Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Dylunydd Graffeg

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Llanelli Ar gau

Mae Tinopolis yn edrych am Ddylunydd Graffeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a chreadigol i ymuno â thîm cynhyrchu Tinopolis. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'r adran graffeg i weithio ar lu o raglenni gan gynn- wys dwy sioe gylchgrawn dyddiol byw, rhaglenni trafod, rhaglenni dogfen a chwaraeon. 

Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio yn amgylchedd byw darlledu teledu â chreu cynnwys creadi- gol gwreiddiol ac amrywiol. Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn amryddawn a meddu ar y gallu i weithio'n unigol neu greu ar y cyd ag eraill ar amrywiaeth o brosiectau. Mae’r gallu i ddefnyddio meddalwedd Adobe yn hanfodol a byddai bod yn gyfarwydd â meddalwedd 3D yn fuddiol. Darperir hyfforddiant ar gyfer darlledu byw gan ddefnyddio'r Grass Valley, XPression a Maestro. 

Byddai'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol oherwydd natur y cynyrchiadau a'r amgylchedd gwaith. 

Rydym yn gwmni sydd am adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac yn credu mewn amrywiaeth a chyfle cyfartal. Rydym bob amser yn croesawu ceisiadau gan unigolion o unrhyw oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb a chefndir cymdeithasol yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010. 

Lleoliad: Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli SA15 3YE

Cyflog: Yn ddibynnol ar brofiad

Cytundeb: I ddechrau cyfnod o 12 mis gyda phrawf o 6 mis 27 Tachwedd 2022 

Dyddiad Cau: 27 Tachwedd 2022 

**Manylion pellach **

Oriau Gwaith: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos dros 5 diwrnod. Ond oherwydd natur y swydd ac oriau rhaglenni disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc. 

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn. 

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 27 Tachwedd 2022 at [email protected] neu Swyddi, Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE. Fe dderbynnir ceisiadau fideo. 

Cyflog

💰 Yn ddibynnol ar brofiad

Lleoliad

📍 Llanelli

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £27,024 - £32,739 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £26,713 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £38,433 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £26,500 pro rata 📍 Porthmadog Ar gau

💰 £27,116 📍 Bangor Ar gau

💰 £10,000 📍 Sir Benfro📍 Abertawe +4 Ar gau

💰 £27,491 - £42,333 📍 Ceredigion Ar gau

💰 £19,601 - £22,058 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £25,913 - £28,049 📍 Sir Gaerfyrddin Ar gau

💰 £21,453 - £25,017 pro rata 📍 Ceredigion Ar gau

💰 £21,500 - £27,000 📍 Ceredigion Ar gau

💰 £33,486 - £35,336 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £22,129 - £24,920 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 £19,601 - £22,058 📍 Llangrannog Ar gau

💰 £30,984 - £32,798 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £25,211 - £28,223 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £25,603 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £19,235 📍 Brynmenyn Ar gau

💰 £25,667 - £28,887 📍 Llangefni📍 O gartref Ar gau

💰 £32,000 - £36,000 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £20,092 - £21,748 📍 Bae Colwyn Ar gau