Staff Llanw
Mae Cylch Meithrin Parc Y Bont yn edrych am Staff Llanw
Lleoliad: YSGOL PARC Y BONT , LLANDDANIEL FAB , GAERWEN
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am Staff llanw dibynadwy I fod yn rhan o dîm staff y Cylch. Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel dda yn y Gymraeg. Bydd lefel 2 mewn gofal a datblygiad plant yn hanfodol neu fod yr unigolyn yn barod i ymgymryd â chwrs I wneud y cymhwyster.
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Person cyswllt am ragor o wybodaeth a manylion cysylltu:
Pwyllgor Cylch Parc y Bont [email protected]
Cyflog
💰 I'w drafod yn ddibynol ar brofiad - Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Lleoliad
📍 Sir Fôn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ti a Fi Teithiol Penybont
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Ti a Fi Teithiol Penybont
Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Eirwen Hughes, Dirprwy Reolwr Talaith y De-Orllewin a'r Canolbarth
Rhif Ffôn: 01970 639639
E-bost: [email protected]
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma at [email protected]
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Cyflog
💰 MM15 £25,175 (pro rata) y flwyddyn
Lleoliad
📍 Pen-y-bont ar Ogwr
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd
Mae Meithrinfa Cwtch y Clos yn edrych am Gynorthwyydd
Lleoliad - Danyrallt, Llanarthne, Caerfyrddin, SA32 8JX
Mae Meithrinfa Cwtch y Clos yn chwilio am aelod o staff egniol a brwdfrydig i ymuno a'r tîm. Mae'r feithrinfa Gymraeg hon yn cynnig gofal o safon i blant bach yr ardal.
Dylai ef/hi fod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Mae'r Feithrinfa ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener o 7.30yb tan 6.00yh, ac mi fydd rota staffio yn ei le.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a Gwenllian – 01558 678 014. Danfonwch CV at [email protected]
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Cyflog
💰 Yn ddibynnol ar brofiad a chymhwysterau.
Lleoliad
📍 Sir Gâr
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Tiwtor / Asesydd dan hyfforddiant Cynllun Ysgolion – Ysgolion Gwynllyw a Chwm Rhymni (Cyfnod Mamolaeth)
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Tiwtor / Asesydd dan hyfforddiant Cynllun Ysgolion – Ysgolion Gwynllyw a Chwm Rhymni (Cyfnod Mamolaeth)
Ydych chi’n frwdfrydig dros hyfforddi, asesu a datblygu dysgwyr drwy gyfrwng y Gymraeg?
Rydym yn chwilio am berson cymhellol a phroffesiynol i hyfforddi fel Tiwtor / Asesydd ar gyfer cwrs Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2/3 Ymarfer a Theori (GChDDP).
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gyfathrebwr hyderus yn y Gymraeg, yn frwdfrydig ac â sgiliau rhyngbersonol rhagorol. Os ydych yn frwdfrydig, yn drefnus ac yn ymroddedig i gefnogi dysgwyr i lwyddo, hoffem glywed gennych.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Eunice Jones, Rheolwr y Cynllun Hyfforddiant Cenedlaethol, neu
Amy Sefton, Prif Swyddog Cynllun Cam Wrth Gam De Ddwyrain
Rhif Ffôn: 07791 519144 / 07977 641517
E-bost: [email protected] / [email protected]
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Cyflog
💰 MM17 £26,225 pro rata. Gwir gyflog ar sail gweithio 15 awr £10,490
Lleoliad
📍 Caerffili, Torfaen
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Dinas Llen Aberystwyth Ceredigion
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Rheolwr Dinas Llen Aberystwyth Ceredigion
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfathrebu, Ymgysylltu a Phartneriaethau
Band 4: £35,530 - £40,132 pro rata
Hyd y Swydd: (swydd tymor penodol tan 31 Mawrth 2027 gyda phosibilrwydd o estyniad ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol)
Oriau: 30 awr yr wythnos
Dyddiad Cau: 11:00yb, 7 Medi 2026
Cyflog
💰 £35,530 - £40,132 pro rata
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd (Cyfnod Mamolaeth)
Mae Cylch Meithrin Dyffryn Aeron yn edrych am Arweinydd (Cyfnod Mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Lleoliad - Cylch Meithrin Dyffryn Aeron, Cwmpws Ysgol Dyffryn Aeron, Felinfach, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 8AE
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am arweinydd ymroddgar, cydwybodol, brwdfrydig a chyfeillgar i arwain pob agwedd o waith y Cylch.
Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn siaradwr newydd sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Mae Cylch Meithrin Dyffryn Aeron wedi ei leoli yn Ysgol Dyffryn Aeron, Rydym yn rhan or cynllun 30 awr a Dechrau’n Deg ac yn darparu gofal Meithrin i blant yr ardal.
Swydd am gyfnod penodol yw hon yn dechrau ar 1af o Fedi 2026 hyd at flwyddyn. Rydym yn croesawi ceisiadau wrth ymgeiswyr fyddai â diddordeb mewn secondiad.
Manylion cyswllt ar gyfer mwy o wybodaeth ynglyn a’r swydd – Helen Lewis, Ebost – [email protected] Rhif ffon – 07977 510 888
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Cyflog
💰 Yn dibynnu ar brofiad.
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ti a Fi Sir Fynwy
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Ti a Fi Sir Fynwy
Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Ann Angell, Rheolwr Talaith y De Ddwyrain neu Ceri Preston, Dirprwy Reolwr Talaith y De Ddwyrain
Rhif Ffôn: 01970 639639
E-bost: [email protected]
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma at [email protected]
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Cyflog
💰 MM15 £25,175 pro rata. Gwir gyflog ar sail gweithio 10 awr yr wythnos yw £5,758.
Lleoliad
📍 Sir Fynwy
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd
Mae Cylch Meithrin Rhiwbeina yn edrych am Gynorthwyydd
Lleoliad: FESTRI CAPEL BETHEL , MAES Y DERI , RHIWBEINA , CAERDYDD
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch. Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg. Gofynnir am brofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar o leiaf Lefel 2 – 3 yn ddelfrydol i ofalu am blant.
Mae Cylch Meithrin Rhiwbeina yn lleoliad cynnes, croesawgar a phrysur lle mae plant yn dysgu, chwarae a datblygu drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn chwilio am aelodau brwdfrydig, gofalgar a chreadigol i ymuno â’n tîm a helpu i greu profiadau dysgu hapus ac ystyrlon i’n plant. Os ydych chi’n angerddol am y Gymraeg, datblygiad plant a gweithio fel rhan o dîm gwych, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Person cyswllt am ragor o wybodaeth a manylion cysylltu: Angharad Phelps-Jowers [email protected]
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Cynhyrchu Cynorthwyol
Mae Theatr Cymru yn edrych am Rheolwr Cynhyrchu Cynorthwyol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Oes gennych chi brofiad mewn cynhyrchu theatr, rheoli llwyfan neu reoli technegol? Ydych chi’n drefnus, yn rhagweithiol ac yn frwd dros greu theatr?
Rydym yn chwilio am Reolwr Cynhyrchu Cynorthwyol i ymuno â’n Hadran Gynhyrchu am gyfnod o 12 mis, gan ddechrau ym mis Tachwedd 2026. Diben y rol yw i gefnogi'r Pennaeth Cynhyrchu tra bod ein Rheolwr Cynhyrchu Cwmni ar gyfnod mamolaeth.
Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Pennaeth Cynhyrchu a chydweithwyr ar draws y cwmni, gan helpu i gynllunio a chyflwyno cynyrchiadau, cefnogi timau technegol a chreadigol, a chyfrannu at waith cynhyrchu ar brosiectau theatr proffesiynol ar raddfa genedlaethol.
Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sydd eisoes â rhywfaint o brofiad perthnasol ddatblygu ei ymarfer proffesiynol ymhellach, ehangu ei wybodaeth o brosesau cynhyrchu a magu hyder wrth weithio ar gynyrchiadau cymhleth gyda chefnogaeth tîm profiadol a chefnogol.
