Gweinyddwr
Mae Antur Cymru yn edrych am Weinyddwr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gweinyddwr ar gyfer Tîm Busnes Cymru yn y Canolbarth a Gorllewin Cymru
A oes gennych yr hyn sydd ei angen i chwarae rôl allweddol wrth gefnogi mentrau bach a chanolig yng Nghymru i gyflawni eu huchelgais am dwf? Os felly, byddwch yn falch o glywed bod cyfle i ymuno â tîm cyfeillgar Busnes Cymru yng Nghanolbarth & Gorllewin Cymru.
Pwy fydda i'n gweithio gyda?
Mae Busnes Cymru yn darparu cymorth busnes o'r radd flaenaf i fentrau bach a chanolig yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Fe’i ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ac mae’n cael ei ddarparu gan Bartneriaeth Twf Cymru (PTC), partneriaeth o Busnes Mewn Ffocws, Antur Cymru a Serco.
Felly, beth fydd rôl Gweinyddwr yn cynnwys?
Yn adrodd i'r Arweinydd y Tîm Perthynas â Chleientiaid, byddwch yn darparu gwasanaeth broceriaeth llawn i gleientiaid i gynorthwyo â’r gwaith o ddarparu gwasanaeth Busnes Cymru.
Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys ond nid yn gyfyngedig i:
Gosod data yn gywir o fewn bas-data a taenlenni.
Darparu cymorth gweinyddol ar gyfer trefnu gwahanol hyfforddiant a digwyddiadau i’r rhanbarth e.e. paratoi gwybodaeth, gwybodaeth cofrestru a manylion mynychu cleientiaid, dilyn i fyny ar unrhyw wybodaeth sydd ar goll.
Cynnal ffeiliau cleientiaid yn gywir.
Ateb y ffôn a cyfeirio galwadau i’r person iawn.
Beth fydd ei angen arnaf er mwyn cael fy ystyried ar gyfer y rôl Gweinyddwr hwn?
Profiad o weithio o fewn rôl weinyddol/gwasanaeth cwsmeriaid, gyda sylw da at manylder a darparu gwasanaeth effeithiol o safon uchel.
Profiad o gosod data i fewn i bas-data a taenlenni.
Y gallu i weithio'n effeithiol o dan bwysau mewn amgylchedd sy’n gofyn am gywirdeb.
Yn drefnus iawn, gyda'r gallu i reoli a blaenoriaethu llwyth gwaith yn effeithiol
Sgiliau cyfathrebu a rhwydweithio gwych, gyda'r gallu i ryngweithio'n effeithiol â phobl ar bob lefel.
Llythrennedd TG gyda gwybodaeth weithredol dda o Microsoft Office.
Beth fyddaf i'n ei dderbyn yn gyfnewid?
Cyflog: Yn cychwyn o £20,280 y flwyddyn.
Manteision ychwanegol: Y mae Antur Cymru yn darparu pecyn deniadol o fuddion gan gynnwys cynllun gweithio hyblyg, 23 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau cyhoeddus, pensiwn, rhaglen cefnogi gweithwyr, cynllun beicio i gwaith, cynllun technoleg ac yn y blaen.
Oriau: Llawn amser, 37.5 awr yr wythnos
Math o gontract: Parhaol (tan Mawrth 202
Cyflog
💰 £20,280
Lleoliad
📍 Gweithio o Adref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Dehongli Digidol
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Swyddog Dehongli Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth ac mae’n ceisio penodi staff brwdfrydig i weithio o fewn gwasanaethau’r Llyfrgell. Gwahoddir ceisiadau am y swydd ganlynol:
SWYDDOG DEHONGLI DIGIDOL
Band 3: £24,899 – £28,740
Swydd tymor penodol am 2 flynedd. 37 awr yr wythnos
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 2.00 o’r gloch 23 Mai 2022
Dyddiad cyfweliadau: i’w cadarnhau
Cefnogi gwaith isadran Mynediad a Chynnwys Digidol i ehangu presenoldeb a chyrhaeddiad ar-lein y Llyfrgell ar ein gwefannau a llwyfannau trydydd parti drwy rannu a chyflwyno cynnwys digidol wedi’i guradu mewn ffyrdd creadigol. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gydweithio gydag isadrannau eraill i ddehongli ac ail-bwrpasu casgliadau, cynnwys deongliadol ac arddangosfeydd er mwyn eu rhannu ar-lein, yn unol ag amcanion strategol y Llyfrgell.
Mae’r pecyn cyflogaeth yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau, cynllun pensiwn cyflog terfynol, polisïau sy’n gyfeillgar i deuluoedd, oriau gweithio hyblyg a phrisiau gostyngol yn y bwyty. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal.
Am becyn gwybodaeth a manylion am sut i wneud cais cysylltwch ag Uned Adnoddau Dynol y Llyfrgell ar 01970 632530/1; neu drwy defnyddio'r blwch e-bost uchod.
Cyflog
💰 £24,899 – £28,740
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Cymraeg Gwaith
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn edrych am Gydlynydd Cymraeg Gwaith
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gwahodd ceisiadau ar gyfer swydd gyffrous newydd, Cydlynydd Cymraeg Gwaith. Bydd y swydd hon yn galluogi i’r Cyngor fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil Grant Cymraeg Gwaith gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Lleolir y rôl o fewn i dîm Dysgu Cymraeg y Fro, rhan o ddarpariaeth Addysg Gymunedol Oedolion y Gyfadran Dysgu a Sgiliau. Bydd y cydlynydd newydd yn gweithio gyda staff y Cyngor ym mhob adran ac ar bob lefel, i sefydlu ac addysgu cyrsiau Cymraeg a chyfleoedd atodol i ddysgu. Mae adnabod anghenion dysgu, annog, trefnu, addysgu a mentora i gyd yn rhannau allweddol o’r rôl, ac o’r herwydd rydym yn chwilio am gyfathrebwr gwych gyda sgiliau rhwydweithio da.
Oriau/Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos (Llawn amser)
Prif leoliad gwaith: Canolfan Ddysgu Cymunedol Palmerston, y Barri
Rheswm y mae dros dro: Ariennir y swydd am 12 mis yn y lle cyntaf. Mae’r posibiliad o adnewyddu ar ddiwedd y cyfnod yn ddibynnol ar gynnig grant pellach.
Bydd y Cydlynydd Cymraeg Gwaith yn:
Cynllunio, trefnu ac addysgu cyrsiau Cymraeg i staff
Cyflawni dyletswyddau a thargedau cytundeb Cymraeg Gwaith gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Monitro mynychder, cadw cofnodion cywir am ddysgwyr, a mynd i’r afael ag unrhyw absenoldeb.
