Swyddog Marchnata (Rhentu Doeth Cymru) (Cymraeg Hanfodol)
Mae Cyngor Caerdydd yn edrych am Swyddog Marchnata (Rhentu Doeth Cymru) (Cymraeg Hanfodol)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Rhentu Doeth Cymru yn darparu Cynllun Cofrestru a Thrwyddedu ledled Cymru ar gyfer landlordiaid ac asiantau eiddo sy'n cael ei rentu. Daw hyn yn sgil dynodi Cyngor Caerdydd yn Awdurdod Trwyddedu Sengl i Gymru. Ei nod yw sicrhau eiddo diogel a reolir yn dda ar gyfer tenantiaid drwy sicrhau bod y rhai sy'n gosod ac yn rheoli eiddo yn bobl addas a phriodol i wneud hynny, yn deall eu rhwymedigaethau cyfreithiol ac yn cydymffurfio â gofynion a roddir arnynt yn ôl y gyfraith ac amodau trwydded. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn cynnig cyngor, cymorth a hyfforddiant.
Am y swydd
Arwain y gwaith o ddatblygu cyfathrebu a marchnata gan gynnwys rheoli cyfathrebu, cynllunio a darpariaeth strategol, datblygu perthynas waith dda gyda rhanddeiliaid ar gyfer ymgyrchoedd a phrosiectau ar gyfer Rhentu Doeth Cymru a’i bwerau dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda thîm Cyfathrebu a Chyfryngau’r Cyngor i ddatblygu a darparu prosiectau a gweithgareddau allweddol (mewnol ac allanol) i gefnogi blaenoriaethau cyfathrebu Rhentu Doeth Cymru a sicrhau bod Cyfathrebiadau Marchnata a’r Cyfryngau’n effeithiol.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd deiliad y swydd:
- Wedi ei addysgu i lefel gradd neu â phrofiad amlwg (2 flynedd+) mewn tîm marchnata / cyfathrebu sy'n gwneud gwaith perthnasol
- Yn siaradwr Cymraeg Rhugl
- Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar ynghyd â lefel uchel o sgiliau rhyng-bersonol.
- Yn gallu dangos tystiolaeth o gyflwyno ymgyrch gyfathrebu / marchnata gyda chanlyniadau llwyddiannus
- Yn meddu ar sgiliau amlwg mewn ystod o ddisgyblaethau marchnata gan gynnwys, cysylltiadau Cyfryngau, Brandio, Arddangosfeydd, ymchwil Marchnad, Marchnata E-bost, Rheoli Cyfryngau Cymdeithasol, Post Uniongyrchol, Sgiliau Sgwennu a Golygu Copi
- Yn ddefnyddwyr TG cymwys, yn gyfarwydd ag ystod o feddalwedd priodol gan gynnwys MS Office
- Fod â phrofiad o ddefnyddio meddalwedd dylunio o fewn yr Adobe Creative Cloud e.e. InDesign, Photoshop ac Illustrator
Cyflog
💰 £30,095 - £34,373
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Tîm Cam-Drin Domestig Llochesi - Gwynedd ac Ynys Môn
Mae Grŵp Cynefin/Gorwel yn edrych am Arweinydd Tîm Cam-Drin Domestig Llochesi - Gwynedd ac Ynys Môn
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Chwilio am swydd ym maes cefnogi? Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl a chymunedau? Dewch i weithio i Gorwel!
CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL 1. Meddu ar ddealltwriaeth ragorol o gam-drin domestig, gan gynnwys yr effaith ar ddioddefwyr a'u plant, a'r datrysiadau cyfreithiol ac ymarferol sydd ar gael i'r defnyddwyr gwasanaeth hyn. 2. Gweithredu i sicrhau bod anghenion defnyddwyr gwasanaeth, yn eu llety â chymorth, yn cael eu diwallu'n effeithiol, gan arwain y tîm i sicrhau darpariaeth gyfannol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n arwain at annibyniaeth a bywyd di-drais. 3. Goruchwylio'n annibynnol, gan gymryd cyfrifoldeb am drefnu cyfarfodydd tîm ac adolygiadau blynyddol ar gyfer gweithwyr cymorth y gwasanaeth 4. Cyflwyno a darparu cefnogaeth a goruchwyliaeth effeithiol i bob aelod o staff, gan gynnwys cyflwyno a gweithredu adolygiadau achos a llwyth gwaith arferol yn seiliedig ar adolygu risgiau, anghenion a cham-drin. 5. Nodi a chynllunio rhaglen hyfforddi ar gyfer gweithwyr cefnogi, yn ogystal â bod yn rhan o'r prosesau recriwtio, rheoli perfformiad a disgyblu. 6. Gweithredu'n annibynnol o fewn ffiniau'r rôl, gan benderfynu pryd y mae'n briodol cyfeirio materion at y Rheolwr Gwasanaeth i gael arweiniad. 7. Cyfrifoldeb am sicrhau bod trefniadau priodol ar waith i reoli a monitro risgiau, gan wneud penderfyniadau er mwyn ymateb i risgiau yn hyderus ac yn effeithiol. 8. Cyfrifoldeb i ymateb yn gadarn a gweithredu ar unrhyw bryderon sy'n ymwneud ag Amddiffyn Plant ac Amddiffyn Oedolion sy'n Agored i Niwed, gan gyflwyno adroddiadau a thystiolaeth gywir a ffeithiol ar gyfer cynadleddau achos. 9. Arwain mewn sefyllfaoedd o argyfwng a darparu arweiniad clir i'r tîm a chynnig cyngor a chefnogaeth ymarferol. 10. Arwain ar ddeddfwriaeth budd-daliadau lles / materion diwygio lles er mwyn cynghori'r tîm yn hyderus. 11. Sicrhau gweithdrefnau monitro a rheoli ar gyfer talu budd-dal a rhent, rheoli cyfrifon rhent er mwyn casglu rhent yn effeithiol ac atal ôl-ddyledion. 12. Cyfrifol am weinyddu gweithdrefnau priodol er mwyn monitro’r broses gymorth yn unol â gofynion statudol, deddfwriaeth amddiffyn a chytundebau lefel gwasanaeth cyllidwyr. 13. Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth er mwyn llunio a gweithredu cynllun gweithredol blynyddol ar gyfer y cynlluniau, gan ymateb i ganlyniadau, ystadegau a gofynion cyllidwyr. 14. Paratoi adroddiadau o ansawdd uchel bob chwarter ar gyfer adolygiadau monitro cyllidwyr (e.e. Grant Cymorth Tai, Cymorth i Ferched Cymru), gan gynnwys mynychu cyfarfodydd monitro chwarterol. 15. Cynorthwyo Rheolwyr Gwasanaeth gyda datblygu gwasanaeth ac unrhyw gynlluniau newydd. 16. Bod yn rhan o baratoi a darparu adolygiadau gwasanaeth Grant Cymorth Tai a gweithredu'r argymhellion. 17. Cynorthwyo'r Rheolwr Cynorthwyol i baratoi hunanasesiad blynyddol y gwasanaethau. 18. Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt, gan gynnal perthynas â landlordiaid preifat a chymdeithasol i sicrhau eiddo i ddefnyddwyr gwasanaeth. 19. Mynychu cyfarfodydd a chynadleddau ar gais y Rheolwr Gwasanaeth a bod yn ymwybodol bob amser o'r tueddiadau a'r pynciau llosg cyfredol yn y sectorau cymorth a cham-drin domestig. 20. Cymryd rôl arweiniol, ar y cyd â'r Rheolwr Gwasanaeth, wrth adolygu polisïau a gweithdrefnau Gorwel sy'n ymwneud â chefnogaeth. 21. Arwain ar hyrwyddo a datblygu cyfleoedd cyfranogi ar gyfer y cynlluniau, gan gynnwys gweithredu'r Rhaglen Rhyddid. 22. Meddu ar wybodaeth eang am ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i ddigartrefedd, cam-drin domestig a chefnogaeth. 23. Bod â gweledigaeth i ddatblygu gwasanaethau sy'n cynnig “cefnogaeth a mwy”.
Cyflog
💰 £28,235 - £30,854
Lleoliad
📍 Blaenau Ffestiniog, Llangefni, Caernarfon, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pennaeth Cymeradwyo a Dynodi Cymwysterau
Mae Cymwysterau Cymru yn edrych am Bennaeth Cymeradwyo a Dynodi Cymwysterau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ni yw Cymwysterau Cymru, y sefydliad annibynnol sy’n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol yng Nghymru. Rydym yn canolbwyntio ar gymwysterau a ariennir yn gyhoeddus, gan gynnwys TGAU, Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol.
Rydym ar hyn o bryd yn chwilio am Bennaeth Cymeradwyo a Dynodi Cymhwyster i ymuno â ni ar sail barhaol, amser llawn, gan weithio 37 awr yr wythnos.
Y Manteision
- Cyflog o £51,380 - £61,440 y flwyddyn
- 30 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â gwyliau cyhoeddus a hyd at dri diwrnod o gau swyddfa dros y Nadolig)
- Trefniadau gweithio hyblyg
- Aelodaeth o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
Mae hwn yn gyfle gwych i gyflwyno rhaglen waith i roi canlyniadau o ansawdd uchel i’r sector addysg ledled Cymru.
Y Rôl
Fel Pennaeth Cymeradwyo a Dynodi Cymwysterau, byddwch yn rheoli tîm rheoleiddio sy'n sicrhau bod cymwysterau'n bodloni'r meini prawf angenrheidiol i gael eu derbyn i'n fframwaith.
Yn benodol, byddwch yn goruchwylio'r broses o gynhyrchu tystiolaeth i lywio'r broses o wneud penderfyniadau a rhoi cyngor i sicrhau bod cymwysterau sy'n cael eu diwygio yn bodloni'r safonau angenrheidiol.