Cyflog: £31,500 y flwyddyn
Cyfnod: 12 mis, o fis Tachwedd 2026
Oriau: Llawn amser (37.5 awr yr wythnos)
I wneud cais: Llenwch y ffurflen gais NEU cyflwynwch fideo byr ohonoch chi’ch hun, gan ateb y cwestiynau a nodir ar y ffurflen gais. Bydd angen anfon y ffurflen neu'r fideo at [email protected].
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd: Cysylltwch ag Angharad Jones Leefe ar [email protected] neu 07903 842554.
Dyddiad cau: 8 Medi 2026, 5pm
Cyfweliadau: Yn ystod yr wythnos sy'n cychwyn 21 Medi 2026
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg – ar lafar ac yn ysgrifenedig – yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae’r cwmni yn cynnig cyfleoedd i ymgeiswyr llwyddiannus i fynychu hyfforddiant gloywi iaith os ydynt am ddatblygu eu hyder yn eu sgiliau iaith Gymraeg.
Mae fersiwn Saesneg o’r pecyn recriwtio ar gael mewn fformat Microsoft Word er mwyn hwyluso’r defnydd o ddarllenydd sgrin. Gellir dod o hyd i hwn drwy ddilyn y ddolen isod:
Dolen i'r pecyn Saesneg
Mae gofyn i ymgeiswyr gwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb isod wrth ymgeisio:
https://forms.office.com/e/nd5MgVfbW5
Pecyn Gwybodaeth
Pecyn Swydd | Rheolwr Cynhyrchu Cynorthwyol
1.5MB
Pecyn Gwybodaeth
Pecyn Swydd (Print Bras)
48.7KB
Word
Pecyn Gwybodaeth
Ffurflen Gais
369.9KB
Pecyn Gwybodaeth
Hysbysiad Preifatrwydd
544.4KB
Pecyn Gwybodaeth
Cyflog
💰 £31,500 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Chwaraeon
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Swyddog Chwaraeon
Swydd barhaol
Oriau gwaith: Llawn amser (35 awr y wythnos)
Graddfa : Gweithredol 4 : £29,409 – £31,430 y flwyddyn
Lleoliad: Swyddfa Dinbych
Dyddiad ac amser cau: 25 medi
Dyddiad cyfweld: 2il Hydref
Cyflog
💰 Gweithredol 4 : £29,409 - £31,430 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Swyddfa Dinbych
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Croeso a Phrofiad Cwsmer
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Cydlynydd Croeso a Phrofiad Cwsmer
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfathrebu, Ymgysylltu a Phartneriaethau
Band 2: £26,328 - £27,800
Hyd y Swydd: Swydd barhaol.
Oriau: 37 awr yr wythnos.
Dyddiad Cau: 11.00 o’r gloch 14 Medi 2026
Cyflog
💰 £26,328 - £27,800
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Gofal Cwsmer
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Cynorthwyydd Gofal Cwsmer
Swydd barhaol
Oriau gwaith: Rhan amser (21 awr yr wythnos), tymor ysgol yn unig
Graddfa: Gweithredol 2 (£24,879 – £26,016 pro rata)
Lleoliad: Gwersyll Llangrannog
Dyddiad ac amser cau: 20 Medi am hanner nos
Cyflog
💰 Gweithredol 2 (£24,879 - £26,016 pro rata)
Lleoliad
📍 Gwersyll Llangrannog
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Gweinyddol
Mae Meithrinfa Garth Olwg yn edrych am Swyddog Gweinyddol
Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Delyth Evans, Rheolwr Meithrinfeydd Cymru
Rhif Ffôn: 01970 639639
E-bost: [email protected]
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma at [email protected]
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Cyflog
💰 MCC1; £12.71 yr awr / £24,784.50 pro rata
Lleoliad
📍 Rhondda Cynon Taf
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Staff Banc
Mae Cylch Meithrin Pont Pedr yn edrych am Staff Banc
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Lleoliad - Ysgol Bro Pedr, Teras Ffynon Pedr, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7BX
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd achlysurol dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch.
Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda [email protected] neu 07990 499498
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Y swydd i ddechrau cyn gynted a phosib.
Cyflog
💰 £12.77 yr awr
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cyd-Arweinydd
Mae Cylch Meithrin Rhiwbeina yn edrych am Cyd-Arweinydd
Lleoliad: FESTRI CAPEL BETHEL , MAES Y DERI , RHIWBEINA , CAERDYDD
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am arweinydd ymroddgar, cydwybodol, brwdfrydig a chyfeillgar i arwain pob agwedd o waith y Cylch. Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn siaradwr newydd sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg. Gofynnir am gymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig addas ar Lefel 3 neu uwch ynghyd â phrofiad perthnasol i gymryd gofal o gylch.
Mae Cylch Meithrin Rhiwbeina yn lleoliad cynnes, croesawgar a phrysur lle mae plant yn dysgu, chwarae a datblygu drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn chwilio am aelodau brwdfrydig, gofalgar a chreadigol i ymuno â’n tîm a helpu i greu profiadau dysgu hapus ac ystyrlon i’n plant. Os ydych chi’n angerddol am y Gymraeg, datblygiad plant a gweithio fel rhan o dîm gwych, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Person cyswllt am ragor o wybodaeth a manylion cysylltu: Angharad Phelps-Jowers [email protected]
Cyflog
💰 I'w drafod yn ddibynol ar brofiad
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Gweithiwr Cefnogi Anghenion Ychwanegol
Mae Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihŵ yn edrych am Gweithiwr Cefnogi Anghenion Ychwanegol
Ydy’r rôl hon yn addas i chi?
Bydd y rôl hon yn cynnwys:
- Cynnig cymorth a chefnogaeth briodol er mwyn sicrhau bod plentyn ag anghenion ychwanegol yn cael yr un cyfleoedd â’i gyfoedion i fwynhau ac elwa o holl weithgareddau’r Cylch.
- Sicrhau bod plentyn ag anghenion ychwanegol yn cael ei gynnwys yn llawn ym mhob agwedd o waith y Cylch, gan addasu adnoddau, amgylcheddau a gweithgareddau lle bo angen.
Rydym yn chwilio am rywun:
- Sy’n garedig, brwdfrydig ac ymroddedig.
- Sy’n credu ym mhwysigrwydd cynhwysiant a sicrhau cyfleoedd cyfartal i bob plentyn.
- Sy’n mwynhau gweithio gyda phlant bach ac sydd â diddordeb mewn cefnogi eu datblygiad a’u lles.
- Sydd â natur ofalgar a’r gallu i chwarae, dysgu a meithrin perthnasoedd cadarnhaol.
- Sy’n amyneddgar, yn gefnogol ac yn sensitif i anghenion unigol plant.
- Sy’n gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da.
- Sydd eisiau gweithio mewn amgylchedd Cymraeg, croesawgar a llawn cariad.
Lleoliad: Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihŵ, Brynithel
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â: Ceri Preston, Dirprwy Reolwr Talaith y De Ddwyrain
Rhif Ffôn: 07494491884
E-bost: [email protected]
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma:
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Cyflog
💰 £25,564.50 pro rata (£13.11 yr awr)
Lleoliad
📍 Blaenau Gwent
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Gofal Plant a Chwarae 2–3 oed
Mae Meithrinfa Garth Olwg yn edrych am Cynorthwyydd Gofal Plant a Chwarae 2–3 oed
Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.
Cyfeiriad: Meithrinfa Garth Olwg, Campws Gydol Oes Garth Olwg, Pentre’r Eglwys, Pontypridd
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Delyth Evans, Rheolwr Meithrinfeydd
Rhif Ffôn: 01970 639639
E-bost: [email protected]
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma at [email protected]
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Cyflog
💰 Lefel 3: £25,564.50 y.f Lefel 5: £25,954.50 y.f.