Paratoi adroddiadau a mynychu cyfarfodydd monitro.
Chwarae rhan allweddol mewn datblygu partneriaeth dda rhwng Dysgu Cymraeg y Fro, Tîm Cydraddoldeb y Cyngor, uwch-swyddogion sy’n gyfrifol am y Gymraeg, a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Am Wybodaeth Bellach, Cysylltwch â: Mared Whelan: [email protected]
Cyflog
💰 £30,364 - £33,039
Lleoliad
📍 Y Barri
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogi Talaith y De Ddwyrain
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Cefnogi Talaith y De Ddwyrain
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol: Cefnogaeth Gyffredinol
Gweithredu yn unol â nod ac amcanion Mudiad Meithrin, yn benodol Polisi Iaith Mudiad Meithrin
Cefnogi, cynghori a bugeilio darpariaethau gofal plant e.e. Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi, a Meithrinfeydd Dydd trwy ymweliadau a chyswllt cyson.
Cynnig cefnogaeth busnes i Bwyllgorau Rheoli gwirfoddol (sef yr endidau sy’n rheoli cylchoedd meithrin gan amlaf) ar amryw o faterion e.e. materion ariannol/busnes, cynaliadwyedd, materion elusennol ac anwytho pwyllgorau, trwy dynnu ar arbenigeddau canolog ac adnoddau Mudiad Meithrin.
Datblygu ac ehangu gwasanaethau’r darpariaethau o fewn yr ardal.
Cynghori a chynnig arweiniad ar faterion rheoleiddio AGC gan sicrhau bod pwyllgorau a staff yn cwrdd â safonau'r Arolygaeth
Cydweithio gyda phartneriaid i sicrhau ansawdd a safon megis AGC, Estyn, yr Awdurdod Lleol, Dechrau’n Deg, Athrawon Ymgynghorol ac Adran Iechyd
Darparu gwybodaeth a pharatoi adroddiadau a data (ar lafar ac yn ysgrifenedig) at bwrpas cynllunio strategol ar lefel lleol a chenedlaethol e.e. Adroddiad Diweddaru Gwybodaeth, P1 ayyb
Eirioli a hyrwyddo gwaith darpariaethau Mudiad Meithrin a manteision gofal ac addysg Gymraeg a dilyniant o fewn y gymuned ac mewn cyfarfodydd amrywiol e.e. taith plentyn o’r Cylch Ti a Fi i’r Cylch Meithrin ac yna i Addysg Gymraeg.
Cyfrannu at grwpiau Arbenigedd Mudiad Meithrin
Hyrwyddo gwasanaethau Mudiad Meithrin e.e. hyfforddiant Academi, Mewnrwyd a gwefan, polisïau a gwasanaeth cyfieithu hyfforddiant Academi, gwasanaeth cyfieithu
Manteisio ar gyfleoedd i fynychu hyfforddiant proffesiynol parhaus
Mynychu digwyddiadau ac achlysuron lleol perthnasol e.e. sioeau, eisteddfodau a digwyddiadau perthnasol eraill o fewn y cymunedau yn ôl yr angen
Mynychu cyfarfodydd tîm taleithiol yn dymhorol a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn
Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.
Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Dyddiad Cyfweliadau: 9.6.2022 dros Teams
Cyflog
💰 £21,453 - £25,017
Lleoliad
📍 Caerffili
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn edrych am Gyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr o'r radd flaenaf i fod yn rhan allweddol o'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, i adeiladu ar gryfderau, cyfnerthu ein llwyddiannau a pharhau ar ein taith o drawsnewid arloesol a chadarnhaol.
Fel aelod o'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, bydd deiliad y swydd yn cefnogi rhaglenni allweddol y Cyngor i ddarparu gwasanaethau, moderneiddio a datblygu sefydliadol yn y meysydd gwasanaeth a nodwyd.
Bydd gennych hanes cadarn o lwyddo. Byddwch yn gallu dangos ffocws strategol cryf, gyda phrofiad o arwain a rheoli trawsnewid, ynghyd â'r gallu i ymgysylltu â chydranddeiliaid. Bydd gennych hefyd sgiliau arwain o’r radd flaenaf.
Cyflog
💰 £90,420
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prif Swyddog Y Cyfnod Sylfaen (Dros cyfnod secondiad mewnol hyd at 31 Mawrth 2023)
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Prif Swyddog Y Cyfnod Sylfaen (Dros cyfnod secondiad mewnol hyd at 31 Mawrth 2023)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ry’n ni’n chwilio am berson gweithgar, brwd a chydwybodol i ymgymryd â’r swydd hon fel rhan o adran Cyfnod Sylfaen a hyfforddiant Mudiad Meithrin. Disgwylir i’r person a benodir fod â’r gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg. Rhaid i’r person a benodir fod â sgiliau rhyngbersonol da iawn, gan arddangos hyder i gyfathrebu â rhanddeiliaid ac eirioli ar ran y sector yn effeithiol. Mae’r gallu i gydlynu prosiectau yn drefnus a llwyddiannus yn hanfodol. Bydd angen i’r person a benodir fod â gwybodaeth am y blynyddoedd cynnar a dealltwriaeth o waith Mudiad Meithrin. Mae’r gallu i weithio’n hyblyg, yn annibynnol ac fel rhan o dîm hefyd yn hanfodol.
Mae hwn yn gyfnod pwysig a chyffrous i’r blynyddoedd cynnar ac mae’r swydd hon yn gyfle i ddylanwadu ar ansawdd y gofal a’r addysg drwy gydweithio â staff y Mudiad, aelodau ac ymarferwyr a hynny oddi mewn i adran sydd yn datblygu yn gyson.
Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Pennaeth Hyfforddiant, Datblygu a Dysgu am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
Darparu cymorth i Gylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd dydd (lleoliadau nas cynhelir)
· gweithio mewn partneriaeth ag Arweinydd Cwricwlwm i Gymru Cyfnod Sylfaen oddi mewn i adran hyfforddiant y Mudiad
· darparu cyngor amserol a chywir i leoliadau ar ddarpariaeth addysg gynnar o safon, gan ystyried y cwricwlwm perthnasol a'r trefniadau asesu
· rhoi cyngor a chymorth i leoliadau i roi’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir ar waith yn llwyddiannus
· adnabod anghenion hyfforddi ymarferwyr a chydlynu hyfforddiant mewn partneriaeth ag Academi Mudiad Meithrin
· gweithio gydag Awdurdodau Lleol (ALl) a sefydliadau eraill i drefnu cymorth a hyfforddiant i ymarferwyr
· sicrhau bod hyfforddiant yn dylanwadu ar arferion da
· cydweithio â Swyddogion Cefnogi y Mudiad er mwyn cefnogi darpariaethau (e.e. Cylchoedd Ti a Fi, Dechrau’n Deg) gyda threfniadau pontio rhwng lleoliadau acysgolion
· gweithio gydag ymarferwyr Cylchoedd Meithrin i ddatblygu adnoddau e.e. astudiaethau achos neu ddatblygiadau ECEC sy'n hyrwyddo arferion rhagorol i'w rhannu ag eraill a’u cyhoeddi ar Hwb
· darparu adroddiadau rheolaidd ar gynnydd ac effaith y gwaith yn ôl y galw
Datblygu polisi
Bydd disgwyl i'r Prif Swyddog hefyd weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a chymryd rhan mewn datblygiadau polisi pwysig gan gynnwys
· gweithredu'r cwricwlwm drwy gydweithio â’r Arweinydd Cwricwlwm
· datblygu trefniadau asesu priodol ar gyfer lleoliadau nas cynhelir a ariennir mewn partneriaeth gyda’r Arweinydd Cwricwlwm ac ymarferwyr Cylchoedd Meithrin
· datblygu a gweithredu y cynnig dysgu proffesiynol ar gyfer y sector nas cynhelir mewn partneriaeth gyda’r Arweinydd Cwricwlwm a’r Rheolwr Datblygu Adnoddau
Cyflog
💰 £29,614 - £32,375
Lleoliad
📍 Conwy
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Golygydd Creadigol a Rheolwr Cyhoeddi Oedolion
Mae Atebol yn edrych am Olygydd Creadigol a Rheolwr Cyhoeddi Oedolion
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Wyt ti'n berson brwdfrydig, llawn egni? Mae hon yn wîr yn gyfle i lunio rhaglen waith dy hun.
Rydym am creu gwasgnod newydd i oedolion fydd yn cyfleu brand bywiog a chyfoes.
Dy fwriad fydd adnabod a meithrin talentau newydd, o amrywiaeth o gefndiroedd, a chreu cyhoeddiadau newydd fydd a phwyslais ar fod yn cynnig arlwy newydd fydd yn creu marchnadoedd newydd.
Bydd dy lygad bob amser ar dalent a sicrhau rhagoriaeth, cysondeb ac ansawdd golygyddol.
Am fwy o fanylion neu sgwrs anffurfiol cysylltwch ag [email protected]
Lleoliad hyblyg.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Comisiynydd Traffig (Cymru)
Mae Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau yn edrych am Gomisiynydd Traffig (Cymru)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ysgrifenedig a llafar?
A oes gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol â'r gallu i greu perthnasoedd effeithiol ag uwch ddeiliaid swyddi a rhanddeiliaid?
Rydym yn chwilio am rywun i ymuno ag a helpu i adeiladu tîm bach yn Swyddfa'r Comisiynydd Traffig. Byddwch yn darparu cymorth gweinyddol i'r Comisiynydd Traffig i'w alluogi i ymgymryd â’u dyletswyddau statudol ar gyfer gofynion trwyddedu cerbydau yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys prosesu gwaith achos a gwneud trefniadau ar gyfer ymchwiliadau cyhoeddus.
Cyfrifoldebau
Fel aelod o'r tîm bydd rhai o gyfrifoldebau allweddol eich rôl yn cynnwys:
• llunio a drafftio cyflwyniadau cywir a llawn i'r Comisiynydd Traffig yn argymell camau gweithredu a phrosesu'r achos yn ôl yr angen
• darparu gwasanaeth ymchwiliad cyhoeddus, gwrandawiad ymddygiad gyrwyr a gwrandawiad powndio o ansawdd uchel i’r Comisiynydd Traffig
• cydgysylltu pan fo angen gyda DVSA, yr heddlu ac Asiantaethau ac Adrannau eraill y Llywodraeth a mynychu cyfarfodydd ar ran y Comisiynydd Traffig
• drafftio ymatebion i ohebiaeth gan ASau, cymdeithasau masnach ac awdurdodau lleol ar ran y Comisiynydd Traffig
• monitro perfformiad y swyddfa a gweithredu yn ôl yr angen
• delio ag ymholiadau dros y ffôn a’r rhai ysgrifenedig
Amdanat ti
Rydych chi'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ysgrifenedig a llafar.
Gallwch weithio'n effeithiol o fewn tîm neu’n annibynnol ar eich menter eich hun. Mae gennych y gallu i ddeall a dehongli deddfwriaeth gymhleth â sgiliau rhagorol ym meysydd dadansoddi a datrys problemau.
Mae gennych wybodaeth ymarferol dda o becynnau Microsoft gan gynnwys Excel a Word.
Wrth symud ymlaen, rydym wedi’n hymrwymo i annog a galluogi ein staff i ddatblygu yn uwch na'u rôl a byddant yn eich cefnogi i ymgymryd â chyfleoedd/cymwysterau datblygu pellach.
Cyflog
💰 £26,126
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Maes y Gogledd
Mae UCAC yn edrych am Swyddog Maes y Gogledd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd y gwaith yn amrywiol tu hwnt, a bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus:
gynghori a chefnogi aelodau mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd gan gynnwys rhai heriol iawn;
lleisio barn swyddogol yr undeb mewn cyfarfodydd amrywiol, yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol;
paratoi dogfennau, gan gynnwys llythyron swyddogol, taflenni gwybodaeth, ymatebion i ddogfennau ymgynghorol a pholisïau.
Cyflog
💰 £39,193
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Athro/Athrawes Saesneg
Mae Ysgol Uwchradd Bodedern yn edrych am Athro/Athrawes Saesneg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gweler y wefan am fanylion pellach
Cyflog
💰 Prif Raddfa Athrawon
Lleoliad
📍 Bodedern
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Cynhyrchu / PA
Mae Tinopolis yn edrych am Gynorthwyydd Cynhyrchu / PA
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ry’ ni’n chwilio am PA profiadol neu dan hyfforddiant i ymuno â Tinopolis, i weithio fel aelod o’r tîm cynhyrchu ar raglenni S4C gan gynnwys yn benodol Heno a Prynhawn Da.
Byddwch yn gyfrifol am ddyletswyddau PA galeri yn ogystal â chreu, casglu a chwblhau’r holl ddeunydd gweinyddol angenrheidiol mewn perthynas â’r rhaglenni.