Byddwch yn goruchwylio’r gwaith o reoli’r tîm o ddydd i ddydd drwy nodi anghenion staffio, sicrhau bod cyllidebau’n cael eu bodloni a bod gwasanaeth rhagorol yn cael ei ddarparu’n gyson.
Yn ogystal, byddwch yn:
- Goruchwylio datblygiad cronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru
- Sicrhau bod y prosesau cymeradwyo yn bodloni gofynion cyfreithiol
- Lleihau effaith andwyol cymwysterau a dynnir yn ôl ar ddysgwyr
Amdanoch Chi
I gael eich ystyried yn Bennaeth Cymeradwyo a Dynodi Cymhwyster, bydd angen y canlynol arnoch:
- Hanes o reoli, adeiladu ac ysgogi timau hyblyg
- Profiad mewn cyd-destun addysg neu gymwysterau
- Profiad o reoli rhaglenni a phrosiectau
- Gwybodaeth am egwyddorion rheoleiddio
- Gwybodaeth am y system addysg a chymwysterau yng Nghymru
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion asesu
- Sgiliau rheoli rhaglen a phrosiect ardderchog
- Gradd (neu gyfwerth) mewn disgyblaeth berthnasol
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 27 Tachwedd 2022.
Gallai sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Arweinydd Cymeradwyo a Dynodi Cymhwyster, Arweinydd Rhaglen Cymeradwyo a Dynodi Cymhwyster, neu Bennaeth Cymeradwyo a Rheoleiddio Cymwysterau.
Felly, os gallwch sicrhau bod ein cymwysterau yn bodloni safonau rheoleiddio fel Pennaeth Cymeradwyo a Dynodi Cymwysterau, gwnewch gais drwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Cyflog
💰 £51,380 - £61,440
Lleoliad
📍 Casnewydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Catalogydd Clyweledol
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Gatalogydd Clyweledol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Disgrifio cynnwys a chreu metadata ar gyfer eitemau ffilm a delweddau symudol casgliad Archif Sgrin a Sain LlGC, i greu cofnodion catalog a fydd yn rhoi arweiniad clir i ddefnyddwyr ar natur yr eitemau, a chymorth i'w deall a'u dehongli.
Y GYFARWYDDIAETH
Y Gyfarwyddiaeth Casgliadau ac Ymgysylltu sy’n bennaf gyfrifol am gasglu, diogelu a rhoi mynediad i’r casgliadau sydd yng ngofal y Llyfrgell yn unol a’i swyddogaethau craidd. Yn y cyd-destun hwn mae mynediad yn golygu amrywiaeth eang o weithgareddau gan gynnwys gwasanaethau a gweithgareddau ar y safle, arlein ac mewn cymunedau ledled Cymru. Mae gwaith y Gyfarwyddiaeth yn rhan greiddiol o wireddu gweledigaeth y Llyfrgell i fod yn sefydliad sy’n:
“... gwneud gwahaniaeth er gwell i bawb yng Nghymru yn awr ac yn y dyfodol ac i fod yn lyfrgell genedlaethol, agored, blaengar ac arloesol.”
Trwy ei gwaith mae angen i’r Gyfarwyddiaeth alluogi’r Llyfrgell i gyflawni ei hamcanion strategol a llesiant sef:
1. Meithrin a gofalu am gof y genedl
2. Gosod sylfaen economi gwybodaeth
3. Bod yn ganolog i fywyd y genedl
4. Grymuso Ymchwil a Dysg
Mae casgliadau’r Llyfrgell yn cynnwys llyfrau, papurau newydd, mapiau, archifau a llawysgrifau, ynghyd â lluniau, ffotograffau, deunydd clywedol, gwefannau a chynnwys digidol o bob math. Ynghyd â’r casgliadau, mae sgiliau ac arbenigedd staff y Gyfarwyddiaeth hon yn gwbl angenrheidiol er mwyn sicrhau fod y Llyfrgell yn gallu datgloi potensial y casgliadau hyn i gyfoethogi a gwella bywydau pobl Cymru a thu hwnt.
Cyflog
💰 £24,899 - £28,740
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Llyfrgellydd Cynorthwyol (3 diwrnod yr wythnos)
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Lyfrgellydd Cynorthwyol (3 diwrnod yr wythnos)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Datblygu ymwybyddiaeth o Adnau Cyfreithiol Electronig a chyhoeddiadau electronig a chynorthwyo rhoi mynediad iddynt.
Y GYFARWYDDIAETH
Y Gyfarwyddiaeth Casgliadau ac Ymgysylltu sy’n bennaf gyfrifol am gasglu, diogelu a rhoi mynediad i’r casgliadau sydd yng ngofal y Llyfrgell yn unol â’i swyddogaethau craidd. Yn y cyd-destun hwn mae mynediad yn golygu amrywiaeth eang o weithgareddau gan gynnwys gwasanaethau a gweithgareddau ar y safle, ar-lein ac mewn cymunedau ledled Cymru. Mae gwaith y Gyfarwyddiaeth yn rhan greiddiol o wireddu gweledigaeth y Llyfrgell i fod yn sefydliad sy’n:
“... gwneud gwahaniaeth er gwell i bawb yng Nghymru yn awr ac yn y dyfodol ac i fod yn lyfrgell genedlaethol, agored, blaengar ac arloesol.”
Trwy ei gwaith mae angen i’r Gyfarwyddiaeth alluogi’r Llyfrgell i gyflawni ei hamcanion strategol a llesiant sef:
1. Meithrin a gofalu am gof y genedl
2. Gosod sylfaen economi gwybodaeth
3. Bod yn ganolog i fywyd y genedl
4. Grymuso Ymchwil a Dysg
Cyflog
💰 £24,899 - £28,740
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Prosiect Cymunedau Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Prosiect Cymunedau Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas cyffredinol y rôl:
Bydd Rheolwr Prosiect Cymunedau Cymru yn sefydlu, datblygu, a gweithredu prosiect newydd i helpu plant mewn ysgolion ledled Cymru i groesawu a dathlu eu treftadaeth ddiwylliannol amrywiol. Nod y prosiect yw gweithio gydag ysgolion mewn cymunedau ledled Cymru i adrodd straeon trwy lens y bobl amrywiol sydd wedi symud i Gymru ac wedi helpu i lunio’r cymunedau hynny. Bydd y prosiect yn gweithio gyda nhw i gydddatblygu a chyflwyno deunyddiau addysg a dysgu sydd yn dathlu amrywiaeth ac yn annog ymgysylltiad gwrth-hiliaeth.
Y GYFARWYDDIAETH
Mae’r Gyfarwyddiaeth yn gyfrifol am gyflawni nifer o ffwythiannau strategol pwysig, megis cyfathrebu a phartneriaethau, ymgysylltu, adnabod a datblygu cynulleidfaoedd, gwirfoddoli, cyfranogi a dysgu, hyrwyddo a marchnata, arddangosfeydd, profiad yr ymwelydd, codi incwm, Casgliad y Werin ac mewn cydweithrediad â’r Prif Weithredwr a Llyfrgellydd codi arian. Mae pob un o’r ffwythiannau hyn yn elfennau allweddol a hanfodol o Gynllun Strategol y Llyfrgell ac yn ymwneud â meysydd sydd ymhlith blaenoriaethau pennaf y Llyfrgell. Bydd y Gyfarwyddiaeth yn cael ei harwain gan y Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Ymgysylltu a Phartneriaethau a bydd gan y Cyfarwyddwr dri / tair Pennaeth Adran yn atebol.
Cyflog
💰 £26,209 - £33,813
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Dirprwy Glerc y Dref
Mae Cyngor Tref Ffestiniog yn edrych am Ddirprwy Glerc y Dref
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Hoffech chi wneud gwahaniaeth i Fro Ffestiniog? Beth am ymgeisio am y swydd fel Dirprwy Glerc y Dref?
Rôl llawn amrywiaeth, a’r cyfle am hyfforddiant perthnasol i’r swydd.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.
Disgrifiad:
Teitl y Swydd: Dirprwy Glerc y Dref
Cyflog pro rata £27,344 (yn amodol ar gymwysterau a phrofiad)
Oriau: 27.5 awr yr wythnos
Cyflog
💰 £27,344 pro rata
Lleoliad
📍 Blaenau Ffestiniog
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prif Weithredwr
Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn edrych am Brif Weithredwr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn chwilio am arweinydd talentog i weithredu fel ei Brif Weithredwr nesaf.
Disgrifiad:
Rhaid i’r sawl a benodir medru rheoli'r hyn sydd yn ein hanfod yn fusnes bach sy’n cynnwys 16 aelod o staff, 75 aelod tribiwnlys a chyllideb flynyddol o £1.1m. Rhaid iddynt fedru gwneud hyn yng nghyd-destun y sector cyhoeddus, gyda’r holl graffu ac atebolrwydd sy’n gysylltiedig â hynny.
Mae tact a diplomyddiaeth, doethineb a dawn, treiddgarwch a gweledigaeth oll yn rhinweddau hanfodol. Mae gwybodaeth drwyadl am ardrethu annomestig a’r dreth gyngor yn ddymunol iawn hefyd gan mai’r Prif Weithredwr, yn ôl y gyfraith, yw Clerc y Tribiwnlys - er nad yw ymdrin â’r materion hynny yn weithgaredd o ddydd i ddydd. Byddai sgiliau cyfreithiol trosglwyddadwy o feysydd eraill y gyfraith yn dderbyniol. Yn ddelfrydol bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn siaradwr Cymraeg rhugl; ond os nad yw bydd rhaid dangos ymrwymiad brwdfrydig i ddysgu’r Gymraeg a’i defnyddio ym mywyd a busnes dyddiol Tribiwnlys Prisio Cymru.
