Swyddog Cefnogi Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri (Cyfnod Mamolaeth)
Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Eryri
Mae Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Eryri yn edrych am Swyddog Cefnogi Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri (Cyfnod Mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Eryri, y mudiad ieuenctid, am benodi Swyddog Cefnogi. Mae hon yn swydd lawn amser neu ran amser, yn ôl dymuniad yr ymgeisydd, gyda chytundeb blwyddyn o hyd i gychwyn.
Disgrifiad:
PECYN RECRIWTIO
Swyddog Cefnogi Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri (Cyfnod Mamolaeth)
Swydd lawn amser (37 awr yr wythnos) neu ran amser (yn ddibynnol ar ddymuniad yr ymgeisydd llwyddianus), cytundeb yn ystod cyfnod mamolaeth y deilydd.
Dyddiad cau: 12.00 pm, dydd Gwener 2 Rhagfyr
Cyfweliadau: wythnos yn cychwyn 5 Rhagfyr
Cyflog: £23,000 - £25,000 pro rata* (yn ddibynnol ar brofiad)
Dyddiad cychwyn: Cyn gynted â phosib
CFfI Eryri – Amdanon ni
Mae Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Eryri, y mudiad ieuenctid, am benodi Swyddog Cefnogi i’r mudiad. Mae hon yn swydd lawn amser neu ran amser, yn ôl dymuniad yr ymgeisydd.
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn deinamig, ymroddedig sydd â gweledigaeth, a all gyflawni gwaith dydd i ddydd y mudiad wrth i ni barhau i ail-ddychmygu a siapio dyfodol Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri, gan gadw'n driw at ein gwerthoedd sylfaenol.
Ers ei sefydlu yn 1943, mae Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri wedi bod yn ganolbwynt amhrisiadwy i filoedd o aelodau ar draws y Sir, sydd yn cynrychioli rhannau o Wynedd a Chonwy. Mae oedran aelodaeth y mudiad yn amrywio o 13 – 30 mlwydd oed, ac mae yna unarddeg clwb lleol yn Eryri: Caernarfon, Dyffryn Madog, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen, Godre’r Eifl, Llangybi, Llanrwst, Porthdinllaen, Rowen, Y Rhiw ac Ysbyty Ifan.
Mae CFfI Eryri, ynghyd â CFfI Ynys Môn, wedi ein tadoli i CFfI Cymru ac yn cyfrannu tuag at waith a gweithgareddau’r mudiad ar lefel Cymru hefyd.
Mae’r mudiad yn cael ei redeg yn ddemocrataidd er budd y bobl ifanc, dan ofal Pwyllgor Gwaith sy’n cynrychioli’r aelodau.
Ynglŷn â’r swydd
Swyddog Cefnogi Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri fydd y prif gyswllt ar gyfer aelodau, swyddogion a ffrindiau’r Mudiad o ddydd i ddydd.
Y Swyddog Cefnogi sydd yn paratoi rhaglen ddatblygu ar gyfer y Ffederasiwn, dan arweiniad y Pwyllgor Gwaith a’r swyddogion sirol, gan gefnogi swyddogion y Sir i drefnu gweithgareddau a gweithrediadau’r Mudiad o flwyddyn i flwyddyn. Gyda chymorth y swyddogion sirol, bydd y Swyddog Cefnogi yn asesu anghenion clybiau ac yn darparu gwasanaethau yn unol a’r anghenion hynny. Maent hefyd yn gyfrifol am gynnal trefn ddemocrataidd y Mudiad, a meithrin a chynnal partneriaethau gyda mudiadau a chyrff perthnasol eraill sydd yn gweithredu yn yr un maes.
Mae’n swydd fywiog a chymdiethasol tu hwnt, a chyfle amrhisiadwy i weithio gyda phobl ifanc yng nghefn gwlad Gwynedd (Arfon/Dwyfor) a Dyffryn Conwy er mwyn magu sgiliau oes.
Rydym yn hysbysebu’r swydd hon fel swydd lawn amser neu ran amser, yn ddibynnol ar ddymuniad yr ymgeisydd llwyddianus. Bydd y cyfrifoldebau yn cael eu lleihau fel sydd angen yn ddibynnol ar gyfanswm oriau’r ymgeisydd llwyddianus.
Cyflog a breintiau
Y cyflog ar gyfer y rôl hon yw £23,000 - £25,000 y flwyddyn (pro rata).
Caniateir 25 diwrnod o wyliau (pro rata), yn cynnwys Gwyliau Banc; yn ogystal a system oriau mewn llaw (TOIL), ble mae modd cario hyd at 2 ddiwrnod o TOIL o un mis i’r llall.
Bydd y Ffederasiwn yn cynnig Cynllun Pensiwn NEST i’r swyddog, a delir yn unol â’r cyfraddau cenedlaethol.
Er bod Swyddfa ar gael, mae modd i ddeilydd y swydd weithio o adref rai diwrnodau neu rai cyfnodau, yn dilyn caniatad y rheolwr llinell. Ar gyfer y diben hwn, mae’r Mudiad yn darparu gliniadur, ffôn. iPad ac argraffydd. Sut i wneud cais
Darllenwch y wybodaeth yn y pecyn recriwtio hwn a’r swydd ddisgrifiad yn fanwl.
Llenwch y ffurflen gais er mwyn rhoi gwybod i ni:
- Pam fod gennych ddiddordeb yn y swydd
- Manylion eich sgiliau, eich gwybodaeth a'ch profiad a sut y byddent yn berthnasol i waith Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Eryri
- Unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol i'r swydd rydych chi'n ymgeisio amdani
Anfonwch eich ffurflen gais at [email protected] erbyn 12.00 pm, 2 Rhagfyr 2022:
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Byddwn yn asesu'r ceisiadau ac yn gwahodd ymgeiswyr llwyddiannus i gyfweliad yn ystod yr wythnos yn cychwyn 5 Rhagfyr 2022. Bydd y panel cyfweld yn cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Staffio; Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith a chynrychiolydd o’r Pwyllgor Cyllid a Staffio.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau o gwbl neu os hoffech gael sgwrs gychwynnol, cysylltwch â ni drwy [email protected]
Mae Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Eryri yn elusen gofrestredig ac yn gweithio dan arweiniad, ac er budd, yr aelodau.
Cyflog
💰 £23,000 - £25,000 pro rata
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwy-ydd Cefnogi Dysgu Cymraeg Caerdydd
Prifysgol Caerdydd
Mae Prifysgol Caerdydd yn edrych am Gynorthwy-ydd Cefnogi Dysgu Cymraeg Caerdydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Ysgol y Gymraeg yn chwilio am gynorthwyydd gweinyddol i roi cymorth clerigol llawn i ddarpariaeth Dysgu Cymraeg Caerdydd.
Disgrifiad:
Rhif y swydd: 15553BR
Cynorthwyydd Cefnogi Dysgu Cymraeg Caerdydd
Mae Ysgol y Gymraeg yn chwilio am gynorthwyydd gweinyddol i roi cymorth clerigol llawn i ddarpariaeth Dysgu Cymraeg Caerdydd.
Mae'r swydd yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau gweinyddol i gynorthwyo'r darpariaeth o fewn Ysgol y Gymraeg, gan gynnwys materion logisteg, megis cyflenwi a lleoliadau, gweinyddu prosesau ariannol, anfonebau, derbyn nwyddau ac yn y blaen, a chynorthwyo'r Swyddog Cefnogi Dysgu Cymraeg Caerdydd.
Mae’r swydd hon yn un llawn amser (35 awr yr wythnos) a thymor penodol hyd at 31 Gorffennaf 2027.
Cyflog: £21,197 – £23,144 y flwyddyn (Gradd 3)
Dyddiad Cau: Dydd Mercher, 9 Tachwedd 2022
Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 10 Tachwedd 2022
Dyddiad Cau: Dydd Sul, 27 Tachwedd 2022
Hysbysebwyd y swydd hon i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig yn flaenorol. Rydym nawr yn gwahodd ceisiadau allanol.
Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau‘r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi‘u derbyn.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu Prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Cyflog
💰 £21,197 - £23,144
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau)
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Gynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio ar hyn o bryd am Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau) i ymuno â’n campws yng Nghaerfyrddin yn llawn-amser am gyfnod parhaol gan weithio 37 awr yr wythnos.
Disgrifiad:
Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau)
Campws Caerfyrddin (gyda theithio i gampysau eraill yn ôl yr angen)
£21,197 i £23,144 y flwyddyn
- AMDANOM NI -
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu'r wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn yr wythfed safle yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.
Rydym yn chwilio ar hyn o bryd am Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau) i ymuno â’n campws yng Nghaerfyrddin yn llawn-amser am gyfnod parhaol gan weithio 37 awr yr wythnos.
- Y RÔL –
Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio’n effeithiol heb oruchwyliaeth barhaus a chyfrannu tuag at amgylchedd gyfeillgar a chreadigol y Ganolfan. Bydd yn cydweithio’n agos ac yn effeithiol gyda’r Cydlynydd Digwyddiadau a Phrosiectau er mwyn cefnogi gweithgareddau amrywiol yn y ganolfan ac ar-lein gan sicrhau trefniadaeth llyfn ac effeithiol. Elfen bwysig arall o’r rôl yw cefnogi rhaglen greadigol Yr Egin gan gynorthwyo’r Swyddog Cyfathrebu i hyrwyddo digwyddiadau byw, cynadleddau, sinema a gweithdai, ynghyd â sicrhau defnydd effeithiol o feddalwedd swyddfa docynnau a phlatfformau digidol a chyfryngau cymdeithasol.
Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol ‘Manyleb y Person'.
- AMDANOCH CHI -
I gael eich ystyried ar gyfer rôl y Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau), bydd arnoch angen y canlynol:
- Addysg gyffredinol dda
- Tystiolaeth o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel
- Profiad o weinyddu trefniadau cyfarfodydd, cynadleddau neu ddigwyddiadau
- Profiad blaenorol o ddarparu cefnogaeth weinyddol o safon
- Hyddysg mewn TG ac yn meddu ar wybodaeth am becynnau Microsoft Office, a phlatfformau'r cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein
- Y gallu i gydlynu gweithgareddau’n effeithiol
- Medrusrwydd gyda phlatfformau arlein
- Yn barod i weithio’n hyblyg, gan gynnwys teithio rhwng campysau a lleoliadau pan fo angen
- Cydnabod yr angen am gyfrinachedd priodol a gallu gweithredu ar hynny
- Dangos parch tuag at ystod amrywiol o bobl
- Siaradwr/aig Cymraeg gyda’r gallu i sgwrsio’n hyderus yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gyda’r gallu i ysgrifennu am faterion annhechnegol *
Byddai’n fuddiol hefyd pe bai gennych y canlynol:
- Profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad digwyddiadau byw, theatr neu sinema
- Diddordeb brwd yn y diwydiannau creadigol
- BUDDION -
- Bydd gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gŵyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau
Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:
- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu
- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau
- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela
- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith
Felly, os ydych yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal ein Prifysgol yn rôl y Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau), gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.
Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.
Dyddiad cau: 30 Tachwedd 2022, 11:59pm
Cyflog
💰 £21,197 - £23,144
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) Ar-lein Cymraeg
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn edrych am Gydlynydd Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) Ar-lein Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r Tîm Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) Ar-lein fel Cydlynydd CBT Cymraeg. Bydd deiliad y swydd yn gweithio o bell yn bennaf (bydd offer TG yn cael ei ddarparu) ond yn gallu teithio i safleoedd ar adegau.