Sgiliau hanfodol:- Gan mai swydd PA profiadol neu dan hyfforddiant sy’ dan sylw, ry’ ni’n agored i ystyried amrywiaeth o sgiliau. Gan fod y swydd yn rhan anatod o’r tîm cynhyrchu, bydd dealltwriaeth o’r rhaglenni a diddordeb yn yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru o fantais.
Oherwydd gofynion y rôl hon mae'r gallu i siarad Cymraeg yn angenrheidiol.
Rydym yn gwmni sy’n awyddus i adlewyrchu’r cymunedau ry’ ni’n gwasanaethu ac yn credu mewn amrywiaeth a chyfleon cyfartal, ac rydym bob amser yn croesawu ceisiadau wrth unigolion o unrhyw oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb, a chefndir cymdeithasol yn unol â Deddf Gydraddoldeb 2010.
Lleoliad: Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli SA15 3YE
Cyflog: yn ddibynnol ar brofiad
Dyddiad Cau: 23 Mai 2022
Manylion Pellach
Oriau gwaith: cyfartaledd o 40 awr yr wythnos ond oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys, penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun.Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
**Ceisiadau **
Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 12:00 y prynhawn ar 23 Mai 2022 at [email protected] neu Swyddi, Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE.
Eraill:-
Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU neu’r UE. Bydd yn ofynnol cael tystiolaeth ddogfennol o gymhwyster gan ymgeiswyr fel rhan o’r broses recriwtio.
Gwybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch chi pan fyddwch yn ymgeisio am swydd yn Tinopolis: Wrth wneud cais am swydd, bydd disgwyl i chi ddarparu CV fel rhan o’r broses. Byddwn yn cadw copi o’ch CV ar ffeil am gyfnod o dair blynedd. Pe bai swydd debyg yn codi yn y cyfnod hwn, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth er mwyn cysylltu â chi. Gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol o’n ffeiliau ar unrhyw adeg. Am ragor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, gweler http://www.tinopolis.com/privacy-notice/
Cyflog
💰 Dibynnol ar brofiad
Lleoliad
📍 Llanelli
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Athro/Athrawes Gwyddoniaeth (Ffiseg)
Mae Ysgol Uwchradd Bodedern yn edrych am Athro/Athrawes Gwyddoniaeth (Ffiseg)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Swydd barhaol, llawn amser yn addysgu Gwyddoniaeth (Ffiseg yn bennaf) i holl ddisgyblion yr ysgol ar draws pob cyfnod allweddol.
Cyflog
💰 Prif Raddfa Athrawon
Lleoliad
📍 Bodedern
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Darlithydd mewn Busnes (Cyfrwng Cymraeg)
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn edrych am Ddarlithydd mewn Busnes (Cyfrwng Cymraeg)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill dwy wobr fawreddog yn ddiweddar - Prifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2021 gan y Times Higher Education a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 gan The Times a The Sunday Times Good University Guide.
Os oes gennych chi hanes o gyflawniad sy’n dangos eich ymrwymiad, eich dawn a’ch brwdfrydedd i gyfrannu at ein cymuned ddysgu drwy addysgu rhagorol, ysgolheictod, ymchwil ac arloesedd, ynghyd â rhannu ein brwdfrydedd dros ein gwerthoedd a’n gweledigaeth, rydyn ni’n edrych ymlaen i dderbyn eich cais. Rydyn ni’n arbennig o awyddus i glywed gan ymgeiswyr a’u helpu i ddatblygu ein safle o ran ymchwil ac yn rhai a fydd yn gwella amrywiaeth ein prifysgol, ein cymuned a’n partneriaethau.
Y Cyfle
Mae Ysgol Reoli Caerdydd (YRC) yn ddarparwr uchelgeisiol, achrededig o addysg busnes a rheoli. Mae cyfleusterau o’r radd flaenaf ar Gampws Llandaf yn darparu amgylchedd dysgu calonogol a chreadigol, gan arddangos yr Ysgol fel canolfan flaenllaw yn y DU ar gyfer Cyfrifeg, Economeg a Chyllid; Busnes, Rheoli a'r Gyfraith; Marchnata a Strategaeth; a Thwristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau. Mae staff yn gwbl falch o'u cyfraniad sylweddol at adfywio rhanbarthol a thwf economaidd trwy addysgu, gwaith menter ac ymchwil gymhwysol.
Mae'r Ysgol hefyd yn falch o'r rôl y mae'n ei chwarae wrth gyflwyno rhaglenni ledled y byd. Gyda dros 10,000 o fyfyrwyr yn astudio rhaglenni rheoli gyda'n partneriaid TNE rhyngwladol, mae'r Ysgol yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gyfleoedd bywyd myfyrwyr a chymunedau ledled y byd.
Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad myfyriwr rhagorol. Mae proffil ymchwil sefydledig neu addawol ym maes Busnes neu faes cysylltiedig, a phrofiad addysgu da iawn ar raglenni perthnasol yn hanfodol.
I fod yn llwyddiannus byddwch yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr ymhellach trwy eich arbenigedd a'ch gwybodaeth bwnc fel y gwelir yn eich cymwysterau a'ch profiad.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
Bydd gofyn i chi wneud cyfraniad sylweddol at gyflawni ein portffolio a addysgir gan gyfrannu at ystod o raglenni israddedig ac ôl-raddedig mewn Economeg a meysydd eraill o'n cwricwlwm craidd yn dibynnu ar eich meysydd arbenigedd a phrofiad. Yn frwdfrydig am addysgeg sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr, byddwch yn cyfrannu at ddarparu addysg, gan gynnwys rheoli rhaglenni yn ôl yr angen, ar draws yr ystod o raglenni israddedig. Byddwch hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyflogadwyedd, ac ymgysylltiad proffesiynol â sefydliadau mewnol ac allanol perthnasol, ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol. Byddwch yn cael eich cefnogi i gyfrannu at broffil ymchwil yr Ysgol.
Mae'r Ysgol yn cynnal amrywiaeth o raglenni arloesol mewn Twristiaeth, Marchnata, Strategaeth, Entrepreneuriaeth, Rheoli Gweithrediadau a'r Gyfraith ymhlith llawer o feysydd pwnc.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr rhagorol sydd â phrofiad addysgu meysydd sy'n gysylltiedig â Busnes a Rheoli drwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys diddordebau ymchwil yn y meysydd perthnasol. Bydd cyfleoedd i oruchwylio myfyrwyr PhD lle bo'n briodol.
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano
Lefel dda o wybodaeth sy'n berthnasol i'r pwnc a'r maes proffesiynol.
Dealltwriaeth gadarn o addysgeg.
Dealltwriaeth gadarn o ymchwil/arloesi a gweithgaredd ysgolheigaidd.