Bydd y broses benodi yn cynnwys o leiaf un diwrnod asesu, a ddilynir gan gyfweliad ffurfiol ar ddiwrnod arall gerbron Cyngor Llywodraethu Tribiwnlys Prisio Cymru Bydd y swydd yn dechrau yng ngwanwyn 2023, yn dilyn ymddeoliad ein Prif Weithredwr presennol, Andrew Shipsides.
Cewch ragor o fanylion a ffurflen gais ar wefan Tribiwnlys Prisio Cymru: www.tribiwnlysprisio.cymru.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 6 Ionawr 2023.
Cyflog
💰 hyd at £69,496
Lleoliad
📍 Casnewydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Clercod Tribiwnlys
Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn edrych am Glercod Tribiwnlys
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Tribiwnlys Prisio Cymru am benodi hyd at ddau Glerc Tribiwnlys. Mae Clercod Tribiwnlys yn darparu gwasanaethau cymorth i aelodau'r tribiwnlys. Un o'r prif swyddogaethau yw darparu cyngor yng ngwrandawiad y Tribiwnlys ar gyfraith trethiant lleol yng Nghymru (y Dreth Gyngor ac Ardrethi Busnes). Rhoddir hyfforddiant ar hyn.
Disgrifiad:
Rydym yn agored i geisiadau gan raddedigion prifysgol neu bobl sydd â phrofiad a/neu gymwysterau refeniw lleol. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu penodi i bwynt ar y raddfa gyflog sy'n briodol i'w cymwysterau a'u gwybodaeth gyfredol.
Os ydych yn byw yng Nghasnewydd neu’n agos ato, eich gweithle fydd ein swyddfa yng Nghasnewydd. Os ydych yn byw yn rhywle arall, byddwch yn gweithio gartref. Bydd angen teithio’n rheolaidd ledled Cymru, ac o bryd i’w gilydd bydd hyn yn golygu bod angen aros oddi cartref dros nos. Bydd y Tribiwnlys yn talu eich costau teithio. Mae lwfans defnyddiwr car blynyddol (£1,239) hefyd yn daladwy.
Ewch i www.tribiwnlysprisio.cymru am ragor o fanylion. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 16 Rhagfyr 2022.
Cyflog
💰 £25,878 - £40,478
Lleoliad
📍 Casnewydd, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Clercyddol
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Swyddog Clercyddol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Gwasanaeth Cyllid yn gwahodd ymgeiswyr am swydd Swyddog Clercyddol parhaol i ymuno â thîm prysur sy’n cefnogi gweithrediadau’r Gwasanaeth Ystadau a Champws. Byddwch yn gweithio'n agos â rheolwyr y tîm ac aelodau eraill y tîm i wneud amrywiaeth o dasgau prosesu, monitro ac adrodd cyllidol, gan rannu cyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaeth hyblyg ac ymatebol ar draws amrywiaeth o leoliadau yn ôl gofynion gweithredol.
Byddwch wedi cael addysg hyd lefel TGAU (lleiafswm o 5 gyda graddau A* - C, yn cynnwys Saesneg a Mathemateg) neu NVQ lefel 2 (neu gymhwyster cyfwerth) mewn maes pwnc perthnasol. Bydd gennych hefyd sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol.
Byddwch yn gallu gweithio ar eich menter eich hun ac fel rhan o dîm mawr prysur. Mae sgiliau TG da a gwybodaeth o Excel a Word yn hanfodol. Byddwch yn aelod tîm blaengar, ymroddedig, effeithiol a chefnogol sy'n gallu gweithio'n hyblyg, yn gyflym ac yn gywir i derfynau amser tynn.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd hon ar sail ran amser neu rannu swydd.
Mae gallu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg yn un o ofynion dymunol y swydd hon. Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus ddechrau cyn gynted â phosib.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 27 Tachwedd, 2022.
Cewch wneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu ag: Alison Armstrong, Uwch Gyfrifydd, e-bost; [email protected], ffôn: (01248) 38382169
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £21,630 - £22,662
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogi Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri (Cyfnod Mamolaeth)
Mae Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Eryri yn edrych am Swyddog Cefnogi Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri (Cyfnod Mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Eryri, y mudiad ieuenctid, am benodi Swyddog Cefnogi. Mae hon yn swydd lawn amser neu ran amser, yn ôl dymuniad yr ymgeisydd, gyda chytundeb blwyddyn o hyd i gychwyn.
Disgrifiad:
PECYN RECRIWTIO
Swyddog Cefnogi Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri (Cyfnod Mamolaeth)
Swydd lawn amser (37 awr yr wythnos) neu ran amser (yn ddibynnol ar ddymuniad yr ymgeisydd llwyddianus), cytundeb yn ystod cyfnod mamolaeth y deilydd.
Dyddiad cau: 12.00 pm, dydd Gwener 2 Rhagfyr
Cyfweliadau: wythnos yn cychwyn 5 Rhagfyr
Cyflog: £23,000 - £25,000 pro rata* (yn ddibynnol ar brofiad)
Dyddiad cychwyn: Cyn gynted â phosib
CFfI Eryri – Amdanon ni
Mae Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Eryri, y mudiad ieuenctid, am benodi Swyddog Cefnogi i’r mudiad. Mae hon yn swydd lawn amser neu ran amser, yn ôl dymuniad yr ymgeisydd.
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn deinamig, ymroddedig sydd â gweledigaeth, a all gyflawni gwaith dydd i ddydd y mudiad wrth i ni barhau i ail-ddychmygu a siapio dyfodol Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri, gan gadw'n driw at ein gwerthoedd sylfaenol.
Ers ei sefydlu yn 1943, mae Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri wedi bod yn ganolbwynt amhrisiadwy i filoedd o aelodau ar draws y Sir, sydd yn cynrychioli rhannau o Wynedd a Chonwy. Mae oedran aelodaeth y mudiad yn amrywio o 13 – 30 mlwydd oed, ac mae yna unarddeg clwb lleol yn Eryri: Caernarfon, Dyffryn Madog, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen, Godre’r Eifl, Llangybi, Llanrwst, Porthdinllaen, Rowen, Y Rhiw ac Ysbyty Ifan.
Mae CFfI Eryri, ynghyd â CFfI Ynys Môn, wedi ein tadoli i CFfI Cymru ac yn cyfrannu tuag at waith a gweithgareddau’r mudiad ar lefel Cymru hefyd.
Mae’r mudiad yn cael ei redeg yn ddemocrataidd er budd y bobl ifanc, dan ofal Pwyllgor Gwaith sy’n cynrychioli’r aelodau.
Ynglŷn â’r swydd
Swyddog Cefnogi Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri fydd y prif gyswllt ar gyfer aelodau, swyddogion a ffrindiau’r Mudiad o ddydd i ddydd.
Y Swyddog Cefnogi sydd yn paratoi rhaglen ddatblygu ar gyfer y Ffederasiwn, dan arweiniad y Pwyllgor Gwaith a’r swyddogion sirol, gan gefnogi swyddogion y Sir i drefnu gweithgareddau a gweithrediadau’r Mudiad o flwyddyn i flwyddyn. Gyda chymorth y swyddogion sirol, bydd y Swyddog Cefnogi yn asesu anghenion clybiau ac yn darparu gwasanaethau yn unol a’r anghenion hynny. Maent hefyd yn gyfrifol am gynnal trefn ddemocrataidd y Mudiad, a meithrin a chynnal partneriaethau gyda mudiadau a chyrff perthnasol eraill sydd yn gweithredu yn yr un maes.
Mae’n swydd fywiog a chymdiethasol tu hwnt, a chyfle amrhisiadwy i weithio gyda phobl ifanc yng nghefn gwlad Gwynedd (Arfon/Dwyfor) a Dyffryn Conwy er mwyn magu sgiliau oes.
Rydym yn hysbysebu’r swydd hon fel swydd lawn amser neu ran amser, yn ddibynnol ar ddymuniad yr ymgeisydd llwyddianus. Bydd y cyfrifoldebau yn cael eu lleihau fel sydd angen yn ddibynnol ar gyfanswm oriau’r ymgeisydd llwyddianus.
Cyflog a breintiau
Y cyflog ar gyfer y rôl hon yw £23,000 - £25,000 y flwyddyn (pro rata).
Caniateir 25 diwrnod o wyliau (pro rata), yn cynnwys Gwyliau Banc; yn ogystal a system oriau mewn llaw (TOIL), ble mae modd cario hyd at 2 ddiwrnod o TOIL o un mis i’r llall.
Bydd y Ffederasiwn yn cynnig Cynllun Pensiwn NEST i’r swyddog, a delir yn unol â’r cyfraddau cenedlaethol.
Er bod Swyddfa ar gael, mae modd i ddeilydd y swydd weithio o adref rai diwrnodau neu rai cyfnodau, yn dilyn caniatad y rheolwr llinell. Ar gyfer y diben hwn, mae’r Mudiad yn darparu gliniadur, ffôn. iPad ac argraffydd. Sut i wneud cais
Darllenwch y wybodaeth yn y pecyn recriwtio hwn a’r swydd ddisgrifiad yn fanwl.
