Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Tiwtor / Asesydd Ôl 16 Ysgol Gwynllyw, Pontypwl

💰 £22,234 pro rata 📍 Pont-y-pŵl Ar gau

Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Diwtor / Asesydd Ôl 16 Ysgol Gwynllyw, Pontypwl

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am berson sydd wedi cymhwyso fel asesydd ac yn unol â gofynion CBAC / City and Guilds i ddysgu’r cwrs Diploma Lefel 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (GChDDP): Ymarfer a Theori. Os na fydd cymhwyster asesu gan yr unigolyn, byddwn yn ystyried rhoi’r unigolyn ar gwrs asesu. Rydym yn chwilio am berson sy’n gallu cyfathrebu yn effeithiol yn y Gymraeg ac sy’n frwdfrydig ac â sgiliau rhyngbersonol o’r radd uchaf. 

Dyletswyddau’r Swydd:

Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy'r Rheolwr Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol a Chynllun Ysgolion Cam Wrth Gam i gyflawni’r dyletswyddau canlynol:

Cyflwyno’r cymhwyster Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2/3 Ymarfer a Theori o fewn amser penodedig i ddisgyblion mewn ysgol/ion uwchradd

Cynhyrchu adnoddau dysgu ar gyfer unedau’r cwrs Lefel 2 craidd a Lefel 2/3 Ymarfer a Theori GChDDP, gan ystyried elfennau ychwanegol fel integreiddio’r sgiliau allweddol i’r gwaith galwedigaethol

Asesu gwaith y dysgwyr yn ôl gofynion y bwrdd dyfarnu a threfnu achrediad portffolios

Dylid bod yn brydlon, yn gyfrifol ac yn medru darparu ar gyfer holl anghenion y dysgwyr o fewn eu gofal

Cynnal sesiwn anwytho gyda’r dysgwr ar ddechrau’r cwrs

Datblygu a chytuno ar gynlluniau realistig ar gyfer dysgu ac asesu gyda’r dysgwyr, gan ystyried anghenion yr unigolyn, ac anghenion darparwr y lleoliad gwaith

Sicrhau bod dysgwyr yn deall diben, gofynion a phrosesau asesiad

Defnyddio dull asesu dilys, teg, dibynadwy a diogel

Nodi a chasglu tystiolaeth sy’n ddilys, cywir a digonol

Gwneud penderfyniadau asesu yn erbyn meini prawf penodol

Cefnogi, tiwtora a mentora dysgwyr i gwblhau’r gwaith wrth ymweld, ac o bell

Sicrhau bod gwaith portffolio pob dysgwr yn cael ei gwblhau yn brydlon

Gosod gwaith y dysgwyr ar y system electroneg Valid-8

Sicrhau fod y dysgwr yn derbyn adborth teg ac adeiladol sy’n cadarnhau cyflawniad ac yn nodi unrhyw ofynion ychwanegol

Sicrhau fod pob gwaith wedi’i gwblhau o fewn amser

Cyrraedd targedau fel y nodir gan y cwmni

Hyrwyddo perthynas bositif gyda phob lleoliad gwaith

Mynychu cyfarfodydd safoni

Gwirio dogfennaeth Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd y dysgwyr (GDG)

Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd yn ôl y galw

Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr

Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth   Cyfweliadau: 27.7.2022 dros Teams

Cyflog

💰 £22,234 pro rata

Lleoliad

📍 Pont-y-pŵl

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £25,019 - £28,399 📍 Caerdydd📍 Y Drenewydd Ar gau

💰 £21,979 - £23,749 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

💰 £32,020 - £35,411 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 £27.26 yr awr 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £20,919 - £22,367 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

💰 £24,657 - £30,205 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

💰 £32,960 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Cyflog a bonws yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Caerdydd +2 Ar gau

💰 £30,151 - £32,020 📍 Pwllheli Ar gau

💰 £16,252 - £18,138 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 £32,020 - £35,411 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 Cyflog a bonws yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Caerdydd +2 Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £20,758 - £21,318 📍 Nantgarw Ar gau

💰 Cystadleuol 📍 Talybont📍 O gartref +1 Ar gau

💰 £21,225 - £28,624 pro rata 📍 Bae Caerdydd Ar gau

💰 £28,505 - £31,757 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

💰 £36,386 - £42,155 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £25,895 - £29,890 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £37, 519 - £42,404 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £31,031 (+ Pwysiad Lleoliad) 📍 Caerdydd📍 O gartref +1 Ar gau

💰 £27,929 - £34,308 📍 Caernarfon📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £ 25,569 - £27,747 📍 Bangor Ar gau

💰 £21,197 - £23,144 📍 Caerdydd Ar gau