Y gallu i ddatblygu rhaglenni addysgu a/neu ymchwil a darparu cymorth dysgu.
Y gallu i ddylunio deunydd addysgu a dysgu.
Y gallu i ddefnyddio dulliau asesu priodol.
Y gallu i adnabod meysydd i'w gwella a defnyddio sgiliau menter a datrys problemau i wella perfformiad.
Y gallu i gyfathrebu a lledaenu syniadau cymhleth a chysyniadol mewn amryw o ffyrdd - cyflwyniadau mewn cynadleddau, adroddiadau ar ganfyddiadau, cyhoeddiadau, adborth ac ati.
Profiad o ddysgu AU neu gyfwerth.
Profiad o ddarparu arweinyddiaeth academaidd a chefnogaeth/mentora llinell gyntaf i gydweithwyr eraill. Gradd anrhydedd da.
Cymhwyster lefel doethuriaeth neu brofiad uwch reolwyr / proffesiynol sylweddol trwy’r Gymraeg.
Y gallu i gyflawni Statws Cymrawd fel rhan o gynllun Cydnabyddiaeth Broffesiynol yr Academi Addysg Uwch, o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt (cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl ac yn bendant o fewn tair blynedd i ddechrau'r gyflogaeth). Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch â Dr Aylwin Yafele, Pennaeth Adran, ar [email protected] neu i gael rhagor o wybodaeth am weithio yn y Brifysgol ewch i'n gwefan recriwtio.
Os bydd nifer fawr o geisiadau'n dod i law, efallai y bydd angen inni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i wneud cais cyn gynted â phosibl.
Mae'r brifysgol wedi ymrwymo i greu diwylliant cynhwysol iawn. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein staff. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion heb gynrychiolaeth digonol yn y sector addysg uwch.
Gwybodaeth Bellach
Darllenwch ein Pecyn Ymgeisydd neu ewch i'n gwefan recriwtio staff i gael gwybodaeth am weithio i ni, ein diwylliant, buddion, cydbwysedd bywyd a gwaith a'n cyfleoedd datblygu a datblygu gyrfa.
Cyflog
💰 £40,927 - £46,042 pro rata
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cangen Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae Coleg Cambria yn edrych am Swyddog Cangen Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. A ninnau eisoes wedi cael dyfarniad ‘Rhagorol’ yn ein harolygiad diweddar gan Estyn ac wedi ennill Gwobr Platinwm Iechyd yn y Gweithle y Safon Iechyd Corfforaethol, rydym yn teimlo ein bod wedi cael dechrau da.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth
Teitl y Swydd: Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Lleoliad: Iâl, Wrecsam
Math o Gontract: Llawn Amser - Parhaol
Graddfa Gyflog: £25,374 - £27,639
Mae gennym ni swydd wag ar gyfer Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gydlynu gwaith cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar draws Coleg Cambria.
Gofynion Hanfodol
Brwdfrydedd i hyrwyddo’r iaith Gymraeg
Wedi derbyn addysg i lefel gradd neu gymhwyster proffesiynol gyfatebol
Y gallu i gyfathrebu’n broffesiynol ac yn gywir yn y Gymraeg a Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig
Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol mewn sawl cyd-destun o fewn y sector Addysg Bellach yng Nghymru
Hyfedredd mewn TG
Yn meddu ar drwydded yrru ddilys gyfredol ac â defnydd cerbyd
Y gallu i weithio’n hyblyg ac i berfformio’n dda o dan bwysau
Yn meddu ar hunan gymhelliad, y gallu i weithio ar eich menter eich hun, a defnyddio’ch amser yn effeithiol
Parodrwydd i dderbyn hyfforddiant perthnasol yn ôl y galw
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i wella proffil y Gymraeg. Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’. Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion, y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’, yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo llesiant yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Os byddwch yn llwyddiannus, efallai y bydd yn ofynnol i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, yn ddibynnol ar y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani.
Sylwer bod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau ein swyddi gwag yn gynharach na’r dyddiad a nodwyd petaem yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddem yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted ag y bo modd os ydych yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer y swydd.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar y safle
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Cyflog
💰 £25,374 - £27,639
Lleoliad
📍 Wrecsam
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogi Cynorthwyol y De Ddwyrain - Ail Hysbyseb
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Cefnogi Cynorthwyol y De Ddwyrain - Ail Hysbyseb
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cefnogaeth Gyffredinol
Cefnogi darpariaethau e.e. cylchoedd meithrin a chylchoedd Ti a Fi, fel rhan o dîm
Gweithredu yn unol â nod ac amcanion Mudiad Meithrin, yn benodol polisi iaith Mudiad Meithrin
Datblygu ac ehangu darpariaethau o fewn yr ardal
Darparu gwybodaeth a pharatoi adroddiadau (ar lafar ac yn ysgrifenedig) at bwrpas cynllunio strategol ar lefel lleol a chenedlaethol e.e. Adroddiad Diweddaru Gwybodaeth yn ôl yr angen
Eiriol a hyrwyddo gwaith darpariaethau Mudiad Meithrin a manteision addysg Gymraeg a dilyniant
Cynnal a datblygu perthynas gyda phobl a sefydliadau perthnasol e.e. rhieni, ysgolion ayyb
Manteisio ar gyfleoedd i fynychu hyfforddiant proffesiynol parhaus a rhannu arfer dda pan fo’n berthnasol
Mynychu digwyddiadau ac achlysuron lleol perthnasol e.e sioeau, sioeau babis, eisteddfodau yn ôl yr angen
Mynychu cyfarfodydd tîm yn dymhorol a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn
Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr.
Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £19,138
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu
Mae Hybu Cig Cymru yn edrych am Swyddog Cyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Swyddog Cyfathrebu yn chwarae rhan allweddol fel aelod o dîm mewnol, yn hyrwyddo gwaith HCC a’r sector cig ac amaeth yn ehangach i ystod eang o ran-ddeiliaid – y cyfryngau, pobl ddylanwadol, y gadwyn gyflenwi o ffermwyr i gogyddion a pherchnogion tai bwyta, swyddogion polisi ac academyddion.
Penodiad cyfnod penodol am flwyddyn dros cyfnod mamolaeth yw hon yn y man cyntaf, ond efallai bydd cyfleodd pellach o fewn y timau cyfathrebu a marchnata yn y dyfodol.
