Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Ymchwilydd / Gohebydd Materion Gwledig

💰 I'w drafod 📍 Abertawe📍 O gartref Ar gau

Mae Telesgop yn edrych am Ymchwilydd / Gohebydd Materion Gwledig

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae cwmni Telesgop yn chwilio am ymchwilydd/gohebydd hyderus a dyfeisgar sydd â diddordeb gwirioneddol yn y byd darlledu a'r awydd i rannu straeon difyr gan weithio ar amrywiaeth o raglenni radio a theledu.

Disgrifiad:

Mae Telesgop yn cynhyrchu ystod o raglenni ond yn chwilio am bobl i weithio yn benodol ar y gyfres ‘Ffermio’ ar S4C, ‘Bwletin Amaeth’ a ‘Troi’r Tir’ sydd ar BBC Radio Cymru. Mae'r swydd yn gofyn am berson brwdfrydig, trefnus a chreadigol sy’n barod i ymchwilio, recordio a golygu cyfweliadau radio. Bydd gennych ddiddordeb yn y byd amaethyddol a gwledig, a byddai dealltwriaeth o olygu clipiau sain ar raglenni fel Audacity neu Adobe Audition yn fanteisiol, ond nid yn hanfodol, gan y bydd hyfforddiant sylfaenol yn cael ei gynnig i chi baratoi, recordio a lleisio dau fwletin bob tair wythnos, eu pecynnu a'u cyfleu ar gyfer yr orsaf.

Dylai'ch sgiliau cyfathrebu fod yn ardderchog, ynghyd â’ch gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm, a gweithio o fewn cyfyngiadau amser tynn.

Byddwch hefyd yn meddu ar ddealltwriaeth o’r cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Instagram, Twitter a Zoom. Bydd gennych hefyd y gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg a Saesneg cywir ac ystwyth. 

Swydd cytundeb tymor penodol fydd hon am oddeutu 3 mis i ddechrau gyda’r posiblrwydd o arwain at swydd llawn amser, 5 diwrnod yr wythnos. Croesawir cynigion gan ymgeiswyr di-brofiad, a rhai mwy profiadol o bob cefndir.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio o swyddfeydd Telesgop yn Abertawe ac yn medru gweithio o gartref yn y tymor byr gyda'r offer recordio'n cael ei ddarparu.

Os am ymgeisio ar gyfer y swydd, anfonwch ebost, CV a ffeil mp3 munud o hyd o'ch llais yn cyflwyno’ch hunan wedi’i labeli ‘CAIS AM SWYDD YMCHWILYDD/GOHEBYDD MATERION GWLEDIG’ at [email protected], neu os am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 82 45 67.

Cyflog

💰 I'w drafod

Lleoliad

📍 Abertawe, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £28,235 - £30,854 📍 Blaenau Ffestiniog📍 Llangefni +2 Ar gau

💰 £51,380 - £61,440 📍 Casnewydd📍 O gartref Ar gau

💰 £24,899 - £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £24,899 - £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £26,209 - £33,813 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £27,344 pro rata 📍 Blaenau Ffestiniog Ar gau

💰 £69k 📍 Casnewydd📍 O gartref Ar gau

💰 £25,878 - £40,478 📍 Casnewydd📍 O gartref Ar gau

💰 £21,630 - £22,662 📍 Bangor Ar gau

💰 £23,000 - £25,000 pro rata 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £21,197 - £23,144 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £29,174 - £33,486 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £22,500 - £23,111 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £18,000 - £25,000 📍 Porthmadog Ar gau

💰 £41,704 - £47,840 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Llanelli Ar gau

💰 £750 y mis 📍 Patagonia Ar gau

💰 £29,174 – £33, 486 pro rata 📍 O gartref Ar gau

💰 £53,440 - £63,900 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £27,929 - £31,411 📍 Caerfyrddin Ar gau