Llenwch y ffurflen gais er mwyn rhoi gwybod i ni:
- Pam fod gennych ddiddordeb yn y swydd
- Manylion eich sgiliau, eich gwybodaeth a'ch profiad a sut y byddent yn berthnasol i waith Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Eryri
- Unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol i'r swydd rydych chi'n ymgeisio amdani
Anfonwch eich ffurflen gais at [email protected] erbyn 12.00 pm, 2 Rhagfyr 2022:
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Byddwn yn asesu'r ceisiadau ac yn gwahodd ymgeiswyr llwyddiannus i gyfweliad yn ystod yr wythnos yn cychwyn 5 Rhagfyr 2022. Bydd y panel cyfweld yn cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Staffio; Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith a chynrychiolydd o’r Pwyllgor Cyllid a Staffio.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau o gwbl neu os hoffech gael sgwrs gychwynnol, cysylltwch â ni drwy [email protected]
Mae Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Eryri yn elusen gofrestredig ac yn gweithio dan arweiniad, ac er budd, yr aelodau.
Cyflog
💰 £23,000 - £25,000 pro rata
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwy-ydd Cefnogi Dysgu Cymraeg Caerdydd
Mae Prifysgol Caerdydd yn edrych am Gynorthwy-ydd Cefnogi Dysgu Cymraeg Caerdydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Ysgol y Gymraeg yn chwilio am gynorthwyydd gweinyddol i roi cymorth clerigol llawn i ddarpariaeth Dysgu Cymraeg Caerdydd.
Disgrifiad:
Rhif y swydd: 15553BR
Cynorthwyydd Cefnogi Dysgu Cymraeg Caerdydd
Mae Ysgol y Gymraeg yn chwilio am gynorthwyydd gweinyddol i roi cymorth clerigol llawn i ddarpariaeth Dysgu Cymraeg Caerdydd.
Mae'r swydd yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau gweinyddol i gynorthwyo'r darpariaeth o fewn Ysgol y Gymraeg, gan gynnwys materion logisteg, megis cyflenwi a lleoliadau, gweinyddu prosesau ariannol, anfonebau, derbyn nwyddau ac yn y blaen, a chynorthwyo'r Swyddog Cefnogi Dysgu Cymraeg Caerdydd.
Mae’r swydd hon yn un llawn amser (35 awr yr wythnos) a thymor penodol hyd at 31 Gorffennaf 2027.
Cyflog: £21,197 – £23,144 y flwyddyn (Gradd 3)
Dyddiad Cau: Dydd Mercher, 9 Tachwedd 2022
Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 10 Tachwedd 2022
Dyddiad Cau: Dydd Sul, 27 Tachwedd 2022
Hysbysebwyd y swydd hon i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig yn flaenorol. Rydym nawr yn gwahodd ceisiadau allanol.
Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau‘r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi‘u derbyn.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu Prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Cyflog
💰 £21,197 - £23,144
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau)
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Gynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio ar hyn o bryd am Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau) i ymuno â’n campws yng Nghaerfyrddin yn llawn-amser am gyfnod parhaol gan weithio 37 awr yr wythnos.
Disgrifiad:
Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau)
Campws Caerfyrddin (gyda theithio i gampysau eraill yn ôl yr angen)
£21,197 i £23,144 y flwyddyn
- AMDANOM NI -
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu'r wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn yr wythfed safle yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.
Rydym yn chwilio ar hyn o bryd am Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau) i ymuno â’n campws yng Nghaerfyrddin yn llawn-amser am gyfnod parhaol gan weithio 37 awr yr wythnos.
- Y RÔL –
Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio’n effeithiol heb oruchwyliaeth barhaus a chyfrannu tuag at amgylchedd gyfeillgar a chreadigol y Ganolfan. Bydd yn cydweithio’n agos ac yn effeithiol gyda’r Cydlynydd Digwyddiadau a Phrosiectau er mwyn cefnogi gweithgareddau amrywiol yn y ganolfan ac ar-lein gan sicrhau trefniadaeth llyfn ac effeithiol. Elfen bwysig arall o’r rôl yw cefnogi rhaglen greadigol Yr Egin gan gynorthwyo’r Swyddog Cyfathrebu i hyrwyddo digwyddiadau byw, cynadleddau, sinema a gweithdai, ynghyd â sicrhau defnydd effeithiol o feddalwedd swyddfa docynnau a phlatfformau digidol a chyfryngau cymdeithasol.
Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol ‘Manyleb y Person'.
- AMDANOCH CHI -
I gael eich ystyried ar gyfer rôl y Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau), bydd arnoch angen y canlynol:
- Addysg gyffredinol dda
- Tystiolaeth o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel
- Profiad o weinyddu trefniadau cyfarfodydd, cynadleddau neu ddigwyddiadau
- Profiad blaenorol o ddarparu cefnogaeth weinyddol o safon
- Hyddysg mewn TG ac yn meddu ar wybodaeth am becynnau Microsoft Office, a phlatfformau'r cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein
- Y gallu i gydlynu gweithgareddau’n effeithiol
- Medrusrwydd gyda phlatfformau arlein
- Yn barod i weithio’n hyblyg, gan gynnwys teithio rhwng campysau a lleoliadau pan fo angen
- Cydnabod yr angen am gyfrinachedd priodol a gallu gweithredu ar hynny
- Dangos parch tuag at ystod amrywiol o bobl
- Siaradwr/aig Cymraeg gyda’r gallu i sgwrsio’n hyderus yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gyda’r gallu i ysgrifennu am faterion annhechnegol *
Byddai’n fuddiol hefyd pe bai gennych y canlynol:
- Profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad digwyddiadau byw, theatr neu sinema
- Diddordeb brwd yn y diwydiannau creadigol
- BUDDION -
- Bydd gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gŵyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau
Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:
- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu
- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau
- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela
- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith
Felly, os ydych yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal ein Prifysgol yn rôl y Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau), gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.
Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.
Dyddiad cau: 30 Tachwedd 2022, 11:59pm
Cyflog
💰 £21,197 - £23,144
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) Ar-lein Cymraeg
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn edrych am Gydlynydd Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) Ar-lein Cymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r Tîm Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) Ar-lein fel Cydlynydd CBT Cymraeg. Bydd deiliad y swydd yn gweithio o bell yn bennaf (bydd offer TG yn cael ei ddarparu) ond yn gallu teithio i safleoedd ar adegau.
Disgrifiad:
Mae Silver Cloud yn wasanaeth Cymru gyfan unigryw sy’n darparu gwasanaeth therapi ar-lein wedi'i gynllunio i helpu plant, pobl ifanc ac oedolion reoli eu hiechyd meddwl a'u lles. Bwrdd Iechyd Addysgu Powys sy'n darparu'r gwasanaeth, felly bydd croeso cynnes i chi i dîm cyfeillgar sy’n cynnig y cyfle i weithio gyda chleifion ar draws y wlad.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant sydd â phrofiad o CBT i gynnig cymorth clinigol tra'n canolbwyntio ar adferiad a chanlyniadau.
Mae’r gallu i gynnal sgwrs naturiol yn Gymraeg i gefnogi cleifion yn hanfodol, ynghyd â gradd anrhydedd mewn Seicoleg (neu gyfwerth).
Rhoddir hyfforddiant gan dîm SilverCloud ar bob agwedd o'r rôl ac mae hyfforddiant a chefnogaeth ar gael i wella sgiliau ysgrifenedig Cymraeg os oes angen. Mae cyfleoedd hyfforddiant DPP hefyd ar gael trwy’r bwrdd iechyd. Mae cymorth clinigol ar gael i chi 9-5 o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae gofynion y swydd yn cynnwys cynnal safon uchel ym mhob math o gyfathrebu, sgiliau TG sylfaenol, gweithio'n dda dan bwysau, a meddu ar ddull hyblyg o weithio.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Fel rhan o’r swydd byddwch yn gwneud y canlynol:
Gweithio o fewn tîm cyfeillgar mawr, ochr yn ochr â Chydlynwyr CBT eraill i hybu a gweinyddu'r Gwasanaeth CBT Ar-lein.
Cynnal cofnodion cleifion, cofrestru defnyddwyr newydd i’r gwasanaeth, rhannu manylion actifadu a monitro cynnydd.
Arwain gwaith cyfathrebu gyda chleifion sy'n siarad Cymraeg ledled Cymru.
Ysgogi, annog a chynnig cymorth clinigol dros y ffôn/e-bost.
Gwneud penderfyniadau ar addasrwydd atgyfeiriadau newydd, gan gadw at brotocolau cyfeirio'r adran a chyfeirio cleientiaid anaddas ymlaen at y gwasanaeth perthnasol.
Cynnig cymorth a chyngor i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n cwblhau’r atgyfeiriad, gan ateb ymholiadau sydd ganddyn nhw neu ddefnyddwyr y gwasanaeth.
Chwarae rhan weithredol wrth gynnig a chefnogi newidiadau i weithdrefnau.
Bod yn gyfrifol am reoli'r broses protocol ar gyfer monitro ac adrodd unrhyw rybuddion risg, bwriad troseddol neu ddirywiad cleifion fel yr adroddwyd gan y defnyddwyr naill ai o fewn y system CBT ar-lein neu'n uniongyrchol.
Rheoli cyfrifoldeb clinigol am unrhyw hunan-atgyfeiriadau.
Darparu hyfforddiant a chefnogaeth barhaus i gydweithwyr ac i’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a wnaeth yr atgyfeiriad yn ymwneud â'r gwasanaeth CBT ar-lein.