Cyflog
💰 £24,500 - £28,874
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu Cynnwys Digidol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn edrych am Swyddog Cyfathrebu Cynnwys Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gofynion y Gymraeg:
Mae'r gallu i gyfathrebu a darllen Cymraeg er mwyn adolygu cynnwys ar y wefan yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Manylion y Rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol am y swydd:
[Rachael Gill / Pennaeth Adain – Cyfathrebu a Marchnata / 01492 515592 / [email protected] ]
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr lenwi ein ffurflen gais ni i gael eu hystyried. Ni dderbynnir CVs ar eu pen eu hunain. Os nad ydych wedi cael gwahoddiad i gyfweliad o fewn tair wythnos o'r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym ni’n chwilio am unigolyn gydag awch am greu cynnwys digidol hygyrch ac sy’n meddu ar ddealltwriaeth dda o sianeli cyfathrebu digidol.
Mae bod yn drefnus a roi sylw i fanylion yn hanfodol gan y byddwch yn gweithio gyda thimau ar draws y Cyngor yn cydlynu ac yn darparu cynnwys ac yn gwneud yn siŵr bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu ei ddefnyddio ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Mae’n rhaid i chi fod yn hyderus ac yn gallu trafod gydag arweinwyr gwasanaethau fel bod gan holl wasanaethau'r Cyngor bresenoldeb cyfoes ar y we sydd ar frand, yn gyson, yn hawdd ei lywio, yn hawdd ei ddeall ac yn hygyrch.
Byddwch hefyd yn helpu’r Tîm Cyfathrebu a Marchnata i drefnu, cyflwyno a gwerthuso ymgyrchoedd marchnata aml-sianel am wasanaethau'r Cyngor, gan ganolbwyntio'n benodol ar sianeli cyfathrebu digidol.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Cyflog
💰 £22,571 - £25,927
Lleoliad
📍 Conwy
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Gweithredol Datblygu'r Farchnad Allforio
Mae Hybu Cig Cymru yn edrych am Swyddog Gweithredol Datblygu'r Farchnad Allforio
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae tair diben i’r swydd; dadansoddi a lledaenu gwybodaeth i helpu i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth o weithgareddau marchnata HCC mewn marchnadoedd allforio; cynnal perthynas ag allforwyr cig coch Cymru a rheoli rhaglenni a phrosiectau hyrwyddo ar gyfer Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru mewn marchnadoedd allforio; nodi datblygiadau / cyfleoedd / cyfyngiadau'r farchnad allforio ar gyfer cig o Gymru gan gynnwys sgil-gynhyrchion.
Cyflog
💰 £33,954 - £42,216
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn edrych am Swyddog Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cyfle cyffrous ar gael i ymuno â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn darparu gwybodaeth ar hyfforddiant a gwasanaethau i blant, pobl ifanc, teuluoedd a darparwyr gofal plant a chwarae yn Sir Ddinbych.
Mae swydd ar gael ar gyfer Swyddog Gwybodaeth brwdfrydig, llawn cymhelliant i weithio o fewn y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. Fel pwynt cyswllt sy’n wynebu’r cyhoedd, mae Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon i gefnogi anghenion a datblygiad y diwylliant Cymraeg a chymuned Sir Ddinbych. Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg yn rhugl yn hanfodol.
Cynnal a datblygu sianelau cyfathrebu’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn darparu gwybodaeth ar hyfforddiant a gwasanaethau i blant, pobl ifanc, teuluoedd a darparwyr gofal plant a chwarae yn Sir Ddinbych.
Monitro a gweinyddu grantiau cysylltiedig â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a lleoliadau gofal plant a chwarae o fewn Sir Ddinbych yn gweithio’n agos gyda theuluoedd, partneriaid a darparwyr gofal plant yn cadw at holl ofynion grant.
Cynrychioli a darparu’r gwasanaeth hwn yn bersonol mewn digwyddiadau, dros y ffôn neu gyfarfodydd rhithiol a chyfrwng ysgrifenedig.
Penodiad yn amodol ar Wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a geirdaon boddhaol. Os hoffech chi drafod unrhyw agwedd ar y swydd, ffoniwch Dawn Anderson ar 01824 706906. Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd wag hon, gwnewch gais ar-lein trwy ein gwefan www.sirddinbych.gov.uk Am ddulliau eraill o wneud cais, cysylltwch â’r Adran Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01824 706100
Cyflog
💰 £24,920 - £27,514
Lleoliad
📍 Y Rhyl
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfieithydd Cymraeg
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn edrych am Gyfieithydd Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae gennym gyfle cyffrous i Gyfieithydd Cymraeg ymuno â'n tîm - rydym yn chwilio am y person iawn a all ddefnyddio ei sgiliau ieithyddol a'i wybodaeth arbenigol am faterion Cymraeg i helpu i sicrhau ein bod ni’n cyflawni ein hymrwymiadau dwyieithrwydd, yn ein cymunedau ac o fewn ein staff.
Mae ein hymrwymiad i’r iaith Gymraeg yn golygu mwy na thrin Saesneg a Chymraeg yn gyfartal yn unig. Mae achub bywyd a lleihau risg yn ganolog i’n gorchwyl fel gwasanaeth tan ac achub – ac mae’r iaith Gymraeg yn hanfodol i’n llwyddiant.
Gan weithio fel rhan o'r tîm Cyfathrebu Corfforaethol, bydd y Cyfieithydd Cymraeg yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth cyfieithu Cymraeg/Saesneg ysgrifenedig ar gyfer staff a chyhoeddiadau a chyfathrebiadau gwasanaeth tân ac achub i fodloni'r gofynion statudol a nodir yn safonau'r Gymraeg. Byddant hefyd yn darparu cyfieithu dogfennau ac adroddiadau, yn ogystal â gwasanaeth cyfieithu ar yr un pryd mewn cyfarfodydd a digwyddiadau eraill, yn unol â gofynion y Gwasanaeth.
A oes_ gennych yr arbenigedd i'n helpu i ddarparu'r gwasanaeth dwyieithog gorau posibl a sicrhau ein bod yn llwyddo i gyflawni ein hymrwymiad i'r Gymraeg?_
Rydym yn chwilio am siaradwr Cymraeg rhugl, sydd wedi'i addysgu i lefel gradd mewn pwnc sy'n gysylltiedig â'r Iaith Gymraeg a chymhwyster cydnabyddedig mewn cyfieithu neu brofiad amlwg mewn sgiliau cyfieithu. Gyda sgiliau ysgrifennu a rhyngbersonol rhagorol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y gallu i gyfieithu, darllen a chywiro proflenni gan roi sylw craff i fanylion a chysondeb, wrth weithio i derfynau amser tynn.