Disgrifiad:
Mae Silver Cloud yn wasanaeth Cymru gyfan unigryw sy’n darparu gwasanaeth therapi ar-lein wedi'i gynllunio i helpu plant, pobl ifanc ac oedolion reoli eu hiechyd meddwl a'u lles. Bwrdd Iechyd Addysgu Powys sy'n darparu'r gwasanaeth, felly bydd croeso cynnes i chi i dîm cyfeillgar sy’n cynnig y cyfle i weithio gyda chleifion ar draws y wlad.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant sydd â phrofiad o CBT i gynnig cymorth clinigol tra'n canolbwyntio ar adferiad a chanlyniadau.
Mae’r gallu i gynnal sgwrs naturiol yn Gymraeg i gefnogi cleifion yn hanfodol, ynghyd â gradd anrhydedd mewn Seicoleg (neu gyfwerth).
Rhoddir hyfforddiant gan dîm SilverCloud ar bob agwedd o'r rôl ac mae hyfforddiant a chefnogaeth ar gael i wella sgiliau ysgrifenedig Cymraeg os oes angen. Mae cyfleoedd hyfforddiant DPP hefyd ar gael trwy’r bwrdd iechyd. Mae cymorth clinigol ar gael i chi 9-5 o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae gofynion y swydd yn cynnwys cynnal safon uchel ym mhob math o gyfathrebu, sgiliau TG sylfaenol, gweithio'n dda dan bwysau, a meddu ar ddull hyblyg o weithio.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Fel rhan o’r swydd byddwch yn gwneud y canlynol:
Gweithio o fewn tîm cyfeillgar mawr, ochr yn ochr â Chydlynwyr CBT eraill i hybu a gweinyddu'r Gwasanaeth CBT Ar-lein.
Cynnal cofnodion cleifion, cofrestru defnyddwyr newydd i’r gwasanaeth, rhannu manylion actifadu a monitro cynnydd.
Arwain gwaith cyfathrebu gyda chleifion sy'n siarad Cymraeg ledled Cymru.
Ysgogi, annog a chynnig cymorth clinigol dros y ffôn/e-bost.
Gwneud penderfyniadau ar addasrwydd atgyfeiriadau newydd, gan gadw at brotocolau cyfeirio'r adran a chyfeirio cleientiaid anaddas ymlaen at y gwasanaeth perthnasol.
Cynnig cymorth a chyngor i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n cwblhau’r atgyfeiriad, gan ateb ymholiadau sydd ganddyn nhw neu ddefnyddwyr y gwasanaeth.
Chwarae rhan weithredol wrth gynnig a chefnogi newidiadau i weithdrefnau.
Bod yn gyfrifol am reoli'r broses protocol ar gyfer monitro ac adrodd unrhyw rybuddion risg, bwriad troseddol neu ddirywiad cleifion fel yr adroddwyd gan y defnyddwyr naill ai o fewn y system CBT ar-lein neu'n uniongyrchol.
Rheoli cyfrifoldeb clinigol am unrhyw hunan-atgyfeiriadau.
Darparu hyfforddiant a chefnogaeth barhaus i gydweithwyr ac i’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a wnaeth yr atgyfeiriad yn ymwneud â'r gwasanaeth CBT ar-lein.
Mae hon yn swydd lawn amser am gyfnod o ddwy flynedd gyda lleoliad hyblyg. Am fanylion pellach am y swydd a sut i ymgeisio ewch i: Swyddi Cyfredol ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)
Cyflog
💰 £27,055 - £32,934
Lleoliad
📍 Aberhonddu
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata (Rhentu Doeth Cymru) (Cymraeg Hanfodol)
Cyngor Caerdydd
Mae Cyngor Caerdydd yn edrych am Swyddog Marchnata (Rhentu Doeth Cymru) (Cymraeg Hanfodol)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Arwain y gwaith o ddatblygu cyfathrebu a marchnata gan gynnwys rheoli cyfathrebu, cynllunio a darpariaeth strategol, datblygu perthynas waith dda gyda rhanddeiliaid ar gyfer ymgyrchoedd a phrosiectau ar gyfer Rhentu Doeth Cymru a’i bwerau dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Disgrifiad:
Cyfeirnod: RES00892
Am Y Gwasanaeth
Mae Rhentu Doeth Cymru yn darparu Cynllun Cofrestru a Thrwyddedu ledled Cymru ar gyfer landlordiaid ac asiantau eiddo sy'n cael ei rentu. Daw hyn yn sgil dynodi Cyngor Caerdydd yn Awdurdod Trwyddedu Sengl i Gymru. Ei nod yw sicrhau eiddo diogel a reolir yn dda ar gyfer tenantiaid drwy sicrhau bod y rhai sy'n gosod ac yn rheoli eiddo yn bobl addas a phriodol i wneud hynny, yn deall eu rhwymedigaethau cyfreithiol ac yn cydymffurfio â gofynion a roddir arnynt yn ôl y gyfraith ac amodau trwydded. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn cynnig cyngor, cymorth a hyfforddiant.
Am y swydd
Arwain y gwaith o ddatblygu cyfathrebu a marchnata gan gynnwys rheoli cyfathrebu, cynllunio a darpariaeth strategol, datblygu perthynas waith dda gyda rhanddeiliaid ar gyfer ymgyrchoedd a phrosiectau ar gyfer Rhentu Doeth Cymru a’i bwerau dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda thîm Cyfathrebu a Chyfryngau’r Cyngor i ddatblygu a darparu prosiectau a gweithgareddau allweddol (mewnol ac allanol) i gefnogi blaenoriaethau cyfathrebu Rhentu Doeth Cymru a sicrhau bod Cyfathrebiadau Marchnata a’r Cyfryngau’n effeithiol.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd deiliad y swydd:
- Wedi ei addysgu i lefel gradd neu â phrofiad amlwg (2 flynedd+) mewn tîm marchnata / cyfathrebu sy'n gwneud gwaith perthnasol
- Yn siaradwr Cymraeg Rhugl
- Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar ynghyd â lefel uchel o sgiliau rhyng-bersonol
- Yn gallu dangos tystiolaeth o gyflwyno ymgyrch gyfathrebu / marchnata gyda chanlyniadau llwyddiannus
- Yn meddu ar sgiliau amlwg mewn ystod o ddisgyblaethau marchnata gan gynnwys, cysylltiadau Cyfryngau, Brandio, Arddangosfeydd, ymchwil Marchnad, Marchnata E-bost, Rheoli Cyfryngau Cymdeithasol, Post Uniongyrchol, Sgiliau Sgwennu a Golygu Copi
- Yn ddefnyddwyr TG cymwys, yn gyfarwydd ag ystod o feddalwedd priodol gan gynnwys MS Office
- Fod â phrofiad o ddefnyddio meddalwedd dylunio o fewn yr Adobe Creative Cloud e.e. InDesign, Photoshop ac Illustrator
Cyflog
💰 £30,095 - £34,373
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn edrych am Swyddog Hyfforddiant a Chyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae gan Gronfa Bensiwn Dyfed, sy'n gweinyddu'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar gyfer nifer o gyflogwyr, ac hefyd Gynllun Pensiwn yr Heddlu â’r Gwasanaeth Tân, gyfle i chi ymuno â'n tîm fel Swyddog Pensiynau.
Disgrifiad:
Byddwch yn gyfrifol am rhoi cymorth gweinyddol wrth ddarparu strategaeth gyfathrebu effeithiol sy'n cynnwys aelodau'r cynllun, darpar aelodau'r cynllun, pensiynwyr a chyflogwyr sy'n cymryd rhan yng Nghynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol, yr Heddlu a'r Gwasanaeth Tân a byddwch yn gallu cyfrannu at ddatblygiad ein gwaith yn y dyfodol ar adeg gyffrous ym myd pensiynau.
Rydym yn adran brysur ac yn ymfalchïo mewn darparu'r gwasanaeth gorau y gallwn i aelodau’r cynllun pensiwn a’n pensiynwyr.
Os oes gennych sgiliau cyfathrebu gwych, profiad o weithio mewn amgylchedd pensiynau ac os oes gennych ddealltwriaeth am gynlluniau pensiwn cyflog terfynol a cyfartaledd gyrfa a deddfwriaeth, yna gwnewch gais erbyn y dyddiad cau.
Rydym yn gyflogwr sy'n cefnogi cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith ac felly'n darparu atebion hyblyg i sicrhau y gall gweithwyr gyflawni hyn. Felly, byddai deiliad y swydd, yn unol ag angen busnes, yn gallu gweithio'n hyblyg o wahanol leoliadau dynodedig gan gynnwys gweithio gartref.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Martin Morgan ar 01267 224452.
Cyflog
💰 £29,174 - £33,486
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Datblygu Cymunedol
Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy
Mae Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy yn edrych am Swyddog Datblygu Cymunedol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi’n hoffi trefnu gweithgareddau ac yn caru’r Gymraeg?
Mae Sefydliad Corfforedig Elusennol Menter Iaith BGTM (rhif elusennol 1181104) yn chwilio am berson arbennig i adeiladu ar y gwaith o hyrwyddo a datblygu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn lleol.
Cefndir
Nod y Mentrau Iaith ydy hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Cymru. Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth yn 1991,ac erbyn hyn mae 22 Menter Iaith yn gwasanaethu pob rhan o Gymru. Wedi tyfu o awydd a dyheadau pobl leol y mae’r Mentrau Iaith, er mwyn hyrwyddo defnydd y Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd yn eu cymunedau. Mae’r Mentrau Iaith yn un o bartneriaid allweddol Llywodraeth Cymru ac yn gweithredu ar lawr gwlad i wireddu amcanion Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg – sydd yn nodi sut bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Mae pob Menter Iaith yn gweithredu mewn ffordd unigryw yn ddibynnol ar anghenion lleol.
Disgrifiad Swydd/Prif Gyfrifoldebau:-
Darparu cyfleoedd i drigolion y sir gael mynediad i ddigwyddiadau ieithyddol, diwylliannol a chelfyddydol.
Grymuso grymuso unigolion, grwpiau a chymunedau i ddefnyddio’r iaith.
Asesu anghenion cymunedau Blaenau Gwent a Thorfaen o safbwynt gweithgareddau cyfrwng Cymraeg drwy broses o ymgynghori eang.
Meithrin a datblygu cysylltiadau agos gyda grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol a phartneriaid eraill (e.e Cymraeg i Oedolion Gwent, Mudiad Meithrin) gan gydlynu a threfnu gweithgareddau blaengar a deniadol a’u gwerthuso’n gyson.
Gweithio gyda phlant a phobl o bob oedran.
Datblygu prosiectau penodol a flaenoriaethwyd yng nghais a thargedau’r Llywodraeth.
Cyfrannu at brosesau gwerthuso a monitro'r Fenter.
Hyrwyddo gwaith y Fenter trwy ddefnydd helaeth o’r cyfryngau cymdeithasol a’r wefan.
Codi proffil y Fenter yn y wasg leol a chenedlaethol, paratoi datganiadau ac erthyglau cyson a’u dosbarthu i’r wasg a’r cyfryngau ac ati.
Paratoi ceisiadau am nawdd.