Mae hon yn swydd lawn amser am gyfnod o ddwy flynedd gyda lleoliad hyblyg. Am fanylion pellach am y swydd a sut i ymgeisio ewch i: Swyddi Cyfredol ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)
Cyflog
💰 £27,055 - £32,934
Lleoliad
📍 Aberhonddu
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Marchnata (Rhentu Doeth Cymru) (Cymraeg Hanfodol)
Mae Cyngor Caerdydd yn edrych am Swyddog Marchnata (Rhentu Doeth Cymru) (Cymraeg Hanfodol)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Arwain y gwaith o ddatblygu cyfathrebu a marchnata gan gynnwys rheoli cyfathrebu, cynllunio a darpariaeth strategol, datblygu perthynas waith dda gyda rhanddeiliaid ar gyfer ymgyrchoedd a phrosiectau ar gyfer Rhentu Doeth Cymru a’i bwerau dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Disgrifiad:
Cyfeirnod: RES00892
Am Y Gwasanaeth
Mae Rhentu Doeth Cymru yn darparu Cynllun Cofrestru a Thrwyddedu ledled Cymru ar gyfer landlordiaid ac asiantau eiddo sy'n cael ei rentu. Daw hyn yn sgil dynodi Cyngor Caerdydd yn Awdurdod Trwyddedu Sengl i Gymru. Ei nod yw sicrhau eiddo diogel a reolir yn dda ar gyfer tenantiaid drwy sicrhau bod y rhai sy'n gosod ac yn rheoli eiddo yn bobl addas a phriodol i wneud hynny, yn deall eu rhwymedigaethau cyfreithiol ac yn cydymffurfio â gofynion a roddir arnynt yn ôl y gyfraith ac amodau trwydded. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn cynnig cyngor, cymorth a hyfforddiant.
Am y swydd
Arwain y gwaith o ddatblygu cyfathrebu a marchnata gan gynnwys rheoli cyfathrebu, cynllunio a darpariaeth strategol, datblygu perthynas waith dda gyda rhanddeiliaid ar gyfer ymgyrchoedd a phrosiectau ar gyfer Rhentu Doeth Cymru a’i bwerau dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda thîm Cyfathrebu a Chyfryngau’r Cyngor i ddatblygu a darparu prosiectau a gweithgareddau allweddol (mewnol ac allanol) i gefnogi blaenoriaethau cyfathrebu Rhentu Doeth Cymru a sicrhau bod Cyfathrebiadau Marchnata a’r Cyfryngau’n effeithiol.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd deiliad y swydd:
- Wedi ei addysgu i lefel gradd neu â phrofiad amlwg (2 flynedd+) mewn tîm marchnata / cyfathrebu sy'n gwneud gwaith perthnasol
- Yn siaradwr Cymraeg Rhugl
- Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar ynghyd â lefel uchel o sgiliau rhyng-bersonol
- Yn gallu dangos tystiolaeth o gyflwyno ymgyrch gyfathrebu / marchnata gyda chanlyniadau llwyddiannus
- Yn meddu ar sgiliau amlwg mewn ystod o ddisgyblaethau marchnata gan gynnwys, cysylltiadau Cyfryngau, Brandio, Arddangosfeydd, ymchwil Marchnad, Marchnata E-bost, Rheoli Cyfryngau Cymdeithasol, Post Uniongyrchol, Sgiliau Sgwennu a Golygu Copi
- Yn ddefnyddwyr TG cymwys, yn gyfarwydd ag ystod o feddalwedd priodol gan gynnwys MS Office
- Fod â phrofiad o ddefnyddio meddalwedd dylunio o fewn yr Adobe Creative Cloud e.e. InDesign, Photoshop ac Illustrator
Cyflog
💰 £30,095 - £34,373
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Hyfforddiant a Chyfathrebu
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn edrych am Swyddog Hyfforddiant a Chyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae gan Gronfa Bensiwn Dyfed, sy'n gweinyddu'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar gyfer nifer o gyflogwyr, ac hefyd Gynllun Pensiwn yr Heddlu â’r Gwasanaeth Tân, gyfle i chi ymuno â'n tîm fel Swyddog Pensiynau.
Disgrifiad:
Byddwch yn gyfrifol am rhoi cymorth gweinyddol wrth ddarparu strategaeth gyfathrebu effeithiol sy'n cynnwys aelodau'r cynllun, darpar aelodau'r cynllun, pensiynwyr a chyflogwyr sy'n cymryd rhan yng Nghynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol, yr Heddlu a'r Gwasanaeth Tân a byddwch yn gallu cyfrannu at ddatblygiad ein gwaith yn y dyfodol ar adeg gyffrous ym myd pensiynau.
Rydym yn adran brysur ac yn ymfalchïo mewn darparu'r gwasanaeth gorau y gallwn i aelodau’r cynllun pensiwn a’n pensiynwyr.
Os oes gennych sgiliau cyfathrebu gwych, profiad o weithio mewn amgylchedd pensiynau ac os oes gennych ddealltwriaeth am gynlluniau pensiwn cyflog terfynol a cyfartaledd gyrfa a deddfwriaeth, yna gwnewch gais erbyn y dyddiad cau.
Rydym yn gyflogwr sy'n cefnogi cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith ac felly'n darparu atebion hyblyg i sicrhau y gall gweithwyr gyflawni hyn. Felly, byddai deiliad y swydd, yn unol ag angen busnes, yn gallu gweithio'n hyblyg o wahanol leoliadau dynodedig gan gynnwys gweithio gartref.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Martin Morgan ar 01267 224452.
Cyflog
💰 £29,174 - £33,486
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Datblygu Cymunedol
Mae Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy yn edrych am Swyddog Datblygu Cymunedol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi’n hoffi trefnu gweithgareddau ac yn caru’r Gymraeg?
Mae Sefydliad Corfforedig Elusennol Menter Iaith BGTM (rhif elusennol 1181104) yn chwilio am berson arbennig i adeiladu ar y gwaith o hyrwyddo a datblygu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn lleol.
Cefndir
Nod y Mentrau Iaith ydy hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Cymru. Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth yn 1991,ac erbyn hyn mae 22 Menter Iaith yn gwasanaethu pob rhan o Gymru. Wedi tyfu o awydd a dyheadau pobl leol y mae’r Mentrau Iaith, er mwyn hyrwyddo defnydd y Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd yn eu cymunedau. Mae’r Mentrau Iaith yn un o bartneriaid allweddol Llywodraeth Cymru ac yn gweithredu ar lawr gwlad i wireddu amcanion Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg – sydd yn nodi sut bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Mae pob Menter Iaith yn gweithredu mewn ffordd unigryw yn ddibynnol ar anghenion lleol.
Disgrifiad Swydd/Prif Gyfrifoldebau:-
Darparu cyfleoedd i drigolion y sir gael mynediad i ddigwyddiadau ieithyddol, diwylliannol a chelfyddydol.
Grymuso grymuso unigolion, grwpiau a chymunedau i ddefnyddio’r iaith.
Asesu anghenion cymunedau Blaenau Gwent a Thorfaen o safbwynt gweithgareddau cyfrwng Cymraeg drwy broses o ymgynghori eang.
Meithrin a datblygu cysylltiadau agos gyda grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol a phartneriaid eraill (e.e Cymraeg i Oedolion Gwent, Mudiad Meithrin) gan gydlynu a threfnu gweithgareddau blaengar a deniadol a’u gwerthuso’n gyson.
Gweithio gyda phlant a phobl o bob oedran.
Datblygu prosiectau penodol a flaenoriaethwyd yng nghais a thargedau’r Llywodraeth.
Cyfrannu at brosesau gwerthuso a monitro'r Fenter.
Hyrwyddo gwaith y Fenter trwy ddefnydd helaeth o’r cyfryngau cymdeithasol a’r wefan.
Codi proffil y Fenter yn y wasg leol a chenedlaethol, paratoi datganiadau ac erthyglau cyson a’u dosbarthu i’r wasg a’r cyfryngau ac ati.
Paratoi ceisiadau am nawdd.
Manyleb person
Sgiliau Iaith Gymraeg da ar lafar ac yn ysgrifendig yn hanfodol Dealltwriaeth o ddiwylliant ac anghenion ieithyddol Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy
Profiad o weithio gyda phlant ac oedolion a threfnu amrwy o weithgareddau ar eu cyfer
Y gallu i gyfathrebu’n glir yn Gymraeg a Saesneg ar bob lefel a gweithio gydag ystod eang o oedrannau
Hyderus pan yn weithio’n annibynnol ac yn dangos blaengaredd
Profiad o greu ac annog syniadau newydd (arloesol)
Sgiliau safonol o ddefnyddio TG / cyfryngau cymdeithasol
DBS cyfredol
Trwydded yrru gyfredol a char
Telerau’r Swydd
Cyflog: £22,500 - £23,111 (yn ddibynol ar sgiliau a phrofiad)
Telir cyfraniad pensiwn cyflogwr (8%) yn ychwanegol
Costau Teithio
Telir costau teithio yn ôl graddfa CThEM
Oriau Gwaith
37.5 awr yr wythnos. Yn ddelfrydol bydd hon yn swydd amser llawn ond gellir ystyried ymgeiswyr sydd am weithio’n rhan amser.
Gwyliau
28 diwrnod y flwyddyn (+2 ddydd ychwanegol ar gyfer y Nadolig)
Hyd y Cytundeb
Parhaol
Bydd angen cwblhau cyfnod prawf o dri mis yn llwyddiannus.
Strwythur Rheoli
Byddwch yn gweithio o dan gyfarwyddyd Prif Swyddog ac yn atebol i fwrdd Ymddiriedolwyr y Fenter.
Lleoliad swyddfa’r Fenter
Ystafell L4 Alder Suite, Tŷ Mamhilad C
Llawr Cyntaf Gogledd
Ystad Parc Mamhilad Park
Pontypŵl
NP4 0HZ
*Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus weithio mewn swyddfeydd ledled y siroedd ar adegau yn ogystal â'r posibilrwydd o gweithio o gartref
Dyddiad Cau: 9 Rhagfyr 2022
Cyswllt: Sioned Davies
Dychwelwch y ffurflen trwy ebost os gwelwch yn dda erbyn 5pm, Dydd Gwener, 9 Rhagfyr 2022
Cyflog
💰 £22,500 - £23,111
Lleoliad
📍 O gartref, Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwydd Cyfrifon
Mae Dunn & Ellis Cyf yn edrych am Gynorthwydd Cyfrifon
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle cyffrous i ymuno â thîm brwdfrydig ac egnïol yn Dunn & Ellis Cyf. Rydym yn chwilio am unigolyn gweithgar, trefnus a dibynadwy sy'n gallu gweithio'n dda mewn amgylchedd swyddfa brysur.