Am ragor o wybodaeth am y rôl, gan gynnwys y disgrifiad swydd lawn a manyleb yr unigolyn, ewch i’r pecyn Gwybodaeth Recriwtio Cyfieithydd Cymraeg. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos, gyda thystiolaeth, yn erbyn y meini prawf hanfodol fel yr amlinellir yn y disgrifiad swydd a manyleb yr unigolyn er mwyn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad.
Mae’r tîm fel arfer wedi eu lleoli yn Pencadlys y Gwasanaeth yn Llanelwy, ond rydym wedi cyflwyno polisi gweithio hyblyg i hyrwyddo gweithio rhithiol ac yn y cartref lle bo’n ymarferol.
Cyflog
💰 £26,975 - £28,226
Lleoliad
📍 Llanelwy
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ymchwilio a Gorfodi
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych am Swyddog Ymchwilio a Gorfodi
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Contract: Tymor penodol neu secondiad am 6 mis yn gychwynnol gyda’r posibilrwydd o ymestyn gan ddibynnu ar amgylchiadau ar y pryd.
Oriau Gwaith: 22 awr yr wythnos (3 diwrnod)
Cyflog: £31,210 - £38,160 y flwyddyn (pro rata)
Lleoliad: Hyblyg - gweithredir trefniant gweithio hybrid. Lleolir swyddfeydd y Comisiynydd yng Nghaerdydd, Caernarfon, Caerfyrddin, a Rhuthun
Cyfweliadau: 26 Mai 2022 (cynhelir dros Teams)
Dyletswyddau penodol
** YMCHWILIO I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Â SAFONAU **
Bod yn gyfrifol am gynnal ymchwiliadau statudol ar sail amheuaeth o fethiant a pharatoi adroddiadau cysylltiedig gan wneud hynny yn unol â threfn fabwysiedig y Comisiynydd.
Bod yn gyfrifol am wneud cynigion ynghylch argymhellion neu gamau gorfodi neu gosbau sifil priodol i’w gosod yn eu lle yn unol â gofynion deddfwriaeth iaith. Diweddaru gwybodaeth ynghylch gweithrediad unrhyw gamau neu argymhellion a osodir.
Bod yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth i’w osod yng nghofrestr camau gorfodi Comisiynydd y Gymraeg.
CYTUNDEBAU SETLO
- Bod yn gyfrifol am wneud cytundebau setlo a diweddaru gwybodaeth am eu gweithrediad lle bo hynny’n briodol.
DIFFYG CYDYMFFURFIO Â SAFONAU: CWYNION GAN BERSONAU A EFFEITHIR ARNYNT
Bod yn gyfrifol am ymdrin â chwynion yn unol â chanllawiau a pholisïau Comisiynydd y Gymraeg gan eu datrys yn syth lle fo’r mater yn rhwydd i’w ddatrys.
Bod yn gyfrifol am gynnal ymchwiliadau statudol ar sail tystiolaeth ddibynadwy a gwirio cwynion dilys a pharatoi adroddiadau cysylltiedig gan wneud hynny yn unol â threfn fabwysiedig y Comisiynydd.
Bod yn gyfrifol am roi sylw i gwynion gan sicrhau bod ymatebion amserol yn cael eu hanfon at ohebwyr yn unol â chanllawiau gohebu’r Comisiynydd. Rhannu gwybodaeth allweddol er mwyn cyflawni dibenion gwaith a sicrhau mynediad i swyddogion perthnasol at wybodaeth gan warchod cyfrinachedd.
Bod yn gyfrifol am ymwneud gydag achwynwyr a sefydliadau mewn modd cwrtais a phriodol gan eu diweddaru ar achosion yn gyson.
RHYDDID I DDEFNYDDIO’R GYMRAEG
- Ymchwilio i honiadau o ymyrraeth â rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg yn unol â gweithdrefnau a pholisi’r Comisiynydd gan lunio adroddiadau y gall y Comisiynydd ddyfarnu ar eu sail.
CYNGOR A CHYMORTH CYFREITHIOL
- Yn unol ag adrannau 8 – 10 Mesur y Gymraeg bod yn barod i ystyried ceisiadau am gymorth a chyngor cyfreithiol yn ogystal â chynorthwyo’r uwch swyddog i ystyried dwyn achosion neu ymyrryd mewn achosion cyfreithiol.
**TRIBIWNLYS Y GYMRAEG **
- Paratoi gwaith papur ar gyfer achosion Tribiwnlys y Gymraeg a chyfrannu at lunio datganiadau achos a darparu tystiolaeth i gwmnïau cyfreithiol fel bo angen. Rhoi barn ar ddrafftiau o ddatganiadau achos a chadw cyswllt gydag uwch swyddogion pan fo angen.
**DYLETSWYDDAU CYFFREDINOL **
Gweithredu’n gyson ac yn amserol yn unol â holl bolisïau a chanllawiau’r Comisiynydd.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol eraill yn ôl y galw.
Wrth i waith Comisiynydd y Gymraeg ddatblygu, fe all gofynion y swydd newid. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu trafod a’u cytuno â deiliad y swydd ymlaen llaw.