Lleoliad
📍 Rhondda Cynon Taf
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd
Mae Cylch Meithrin Pentrebach yn edrych am Gynorthwyydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Lleoliad: CANOLFAN INTEGREDIG I BLANT CWM GOLAU , HEOL DYFFRYN , PENTREBACH. CF48 4BJ
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch.
Dylai ef/hi fod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Mae'r swydd i gychwyn ar Fedi 1af neu cyn gynted â phosibl ar ôl gwiriadau boddhaol.
Person cyswllt am ragor o wybodaeth a manylion cysylltu: [email protected] / [email protected]
I gychwyn cyn gynted a phosib hyd at 31/10/26 i gychwyn. Bydd y swydd yn cael ei hadolygu bob hanner tymor i’w hymestyn.
Cyflog
💰 £12.71 yr awr
Lleoliad
📍 Merthyr Tudful
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cylch Meithrin Groes-Wen yn edrych am Rheolwr
Lleoliad: Ysgol Gynradd Groes-Wen, Rhodfa Plasdwr, Sain Ffagan, Caerdydd CF5 2FG
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am reolwr threfnus, ymroddgar, cydwybodol, brwdfrydig a chyfeillgar i arwain pob agwedd o waith y Cylch.
Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg
Person cyswllt am ragor o wybodaeth:
Sioned Jones [email protected] neu 07966313119
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Cyflog
💰 £16.50 yr awr
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Busnes
Mae Cylch Meithrin Groes-Wen yn edrych am Swyddog Busnes
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Lleoliad - YSGOL GYNRADD GROES-WEN PRIMARY SCHOOL , RHODFA PLASDWR , SAIN FFAGAN , CAERDYDD, CF5 2FG
Ymunwch â’n tîm fel Swyddog Busnes a chwarae rhan allweddol wrth gefnogi rheolaeth, gweinyddiaeth a datblygiad y Cylch Meithrin, gan weithio’n agos gyda’r Arweinydd, y Pwyllgor, staff a rhieni.
Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Manylion cyswllt ar gyfer mwy o wybodaeth ynglyn a’r swydd : Ebost: [email protected] Rhif ffon – 07966313119
Cyflog
💰 £14.50 yr awr
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd (Cyfnod Mamolaeth)
Mae Cylch Meithrin Llansannan yn edrych am Gynorthwyydd (Cyfnod Mamolaeth)
Lleoliad: YSGOL BRO ALED , LLANSANNAN , DINBYCH
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch drost gyfnod mamolaeth o fis Medi 2026 hyd at Mehefin 2027 neu i gychwyn mor fuan a sydd phosib. Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg. Parodrwydd i wneud cyrsiau Cymorth Cyntaf, Diogelu Plant a Hylendid Bwyd. Byddai profiad a chymhwyster o weithio gyda phlant yn ddelfrydol, ond nid yw’n angenrheidiol.
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Manylion cyswllt ar gyfer mwy o wybodaeth ynglyn a’r swydd:
Ebost: [email protected]
Rhif ffon: 07707 707709
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Conwy
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 2 – Cartref Gofal Preswyl Hafan Deg x 2
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 2 – Cartref Gofal Preswyl Hafan Deg x 2
Rydym yn awyddus i recriwtio gweithiwr Gofal a Chymorth Achlysurol i ymuno â’n Tîm.
Dyletswyddau gofalu a chynorthwyo
Rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn i ddefnyddwyr gwasanaeth gan gynnwys cyffuriau rheoledig.
Cyflawni dyletswyddau fel y nodir mewn cynlluniau gofal a chymorth, bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth sydd ag anghenion cymhleth neu ddwys.
Cynnal rhaglenni gwaith penodol yn uniongyrchol ac yn rhithwir gydag oedolion a hynny un-i-un neu mewn grŵp, gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill i gefnogi cynlluniau gofal a chymorth unigol.
Sicrhau y cedwir at systemau gweithio diogel o ddydd i ddydd er mwyn galluogi’r gwasanaeth i fodloni gofynion RIDDOR, COSHH, codi a chario, cymorth cyntaf a meddyginiaeth.