Manyleb person
Sgiliau Iaith Gymraeg da ar lafar ac yn ysgrifendig yn hanfodol Dealltwriaeth o ddiwylliant ac anghenion ieithyddol Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy
Profiad o weithio gyda phlant ac oedolion a threfnu amrwy o weithgareddau ar eu cyfer
Y gallu i gyfathrebu’n glir yn Gymraeg a Saesneg ar bob lefel a gweithio gydag ystod eang o oedrannau
Hyderus pan yn weithio’n annibynnol ac yn dangos blaengaredd
Profiad o greu ac annog syniadau newydd (arloesol)
Sgiliau safonol o ddefnyddio TG / cyfryngau cymdeithasol
DBS cyfredol
Trwydded yrru gyfredol a char
Telerau’r Swydd
Cyflog: £22,500 - £23,111 (yn ddibynol ar sgiliau a phrofiad)
Telir cyfraniad pensiwn cyflogwr (8%) yn ychwanegol
Costau Teithio
Telir costau teithio yn ôl graddfa CThEM
Oriau Gwaith
37.5 awr yr wythnos. Yn ddelfrydol bydd hon yn swydd amser llawn ond gellir ystyried ymgeiswyr sydd am weithio’n rhan amser.
Gwyliau
28 diwrnod y flwyddyn (+2 ddydd ychwanegol ar gyfer y Nadolig)
Hyd y Cytundeb
Parhaol
Bydd angen cwblhau cyfnod prawf o dri mis yn llwyddiannus.
Strwythur Rheoli
Byddwch yn gweithio o dan gyfarwyddyd Prif Swyddog ac yn atebol i fwrdd Ymddiriedolwyr y Fenter.
Lleoliad swyddfa’r Fenter
Ystafell L4 Alder Suite, Tŷ Mamhilad C
Llawr Cyntaf Gogledd
Ystad Parc Mamhilad Park
Pontypŵl
NP4 0HZ
*Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus weithio mewn swyddfeydd ledled y siroedd ar adegau yn ogystal â'r posibilrwydd o gweithio o gartref
Dyddiad Cau: 9 Rhagfyr 2022
Cyswllt: Sioned Davies
Dychwelwch y ffurflen trwy ebost os gwelwch yn dda erbyn 5pm, Dydd Gwener, 9 Rhagfyr 2022
Cyflog
💰 £22,500 - £23,111
Lleoliad
📍 O gartref, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Dunn & Ellis Cyf yn edrych am Gynorthwydd Cyfrifon
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle cyffrous i ymuno â thîm brwdfrydig ac egnïol yn Dunn & Ellis Cyf. Rydym yn chwilio am unigolyn gweithgar, trefnus a dibynadwy sy'n gallu gweithio'n dda mewn amgylchedd swyddfa brysur.
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau:
• Mewnbynnu gwybodaeth ariannol cleientiaid ar feddalwedd cyfrifo e.e. QuickBooks, Sage, Xero
• Cysoni cyfrifon banc misol
• Paratoi'r ffurflen TAW chwarterol o feddalwedd cyfrifo a'i chyflwyno i CThEM
• Cyfathrebu'n effeithiol gyda gweithwyr yr adran gyfrifon, i sicrhau bod unrhyw faterion sy'n codi yn cael eu datrys yn effeithiol
• Tasgau cyffredinol a dyletswyddau eraill yn ôl yr angen Sgiliau hanfodol:
• Hyderus wrth ddefnyddio MS Office ac Excel
• Profiad yn naill ai Quickbooks, Sage, Xero - yn ddymunol ond nid yn hanfodol, bydd hyfforddiant llawn ar gael
• Y gallu i weithio'n dda ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm
• Sgiliau rhifiadol da a sylw i fanylion
• Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddelfrydol ond dim yn hanfodol Swydd llawn amser (36 ¼ awr) neu ran amser ar gael:
• Cyflog rhwng £18,000 - £25,000 (yn dibynnu ar brofiad)
• Hyfforddiant mewn amryw o feddalweddau cyfrifo e.e. QuickBooks, Sage, Xero.
• Oriau hyblyg – dydd Llun i ddydd Gwener (36 ¼ awr)
• Gwyliau – 25 diwrnod a gwyliau banc
• Pensiwn gweithle
• Cynllun iechyd Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Nia Fon Lane ar (01766) 512 361.
I wneud cais am y swydd, anfonwch CV a llythyr eglurhaol i [email protected]
Cyflog
💰 £18,000 - £25,000
Lleoliad
📍 Porthmadog
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn edrych am Arweinydd Polisi ac Ymarfer
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae hon yn swydd gyffrous ac amrywiol ar gyfer unigolyn sy’n mwynhau’r cyfle i ddatblygu a chynnal perthynas waith ragorol gyda phobl hŷn a rhanddeiliaid allweddol.
Disgrifiad:
Byddwch yn ymwneud â meysydd polisi sy’n gysylltiedig â’r wyth maes sy’n ystyriol o oedran ac yn defnyddio eich sgiliau dylanwadu i annog a galluogi rhanddeiliaid i rannu arfer da.
Mae gallu cyfathrebu’n fedrus yn y Gymraeg yn hanfodol.
Cyflog
💰 £41,704 - £47,840
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Tinopolis yn edrych am Ddylunydd Graffeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a chreadigol i ymuno â thîm cynhyrchu Tinopolis. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'r adran graffeg i weithio ar lu o raglenni gan gynn- wys dwy sioe gylchgrawn dyddiol byw, rhaglenni trafod, rhaglenni dogfen a chwaraeon.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio yn amgylchedd byw darlledu teledu â chreu cynnwys creadi- gol gwreiddiol ac amrywiol. Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn amryddawn a meddu ar y gallu i weithio'n unigol neu greu ar y cyd ag eraill ar amrywiaeth o brosiectau. Mae’r gallu i ddefnyddio meddalwedd Adobe yn hanfodol a byddai bod yn gyfarwydd â meddalwedd 3D yn fuddiol. Darperir hyfforddiant ar gyfer darlledu byw gan ddefnyddio'r Grass Valley, XPression a Maestro.
Byddai'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol oherwydd natur y cynyrchiadau a'r amgylchedd gwaith.
Rydym yn gwmni sydd am adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac yn credu mewn amrywiaeth a chyfle cyfartal. Rydym bob amser yn croesawu ceisiadau gan unigolion o unrhyw oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb a chefndir cymdeithasol yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.
Lleoliad: Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli SA15 3YE
Cyflog: Yn ddibynnol ar brofiad
Cytundeb: I ddechrau cyfnod o 12 mis gyda phrawf o 6 mis 27 Tachwedd 2022
Dyddiad Cau: 27 Tachwedd 2022
**Manylion pellach **
Oriau Gwaith: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos dros 5 diwrnod. Ond oherwydd natur y swydd ac oriau rhaglenni disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 27 Tachwedd 2022 at [email protected] neu Swyddi, Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE. Fe dderbynnir ceisiadau fideo.
Cyflog
💰 Yn ddibynnol ar brofiad
Lleoliad
📍 Llanelli
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae British Council Cymru yn edrych am Diwtoriaid Cymraeg ym Mhatagonia (x 3 swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A oes gennych ddiddordeb mewn dysgu a datblygu’r Gymraeg ym Mhatagonia? Ydych chi’n chwilio am her newydd a phrofiadau gwerth chweil?
Rydym yn chwilio am athrawon neu diwtoriaid cymwys a phrofiadol i ddysgu naill ai:
Plant (meithrin, cynradd neu arddegau); neu Oedolion (pob safon).
Bydd y dyletswyddau hefyd yn cynnwys trefnu gweithgareddau cymdeithasoli iaith ar ran Menter Iaith Patagonia.
Cyflog misol o £750, ynghyd â llety, taith awyren ac yswiriant iechyd.
Am fwy o fanylion ac am ffurflen gais, cysylltwch â
Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd ffurflenni cais yw dydd Iau Mercher 14 Rhagfyr 2022
Cyflog
💰 £750 y mis
Lleoliad
📍 Patagonia
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Barddas yn edrych am Olygydd Creadigol Cyhoeddiadau Barddas
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle unigryw i berson brwdfrydig a gweithgar gyfrannu i fyd barddoniaeth Gymraeg, drwy lywio cyfrolau o bob math drwy’r wasg, o ddychmygu egin cyfrol i’w gweld ar silffoedd siopau.
Mae Golygydd Creadigol Cyhoeddiadau Barddas yn gyfrifol am y rhaglen gyhoeddi drwy nawdd a chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru, sef 9 llyfr y flwyddyn o leiaf, ac ambell gyfrol arall y bydd galw amdani. Croesawir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau trosglwyddiadwy.
“Roedd bod yn olygydd creadigol i Gyhoeddiadau Barddas yn brofiad i’w drysori. Cefais gyfle i ddatblygu a magu hyder fel golygydd ar amrywiaeth o gyfrolau. Yn wir, mae bod yn rhan o’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn gyffrous iawn ar hyn o bryd.”
Alaw Mai Edwards, Cyn-olygydd Creadigol Cyhoeddiadau Barddas.
Disgrifiad:
Lleoliad: Gweithio o gartref, ond bydd angen teithio i ddigwyddiadau yma ac acw yng Nghymru yn achlysurol.
Cyflog: Graddfa gyfatebol i’r NJC rhwng rhicynau 24 a 29 (£29,174 – £33, 486 y flwyddyn, dan adolygiad), pro rata.
Oriau gwaith: Rhan amser – 24 awr yr wythnos (wythnos lawn 37 awr) i’w gweithio yn ôl dymuniad yr ymgeisydd, drwy gytundeb â’r cyflogwr.
Cytundeb: Parhaol, yn gyflogedig, yn ddibynnol ar gyflawniad y cyfnod prawf o 6 mis.
Profiad a chymwysterau: Darllenwch y disgrifiad swydd am fwy o wybodaeth.
Sut i wneud cais: Lawrlwythwch fanylion llawn y swydd a chyfarwyddiadau sut i wneud cais.
Yr amser cau ar gyfer derbyn ceisiadau fydd pnawn Gwener, Rhagfyr 2, 2022.
Bwriedir cynnal y cyfweliadau drwy gyfrwng Zoom ar ddydd Iau, Rhagfyr 16, 2022.
Cyflog
💰 £29,174 – £33, 486 pro rata
Lleoliad
📍 O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych am Gyfarwyddwr Strategol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Strategol i fod yn gyfrifol am lywio a chynllunio gwaith y Comisiynydd ar draws un o ddwy gyfarwyddiaeth yn y sefydliad a bod yn rhan o dîm rheoli uchelgeisiol.