Cyflog
💰 £31,210 - £38,160 pro rata
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwydd Gweinyddol (rhan amser)
Mae Cymdeithas Gwartheg Duon Cymreig yn edrych am Gynorthwydd Gweinyddol (rhan amser)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Teitl swydd
Cynorthwyydd Gweinyddol
Nod y swydd:
I ddarparu cymorth gweinyddol effeithiol i Gymdeithas Gwartheg Duon Cymreig a’i aelodau
Adrodd i:
Ymddiriedolwyr Cymdeithas Gwartheg Duon Cymreig
Rheolwr Llinell:
Ysgrifennydd Cymdeithas Gwartheg Duon Cymreig
Lleoliad
Bydd deilydd y swydd yn gweithio yn swyddfa Llanfair ym Muallt ond mae’n bosib bydd angen teithio i leoliadau eraill yn rhinwedd gwaith y Gymdeithas o bryd i’w gilydd
Prif ddyletswyddau
Dan gyfarwyddyd yr Ymddiriedolwyr, ymgymryd ag ystod o dasgau gweinyddol i sicrhau gweinyddiaeth effeithiol ac effeithlon busnes dydd i ddydd y Gymdeithas
Gweinyddu proses tanysgrifio aelodaeth blynyddol y Gymdeithas, gan gynnwys danfon anfonebau, derbynebau, nodiadau atgoffa, prosesu gohiriadau a datrys unrhyw ymholiadau dilynol
Gweinyddu cofrestriadau gwartheg a chysylltu gydag asiantaethau perthnasol
Cynorthwyo gyda choladu gwybodaeth ar gyfer eu cynnwys yn amrywiol gyhoeddiadau y Gymdeithas, gan gynnwys yr Herd Book and Journal
Darparu gwybodaeth angenrheidiol i Arwerthwyr Gwerthiant a Gwasgariad Cynnal cofnodion papur a chyfrifiadurol ynghylch aelodau, cofrestriadau, gwerthiannau ac ati
Cynorthwyo gyda chyfrifoldebau eraill yn ystod absenoldeb staff
Unrhyw dasgau rhesymol eraill a roddir yn achlysurol
Priodoleddau ychwanegol
Gallu rheoli amser yn effeithiol
Dangos ymroddiad i gyfartaledd ac amrywedd
Mynychu hyfforddiant, cyfarfodydd y Gymdeithas a digwyddiadau tim yn ol yr angen
Yn gyfrifol am iechyd a diogelwch ei hun
Manyleb Person
SGILIAU
Hanfodol
Profiad o weinyddiaeth swyddfa
Sgiliau llythrennedd a rhifedd addas
Sgiliau TG I lefel canolradd
Sgiliau cyfathrebu
Hunan-ysgogol
Gallu gweithio fel rhan o dim
Dymunol
Gallu cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg
Gwybodaeth elfennol o faterion ffermio
Nid yw proffil y rol yn drwyadl; bydd yn cael ei adolygu yn gyfnodol a gellir ei addasu er mwyn cwrdd ag anghenion newidiol y Gymdeithas, ond bydd y dyletswyddau wastad yn gymesur a gradd cyflog a’r profiad sy’n ofynnol i’r rol.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Cyflog
💰 £11 yr awr
Lleoliad
📍 Llanfair-ym-Muallt
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Gweithredol e-sgol
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Gydlynydd Gweithredol e-sgol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae prosiect e-sgol wedi bod yn rhedeg ers Medi 2018, yn cynnig gwersi trwy e-ddysgu i ddisgyblion ôl-14 na fyddai ar gael heb y ddarpariaeth arloesol hwn. Ein bwriad yw i ehangu’r ddarpariaeth sydd ar gael fel bod dewis eang o gymwysterau 14-19 ar gael i’n pobl ifanc, a hefyd i hybu a chefnogi’r ddarpariaeth hwn ar draws Cymru. Yn ychwanegol, mae e-sgol yn gyfrifol am redeg a darparu Carlam Cymru – cyfres o sesiynau ar ôl ysgol sydd yn atgyfnerthu ac adolygu gwaith sy’n digwydd yn yr ysgol.
Bydd deiliad y swydd hon yn helpu i gydlynu’r prosiect a chynnig cymorth i bennaeth strategol ac arweinwyr e-sgol, trwy fod yn gyswllt cyson gydag Adnoddau Dynol a Chyllid, marchnata’r prosiect a threfnu Carlam Cymru a’r gynhadledd flynyddol, ymysg pethau eraill. Dewch i ymuno a thîm brwdfrydig e-sgol er mwyn datblygu’r prosiect yn genedlaethol.
Bydd y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol i’r swydd yma.
Am ragor o wybodaeth am y cyfle hwn ewch i'n gwefan gyrfaoedd.
Cyflog
💰 £25,419 - £27,514 pro rata
Lleoliad
📍 Unrhyw le yng Nghymru
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Ti a Fi Teithiol x3 (De Ynys Môn a Gogledd Gwynedd/ Gogledd Sir Gaerfyrddin a De Ceredigion/ Talaith y De Ddwyrain, lleoliad yn hyblyg)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
Cydweithio â’r Rheolwr Talaith i drefnu amserlen wythnosol i gynnal cylchoedd Ti a Fi.
Ymgymryd â rôl Arweinydd mewn hyd at 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal a bennwyd – gall un neu fwy o’r rhain fod yn Gylch Ti a Fi am dro (Oherwydd cyfyngiadau Covid19 mae rhain i gyd tu allan am y tro neu yn rhithiol)
Dangos hyblygrwydd i weithio’n rhithiol os oes angen.
Cynnal sesiwn wythnosol yn y cylchoedd Ti a Fi er mwyn arwain a chynnal gweithgareddau addas ar gyfer y plant a’u rhieni/gwarchodwyr.
Sicrhau bod yr ystafelloedd neu’r ardal tu allan a’r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer cynnal y cylchoedd yn addas ac yn ddiogel. Cynnal Asesiadau Risg gan ddilyn canllawiau Mudiad Meithrin
Sicrhau cyhoeddusrwydd i’r cylchoedd Ti a Fi trwy gydweithio â’r Swyddog Cefnogi lleol a’r Rheolwr Talaith er mwyn cynyddu’r defnydd a wneir ohonynt gan deuluoedd.
Ar y cyd a’r Rheolwr Talaith, Swyddogion Cefnogi, Swyddogion Cymraeg i Blant, meithrin perthynas a nifer o bartneriaethau lleol er mwyn hyrwyddo’r gwaith gan gynnwys Mentrau Iaith, Dechrau’n Deg, Ymwelwyr Iechyd, Dewis, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ayyb.
Cydweithio’n agos â chynlluniau eraill y Mudiad e.e Sefydlu a Symud a Chynllun Cymraeg i Blant, er mwyn sicrhau’r rhaglen orau yn lleol.
Codi ymwybyddiaeth o fuddion addysg Gymraeg lleol drwy gynorthwyo i gynnal digwyddiadau ac achlysuron cyhoeddusrwydd e.e. Diwrnodau hwyl i’r teulu.
Casglu gwybodaeth fel bo galw ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth i gyllidwr / Mudiad Meithrin.
Cydweithio â’r Swyddog Cefnogi lleol a’r Rheolwr Talaith er mwyn sicrhau cysylltiad agos rhwng y cylchoedd Ti a Fi a chylchoedd meithrin yr ardal.
Trefnu bod Arweinydd/staff Cylchoedd Meithrin a chynrychiolydd o’r Ysgolion Cynradd Cymraeg lleol yn ymweld â’r cylchoedd Ti a Fi er mwyn trafod manteision dwyieithrwydd a dilyniant i Addysg Gymraeg gyda’r rhieni ac esbonio’r cyfleoedd sydd ar gael yn lleol i’w plant dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg.
Ar y cyd â’r Rheolwr Talaith trefnu rhaglen o gofrestru pob un o’r cylchoedd yn eu tro ar Gynllun ansawdd Ti a Fi Serennog
Mynychu cyfarfodydd tîm, Pwyllgorau Sir ac unrhyw bwyllgor arall perthnasol.
Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd fel bo’r angen.
Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr
Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Cyflog
💰 £19,138
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!