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau:
• Mewnbynnu gwybodaeth ariannol cleientiaid ar feddalwedd cyfrifo e.e. QuickBooks, Sage, Xero
• Cysoni cyfrifon banc misol
• Paratoi'r ffurflen TAW chwarterol o feddalwedd cyfrifo a'i chyflwyno i CThEM
• Cyfathrebu'n effeithiol gyda gweithwyr yr adran gyfrifon, i sicrhau bod unrhyw faterion sy'n codi yn cael eu datrys yn effeithiol
• Tasgau cyffredinol a dyletswyddau eraill yn ôl yr angen Sgiliau hanfodol:
• Hyderus wrth ddefnyddio MS Office ac Excel
• Profiad yn naill ai Quickbooks, Sage, Xero - yn ddymunol ond nid yn hanfodol, bydd hyfforddiant llawn ar gael
• Y gallu i weithio'n dda ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm
• Sgiliau rhifiadol da a sylw i fanylion
• Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddelfrydol ond dim yn hanfodol Swydd llawn amser (36 ¼ awr) neu ran amser ar gael:
• Cyflog rhwng £18,000 - £25,000 (yn dibynnu ar brofiad)
• Hyfforddiant mewn amryw o feddalweddau cyfrifo e.e. QuickBooks, Sage, Xero.
• Oriau hyblyg – dydd Llun i ddydd Gwener (36 ¼ awr)
• Gwyliau – 25 diwrnod a gwyliau banc
• Pensiwn gweithle
• Cynllun iechyd Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Nia Fon Lane ar (01766) 512 361.
I wneud cais am y swydd, anfonwch CV a llythyr eglurhaol i [email protected]
Cyflog
💰 £18,000 - £25,000
Lleoliad
📍 Porthmadog
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Polisi ac Ymarfer
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn edrych am Arweinydd Polisi ac Ymarfer
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae hon yn swydd gyffrous ac amrywiol ar gyfer unigolyn sy’n mwynhau’r cyfle i ddatblygu a chynnal perthynas waith ragorol gyda phobl hŷn a rhanddeiliaid allweddol.
Disgrifiad:
Byddwch yn ymwneud â meysydd polisi sy’n gysylltiedig â’r wyth maes sy’n ystyriol o oedran ac yn defnyddio eich sgiliau dylanwadu i annog a galluogi rhanddeiliaid i rannu arfer da.
Mae gallu cyfathrebu’n fedrus yn y Gymraeg yn hanfodol.
Cyflog
💰 £41,704 - £47,840
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Dylunydd Graffeg
Mae Tinopolis yn edrych am Ddylunydd Graffeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a chreadigol i ymuno â thîm cynhyrchu Tinopolis. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'r adran graffeg i weithio ar lu o raglenni gan gynn- wys dwy sioe gylchgrawn dyddiol byw, rhaglenni trafod, rhaglenni dogfen a chwaraeon.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio yn amgylchedd byw darlledu teledu â chreu cynnwys creadi- gol gwreiddiol ac amrywiol. Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn amryddawn a meddu ar y gallu i weithio'n unigol neu greu ar y cyd ag eraill ar amrywiaeth o brosiectau. Mae’r gallu i ddefnyddio meddalwedd Adobe yn hanfodol a byddai bod yn gyfarwydd â meddalwedd 3D yn fuddiol. Darperir hyfforddiant ar gyfer darlledu byw gan ddefnyddio'r Grass Valley, XPression a Maestro.
Byddai'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol oherwydd natur y cynyrchiadau a'r amgylchedd gwaith.
Rydym yn gwmni sydd am adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac yn credu mewn amrywiaeth a chyfle cyfartal. Rydym bob amser yn croesawu ceisiadau gan unigolion o unrhyw oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb a chefndir cymdeithasol yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.
Lleoliad: Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli SA15 3YE
Cyflog: Yn ddibynnol ar brofiad
Cytundeb: I ddechrau cyfnod o 12 mis gyda phrawf o 6 mis 27 Tachwedd 2022
Dyddiad Cau: 27 Tachwedd 2022
**Manylion pellach **
Oriau Gwaith: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos dros 5 diwrnod. Ond oherwydd natur y swydd ac oriau rhaglenni disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 27 Tachwedd 2022 at [email protected] neu Swyddi, Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE. Fe dderbynnir ceisiadau fideo.
Cyflog
💰 Yn ddibynnol ar brofiad
Lleoliad
📍 Llanelli
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Golygydd Creadigol Cyhoeddiadau Barddas
Mae Barddas yn edrych am Olygydd Creadigol Cyhoeddiadau Barddas
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma gyfle unigryw i berson brwdfrydig a gweithgar gyfrannu i fyd barddoniaeth Gymraeg, drwy lywio cyfrolau o bob math drwy’r wasg, o ddychmygu egin cyfrol i’w gweld ar silffoedd siopau.
Mae Golygydd Creadigol Cyhoeddiadau Barddas yn gyfrifol am y rhaglen gyhoeddi drwy nawdd a chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru, sef 9 llyfr y flwyddyn o leiaf, ac ambell gyfrol arall y bydd galw amdani. Croesawir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau trosglwyddiadwy.
“Roedd bod yn olygydd creadigol i Gyhoeddiadau Barddas yn brofiad i’w drysori. Cefais gyfle i ddatblygu a magu hyder fel golygydd ar amrywiaeth o gyfrolau. Yn wir, mae bod yn rhan o’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn gyffrous iawn ar hyn o bryd.”
Alaw Mai Edwards, Cyn-olygydd Creadigol Cyhoeddiadau Barddas.
Disgrifiad:
Lleoliad: Gweithio o gartref, ond bydd angen teithio i ddigwyddiadau yma ac acw yng Nghymru yn achlysurol.
Cyflog: Graddfa gyfatebol i’r NJC rhwng rhicynau 24 a 29 (£29,174 – £33, 486 y flwyddyn, dan adolygiad), pro rata.
Oriau gwaith: Rhan amser – 24 awr yr wythnos (wythnos lawn 37 awr) i’w gweithio yn ôl dymuniad yr ymgeisydd, drwy gytundeb â’r cyflogwr.
Cytundeb: Parhaol, yn gyflogedig, yn ddibynnol ar gyflawniad y cyfnod prawf o 6 mis.
Profiad a chymwysterau: Darllenwch y disgrifiad swydd am fwy o wybodaeth.
Sut i wneud cais: Lawrlwythwch fanylion llawn y swydd a chyfarwyddiadau sut i wneud cais.
Yr amser cau ar gyfer derbyn ceisiadau fydd pnawn Gwener, Rhagfyr 2, 2022.
Bwriedir cynnal y cyfweliadau drwy gyfrwng Zoom ar ddydd Iau, Rhagfyr 16, 2022.
Cyflog
💰 £29,174 – £33, 486 pro rata
Lleoliad
📍 O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyfarwyddwr Strategol
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych am Gyfarwyddwr Strategol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Strategol i fod yn gyfrifol am lywio a chynllunio gwaith y Comisiynydd ar draws un o ddwy gyfarwyddiaeth yn y sefydliad a bod yn rhan o dîm rheoli uchelgeisiol.
