Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cefnogi Rhaglen

💰 £30,000 📍 Hybrid Ar gau

Mae Partneriaeth Awyr Agored yn edrych am Swyddog Cefnogi Rhaglen

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn elusen sy’n gweithio i gefnogi pobl Cymru ac ardaloedd eraill o fewn y DU i ymgymryd â gweithgareddau awyr agored fel gweithgaredd gydol oes. Ein gweledigaeth yw i “wella bywydau pobl drwy weithgareddau awyr agored.”

Mae’r weledigaeth hon yn golygu gwella:

·   iechyd a lles corfforol a meddyliol pobl,

·   yr enillion economaidd (gan gynnwys cyflogaeth)

·   y gwerth cymdeithasol drwy weithgarwch awyr agored

·   cymryd rhan ar lawr gwlad mewn gweithgareddau fel cerdded, beicio, dringo, canŵio, padlfyrddio, hwylio, beicio mynydd, a llawer mwy.

Y Swydd

Bydd y swydd fel arfer yn cael ei wneud o adref. Er, fydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio o swyddfa yng Ngogledd Orllewin Cymru fel bydd yr angen yn codi.

Yn y swydd hon byddwch yn:

·   Cefnogi’r Rheolwr Rhaglen i gyfathrebu a chynnal trafodaethau gyda phrif rhanddeiliaid y cwmni

·   Arwain ar brosiectau a roddir i chi gan yr Uwch Dîm rheoli

·   Cefnogi staff a’r tîm rheoli i adnabod, cwblhau a chyflwyno ceisiadau grant ac adroddiadau prosiectau blynyddol

·   Rheoli a gweinyddu cynnwys gwefan ddwyieithog newydd y Bartneriaeth Awyr Agored

·   Darparu cymorth gweinyddol a chlerigol i'r Prif Weithredwr a'r Rheolwr Rhaglen

Gellir gweld y swydd ddisgrifiad a’r manyleb person llawn ar wefan ein cwmni   Amdanoch chi

I wneud y swydd yma bydd angen:

• Addysg lefel Gradd neu brofiad perthnasol

• Y gallu i gyfathrebu a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg

• Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol

• Sgiliau trefnu rhagorol

• Sgiliau rhyngbersonol da

• Ymrwymiad clir i gydweithio fel rhan o dîm

• Ymrwymiad clir i gydraddoldeb ac amrywiaeth

• Parodrwydd i weithio'n hyblyg i gyflawni gofynion y rôl

• Y gallu i fod yn drylwyr

Yr hyn rydym yn ei gynnig:

• 35 diwrnod o wyliau blynyddol yn cynnwys gwyliau banc

• Gweithio hybrid

• Polisïau gweithio’n hyblyg

• Cyfleoedd dysgu a datblygu, gan gynnwys cefnogaeth i ennill cymwysterau pellach

• Cefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl a lles, gan gynnwys iechyd galwedigaethol a gwasanaethau cymorth cwnsela

• Gliniadur a ffôn symudol

• Mynediad i'r cynllun beicio i'r gwaith

Rydym yn angerddol am fod yn gynhwysol yn y gweithle, ac yn credu ein bod fel sefydliad yn elwa o'r amrywiaeth o gredoau, ymagwedd a sgiliau a all ddod ag amrywiaeth. Rydym yn gwerthfawrogi gwahaniaethau o bob cefndir a chymuned. Felly, waeth beth fo'ch oedran, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, statws cymdeithasol neu grefydd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Os ydych chi'n teimlo bod gennych chi'r sgiliau a'r profiad angenrheidiol i fod yn wych yn y rôl hon, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol at [email protected] 

Dyddiad cau: Medi 9, 2022

Dyddiad cyfweld: Medi 20, 2022

Cyflog

💰 £30,000

Lleoliad

📍 Hybrid

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £25,019 - £28,399 📍 Caerdydd📍 Y Drenewydd Ar gau

💰 £21,979 - £23,749 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

💰 £32,020 - £35,411 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 £27.26 yr awr 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £20,919 - £22,367 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

💰 £24,657 - £30,205 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

💰 £32,960 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Cyflog a bonws yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Caerdydd +2 Ar gau

💰 £30,151 - £32,020 📍 Pwllheli Ar gau

💰 £16,252 - £18,138 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 £32,020 - £35,411 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 Cyflog a bonws yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Caerdydd +2 Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £20,758 - £21,318 📍 Nantgarw Ar gau

💰 Cystadleuol 📍 Talybont📍 O gartref +1 Ar gau

💰 £21,225 - £28,624 pro rata 📍 Bae Caerdydd Ar gau

💰 £28,505 - £31,757 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

💰 £36,386 - £42,155 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £25,895 - £29,890 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £37, 519 - £42,404 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £31,031 (+ Pwysiad Lleoliad) 📍 Caerdydd📍 O gartref +1 Ar gau

💰 £27,929 - £34,308 📍 Caernarfon📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £ 25,569 - £27,747 📍 Bangor Ar gau

💰 £21,197 - £23,144 📍 Caerdydd Ar gau