Disgrifiad:
Prif ddyletswyddau
**AELOD O’R TÎM RHEOLI **
Cymryd rhan weithredol ym mhenderfyniadau’r tîm rheoli gan gynnwys:
· cymeradwyo cyfeiriad strategol gwaith y Comisiynydd a gosod amcanion heriol
· cynnig arweiniad strategol effeithiol fel gall y Comisiynydd fodloni ei gyfrifoldebau a’i ddyletswyddau o dan Fesur y Gymraeg gan ganolbwyntio ar ddeilliannau mewn ffordd effeithiol a phriodol
· hyrwyddo safonau uchel o ran cyllid cyhoeddus, gan gynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian
· goruchwylio a monitro perfformiad lefel uchaf, er mwyn sicrhau bod y Comisiynydd yn llwyr gyflawni ei amcanion
· arddangos safonau uchel o ran llywodraethau corfforaethol ac uniondeb a sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith er mwyn rhoi sicrwydd o ran rheoli risg a rheolaeth fewnol
· arddangos gwerthoedd y Comisiynydd ym mhob peth a wneir
ARWAIN CYFARWYDDIAETH
Arwain gwaith y gyfarwyddiaeth gan ddefnyddio dull hyblyg o weithio a modelu gwerthoedd y sefydliad. Yn benodol:
· gweithio’n agos gyda chydweithwyr mewnol a datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith cryf gyda chydweithwyr a rhan-ddeiliaid allanol er mwyn galluogi’r Comisiynydd i gyflawni ei gynlluniau strategol a busnes, gan sicrhau aliniad parhaus â’r nodau strategol
· cadw atebolrwydd mewn perthynas â'r meysydd gwaith o dan ei gyfrifoldeb cynllunio busnes a rhaglennu gwaith gyda ffocws ar sicrhau gwerth am arian a sicrhau bod gweithgareddau'r Comisiynydd yn cael eu cynnal mewn modd effeithlon ac effeithiol
· rhagweld rhwystrau posibl rhag cyflawni nodau strategol y Comisiynydd a gweithio i gael gwared arnynt a llyfnhau’r ffordd o’u cyflawni
· monitro'r dirwedd wleidyddol a busnes i sicrhau bod amcanion y Comisiynydd yn cael eu gwireddu fel y nodir yn strategaeth a chynlluniau gwaith y Comisiynydd
· Rhoi cyngor a chefnogaeth i holl staff y gyfarwyddiaeth
**Dyletswyddau penodol **
DYLANWADU AR BOLISI
Bod yn gyfrifol am waith y tîm polisi sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros:
· graffu a dylanwadu ar strategaethau allweddol, deddfau neu bolisïau sy’n effeithio ar y Gymraeg
· gydweithio a rhannu gwybodaeth â phartneriaid perthnasol i ddylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth a chyfrannu yn adeiladol at drafodaethau yn ymwneud â meysydd sy’n effeithio ar y Gymraeg
· ymchwilio ac adrodd ar sefyllfa’r Gymraeg a siaradwyr Cymraeg mewn meysydd polisi er mwyn gosod sail tystiolaeth ar gyfer safbwyntiau’r Comisiynydd
YMCHWIL AC ISADEILEDD
Bod yn gyfrifol am waith y tîm ac isadeiledd ac ymchwil sydd â chyfrifoldeb dros:
· gynllunio adroddiad 5-mlynedd ar sefyllfa’r Gymraeg a fydd yn cynnwys dadansoddiad o ganlyniadau Cyfrifiad 2021 ac asesiad o’r goblygiadau
· feithrin dealltwriaeth o waith comisiynwyr iaith ac asiantaethau eraill ledled y byd a rhoi llwyfan i arferion llwyddiannus o Gymru
· ddarparu cyngor am ffurfiau safonol enwau lleoedd Cymru gan roi amlygrwydd iddynt a bod yn gyfrifol am gynnal cofrestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru ar wefan y Comisiynydd
HYBU DARPARU CYFLEOEDD I DDEFNYDDIO'R GYMRAEG
Llywio gwaith Comisiynydd y Gymraeg mewn cysylltiad â’r gwaith y tîm Hybu a Hwyluso. Hybu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y sectorau anstatudol drwy:
· hwyluso defnyddio’r Gymraeg gyda busnesau ac elusennau drwy gynnal hyfforddiant, darparu canllawiau a rhannu arfer dda
· sicrhau mwy o ymrwymiadau i ddefnyddio’r Gymraeg gan fusnesau ac elusennau gan gymeradwyo cynlluniau datblygu a’r Cynnig Cymraeg
· gydweithio gyda chyrff ariannu a rhwydweithiau er mwyn dylanwadu ar ragor o fusnesau ac elusennau i ddefnyddio’r Gymraeg
**CYFATHREBU A CHYSYLLTIADAU CYHOEDDUS **
Bod yn gyfrifol dros waith y tîm cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus y sefydliad sy’n benodol gyfrifol dros:
· sicrhau fod y sefydliad yn ymgysylltu’n allanol mewn modd effeithiol a chyd-gysylltiedig. Arwain ar y berthynas gyda’r wasg a’r cyfryngau, gan gynnwys cynghori’r Comisiynydd ar y materion hyn
· llywio’r gwaith o gysylltiadau cyhoeddus y sefydliad gan gynnwys presenoldeb mewn digwyddiadau
· cyfathrebu allanol effeithiol y sefydliad
· presenoldeb gwefan y Comisiynydd a’r cyfryngau cymdeithasol
· gweithredu strategaeth gyfathrebu fewnol y sefydliad
CYLLID, ADNODDAU A THECHNOLEG
Bod yn gyfrifol am y tîm cyllid, adnoddau a thechnoleg sydd â chyfrifoldeb penodol dros sicrhau:
· rheoli, ar ran y swyddog cyfrifyddu, gyllid ac adnoddau yn unol â Llawlyfr Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru a llawlyfr Managing Public Money sy’n gosod yr egwyddorion a safonau uchel a ddisgwylir ar gyfer ymdrin ag adnoddau cyhoeddus
· paratoi cyfrifon blynyddol, cyllidebau ac adroddiadau cyllid cywir ac amserol
· adnoddau ffisegol y sefydliad yn cael eu cynnal a rheoli yn effeithiol
· technoleg gwybodaeth briodol er mwyn hwyluso gwaith y sefydliad a sicrhau diogelwch seibr
Arbenigeddau
Mae gan y Cyfarwyddwr arbenigeddau a chyfrifoldebau neilltuol fel a ganlyn:
· ** Cynllun Strategol **
Llunio papurau strategol, a’u cyflwyno er mwyn galluogi’r Comisiynydd i wneud penderfyniadau wrth i ni gynllunio fel sefydliad. Ysgrifennu strategaeth y sefydliad gan ddefnyddio tystiolaeth a gwybodaeth, estyn allan, ymgynghori ac archwilio adborth yn fewnol ac yn allanol. Llywio’r broses o gyflawni, monitro a dangos ein bod yn cyflawni ein canlyniadau strategol er mwyn sicrhau bod ein hamcanion strategol yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus dros oes y strategaeth a thu hwnt. Datblygu ein hymagwedd o ran adrodd ar ganlyniadau a'r buddion yr ydym wedi bwriadu yn ein hadroddiad blynyddol. Gwerthuso llwyddiant cyffredinol yn erbyn targedau corfforaethol a dangosyddion eraill.
· Perchennog Risg Corfforaethol
Ysgwyddo cyfrifoldeb dros risgiau strategol y sefydliad fel y Rheolwr Risg Corfforaethol.
· Perchennog Risg Gwybodaeth (SIRO)
Yr uwch swyddog sy’n gyfrifol am risg gwybodaeth y sefydliad. Cyfrifoldeb am sicrhau trefniadau diogelwch seibr a diogelwch gwybodaeth briodol.
Cymwyseddau
· Meddwl yn strategol: Byddwch yn berson strategol sy'n gweld y darlun ehangach ac yn gallu arwain a chefnogi cydweithwyr i gyflawni amcanion strategol
· Ysbrydoli a rheoli eraill: Yn arweinydd creadigol, bydd gennych brofiad o reoli a datblygu tîm. Gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol, byddwch yn cydweithio'n effeithiol ag ystod eang o bobl ar draws meysydd amrywiol, i gyflawni ein strategaeth
· Cyflwyno syniadau a dwyn perswâd: Bydd gennych brofiad o ysgrifennu a chyflwyno adroddiadau a phapurau strategol ar lefel uchel i fyrddau a phwyllgorau gydag uwch arweinwyr
· Hunan-ysgogiad a sicrhau ansawdd: Yn ogystal â mwynhau gweithio fel rhan o dîm byddwch hefyd yn gallu gweithio ar eich pen eich hun a defnyddio eich menter eich hun i sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau ar amser ac i’r ansawdd priodol · Angerdd at hybu’r Gymraeg a monitro cynnydd: Yn benodol, rydym yn chwilio am berson a all arwain ar ein dull o hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg gan nodi, monitro ac arddangos y canlyniadau yr ydym am eu cyflawni
· Rheoli rhaglenni gwaith amrywiol: Profiad o arwain rhaglenni gwaith ar draws meysydd eang, allai gynnwys cyllideb, rheoli risg neu feysydd eraill
· Mesur y Gymraeg: Byddwch yn dangos dealltwriaeth o egwyddorion Mesur y Gymraeg a chyfeiriad polisi iaith yng Nghymru
· Bywyd cyhoeddus: Bydd gennych ddealltwriaeth o fywyd cyhoeddus yng Nghymru
Cyflog
💰 £53,440 - £63,900
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch-weinyddwr Gweithrediadau
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Uwch-weinyddwr Gweithrediadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymrwymedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn meithrin yr wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Rydym yn cynnig dulliau addysgu arloesol, y cyfarpar diweddaraf, a chymorth rhagorol ar draws ystod eang o leoliadau dysgu a chyrsiau.
At hynny, rydym yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn wythfed yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.
Rydym 'nawr yn chwilio am Uwch-weinyddwr Gweithrediadau i ymuno â'n campws yng Nghaerfyrddin yn llawn-amser am gyfnod penodol o 12 mis.
- Y RÔL -
Bydd disgwyl i chi gyfathrebu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Byddwch yn gweithio'n agos gydag unedau cymorth eraill yn y Brifysgol yn rheolaidd, yn enwedig y gyfarwyddiaeth Ystadau a Chyfleusterau ehangach, i ddarparu gwasanaeth o lefel uchel i'r staff a'r myfyrwyr. Disgwylir i chi gynhyrchu gwaith o ansawdd rhagorol sy'n cydymffurfio â chanllawiau a fframweithiau rheoleiddio perthnasol y Brifysgol. Byddwch yn fedrus iawn o ran y defnydd o becynnau Microsoft, a bydd gennych y gallu i ymgyfarwyddo â phecynnau meddalwedd TG newydd; mae hyn yn ofyniad hanfodol ar gyfer y swydd hon.
- AMDANOCH CHI -
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer rôl yr Uwch-weinyddwr Gweithrediadau, bydd angen i chi feddu ar y canlynol:
- Wedi cael addysg hyd at lefel HND neu radd (yn ddelfrydol yn y maes dewisol) neu yn meddu ar brofiad amlwg
- Gweinyddu Busnes hyd at Lefel 4 neu brofiad cyfwerth amlwg
- Profiad blaenorol o ddarparu cymorth gweinyddol cyflym, o ansawdd uchel
- Profiad blaenorol o ddelio â gwaith gweinyddu Ystadau a Chyfleusterau a rheoli contractau
- Profiad blaenorol o baratoi dogfennau i'w harchwilio
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da, a'r gallu i gyfathrebu mewn modd effeithiol ar bob lefel
- Profiad mewn perthynas â rheoli contractau a thrafodaethau
- Y gallu i arddangos sgiliau trefnu effeithiol
- Y gallu i fodloni terfynau amser tyn yn ôl y gofyn
- Lefel uchel o hyfedredd yn y defnydd o becynnau Microsoft
- Y gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg
Byddai hefyd o fantais i'ch cais pe byddech yn meddu ar y canlynol:
- Profiad o weithio ym maes Addysg Uwch
Felly, os ydych yn teimlo y gallech ffynnu a chael effaith yn rôl Uwch-weinyddwr Gweithrediadau, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.
Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.
Dyddiad cau: 21 Tachwedd 2022, 11:59pm
Cyflog
💰 £27,929 - £31,411
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Menter a Busnes yn edrych am Gynorthwyydd TG (x2)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle cyffrous i ymuno â Menter a Busnes yn ein cynlluniau twf parhaus, fel rhan o dîm TG deinamig ac uchelgeisiol gyda gwaith amrywiol a difyr.
Disgrifiad:
Manyleb Swydd Teitl Swydd: Cynorthwyydd TG x2
Adran: Technoleg Gwybodaeth
Lleoliad: Unrhyw un o swyddfeydd Menter a Busnes,
**Hybrid (50/50) ** Bydd staff sy’n byw mwy na 40 milltir o’u swyddfa Menter a Busnes agosaf yn gallu gweithio o gartref yn barhaol
Rheolwr Atebol: Rheolwr Gweithrediadau TG
Graddfa: 2
Cyflog: £20,919 - £22,367 (dibynnol ar brofiad)
Mae cynllun bonws hefyd yn weithredol
Cytundeb: Parhaol
Ystyrir ceisiadau i weithio'n llawn amser neu'n rhan amser
Sgiliau Dwyieithog: Hanfodol
Nod yr Adran Technoleg Gwybodaeth
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â Menter a Busnes yn ein cynlluniau twf parhaus, fel rhan o dîm deinamig ac uchelgeisiol gyda gwaith amrywiol a difyr. Mae’r tîm TG yn gyfrifol am:
· Gweithrediad effeithiol ac effeithlon systemau technoleg y cwmni, gan ganolbwyntio’n benodol ar berfformiad dibynadwy, diogelwch, a datblygiad parhaus;
· Darparu gwasanaethau cymorth llawn o ansawdd uchel i staff
Nod y Swydd Bydd y Cynorthwyydd TG yn cefnogi’r Adran TG i ddarparu gwasanaeth i’r cwmni, drwy gynnig cymorth technegol addas a dibynadwy i staff, gosod a gofalu am gyfarpar a chyfrifon, a chefnogi cyd-weithwyr TG efo’u gwaith. Prif Gyfrifoldebau · Gweithio’n agos gyda’r tîm i ddarparu gwasanaethau TG o ansawdd uchel
· Bod yn bwynt cyswllt cyntaf i ymholiadau ar y ddesg gymorth, a chynnig gwasanaeth cwsmer o safon drwy ddadansoddi, trefnu a blaenoriaethu ticedi yn addas, ac esgoli ble fod angen
· Cefnogi staff i fabwysiadu a defnyddio technoleg newydd, gan gynnig cyngor a hyfforddiant sylfaenol
· Paratoi at aelodau staff sy’n cychwyn a gadael, rheoli mynediad i gyfrifon ac adnoddau gan ddilyn prosesau yr adran
· Gosod a dosbarthu cyfarpar o fewn amserlen benodol, gan sicrhau bod staff newydd yn medru gweithio’n hwylus ar eu diwrnod cyntaf
· Gofalu am holl gyfarpar TG y cwmni, cynnal offer a chyfleusterau TG swyddfeydd (megis argraffwyr, ffônau a chyfarpar fideo-gynadledda), a chadw holl offer a storfeydd TG yn daclus a threfnus
· Perfformio gwaith cynnal sylfaenol rheolaidd, megis – Diweddaru meddalwedd a chaledwedd; Gweithredu copïau wrth-gefn; Gwaith gweinyddol
· Cynorthwyo’r tîm TG i ddatrys digwyddiadau (incidents), a gweithio ar ddatblygiadau/prosiectau TG
· Cadw holl gofnodion, dogfennaeth, a chronfeydd data TG yn daclus, cywir a chyfredol
· Ymweld â swyddfeydd y cwmni yn ôl yr angen i gwblhau gwaith gosod, cynnal a datrys
· Cynorthwyo’r tîm TG i ddiogelu data’r cwmni, gan weithio i leihau’r risg o golli data, dinistrio data’n ddamweiniol a dwyn data
· Cynorthwyo staff i ddehongli a gweithio yn ôl ein polisiau TG
· Cynorthwyo’r Rheolwr Gweithrediadau TG i sicrhau bod y cwmni’n llwyddo i gynnal safon Cyber Essentials Plus o fewn amserlenni penodol Arall
· Gweithio ar brosiectau eraill Grŵp Menter a Busnes yn ôl y galw, gan gynnwys rhai masnachol
· Sicrhau bod safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch y tîm TG yn cael eu bodloni
· Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill a chynrychioli Menter a Busnes yn ôl yr angen
Sgiliau a Phrofiad Hanfodol
· Profiad dangosadwy o osod, cynnal a chadw caledwedd a meddalwedd TG, a datrys problemau TG eich hunain ac eraill. (Gall hyn fod hefo teulu neu ffrindiau, yn hytrach nag yn y gwaith)
· Cymhwyster addysg bellach (e.e. NVQ / Lefel AS) neu’n uwch, a/neu brofiad dangosadwy mewn maes perthnasol
· Gwybodaeth a sgiliau da efo rhai o’r canlynol:
- Systemau Gweithredu: Windows, macOS, iOS, Android - Caledwedd: Cyfrifiaduron, ffônau symudol, tabledi, ategolion cyffredin, fideo-gynadledda, argraffyddion
- Meddalwedd: Ebost a chynhyrchiant (Google Workspace, Microsoft Office)
· Diddordeb cryf mewn technolegau modern ynghyd â thechnolegau sy’n datblygu
· Ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar-lein
· Gallu dysgu ac addasu i systemau a thechnoleg newydd
· Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu clir, gyda’r gallu i ddefnyddio diplomyddiaeth wrth ddelio ag ymholiadau staff
· Gallu ymchwilio a datrys problemau drwy edrych arnynt o wahanol gyfeiriadau, mynegi manteision, anfanteision a risgiau dewisiadau
· Gallu ysgogi ei hun i weithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm
· Gweithredu gyda gofal, uniondeb a chyfrinachedd, yn enwedig efo mynediad breintiedig
· Person trefnus, sy’n gallu addasu a chymell ei hun, ac yn gallu rheoli nifer o dasgau ar yr un pryd a gweithio dan bwysau i gwrdd â therfynau amser
· Sgiliau cyflwyno clir a diddorol, gyda’r hyder i gyflwyno o flaen cynulleidfaoedd amrywiol, a’r gallu i esbonio materion technegol neu gymhleth mewn ffordd annhechnegol
· Sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig
· Sgiliau dwyieithog (Cymraeg/Saesneg). (Croesawir ceisiadau gan ddysgwyr). Dymunol
· Cymhwyster proffesiynol TG
· Profiad dangosadwy o weithio a llwyddo mewn rôl
· Profiad dangosadwy o ddarparu gwasanaeth cwsmer
· Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio at ddibenion busnes Gwneud Cais Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Aled James, Rheolwr Technoleg Gwybodaeth, ar [email protected] i drefnu sgwrs.
Dyddiad Cau Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10:00 y bore, 28/11/2022 Cyfweliadau Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol yn yr wythnos sy’n cychwyn 05/12/2022. Os yw’r wythnos hon yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda.
**Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ** Gwelwch ein gwefan i gael copi o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Nod y Cwmni Menter a Busnes yw’r prif gwmni datblygu economaidd yng Nghymru. Rydym yn gwmni annibynnol, nid er elw, sy’n arwain y ffordd yn darparu rhaglenni a gwasanaethau cymorth busnes ar ran Llywodraeth Cymru a sefydliadau cenedlaethol a rhanbarthol eraill. Rydym hefyd yn gweithio gyda chleientiaid masnachol i gynllunio a darparu gwasanaethau mewn meysydd megis cymorth busnes, entrepreneuriaeth ac arloesedd i ddatblygu a thyfu busnesau. Yn unol â’n gwerthoedd, ym Menter a Busnes ein nod yw creu amgylchedd gwaith cyfeillgar sy’n onest, yn gyfrifol ac yn iach, ac sy’n dangos y parch mwyaf at staff a chwsmeriaid. Rydym yn cymryd camau i ddatblygu gweithlu mwy amrywiol ac yn benodol yn annog ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BAME), pobl anabl a phobl o’r gymuned LGBTQ+ o dan y rheolau gweithredu cadarnhaol fel yr amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn dilyn egwyddorion cystadleuaeth agored a phenodir staff yn seiliedig ar eu rhinweddau. Mae gennym dîm o 130 o staff ymroddgar sydd â dealltwriaeth eang o sawl sector a maes ym myd busnes a’n blaenoriaeth yw mynd y cam ychwanegol i ddarparu gwasanaethau o’r safon uchaf posibl. Er mwyn gwella bywyd gwaith ein staff, rydym yn annog arferion gweithio hyblyg sy’n cefnogi gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Rydym hefyd yn cefnogi iechyd a lles ein staff drwy gynnig amrywiaeth o ymyriadau a gwasanaethau.
Cyflog
💰 £20,919 - £22,367
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Gweithredol Gwasanaeth Bwyd
Hybu Cig Cymru
Mae Hybu Cig Cymru yn edrych am Swyddog Gweithredol Gwasanaeth Bwyd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales (HCC) yn gorff strategol sy'n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymru. Ei genhadaeth yw cefnogi datblygiad diwydiant cig coch proffidiol, effeithlon, cynaliadwy ac arloesol yng Nghymru, sy'n ymateb yn gystadleuol i dueddiadau marchnad sy'n newid yn barhaus.
Trosolwg o’r Swydd:
Bydd gan y swydd hon dri chyfrifoldeb allweddol:
Darparu cymorth sy’n canolbwyntio ar y dyfodol ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth a throsglwyddo gwybodaeth i sector gwasanaethau bwyd y DU er mwyn sicrhau bod brandiau cig oen Cymru, Cig Eidion Cymru a phorc yn cael eu hyrwyddo'n effeithiol yn y sector gan gynnwys y sectorau pen uchel a chost premiwm.
Cysylltu â'r timau mewnwelediad busnes ac ymgysylltu â brand i ddarparu data a mewnwelediadau marchnad hanfodol.
Adeiladu perthnasoedd gwaith cryf o fewn cadwyni cyflenwi masnachol y DU gan gynnwys darparwyr gwasanaethau bwyd, manwerthwyr, proseswyr a chynhyrchwyr a thrwy hynny manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i'r Brandiau Cymreig y sector gwasanaethau bwyd.
Disgrifiad:
Prif Atebolrwydd, Cyfrifoldebau a Gweithgareddau Allweddol:
Cymorth a Pherthnasau Gwasanaeth Bwyd Prif Gyfrif
· Ddarparu cefnogaeth ac ymyriadau penodol i'r sector gan nodi a mynd i'r afael â gofynion proseswyr i gynnal aliniad ag amcanion marchnata gwasanaeth bwyd HCC yn y DU.
· Cynnal a hyrwyddo perthnasau cefnogol a dylanwadol gyda darparwyr gwasanaethau bwyd lluosog gan gymell bob cyfle i gynyddu ymwybyddiaeth brand a manteisio ar Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn y sector gwasanaeth bwyd.
· Cymell cydweithio busnes i fusnes rhwng y sector gwasanaeth bwyd a sefydliadau'r gadwyn gyflenwi i wella ansawdd cynnyrch a chysondeb a chynyddu'r nifer sy'n manteisio arnynt.