Ymateb i unrhyw sefyllfaoedd brys drwy gymryd y camau priodol e.e. cysylltu â meddyg, gwasanaeth ambiwlans, gwasanaeth tân, gwasanaeth heddlu ac ati.
Bod yn gyfrifol am drin yn ddiogel eiddo ac offer sy’n perthyn i’r defnyddiwr gwasanaeth.
Meithrin perthynas waith effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth, a chyfathrebu’n dda â nhw.
Adnabod a rheoli risgiau yn y byrdymor a’r tymor canolig i sicrhau bod defnyddwyr y gwasanaeth yn ddiogel a nodi risgiau y mae’n rhaid eu huwchgyfeirio i’r gweithiwr proffesiynol.
Bod yn gyfrifol am gynnal gwaith ymyriadau ac atal, gan gynnwys achosion cymhleth, a fydd yn cefnogi unigolion â’u lles meddyliol, cymdeithasol a chorfforol a cheisio gwella eu canlyniadau tymor hir.
Gweithio mewn partneriaeth gydag unigolion, eu teuluoedd ac asiantaethau eraill mewn ffordd gyson a rhagweithiol, gan ddefnyddio dull Arwyddion Diogelwch sy’n rhoi pwyslais ar gryfderau, gan gynnwys mewn amgylchiadau pan fo’r berthynas yn anodd.
Rhoi gofal personol yn unol â’r cynllun gofal a chymorth ac yn cynnwys y technegau codi a chario cywir.
Defnyddio technegau Rheoli Ymddygiad Cadarnhaol neu Team Teach yn ôl cyfarwyddiadau’r cynllun gofal a chymorth.
Rhoi datganiad llygad-dyst ar gyfer achosion cyfreithiol lle bo angen.
Diweddaru systemau cofnodi yn ôl y galw i gadw cofnod o’ch gwaith.
Gweithio yn ystod y dydd a’r nos ar rota dreigl. Bydd disgwyl i staff nos weithio yn ystod y dydd ar adegau i gyflenwi, hyfforddi neu oruchwylio. Bydd gofyn i staff dydd gyflenwi shifft nos fel rhan o hyfforddiant neu i gyflenwi.
Gwneud unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n gymesur â lefel a disgwyliad y swydd, gan gynnwys pan fydd angen gweithio mewn Tîm ac/neu leoliad arall.
Sicrhau Ansawdd
Rhoi gwybod i’r Tîm Rheoli am bob cwyn a chanmoliaeth.
Trafod ac eirioli dros ddefnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd ac eraill, yn ogystal â gyda nhw.
Trefnu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd defnyddwyr gwasanaeth rheolaidd.
Cadw cofnodion priodol yn unol â gofynion y Cyngor neu’r Gwasanaeth a darparu data pan fo hynny’n berthnasol.
Cyfrifoldebau Cyffredinol
Hyrwyddo’r Gymraeg a dewis iaith defnyddwyr gwasanaeth yn ôl gofynion safonau’r Gymraeg a fframwaith Mwy na Geiriau.
Hyrwyddo cyfle cyfartal wrth ddarparu gwasanaethau.
Gweithio fel tîm a deall eich rôl a’ch cyfrifoldebau chi ynddo.
Cadw gwybodaeth sy’n ymwneud â defnyddwyr gwasanaeth, ymwelwyr a staff yn gyfrinachol.
Sicrhau bod yr holl gofnodion Iechyd a Diogelwch a goruchwylio gofynnol yn cael eu cwblhau yn unol â pholisïau a systemau perthnasol.
Hyrwyddo a pharchu hawliau defnyddwyr gwasanaeth i breifatrwydd, urddas a dewis.
Hebrwng defnyddwyr gwasanaeth i fynd allan er mwyn iddynt gadw cysylltiadau cymunedol.
Datblygu gwaith partneriaeth effeithiol gyda chydweithwyr mewnol ac allanol ac asiantaethau eraill.
