Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth

WWF Cymru

💰 £52k 📍 Caerdydd Ar gau

Mae WWF Cymru yn edrych am Bennaeth Polisi ac Eiriolaeth

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae amser yn brin, ac mae ein planed dy angen di. Rydyn ni yn WWF Cymru yn chwilio am gefnogwr brwd o’r amgylchedd naturiol sydd â sgiliau eiriolaeth arbennig i arwain ar ddatblygu a chyflwyno ein gwaith polisi ac eiriolaeth yng Nghymru.

Fel Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth byddi’n chwarae rôl allweddol er mwyn cyflawni ein nod o fyd lle mae pobl a natur yn ffynnu. Bydd hyn yn cynnwys dylanwadu ar uwch benderfynwyr yn y Senedd, sefydliadau allanol a busnesau. Byddwn yn dibynnu arnat i sicrhau ein bod yn llwyddo i gael effaith yng Nghymru, yn y DU ac yn rhyngwladol. Byddi yn cydweithio gyda chydweithwyr i ddatblygu ymgyrchoedd integredig yn ogystal ag adeiladu cysylltiadau ag elusennau â’r sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru er mwyn ennill cefnogaeth ar gyfer ein cynigion allweddol. Byddi hefyd yn cyfrannu at ddatblygiad cynlluniau gweithgaredd, eiriolaeth gwleidyddol a pholisïau y DU. Bydd hyn yn cynnwys adrodd ar gynnydd mewn cynlluniau a rhannu llwyddiannau ar er mwyn cael effaith ar benderfyniadau ar lefel y DU a byd-eang. Yn arwain tîm bychan, byddi’n rheoli cyllidebau a gweithredu fel llefarydd yn y cyfryngau. Byddi’n ein cynrychioli ar lefel uwch mewn nifer o rwydweithiau allweddol yn ogystal a darparu arweiniad i gydweithwyr lefel uwch ar faterion polisi.

I chwarae dy ran i wireddu ein effaith yng Nghymru, bydd angen profiad sylweddol arnat o arwain datblygu a gweithredu polisi amgylcheddol a dealltwriaeth gryf o llywodraeth a gwleidyddiaeth yng Nghymru. Byddi hefyd yn arbenigwr ar arwain cynnydd strategol a gweithredu ar waith polisi ac yn meddu ar wybodaeth arbenigol ar faterion amgylcheddol. Yn rwydweithiwr a dylanwadwr heb ei ail, yn ddiplomydd a pherswadiwr sydd â sgiliau llafar ac ysgrifenedig rhagorol, byddi’n arbennig am adeiladu perthnasau.

Os wyt ti’n angerddol dros wneud ein byd yn le gwell drwy dy waith, rydyn ni eisiau clywed gen ti. Clicia ar y linc i ymgeisio drwy ein gwefan. Cofrestra ar-lein a danfon copi o dy CV diweddaraf gyda’r Datganiad Cefnogol yn dangos sut wyt ti’n addas i weithio gyda ni.

Mae pob rôl yn WWF yn agored i geisiadau gan bob rhan o’r gymdeithas. Credwn ym mhotensial pawb heb ystyried; rhyw, hil, crefydd neu gred, tarddiad ethnig, gallu corfforol gwahanol, strwythur teuluol, ffactorau economaidd-gymdeithasol, oed, cenedligrwydd neu ddinasyddiaeth, partneriaeth briodasol, ddomestig neu sifil, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd, neu unrhyw agwedd arall sy’n golygu mai chi yw chi. Yma yn WWF, rydym wedi ymrwymo i gynhwysiant ymwybodol sy’n helpu i feithrin ethos o berthyn, cysylltiad a nod cyffredin. Yn ein barn ni, po fwyaf amrywiol ydym ni, gorau y byddwn ni; mae hyn yn ein dwyn ynghyd ac yn ein grymuso i ddatblygu, ymgysylltu ac ysbrydoli; ac yn hollbwysig, i helpu i greu dyfodol lle gall pobl fyw mewn cytgord â natur.  

Mae ein polisïau a’n buddion yn adlewyrchu’r ffaith ei bod yn bwysig i bobl allu cael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith a gallu dod â’u ‘hunan llawn’ i’r gwaith. 

Mae ar ein byd eich angen chi mwy nag erioed o’r blaen. Ni yw’r genhedlaeth gyntaf sy’n gwybod ein bod ni’n dinistrio’r byd ac mae’n bosibl mai ni yw’r genhedlaeth olaf a all wneud unrhyw beth yn ei gylch. Rydyn ni’n chwilio am bobl sy’n teimlo’n angerddol ynghylch ei gwneud yn annerbyniol yn wleidyddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd dinistrio adnoddau naturiol ein planed. Mae arnom angen ichi ymuno yn y frwydr dros ein byd.

Cyflog

💰 £52,303

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Llyfrau Cymru

💰 £42k - £46k pro rata 📍 Castell Brychan Ar gau

Addysg Oedolion Cymru

💰 £25.84 yr awr 📍 Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Powys Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £19k pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

Menter Iaith Fflint a Wrecsam

💰 £20k 📍 Sir y Fflint Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Hyblyg Ar gau

Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy

💰 £22k - £23k 📍 Torfaen Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

💰 £30k 📍 Cwm Clydach Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

💰 £33k 📍 Cwm Clydach Ar gau

Coleg Cambria

💰 £27k - £39k pro rata 📍 Wrecsam Ar gau

Adra

💰 £38k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Brynhyfryd

💰 PRC/ URC CAD1b 📍 Rhuthun Ar gau

Ysgol Brynhyfryd

💰 PRC/ URC CAD2b 📍 Rhuthun Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £30k 📍 Wrecsam Ar gau

Cyngor Caerdydd

💰 £30k - £34k 📍 Caerdydd Ar gau

Coleg Cambria

💰 £27k - £39k pro rata 📍 Wrecsam Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £20k - £22k 📍 Gorllewin Morgannwg Ar gau

Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr

💰 £38k - £44k 📍 Bangor Ar gau

Tinopolis

💰 Yn ôl profiad 📍 Llanelli Ar gau

Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys

💰 £26k - £29k 📍 Sir Gaerfyrddin Ar gau

Arnold Davies Vincent Evans

💰 £19k - £20k 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

Business in Focus

💰 £30k 📍 Pen-y-bont ar Ogwr Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £23k - £26k 📍 Bangor Ar gau