Disgrifiad:
Prif ddyletswyddau
**AELOD O’R TÎM RHEOLI **
Cymryd rhan weithredol ym mhenderfyniadau’r tîm rheoli gan gynnwys:
· cymeradwyo cyfeiriad strategol gwaith y Comisiynydd a gosod amcanion heriol
· cynnig arweiniad strategol effeithiol fel gall y Comisiynydd fodloni ei gyfrifoldebau a’i ddyletswyddau o dan Fesur y Gymraeg gan ganolbwyntio ar ddeilliannau mewn ffordd effeithiol a phriodol
· hyrwyddo safonau uchel o ran cyllid cyhoeddus, gan gynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian
· goruchwylio a monitro perfformiad lefel uchaf, er mwyn sicrhau bod y Comisiynydd yn llwyr gyflawni ei amcanion
· arddangos safonau uchel o ran llywodraethau corfforaethol ac uniondeb a sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith er mwyn rhoi sicrwydd o ran rheoli risg a rheolaeth fewnol
· arddangos gwerthoedd y Comisiynydd ym mhob peth a wneir
ARWAIN CYFARWYDDIAETH
Arwain gwaith y gyfarwyddiaeth gan ddefnyddio dull hyblyg o weithio a modelu gwerthoedd y sefydliad. Yn benodol:
· gweithio’n agos gyda chydweithwyr mewnol a datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith cryf gyda chydweithwyr a rhan-ddeiliaid allanol er mwyn galluogi’r Comisiynydd i gyflawni ei gynlluniau strategol a busnes, gan sicrhau aliniad parhaus â’r nodau strategol
· cadw atebolrwydd mewn perthynas â'r meysydd gwaith o dan ei gyfrifoldeb cynllunio busnes a rhaglennu gwaith gyda ffocws ar sicrhau gwerth am arian a sicrhau bod gweithgareddau'r Comisiynydd yn cael eu cynnal mewn modd effeithlon ac effeithiol
· rhagweld rhwystrau posibl rhag cyflawni nodau strategol y Comisiynydd a gweithio i gael gwared arnynt a llyfnhau’r ffordd o’u cyflawni
· monitro'r dirwedd wleidyddol a busnes i sicrhau bod amcanion y Comisiynydd yn cael eu gwireddu fel y nodir yn strategaeth a chynlluniau gwaith y Comisiynydd
· Rhoi cyngor a chefnogaeth i holl staff y gyfarwyddiaeth
**Dyletswyddau penodol **
DYLANWADU AR BOLISI
Bod yn gyfrifol am waith y tîm polisi sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros:
· graffu a dylanwadu ar strategaethau allweddol, deddfau neu bolisïau sy’n effeithio ar y Gymraeg
· gydweithio a rhannu gwybodaeth â phartneriaid perthnasol i ddylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth a chyfrannu yn adeiladol at drafodaethau yn ymwneud â meysydd sy’n effeithio ar y Gymraeg
· ymchwilio ac adrodd ar sefyllfa’r Gymraeg a siaradwyr Cymraeg mewn meysydd polisi er mwyn gosod sail tystiolaeth ar gyfer safbwyntiau’r Comisiynydd
YMCHWIL AC ISADEILEDD
Bod yn gyfrifol am waith y tîm ac isadeiledd ac ymchwil sydd â chyfrifoldeb dros:
· gynllunio adroddiad 5-mlynedd ar sefyllfa’r Gymraeg a fydd yn cynnwys dadansoddiad o ganlyniadau Cyfrifiad 2021 ac asesiad o’r goblygiadau
· feithrin dealltwriaeth o waith comisiynwyr iaith ac asiantaethau eraill ledled y byd a rhoi llwyfan i arferion llwyddiannus o Gymru
· ddarparu cyngor am ffurfiau safonol enwau lleoedd Cymru gan roi amlygrwydd iddynt a bod yn gyfrifol am gynnal cofrestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru ar wefan y Comisiynydd
HYBU DARPARU CYFLEOEDD I DDEFNYDDIO'R GYMRAEG
Llywio gwaith Comisiynydd y Gymraeg mewn cysylltiad â’r gwaith y tîm Hybu a Hwyluso. Hybu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y sectorau anstatudol drwy:
· hwyluso defnyddio’r Gymraeg gyda busnesau ac elusennau drwy gynnal hyfforddiant, darparu canllawiau a rhannu arfer dda
· sicrhau mwy o ymrwymiadau i ddefnyddio’r Gymraeg gan fusnesau ac elusennau gan gymeradwyo cynlluniau datblygu a’r Cynnig Cymraeg
· gydweithio gyda chyrff ariannu a rhwydweithiau er mwyn dylanwadu ar ragor o fusnesau ac elusennau i ddefnyddio’r Gymraeg
**CYFATHREBU A CHYSYLLTIADAU CYHOEDDUS **
Bod yn gyfrifol dros waith y tîm cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus y sefydliad sy’n benodol gyfrifol dros:
· sicrhau fod y sefydliad yn ymgysylltu’n allanol mewn modd effeithiol a chyd-gysylltiedig. Arwain ar y berthynas gyda’r wasg a’r cyfryngau, gan gynnwys cynghori’r Comisiynydd ar y materion hyn
· llywio’r gwaith o gysylltiadau cyhoeddus y sefydliad gan gynnwys presenoldeb mewn digwyddiadau
· cyfathrebu allanol effeithiol y sefydliad
· presenoldeb gwefan y Comisiynydd a’r cyfryngau cymdeithasol
· gweithredu strategaeth gyfathrebu fewnol y sefydliad
CYLLID, ADNODDAU A THECHNOLEG
Bod yn gyfrifol am y tîm cyllid, adnoddau a thechnoleg sydd â chyfrifoldeb penodol dros sicrhau:
· rheoli, ar ran y swyddog cyfrifyddu, gyllid ac adnoddau yn unol â Llawlyfr Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru a llawlyfr Managing Public Money sy’n gosod yr egwyddorion a safonau uchel a ddisgwylir ar gyfer ymdrin ag adnoddau cyhoeddus
· paratoi cyfrifon blynyddol, cyllidebau ac adroddiadau cyllid cywir ac amserol
· adnoddau ffisegol y sefydliad yn cael eu cynnal a rheoli yn effeithiol
· technoleg gwybodaeth briodol er mwyn hwyluso gwaith y sefydliad a sicrhau diogelwch seibr
Arbenigeddau
Mae gan y Cyfarwyddwr arbenigeddau a chyfrifoldebau neilltuol fel a ganlyn:
· ** Cynllun Strategol **
Llunio papurau strategol, a’u cyflwyno er mwyn galluogi’r Comisiynydd i wneud penderfyniadau wrth i ni gynllunio fel sefydliad. Ysgrifennu strategaeth y sefydliad gan ddefnyddio tystiolaeth a gwybodaeth, estyn allan, ymgynghori ac archwilio adborth yn fewnol ac yn allanol. Llywio’r broses o gyflawni, monitro a dangos ein bod yn cyflawni ein canlyniadau strategol er mwyn sicrhau bod ein hamcanion strategol yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus dros oes y strategaeth a thu hwnt. Datblygu ein hymagwedd o ran adrodd ar ganlyniadau a'r buddion yr ydym wedi bwriadu yn ein hadroddiad blynyddol. Gwerthuso llwyddiant cyffredinol yn erbyn targedau corfforaethol a dangosyddion eraill.
· Perchennog Risg Corfforaethol
Ysgwyddo cyfrifoldeb dros risgiau strategol y sefydliad fel y Rheolwr Risg Corfforaethol.
· Perchennog Risg Gwybodaeth (SIRO)
Yr uwch swyddog sy’n gyfrifol am risg gwybodaeth y sefydliad. Cyfrifoldeb am sicrhau trefniadau diogelwch seibr a diogelwch gwybodaeth briodol.
Cymwyseddau
· Meddwl yn strategol: Byddwch yn berson strategol sy'n gweld y darlun ehangach ac yn gallu arwain a chefnogi cydweithwyr i gyflawni amcanion strategol
· Ysbrydoli a rheoli eraill: Yn arweinydd creadigol, bydd gennych brofiad o reoli a datblygu tîm. Gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol, byddwch yn cydweithio'n effeithiol ag ystod eang o bobl ar draws meysydd amrywiol, i gyflawni ein strategaeth
· Cyflwyno syniadau a dwyn perswâd: Bydd gennych brofiad o ysgrifennu a chyflwyno adroddiadau a phapurau strategol ar lefel uchel i fyrddau a phwyllgorau gydag uwch arweinwyr
· Hunan-ysgogiad a sicrhau ansawdd: Yn ogystal â mwynhau gweithio fel rhan o dîm byddwch hefyd yn gallu gweithio ar eich pen eich hun a defnyddio eich menter eich hun i sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau ar amser ac i’r ansawdd priodol · Angerdd at hybu’r Gymraeg a monitro cynnydd: Yn benodol, rydym yn chwilio am berson a all arwain ar ein dull o hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg gan nodi, monitro ac arddangos y canlyniadau yr ydym am eu cyflawni
· Rheoli rhaglenni gwaith amrywiol: Profiad o arwain rhaglenni gwaith ar draws meysydd eang, allai gynnwys cyllideb, rheoli risg neu feysydd eraill
· Mesur y Gymraeg: Byddwch yn dangos dealltwriaeth o egwyddorion Mesur y Gymraeg a chyfeiriad polisi iaith yng Nghymru
· Bywyd cyhoeddus: Bydd gennych ddealltwriaeth o fywyd cyhoeddus yng Nghymru
Cyflog
💰 £53,440 - £63,900
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch-weinyddwr Gweithrediadau
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Uwch-weinyddwr Gweithrediadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymrwymedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn meithrin yr wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Rydym yn cynnig dulliau addysgu arloesol, y cyfarpar diweddaraf, a chymorth rhagorol ar draws ystod eang o leoliadau dysgu a chyrsiau.
At hynny, rydym yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn wythfed yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.
Rydym 'nawr yn chwilio am Uwch-weinyddwr Gweithrediadau i ymuno â'n campws yng Nghaerfyrddin yn llawn-amser am gyfnod penodol o 12 mis.
- Y RÔL -
Bydd disgwyl i chi gyfathrebu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Byddwch yn gweithio'n agos gydag unedau cymorth eraill yn y Brifysgol yn rheolaidd, yn enwedig y gyfarwyddiaeth Ystadau a Chyfleusterau ehangach, i ddarparu gwasanaeth o lefel uchel i'r staff a'r myfyrwyr. Disgwylir i chi gynhyrchu gwaith o ansawdd rhagorol sy'n cydymffurfio â chanllawiau a fframweithiau rheoleiddio perthnasol y Brifysgol. Byddwch yn fedrus iawn o ran y defnydd o becynnau Microsoft, a bydd gennych y gallu i ymgyfarwyddo â phecynnau meddalwedd TG newydd; mae hyn yn ofyniad hanfodol ar gyfer y swydd hon.
- AMDANOCH CHI -
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer rôl yr Uwch-weinyddwr Gweithrediadau, bydd angen i chi feddu ar y canlynol:
- Wedi cael addysg hyd at lefel HND neu radd (yn ddelfrydol yn y maes dewisol) neu yn meddu ar brofiad amlwg
- Gweinyddu Busnes hyd at Lefel 4 neu brofiad cyfwerth amlwg
- Profiad blaenorol o ddarparu cymorth gweinyddol cyflym, o ansawdd uchel
- Profiad blaenorol o ddelio â gwaith gweinyddu Ystadau a Chyfleusterau a rheoli contractau
- Profiad blaenorol o baratoi dogfennau i'w harchwilio
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da, a'r gallu i gyfathrebu mewn modd effeithiol ar bob lefel
- Profiad mewn perthynas â rheoli contractau a thrafodaethau
- Y gallu i arddangos sgiliau trefnu effeithiol
- Y gallu i fodloni terfynau amser tyn yn ôl y gofyn
- Lefel uchel o hyfedredd yn y defnydd o becynnau Microsoft
- Y gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg
Byddai hefyd o fantais i'ch cais pe byddech yn meddu ar y canlynol:
- Profiad o weithio ym maes Addysg Uwch
Felly, os ydych yn teimlo y gallech ffynnu a chael effaith yn rôl Uwch-weinyddwr Gweithrediadau, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.
Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.
Dyddiad cau: 21 Tachwedd 2022, 11:59pm
Cyflog
💰 £27,929 - £31,411
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd TG (x2)
Mae Menter a Busnes yn edrych am Gynorthwyydd TG (x2)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle cyffrous i ymuno â Menter a Busnes yn ein cynlluniau twf parhaus, fel rhan o dîm TG deinamig ac uchelgeisiol gyda gwaith amrywiol a difyr.
Disgrifiad:
Manyleb Swydd Teitl Swydd: Cynorthwyydd TG x2
Adran: Technoleg Gwybodaeth
Lleoliad: Unrhyw un o swyddfeydd Menter a Busnes,
**Hybrid (50/50) ** Bydd staff sy’n byw mwy na 40 milltir o’u swyddfa Menter a Busnes agosaf yn gallu gweithio o gartref yn barhaol
Rheolwr Atebol: Rheolwr Gweithrediadau TG
Graddfa: 2
Cyflog: £20,919 - £22,367 (dibynnol ar brofiad)
Mae cynllun bonws hefyd yn weithredol
Cytundeb: Parhaol
Ystyrir ceisiadau i weithio'n llawn amser neu'n rhan amser
Sgiliau Dwyieithog: Hanfodol
Nod yr Adran Technoleg Gwybodaeth
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â Menter a Busnes yn ein cynlluniau twf parhaus, fel rhan o dîm deinamig ac uchelgeisiol gyda gwaith amrywiol a difyr. Mae’r tîm TG yn gyfrifol am:
· Gweithrediad effeithiol ac effeithlon systemau technoleg y cwmni, gan ganolbwyntio’n benodol ar berfformiad dibynadwy, diogelwch, a datblygiad parhaus;
· Darparu gwasanaethau cymorth llawn o ansawdd uchel i staff
Nod y Swydd Bydd y Cynorthwyydd TG yn cefnogi’r Adran TG i ddarparu gwasanaeth i’r cwmni, drwy gynnig cymorth technegol addas a dibynadwy i staff, gosod a gofalu am gyfarpar a chyfrifon, a chefnogi cyd-weithwyr TG efo’u gwaith. Prif Gyfrifoldebau · Gweithio’n agos gyda’r tîm i ddarparu gwasanaethau TG o ansawdd uchel
· Bod yn bwynt cyswllt cyntaf i ymholiadau ar y ddesg gymorth, a chynnig gwasanaeth cwsmer o safon drwy ddadansoddi, trefnu a blaenoriaethu ticedi yn addas, ac esgoli ble fod angen
· Cefnogi staff i fabwysiadu a defnyddio technoleg newydd, gan gynnig cyngor a hyfforddiant sylfaenol
· Paratoi at aelodau staff sy’n cychwyn a gadael, rheoli mynediad i gyfrifon ac adnoddau gan ddilyn prosesau yr adran
· Gosod a dosbarthu cyfarpar o fewn amserlen benodol, gan sicrhau bod staff newydd yn medru gweithio’n hwylus ar eu diwrnod cyntaf
· Gofalu am holl gyfarpar TG y cwmni, cynnal offer a chyfleusterau TG swyddfeydd (megis argraffwyr, ffônau a chyfarpar fideo-gynadledda), a chadw holl offer a storfeydd TG yn daclus a threfnus
· Perfformio gwaith cynnal sylfaenol rheolaidd, megis – Diweddaru meddalwedd a chaledwedd; Gweithredu copïau wrth-gefn; Gwaith gweinyddol
· Cynorthwyo’r tîm TG i ddatrys digwyddiadau (incidents), a gweithio ar ddatblygiadau/prosiectau TG
· Cadw holl gofnodion, dogfennaeth, a chronfeydd data TG yn daclus, cywir a chyfredol
· Ymweld â swyddfeydd y cwmni yn ôl yr angen i gwblhau gwaith gosod, cynnal a datrys
· Cynorthwyo’r tîm TG i ddiogelu data’r cwmni, gan weithio i leihau’r risg o golli data, dinistrio data’n ddamweiniol a dwyn data
· Cynorthwyo staff i ddehongli a gweithio yn ôl ein polisiau TG
· Cynorthwyo’r Rheolwr Gweithrediadau TG i sicrhau bod y cwmni’n llwyddo i gynnal safon Cyber Essentials Plus o fewn amserlenni penodol Arall
· Gweithio ar brosiectau eraill Grŵp Menter a Busnes yn ôl y galw, gan gynnwys rhai masnachol
· Sicrhau bod safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch y tîm TG yn cael eu bodloni
· Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill a chynrychioli Menter a Busnes yn ôl yr angen
Sgiliau a Phrofiad Hanfodol
· Profiad dangosadwy o osod, cynnal a chadw caledwedd a meddalwedd TG, a datrys problemau TG eich hunain ac eraill. (Gall hyn fod hefo teulu neu ffrindiau, yn hytrach nag yn y gwaith)
· Cymhwyster addysg bellach (e.e. NVQ / Lefel AS) neu’n uwch, a/neu brofiad dangosadwy mewn maes perthnasol
· Gwybodaeth a sgiliau da efo rhai o’r canlynol:
- Systemau Gweithredu: Windows, macOS, iOS, Android - Caledwedd: Cyfrifiaduron, ffônau symudol, tabledi, ategolion cyffredin, fideo-gynadledda, argraffyddion
- Meddalwedd: Ebost a chynhyrchiant (Google Workspace, Microsoft Office)
· Diddordeb cryf mewn technolegau modern ynghyd â thechnolegau sy’n datblygu
· Ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar-lein
· Gallu dysgu ac addasu i systemau a thechnoleg newydd
· Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu clir, gyda’r gallu i ddefnyddio diplomyddiaeth wrth ddelio ag ymholiadau staff
· Gallu ymchwilio a datrys problemau drwy edrych arnynt o wahanol gyfeiriadau, mynegi manteision, anfanteision a risgiau dewisiadau
· Gallu ysgogi ei hun i weithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm
· Gweithredu gyda gofal, uniondeb a chyfrinachedd, yn enwedig efo mynediad breintiedig
· Person trefnus, sy’n gallu addasu a chymell ei hun, ac yn gallu rheoli nifer o dasgau ar yr un pryd a gweithio dan bwysau i gwrdd â therfynau amser
· Sgiliau cyflwyno clir a diddorol, gyda’r hyder i gyflwyno o flaen cynulleidfaoedd amrywiol, a’r gallu i esbonio materion technegol neu gymhleth mewn ffordd annhechnegol
· Sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig
· Sgiliau dwyieithog (Cymraeg/Saesneg). (Croesawir ceisiadau gan ddysgwyr). Dymunol
· Cymhwyster proffesiynol TG
· Profiad dangosadwy o weithio a llwyddo mewn rôl
· Profiad dangosadwy o ddarparu gwasanaeth cwsmer
· Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio at ddibenion busnes Gwneud Cais Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]. Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Aled James, Rheolwr Technoleg Gwybodaeth, ar [email protected] i drefnu sgwrs.
Dyddiad Cau Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10:00 y bore, 28/11/2022 Cyfweliadau Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol yn yr wythnos sy’n cychwyn 05/12/2022. Os yw’r wythnos hon yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda.
**Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ** Gwelwch ein gwefan i gael copi o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Nod y Cwmni Menter a Busnes yw’r prif gwmni datblygu economaidd yng Nghymru. Rydym yn gwmni annibynnol, nid er elw, sy’n arwain y ffordd yn darparu rhaglenni a gwasanaethau cymorth busnes ar ran Llywodraeth Cymru a sefydliadau cenedlaethol a rhanbarthol eraill. Rydym hefyd yn gweithio gyda chleientiaid masnachol i gynllunio a darparu gwasanaethau mewn meysydd megis cymorth busnes, entrepreneuriaeth ac arloesedd i ddatblygu a thyfu busnesau. Yn unol â’n gwerthoedd, ym Menter a Busnes ein nod yw creu amgylchedd gwaith cyfeillgar sy’n onest, yn gyfrifol ac yn iach, ac sy’n dangos y parch mwyaf at staff a chwsmeriaid. Rydym yn cymryd camau i ddatblygu gweithlu mwy amrywiol ac yn benodol yn annog ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BAME), pobl anabl a phobl o’r gymuned LGBTQ+ o dan y rheolau gweithredu cadarnhaol fel yr amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn dilyn egwyddorion cystadleuaeth agored a phenodir staff yn seiliedig ar eu rhinweddau. Mae gennym dîm o 130 o staff ymroddgar sydd â dealltwriaeth eang o sawl sector a maes ym myd busnes a’n blaenoriaeth yw mynd y cam ychwanegol i ddarparu gwasanaethau o’r safon uchaf posibl. Er mwyn gwella bywyd gwaith ein staff, rydym yn annog arferion gweithio hyblyg sy’n cefnogi gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Rydym hefyd yn cefnogi iechyd a lles ein staff drwy gynnig amrywiaeth o ymyriadau a gwasanaethau.
Cyflog
💰 £20,919 - £22,367
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!