· Darparu cefnogaeth integredig, yn cynnwys mentrau prosiect, i sefydliadau'r gwasanaeth bwyd er mwyn ysgogi'r galw am Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymreig
· Gweithio i ddatblygu perthnasau busnes i fusnes ymhellach a chyfleoedd yn sector lletygarwch y DU a'r sector brosesu.
· Datblygu sianeli cyfathrebu effeithiol gyda rhanddeiliaid sy'n gweithio ar yr agenda Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR) yn sectorau gwasanaeth bwyd y DU ar ran cadwyn gyflenwi cig coch Cymru. Monitro a Gwerthuso
· Datblygu systemau cadarn i werthuso a monitro perfformiad ac effaith ehangach amrywiol weithgareddau / prosiectau.
· Cydlynu'n rhagweithiol â thimau Polisi a Chynaliadwyedd a Marchnata Strategol y Dyfodol i rannu data gwerthuso prosiectau ac i gydweithio ar fentrau'r dyfodol.
· Cyfrannu at brosesau monitro ac adrodd HCC.
Prosiectau Arbennig
Pan fydd angen, i ymgymryd â phrosiectau pwrpasol a allai fod angen dull amlddisgyblaethol.
Cyflog
💰 £35,142 - £43,694
Lleoliad
📍 Aberystwyth, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes
Hybu Cig Cymru
Mae Hybu Cig Cymru yn edrych am Swyddog Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn gorff strategol sy'n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymru. Ei genhadaeth yw cefnogi datblygiad diwydiant cig coch proffidiol, effeithlon, cynaliadwy ac arloesol yng Nghymru, sy'n ymateb yn gystadleuol i dueddiadau marchnad sy'n newid yn barhaus.
Trosolwg o’r Swydd:
Yn delio â’r cyhoedd yn bennaf, y prif ddyletswyddau ar gyfer y swydd fydd
· Fel y dirprwyir gan yr Arweinydd Polisi, Datblygu Prosiectau a Mewnwelediad y Dyfodol, ac ar y cyd â'r Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes, bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo gyda chreu canolbwynt gwybodaeth busnes fel llwyfan i rannu data a mewnwelediadau ar draws y diwydiant ehangach, gan ddarparu deallusrwydd allweddol, dadansoddeg a mewnwelediadau i ddatblygiadau masnach y byd, amodau economaidd a masnachu byd-eang a thueddiadau manwerthu a defnyddwyr.
· Cynorthwyo i ddehongli mewnwelediadau beirniadol o'r farchnad a'r diwydiant i flaenoriaethau strategol er mwyn cefnogi a gweithio ar y cyd â Swyddog Gweithredol Polisi a Datblygu Prosiectau'r Dyfodol, wrth lywio a dylanwadu ar ddatblygiad polisi newydd, gan nodi mentrau newydd a sefydliadau partner i wella darpariaeth, cynaliadwyedd a phroffidioldeb ar draws y gadwyn gyflenwi.
Disgrifiad:
Prif Atebolrwydd, Cyfrifoldebau a Gweithgareddau:
Cynorthwyo gyda nodi a rhoi fframwaith argyhoeddiadol sydd wedi'i flaenoriaethu ar waith ar gyfer dadansoddi a dehongli gwybodaeth defnyddwyr, manwerthu, y farchnad a masnach er mwyn rhoi mewnwelediad beirniadol i bob sector o gadwyn gyflenwi'r diwydiant.
Cynorthwyo gyda monitro datblygiadau yn nhirwedd masnachu Brexit ac ar ôl Brexit a chyflwyno adroddiad yn rheolaidd gydag asesiad gwybodus o batrymau cyflenwi yn y dyfodol ar draws y diwydiant byd-eang.
Cynorthwyo gyda monitro a dehongli metrigau data allweddol i ddangos tystiolaeth o berfformiad y diwydiant yn erbyn targedau cynaliadwyedd craidd.
Dadansoddi gwerth, cyrhaeddiad ac effaith y farchnad a gwybodaeth am wybodaeth masnach yr uned yn feirniadol ac yn rheolaidd. Fel y dirprwyir gan y Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi'r Dyfodol, cydlynu â chyrff y llywodraeth a diwydiant i ddehongli goblygiadau'r hinsawdd wleidyddol ac economaidd ar ôl Brexit a fydd yn llywio polisi'r llywodraeth ac yn cynorthwyo i nodi mecanweithiau cymorth ariannu posibl yn ôl yr angen.
Ar y cyd â'r Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes, cydlynu â Marchnata Strategol a Chysylltiadau i sicrhau bod gwybodaeth allweddol am y diwydiant yn cael ei lledaenu yn gyson ar draws pob sianel a llwyfan cyfryngau yn ôl yr angen.
Gweithio'n rhagweithiol gyda thîm Cyflawni'r Gadwyn Gyflenwi i sicrhau bod gwybodaeth a mewnwelediadau penodol i'r sector ar gael i wella'r gefnogaeth a'r ddarpariaeth.
Ymgysylltu ag arwerthwyr, proseswyr, manwerthwyr ac adrannau amaeth prifysgolion i atgyfnerthu proffil HCC fel canolbwynt gwybodaeth ac awdurdod diwydiant yn ôl yr angen.
Defnyddio data critigol a mewnwelediadau i hysbysu a mireinio polisïau HCC a Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector er mwyn adlewyrchu datblygiadau a thueddiadau newidiol yn y farchnad, mewn masnach a gwleidyddiaeth.
Cyflog
💰 £25,603 - £31,854
Lleoliad
📍 Aberystwyth, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cynllunio Strategol y Diwydiant
Hybu Cig Cymru
Mae Hybu Cig Cymru yn edrych am Swyddog Cynllunio Strategol y Diwydiant
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales (HCC) yn gorff strategol sy'n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymru. Ei genhadaeth yw cefnogi datblygiad diwydiant cig coch proffidiol, effeithlon, cynaliadwy ac arloesol yng Nghymru, sy'n ymateb yn gystadleuol i dueddiadau marchnad sy'n newid yn barhaus.
Trosolwg o’r Swydd:
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd helpu gyda datblygu a gweithredu'r strategaeth ar gyfer diwydiant cig coch Cymru a sicrhau cydlyniad ac aliniad gyda pholisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant.
Disgrifiad:
Prif Atebolrwydd, Cyfrifoldebau a Gweithgareddau Allweddol:
· I gefnogi Llywodraeth Cymru a HCC i fwrw ymlaen â blaenoriaethau Gweledigaeth HCC i 2025.
· Mewn cydweithrediad â'r uwch dîm Arweinyddiaeth a'r Weithrediaeth Cig Coch, cynorthwyo gyda datblygu Cynlluniau Corfforaethol a Gweithredol blynyddol HCC yn unol â Gweledigaeth HCC i 2025.
· Cynorthwyo gyda datblygu fframwaith monitro a gwerthuso cadarn ar gyfer Gweledigaeth HCC i 2025 a Chynllun Gweithredol blynyddol HCC a chynorthwyo i ddarparu adroddiadau perthnasol ar gyfer yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a'r Bwrdd.
· Cynorthwyo gyda datblygu polisïau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r sector i adlewyrchu amgylchiadau sydd yn newid. Darparu cefnogaeth i drefniadau llywodraethu Llywodraeth Cymru a gweithredu fel pwynt cyswllt ynghylch y prosiect Gwerthoedd Brandiau Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
· Coladu gwybodaeth berthnasol a rhoi mewnbwn i lywio penderfyniadau sy'n ymwneud ag Ardoll Cig Coch Cymru.
· Cynorthwyo gyda chydlynu hysbysiadau Cymorth Gwladol yr UE ar gyfer HCC ynghyd â darparu gwybodaeth a chyngor parhaus ar faterion sy'n ymwneud â rheolau Cymorth Gwladol.
· Darparu cefnogaeth ar gyfer datblygu a diogelu'r statws PGI ar gyfer Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru trwy ddatblygiad parhaus fframwaith archwilio a thrwyddedu cadarn.
· Cynorthwyo gyda'r gwaith o gydlynu a chyfrannu at ymatebion ymgynghori ar ran HCC.
· Cynorthwyo i ddarparu papurau amserol a pherthnasol i Fwrdd HCC, talwyr ardoll a rhanddeiliaid.
· Cynorthwyo i ddatblygu/rheoli prosiectau/gweithredoedd a gweithredu strategaethau newydd sy'n ymwneud â'r sector cig coch.
Cyflog
💰 £25,603 - £31,854
Lleoliad
📍 Aberystwyth, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Gwybodaeth a Mewnwelediad, Datblygu Prosiectau a Pholisi’r Dyfodol
Hybu Cig Cymru
Mae Hybu Cig Cymru yn edrych am Arweinydd Gwybodaeth a Mewnwelediad, Datblygu Prosiectau a Pholisi’r Dyfodol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales (HCC) yn gorff strategol sy'n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymru. Ei genhadaeth yw cefnogi datblygiad diwydiant cig coch proffidiol, effeithlon, cynaliadwy ac arloesol yng Nghymru, sy'n ymateb yn gystadleuol i dueddiadau marchnad sy'n newid yn barhaus.
Bydd gan y rôl ddau faes blaenoriaeth allweddol o ffocws
1. I fonitro, dehongli a hysbysu'r dirwedd bolisi newydd drwy gydlynu â'r llywodraeth, rhanddeiliaid, cyrff ardoll a phartneriaid, fel y gellir cael cefnogaeth ariannu i'r diwydiant yn y dyfodol.
2. Goruchwylio datblygiad a rheolaeth hwb gwybodaeth busnes i'r sefydliad ddarparu llwyfan a fforwm i rannu data a mewnwelediadau ar draws y diwydiant.
Disgrifiad:
Prif Atebolrwydd, Cyfrifoldebau a Gweithgareddau Allweddol:
· Mewn cydweithrediad â /fel y cyfarwyddwyd gan Bennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi'r Dyfodol ymgysylltu, cydlynu ac ymgynghori â llywodraethau, asiantaethau, cyrff ardoll a phartneriaid i rannu a hyrwyddo agenda a blaenoriaethau'r diwydiant, hysbysu polisi'r llywodraeth a nodi cyfleoedd, mecanweithiau a mynediad i gymorth ariannu yn y dyfodol.
· Cydlynu a goruchwylio datblygiad tendrau a cheisiadau prosiect cymhellol, seiliedig ar dystiolaeth, gan weithio'n draws-weithredol i sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau caffael a hyfywedd ariannol.
· Cydweithio gyda'r Pennaeth Cyllid a Llywodraethu Corfforaethol i osod a monitro cyllidebau'n effeithiol, gan sicrhau gwerth am arian.
· Gweithio gyda'r Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi'r Dyfodol i oruchwylio datblygiad yr hwb gwybodaeth busnes â ffocws yn y dyfodol, a fydd yn allweddol i lywio polisïau ac ymgysylltu â pholisi gyda'r llywodraeth yn y dyfodol a bydd yn llunio'r diffiniad o'r strategaeth marchnata ac ymgysylltu a chymorth cadwyn gyflenwi benodol i'r sector.
· Nodi'r meysydd blaenoriaeth i ganolbwyntio arnynt ar gyfer dadansoddi'r farchnad a'r diwydiant a gwybodaeth i ddarparu mewnwelediad critigol ar ddatblygiadau masnach y byd, y cyflenwad byd-eang ac amodau masnachu economaidd, a gofynion a thueddiadau defnyddwyr.
