Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Golygydd Creadigol

💰 £30,000 pro rata 📍 Hyblyg Ar gau

Mae Rily Publications yn edrych am Olygydd Creadigol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Os ydych yn frwd dros lyfrau plant Cymraeg a bod gennych brofiad o olygu creadigol, anfonwch eich CV atom cyn gynted â phosibl.

Dyma gyfle gwych i weithio gyda chyhoeddwr Cymraeg sydd wedi ennill gwobrau.

Bydd rôl y golygydd creadigol yn cynnwys gweithio o gartref yn ogystal â bod yn rhan o dîm ehangach, cyfeillgar.

Cefnogir y swydd gan Gyngor Llyfrau Cymru ac mae'n rhoi cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio gydag amrywiaeth o lyfrau gan gynnwys addasiadau o lyfrau cymeriad poblogaidd fel Paw Patrol a Roald Dahl hyd at ddatblygu cynnwys gwreiddiol gydag awduron a darlunwyr uchel eu parch.

Rydym yn cynnig rôl barhaol gyda 22.5 awr yr wythnos, gyda phatrwm gweithio hyblyg, a’r cyflog yw £15.40 yr awr (tua £30K pro rata).

Mae sgiliau hanfodol yn cynnwys lefel uchel o Gymraeg ysgrifenedig ac yn ddelfrydol, y profiad o olygu yn y cyfrwng hwn. (Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus ar y rhestr fer gwblhau ymarfer golygu cyn mynychu cyfweliad.)

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 19eg Medi 2022. Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol, yn Gymraeg a Saesneg, i [email protected]

Mae Rily Publications yn hyrwyddo amrywiaeth a chynwysoldeb mewn gyrfaoedd cyhoeddi. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bobl o gefndiroedd proffesiynol a phrofiadau bywyd amrywiol. Mae ein proses recriwtio yn rhydd rhag gwahaniaethu, gan gynnwys ar sail hil, ethnigrwydd, oedran, crefydd, rhyw a rhywioldeb.

Cyflog

💰 £30,000 pro rata

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £28,235 - £30,854 📍 Blaenau Ffestiniog📍 Llangefni +2 Ar gau

💰 £51,380 - £61,440 📍 Casnewydd📍 O gartref Ar gau

💰 £24,899 - £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £24,899 - £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £26,209 - £33,813 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £27,344 pro rata 📍 Blaenau Ffestiniog Ar gau

💰 £69k 📍 Casnewydd📍 O gartref Ar gau

💰 £25,878 - £40,478 📍 Casnewydd📍 O gartref Ar gau

💰 £21,630 - £22,662 📍 Bangor Ar gau

💰 £23,000 - £25,000 pro rata 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £21,197 - £23,144 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £29,174 - £33,486 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £22,500 - £23,111 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

💰 £18,000 - £25,000 📍 Porthmadog Ar gau

💰 £41,704 - £47,840 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Llanelli Ar gau

💰 £750 y mis 📍 Patagonia Ar gau

💰 £29,174 – £33, 486 pro rata 📍 O gartref Ar gau

💰 £53,440 - £63,900 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £27,929 - £31,411 📍 Caerfyrddin Ar gau