniau marchnata, copi a chyfres o ddeunyddiau ar gyfer gweithgareddau ac ymgyrchoedd
● Hwyluso’r broses greadigol ar gyfer y gwahanol ffrydiau gwaith o fewn prosiect Cywain, prosiectau corfforaethol Menter a Busnes a gwaith dylunio prosiect eraill, gan gymryd rôl ragweithiol wrth sicrhau effeithiolrwydd o fewn y cwmni ac i sicrhau cysondeb brand Menter a Busnes ar draws y prosiectau a gwahanol adrannau
● Sicrhau fod y prosesau caffael cywir yn cael eu dilyn a bod anfonebau yn cael eu derbyn a’u prosesu yn amserol ar gyfer gwaith dylunio a gofynion creadigol fel ffotograffeg a fideograffeg brand **Arall **
● Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd ar gyfer gwasanaethau’r cwsmer, ansawdd, cydraddoldeb ac amrywiaeth a iechyd a diogelwch
● Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill fel y bo’n ofynnol
● Cynrychioli Menter a Busnes fel y bo’n ofynnol Sgiliau a Phrofiad Hanfodol
● Gradd mewn dylunio graffeg neu gymhwyster wedi’i seilio yn y gwaith neu brofiad cyfatebol
● Profiad o reoli a darparu atebion creadigol
● Agwedd ffres a phortffolio dylunio arloesol a chreadigol
● Dealltwriaeth dda neu brofiad o’r sector bwyd a diod
● Sgiliau trefnu gwych, gan gynnwys rheoli amser, ar gyfer yr holl ohebiaeth copi caled ac electronig
● Profiad o reoli ffeiliau gan gynnwys defnyddio meintiau a fformatau amrywiol
● Sgiliau cyflwyno a chyfathrebu (llafar ac ysgrifenedig) gwych i unigolion a grwpiau o amrywiol feintiau
● Profiad a gwybodaeth am holl Gyfres Greadigol Adobe - yn benodol Illustrator Photoshop ac InDesign
● Sgiliau rhyngbersonol gwych
● Gallu gweithio ar ei b/phen ei hun yn ogystal ag o fewn tîm
● Gallu bod yn rhagweithiol ac i yrru pethau ymlaen yn effeithiol
● Agwedd hyblyg a’r gallu i weithio i amserlenni tynn
● Gallu cadw data’n gyfatebol â deddfau diogelu data perthnasol
● Gallu gweithio i ddyddiadau tynn
● Gallu ysgogi ei hun i weithio, gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethau i gyflawni ei amcanion a’i waith ei hun
● Rhagweithiol a brwdfrydig am waith yr Adran Fwyd a’r cwmni
● Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys - Windows; Meddalwedd cynhyrchiant (e-bost, prosesu geiriau, taenlenni, ffeilio data); Defnydd diogel o gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd (chwilio a phori'r we, defnyddio gwefannau a chymwysiadau ar-lein)
● Os yn gweithio o adref am unrhyw adeg, bydd gofyn bod gennych gysylltiad rhyngrwyd addas yn barod. Manteisiol
● Profiad o reoli perthynas â chwmnïau argraffu a chyflenwyr eraill
● Sgiliau cyfathrebu dwyieithog (llafar ac ysgrifenedig)
● Gwybodaeth am raglen Cywain
● Car i’w ddefnyddio a pharodrwydd i deithio
● Profiad o ddylunio graffeg symud Gwneud Cais
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Alex James ar 07539 173 732. Cyfweliadau
Cynhelir y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon ar ddydd Llun, 9 Ionawr 2023, yn rhithiol. Os yw’r dyddiad yma yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda. Dyddiad Cau Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10yb, dydd Mawrth, 3 Ionawr 2023.
Cyflog
💰 £27,433 - £30,205
Lleoliad
📍 Hybrid, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Llety Arall Cyf yn edrych am Gydlynydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am gydlynydd brwdfrydig sydd yn gallu gweithio’n annibynnol i fenter gymunedol ac amgylcheddol glên sy'n hybu twristiaeth gynaliadwy, yr economi leol ac yn hyrwyddo chyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg.
Disgrifiad:
Menter gymunedol yw Llety Arall sy’n cynnig llety o safon, a gofod sy’n hybu a chefnogi gweithgareddau cymunedol. Ein gweledigaeth yw bod ymwelwyr yn cael profiad byw o’r iaith Gymraeg, o diwylliant a threftadaeth Caernarfon. Ers dechrau’r fenter, rydym wedi ceisio gweithredu mewn ffordd sy’n cynnwys pawb, a hefyd mynd ati weithredu mor wyrdd â phosib (drwy ailddefnyddio deunydd, ynni cynaliadwy) a thrwy brynu’n lleol.
Mae Llety Arall yn eiddo i’r gymuned, gyda dros 400 o bobl wedi buddsoddi yn y fenter. Caiff y fenter ei rheoli gan Fwrdd Cyfarwyddwyr sy’n cyfarfod 4 gwaith y flwyddyn, ac is-bwyllgorau sy’n trafod cyllid, marchnata, yr adeilad a Lle Arall (y gofod cymunedol). Gwirfoddolwyr yw’r bobl yma sydd eisiau gweld Caernarfon yn cael ei gryfhau wrth i’r fenter weithredu er lles y gymuned. Yn yr un ysbryd, rydym eisiau rhoi ein ffydd yn ein staff a rhoi’r grym a chefnogaeth iddynt wneud eu gorau er lles y fenter, eu cydweithwyr a’u hunain.
Y swydd a’r person: Rydym yn awyddus i gyflogi Cydlynydd brwdfrydig sydd yn gallu gweithio’n annibynnol i redeg y busnes o ddydd i ddydd. Rydym yn chwilio am berson gweithgar, trefnus a chydwybodol i ymgymryd â’r swydd hon. Disgwylir i’r person a benodir fod â’r gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd angen i’r person hefyd fod â sgiliau rhyngbersonol da, y gallu i weithio’n hyblyg, yn annibynnol a chynnig rheolaeth llinell i staff glanhau.
Lleoliad: Caernarfon (gyda’r opsiwn o weithio o adref o bryd i’w gilydd os oes mynediad i fand llydan a’r opsiwn o weithio o’r adeilad).
Oriau: 37.5 awr (Oriau hyblyg sy’n cyd-fynd a gofynion tymhorol y gwaith). Gall oriau gwaith amrywio yn ôl prysurdeb tymhorol y llety, yn arbennig dros fisoedd yr haf. Bydd disgwyl i’r Cydlynydd fod yn hyblyg yn ôl gofynion y swydd, gyda’r ddealltwriaeth fod modd cymryd oriau ychwanegol yn ôl. Disgwylir i ddeilydd y swydd fynychu cyfarfodydd Bwrdd gyda’r nos (fel arfer 5:45pm-7:30pm).
Cyflog
💰 £25,000
Lleoliad
📍 Caernarfon, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!