· Casglu data a chyfleoedd dadansoddi eang yn ymwneud â chronfa ddata EIDCymru ar gyfer da yn y diwydiant a dealltwriaeth o bolisi'r llywodraeth.
Cyflog
💰 £42,625 - £50,161
Lleoliad
📍 Aberystwyth, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Darlithydd Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Ddarlithydd Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yn seiliedig ar gampws Caerfyrddin neu Abertawe ond dylid gallu gweithio gartref a bod yn barod i wneud hynny, ac mewn lleoliadau eraill, yn ôl yr angen.
£37,474 i £43,414 y flwyddyn
-** AMDANOM NI** -
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth, ac sy’n ymroi i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn 13eg am ansawdd addysgu yn y Times and Sunday Times Good University Guide 2022 ac 8fed yn y DU am ‘Gynhwysiant Cymdeithasol’ yn y gynghrair hon eleni.
Rydym ni nawr yn edrych am Darlithydd Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau i ymuno â ni ar sail llawn amser, cyfnod penodol o 1 flwyddyn yn y man cyntaf.
- Y RÔL -
Prif ffocws y swydd hon fydd dysgu ar yr ystod o raglenni hyfforddiant a gynigir yn fewnol ac yn allanol gan y Ganolfan.
Mae’r Ganolfan a’i brandiau Peniarth a Rhagoriaith yn prysur ennill enw da fel un o’r prif ddarparwyr hyfforddiant iaith Gymraeg yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys amrediad eang o gyrsiau sy’n cynnwys cyrsiau’r Cynllun Sabothol Cenedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru, a rhaglenni Cymraeg Gwaith ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Yn ychwanegol at hynny, cynigir cyrsiau masnachol eu natur i nifer o gleieintiaid ar draws Cymru. Y Ganolfan sydd hefyd yn gyfrifol am bob agwedd ar yr hyfforddiant iaith Gymraeg a gynigir gan yr Athrofa fel rhan o’i darpariaeth ym maes Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon. Yn ychwanegol at y gwaith addysgu, mae’r Ganolfan hefyd yn cystadlu am waith prosiect sy’n gallu cynnwys creu adnoddau iaith. Ar hyn o bryd, mae’r gwaith hwnnw’n cynnwys rhaglenni Cymraeg Gwaith i’w darparu ar-lein ac yn cynnig cyfleoedd uwchsgilio er mwyn defnyddio meddalwedd benodol er mwyn gwneud hynny. Mae nifer o brosiectau fan frand Peniarth sydd hefyd yn cynnig cyfleoedd cydlynu prosiectau o bryd i’w gilydd yn ogystal ag awduro cynnwys.
Fel sydd eisoes wedi’i nodi, mae’r swydd hon yn ymwneud yn bennaf â dysgu ac addysgu a disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau addysgu’r Gymraeg ar bob lefel ac ar sgiliau gweinyddu da. Yn benodol, cynigia’r swydd gyfle arbennig i unigolyn brwdfrydig a blaengar, sy’n effro i’r cyfleoedd a gynigir gan y Cwricwlwm newydd ac agenda ehangach Cymraeg 2050, gyfrannu at raglen addysgu gyffrous ac amrywiol ei natur.
Gweler y Disgrifiad Swydd am fanylion pellach, lle bydd hefyd restr o’r meini prawf hanfodol a dymunol ym ‘Manyleb yr Unigolyn’.
- AMDANOCH CHI -
Bydd angen i chi feddu ar y canlynol:
- Gradd anrhydedd dda neu gymhwyster cyfatebol
- Profiad o ddysgu naill ai disgyblion ysgol, oedolion neu fyfyrwyr is ac ôl-raddedig
- Profiad blaenorol o reoli, gweithredu a monitro gweithgarwch prosiect
- Profiad o adeiladu perthnasau gwaith cadarnhaol gyda phartneriaid a rhanddeiliaid mewnol ac allanol
- Tystiolaeth o ddulliau addysgu blaengar ac arloesol
- Profiad o gyfrannu at ddatblygiadau cwricwlaidd
- Profiad o ddatblygu prosesau a gweithdrefnau newydd
- Yn hyderus ac yn fedrus wrth ddefnyddio pecynnau cyfrifiadurol (e.e. MS Office) ynghyd â’r cymhorthion electronig sydd ar gael i wella’r Gymraeg, e.e. Cysgliad, Cymarfer Gallu i gynllunio, addysgu a gwerthuso cyrsiau
- Cymhwysedd uchel yn y Gymraeg gan gynnwys y gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg i lefel benodol.
Byddai’n fuddiol pe bai gennych chi:
- Gradd uwch
- Cymhwyster addysgu
- Profiad o addysgu Cymraeg o fewn y sector addysg uwch
- Ymwybyddiaeth o ddatblygiadau diweddar mewn addysg uwch cyfrwng Cymraeg
- Profiad o ymchwil weithredu yn y dosbarth
- BUDDION –
- Yr hawl gwyliau blynyddol yw 35 diwrnod o wyliau ynghyd â 8 gŵyl banc a 4 diwrnod cau’r Brifysgol
Mae ein gweithwyr yn manteisio ar becyn cyflog a buddion gwych i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:
- Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, rydym yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth cynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion i chi a’ch teulu
- Polisïau sy’n dda i deuluoedd sy’n darparu ar gyfer gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl
- Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cymorth i sicrhau cymwysterau pellach
- Cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant, yn cynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela
- Gostyngiadau i staff ar amrywiol gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun seiclo i’r gwaith
Felly os ydych chi’n awyddus i chwarae rhan bwysig yn cynnal ein prifysgol fel Darlithydd Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau, ymgeisiwch drwy’r botwm perthnasol.
Nodwch nad yw’r broses ymgeisio’n cynnwys opsiwn i gyflwyno CV. Felly, caiff eich cais ei asesu ar sail eich atebion i gwestiynau’r cais yn unig, ac yn benodol, eich Datganiad Ategol.
Dyddiad Cau: 17 Tachwedd 2022, 11:59pm
Cyflog
💰 £37,474 - £43,414
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Abertawe, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cyfathrebu Menwol a Chorfforaethol (Cyfnod Mamolaeth)
Amgueddfa Cymru
Mae Amgueddfa Cymru yn edrych am Reolwr Cyfathrebu Menwol a Chorfforaethol (Cyfnod Mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rheolwr Cyfathrebu Menwol a Chorfforaethol (Cyfnod Mamolaeth)
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
35 awr yr wythnos
Contract cyfnod mamolaeth 1 Rhagfyr 2022 – 3 Ionawr 2024
Gradd F £33,191.01 - £40,682.87 y flwyddyn (pro rata)
Bydd yr ymgeisydd yn cael ei benodi ar isafswm y raddfa gyflog hon fel arfer.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno'ch cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 22 Tachwedd erbyn 5:00yh
Dyddiad Cyfweliad: w/d 28 Tachwedd
Am rhagor o wybodaeth ewch i’n gwefan.
Mae Amgueddfa Cymru yn gyflogwyr cyfle cyfartal.
Croesewir ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.
Cyflog
💰 £33,191 - £40,682
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Dirprwy Glerc y Dref a Rheolwr Cyllid
Cyngor Tref Caerfyrddin
Mae Cyngor Tref Caerfyrddin yn edrych am Ddirprwy Glerc y Dref a Rheolwr Cyllid
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Tref Caerfyrddin, yn chwilio am Ddirprwy Glerc y Dref a Rheolwr Cyllid sydd yn brwdfrydig a hyblyg i chwarae rhan allweddol yn natblygiad y Cyngor yn y dyfodol.
Dylech fod â phrofiad o gyllidebau, cyllid a gweinyddu cyfarfodydd. Dylech hefyd feddu ar sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol a medru gweithio fel rhan o dîm bach i helpu i gyflawni cynllun strategol y Cyngor. Darperir hyfforddiant i’r ymgeisydd llwyddiannus lle bydd yn angenrheidiol.
Mae Cyngor Tref Caerfyrddin yn ymfalchïo mewn bod yn gyflogwr da, ac mae staff yn mwynhau'r manteision sy'n deillio o weithio i gyflogwr bach sy'n canolbwyntio ar y gymuned a sy'n angerddol am ei bobl ac yn darparu'r hyblygrwydd i sicrhau'r cydbwysedd gorau rhwng bywyd a gwaith. Patrwm gweithio i'w gytuno gyda'r ymgeisydd llwyddiannus.
Mae pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr sy'n cynnwys ffurflen gais, disgrifiad swydd a manyleb person ar gael gan Gyngor Tref Caerfyrddin ar y ddolen hon: www.cyngortrefcaerfyrddin.gov.uk
Cysylltwch â Chlerc Cyngor Tref Caerfyrddin, Emma Smith [email protected] ar gyfer unrhyw wybodaeth bellach sydd ei angen arnoch.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 4.30pm ar ddydd Gwener 25ain o Dachwedd 2022. Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 12fed o Ragfyr 2022.
Prif Ddiben y Swydd:
· Cefnogi Clerc y Dref i sicrhau pob agwedd yn ymwneud â llywodraethu corfforaethol a gweinyddu ariannol y Cyngor.
· Dirprwyo ar ran Clerc y Dref yn ei absenoldeb.
· Cyfrifoldeb penodol am reoli'r holl gofnodion a gweithdrefnau ariannol a sicrhau cydymffurfiaeth â'r Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio.
· Mynychu cyfarfodydd y Cyngor a sicrhau bod agendâu a chofnodion yn cael eu paratoi, eu cymeradwyo a'u cyhoeddi yn unol â pholisi a gofynion cyfreithiol.
· Bydd deiliad y swydd yn ymgymryd â rôl reoli o fewn Cyngor Tref Caerfyrddin yn unol â chyfarwyddiadau'r Clerc a'r Cyngor Tref, a bydd yn ymgymryd â chyfrifoldebau eraill, fel y nodir yn y disgrifiad swydd hwn.
Prif Gyfrifoldebau:
· Cadw cofnodion ariannol cywir a rheoli a monitro'r cyllid a rheolaethau ariannol y Cyngor er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio.
· Cynghori Clerc y Dref a'r Cyngor ar materion ariannol a sicrhau bod yr holl rwymedigaethau statudol ariannol yn cael eu cyflawni.
· Goruchwylio'r rhestr fisol o daliadau i'w cymeradwyo gan lofnodwyr awdurdodedig a phrosesu taliadau mewn modd amserol.
· Adolygu'r gofrestr rheoli risg ariannol yn rheolaidd gyda Chlerc y Dref a sicrhau bod adroddiadau'n cael eu darparu ar gyfer y Cyngor Tref ar gyfnodau rheolaidd.
· Sicrhau bod trefniadau yswiriant digonol ar waith i'r Cyngor gwmpasu’r holl risgiau ariannol a nodwyd.
· Gweithio gyda Chlerc y Dref i sicrhau bod cyllideb flynyddol ar ffurf drafft ac argymhelliad praesept yn cael ei baratoi'n amserol bob blwyddyn.
· Paratoi adolygiadau chwarterol o'r gyllideb a chymodi banc ar gyfer cael ei ystyried gan y Pwyllgor Cyllid.
· Paratoi adroddiadau terfynol, datganiad blynyddol y Cyngor o gyfrifon a’r datganiad blynyddol, yn ôl y gofyn ac yn unol â'r holl ganllawiau a’r ddeddfwriaeth gysylltiedig.
· Ymgysylltu a darparu gwybodaeth i archwilydd mewnol a chyflwyno'r cyfrifon blynyddol i'r archwilwyr allanol yn ôl y gofyn.
· Cadw cofnodion TAW statudol y Cyngor, cyflwyno TAW yn fisol, a sicrhau bod y rhain yn cael eu cyflwyno'n brydlon ynghyd ag unrhyw daliad.
· Casglu ceisiadau am gymorth grant a fydd yn cael eu hadolygu gan Glerc y Dref a'r Pwyllgor.
· Cynnal Cofrestr Asedau Sefydlog o eiddo'r Cyngor yn rheolaidd.
· Goruchwylio'r holl gyfrifoldebau rheoli ariannol a gyflawnir gan staff y Cyngor Tref.
· Mynychu holl gyfarfodydd ffurfiol y Cyngor Tref – fel arfer mae tri chyfarfod y mis ac fe'u cynhelir gyda'r nos.
· Paratoi agendâu, cofnodion a phapurau eraill sy'n gysylltiedig â holl gyfarfodydd y Cyngor a'u cyhoeddi yn unol â pholisi a deddfwriaeth.
Cyfrifoldebau Eraill
Datblygiad Personol
· Datblygu'n broffesiynol drwy ddiweddaru gwybodaeth, sgiliau a rhwydweithiau i sicrhau bod materion y Cyngor Tref yn cael eu rheoli'n effeithlon.
Rheoli Staff
· Rheoli, goruchwylio a chefnogi'r defnydd effeithiol o’r rôl a nodwyd.
Rheoli Adnoddau
· Sicrhau bod adnoddau'r Cyngor yn cael eu rheoli'n effeithiol yn unol â pholisi a deddfwriaeth.
Disgwylir i holl weithwyr Cyngor Tref Caerfyrddin gyfrannu'n llawn at waith y Cyngor i'w helpu i gyflawni ei flaenoriaethau ac i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r gymuned leol.
MANYLEB PERSON
Disgwylir i holl weithwyr Cyngor Tref Caerfyrddin gyfrannu'n llawn tuag at waith y Cyngor i'w helpu i gyflawni ei flaenoriaethau ac i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r gymuned leol.
Mae'n bosibl bod y sgiliau a phrofiadau a rhestrir isod wedi deillio o waith cyflogedig neu waith gwirfoddol.
Gofynion Hanfodol:
· Profiad o reolaeth ariannol, gan gynnwys creu a monitro cyllidebau.
· Profiad o weithio gyda phecynnau cyfrifyddu digidol, gan gynhyrchu cyfrifon diwedd blwyddyn, cyllidebu, dadansoddi amrywiant, cofnodi incwm, rheoli cyfriflyfr a rheoli credyd.
· Yn gallu gweithio y tu allan i oriau arferol yn rheolaidd (fel arfer mae tri chyfarfod gyda’r nos bob mis)
· Profiad o ddefnyddio systemau TG eraill, gan gynnwys Microsoft Office a meddalwedd rheoli ariannol.
· Sgiliau cyfathrebu, trefnu a gweinyddu da.
· Sgiliau rheoli a rhyngbersonol da.
· Gallu gweithio ar ei ben ei hun neu fel rhan o dîm.
· Sgiliau iaith (gweler y wybodaeth bellach isod):
Cymraeg - gwrando a siarad – lefel 4 (gyda hyfforddiant ar gael i gyrraedd lefel 5)
Saesneg – gwrando, siarad a darllen – lefel 4. Ysgrifennu – lefel 5*
Gofynion Dymunol:
· Ymwybyddiaeth o weithdrefnau ariannol llywodraeth leol gan gynnwys rheolaeth ariannol a gofynion cyfreithiol, ac ati.
· Addysg a/neu reolaeth lefel gradd neu gymhwyster proffesiynol perthnasol arall (e.e. cymwysterau AAT / ICB, CiLCA)
· Dealltwriaeth dda o’r rôl a chyfrifoldebau'r swydd.
Cyflog
💰 £35,411 - £38,296 pro rata
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwy-ydd Polisi a Materion Cyhoeddus
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn edrych am Gynorthwy-ydd Polisi a Materion Cyhoeddus
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae hon yn rôl allweddol er mwyn sicrhau bod strategaeth effeithiol ar gyfer ymgysylltu â gwleidyddion a rhanddeiliaid yn bodoli o hyd, a bod ein perthnasoedd adeiladol a dylanwadol â rhanddeiliaid allweddol yn cael eu cynnal.
Wrth gefnogi’r Cyfarwyddwr Polisi, byddwch yn helpu i nodi materion polisi a gwleidyddol, a risgiau a chyfleoedd sy’n amlygu eu hunain, a chefnogi’r gwaith o ddatblygu dogfennau polisi allweddol.
Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
I gael rhagor o wybodaeth a manylion ymgeisio, ewch i ein gwefan.
Dyddiad Cau: Dydd Llun 21 Tachwedd 12.00y.p.
Os byddwch chi ar y rhestr fer, mae’n rhaid i chi fod ar gael i ddod i gyfweliad ar Dydd Iau 1 Rhagfyr.
I wneud cais fel Cynorthwyydd Polisi a Materion Cyhoeddus, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Cyflog
💰 £26,894 - £29,640
Lleoliad
📍 Hyblyg, Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae RSPB Cymru yn edrych am Swyddog Natur - Ynys-hir
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae hon yn swydd 12 mis, ac mae'n bosib y caiff y cyfnod hwn ei ymestyn os bydd cyllid ar gael. Mae'r swydd yn canolbwyntio ar yr adnoddau coed o gwmpas Bro Ddyfi a'r ardal ehangach, lle ceir rhai o olygfeydd mwyaf godidog Cymru a rhywogaethau sydd lawn mor odidog. Bydd deiliad y swydd hon yn dechrau cyflwyno Glasbrint Tir Canol, a gynlluniwyd ar y cyd, gan ganolbwyntio ar goetiroedd Derw Gorllewin yr Iwerydd:
• Dadansoddi beth mae pobl eisoes yn ei wybod am yr adnoddau coed yn yr ardal (ymchwil pen bwrdd).
• Llunio arolygon cynefinoedd ar y cyd â thirfeddianwyr ac ar eu cyfer. Bydd yr arolygon hyn yn ymwneud â'u hadnoddau a'u rhywogaethau coed, a byddant yn rhoi sylw i'w gwybodaeth a'u huchelgeisiau.
• Ymwneud â'r gweithgarwch coedwigaeth yn yr ardal i gefnogi rheoli coedwigaeth gynaliadwy.
Byddwch yn aelod o dîm Tir Canol. Byddwch yn cwrdd yn rheolaidd â'ch gilydd, ac yn cydweithio'n rheolaidd mewn lleoliad sydd eto i'w gadarnhau. Byddwch hefyd yn cydweithio'n agos â phartneriaid Tir Canol, yn enwedig staff RSPB Cymru gan gynnwys staff cadwraeth, gwarchodfeydd a staff rhaglen Celtic Rainforests LIFE; ynghyd â staff Coed Cadw i lunio asesiad o'r adnoddau coed a rhywogaethau cysylltiedig allweddol yn ardal afon Dyfi.
Gweithgareddau allweddol:
• Cynnal arolygon, gan gynnwys defnyddio Pecyn Cymorth Bywyd Gwyllt Coetiroedd ac arolygon rhywogaethau dethol.
• Cynnal asesiadau o gynefinoedd (hyd at Gam 1) a chreu cynllun gweithredu ar y cyd â thirfeddianwyr i nodi cyfleoedd posibl.
• Cysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid allanol ar draws Bro Ddyfi a'r ardal ehangach gan ddatblygu cysylltiadau yn lleol o fewn sefydliadau a chymunedau.
• Nodi cyfleoedd i greu ac i adfer coetiroedd.
Byddwch yn cydweithio ag amrywiaeth o arbenigwyr o fewn partneriaeth Tir Canol a'r tu allan iddi, a byddwch yn rhan o'r tîm sy'n gwireddu gweledigaeth Tir Canol, gweledigaeth a gynlluniwyd ar y cyd â phobl ar draws yr ardal. Byddwch yn gweithio gartref mewn man addas yn ardal ddaearyddol y prosiect. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus deithio o fewn i'r ardal hon.
Amdanoch chi
Bydd angen ichi fod yn barod i weithio gydag eraill, gan ganolbwyntio ar gyflawni pethau i'r safon uchaf ac ymrwymo i ddiogelu ac adfer byd natur yng Nghymru.
Bydd angen ichi fod yn barod i weithio gydag eraill, gan ganolbwyntio ar gyflawni pethau i'r safon uchaf ac ymrwymo i ddiogelu ac adfer byd natur yng Nghymru.
Mae angen i chi allu creu gweledigaeth a sicrhau cyfeiriad, egni a gallu. Rhaid ichi hefyd allu gweld y darlun ehangach. Mae'n rhaid i chi allu cynghori a chefnogi gwaith ar draws tirwedd eang. Mae eich sgiliau a'ch rhinweddau yn bwysicach i ni na'r rhestr o bwy rydych chi wedi gweithio iddyn nhw. Ond dyw hynny ddim yn golygu y gall unrhyw un gamu i’r swydd hon. Dim o gwbl. Mae'r gwaith hwn yn mynd i fod yn dipyn o her ac fe gewch eich gwthio!
Mae angen ichi fod yn dda iawn am drin pobl, a phrosiectau. Bydd angen gwybodaeth dda arnoch am fywyd gwyllt ac am reoli cynefinoedd yng Nghymru. Bydd angen ichi allu trin pobl yn ddeheuig a bydd angen ichi allu gweithio’n dda â phobl eraill. Bydd hefyd angen sgiliau dadansoddi cryf arnoch i brosesu gwybodaeth a dewis a dethol pethau pwysig er mwyn cyflawni Glasbrint Tir Canol. Mae bod yn angerddol am gysylltu pobl â bywyd gwyllt, a'u galluogi i weithredu er mwyn diogelu'r byd naturiol, yn bwysig ar gyfer y swydd hon.
Byddai'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol. Serch hynny, os nad ydych yn siaradwr Cymraeg rhugl, byddai deall enwau Cymraeg a gallu ynganu geiriau ac enwau'n gywir yn fantais benodol ichi, gan y byddwch yn gweithio â siaradwyr Cymraeg yn rheolaidd.
Byddwch yn aelod o dîm cyfeillgar, brwdfrydig, sy'n rhoi pwyslais cryf ar gydweithio a chyd-gynhaliaeth. Bydd llawer o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau newydd ac i adeiladu ar feysydd presennol.
Y camau nesaf
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Tachwedd 29ain am hanner dydd 2022.
Rydym yn disgwyl llawer o ddiddordeb yn y rôl hon.
Byddwn yn adolygu ceisiadau ddiwedd mis Tachwedd ac os byddwch ar y rhestr fer, byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad ym mis Rhagfyr.
Coed Cadw sy'n cyllido'r swydd hon, a chaiff ei chynnal gan RSPB Cymru yn rhan o bartneriaeth Tir Canol.
Cyflog
💰 £28,420 - £31,529
Lleoliad
📍 Machynlleth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!