Cadw at ddeddfwriaeth a chanllawiau statudol perthnasol, polisïau a gweithdrefnau mewnol mewn perthynas â materion proffesiynol a gweinyddol.
Bod yn ymwybodol a gwybod am Strategaethau Cenedlaethol a Lleol perthnasol gan gynnwys y Strategaeth Integredig Gydol Oes a Lles.
Mynychu cyfarfodydd tîm, sesiynau goruchwylio a chyrsiau hyfforddiant pan fydd yn briodol ac yn unol â chyfarwyddyd y Rheolwr Llinell, ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â: Matthew Parry trwy ebost: [email protected]
Noder: Cedwir yr hawl i newid y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cyflog
💰 £26,427 - £26,847 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Hebryngwr Croesfannau Ysgol – Ysgol Gynradd Gatholig Padarn Sant
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Swyddog Hebryngwr Croesfannau Ysgol – Ysgol Gynradd Gatholig Padarn Sant
Sylwch fod y cyflog a ddangosir yn un pro rata. Y gyfradd fesul awr ar gyfer y rôl hon yw £13.27 yr awr.
Rydym am recriwtio Hebryngwr Croesfannau Ysgol i ymuno â’r tîm Diogelwch ar y Ffyrdd.
Pwrpas y swydd yw sicrhau diogelwch plant wrth iddyn nhw groesi’r ffordd mewn man dynodedig ar amserau penodedig, heb amharu ar les defnyddwyr eraill y ffordd.
O ddydd i ddydd byddwch yn:
- cyrraedd lleoliad eich croesfan ar amser, yn gwisgo’r wisg gywir a chyda’r arwydd stop
- atal cerddwyr rhag croesi’r ffordd nes ei bod yn ddiogel iddynt wneud hynny, unwaith y byddwch wedi ;sicrhau bod yr holl draffig wedi stopio symud i’r ddau gyfeiriad
- gweithredu polisi’r Cyngor mewn perthynas â’r gwasanaeth Hebryngwyr Croesfannau Ysgol gan gynnwys y gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch
- cadw rheolaeth ar y plant sy’n aros am gyfarwyddyd gan yr Hebryngwr Croesfannau Ysgol i groesi’r briffordd
Rydym am recriwtio unigolyn sy’n ddibynadwy a hyderus, un sy’n dda am gadw amser a chyfathrebu, all addasu’n gyflym ac mewn modd priodol i sefyllfaoedd sy’n newid, sy’n hyderus yn gweithio ar y briffordd.
Rhywun sydd â’r gallu i oruchwylio plant ac sy’n ofalgar ohonynt, y gallu i weithio heb oruchwyliaeth, a rhywun all gyfathrebu mewn ffordd glir a serchog bob amser.
Yn ogystal â’r uchod, rydym yn gofyn am unigolyn sydd â lefel o ruglder yn y Gymraeg.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr ichi gan gynnwys cynllun cyfraniadau pensiwn hael.
Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i’w gweld yma.
Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi’ch datblygiad er mwyn ichi allu symud ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â: Kayleigh Tonkins – Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd – 01545 572053.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cyflog
💰 £25,614 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 x 2 – Ysgol Dyffryn Aeron
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Gynorthwyydd Addysgu Lefel 2 x 2 – Ysgol Dyffryn Aeron
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i gynorthwyo gyda disgyblion y Dysgu Sylfaen.
Mae’n hanfodol i feddu ar gymwysterau a/neu brofiad addas yn ymwneud â datblygiad plant.
Byddai profiad blaenorol o weithio yn y Dysgu Sylfaen yn fanteisiol iawn ynghyd â dealltwriaeth cyffredinol o ofynion y cwricwlwm.
Byddai dealltwriaeth o raglenni hyfforddiant perthnasol eraill megis Ymyrraeth Cynnal Sylw, Grwp Iaith, Cyfri Ceredigion, Tric a chlic, a ‘Y Daith Ddarllen’ yn ddymunol iawn.
Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.
Rydym yn chwilio am berson sydd â diddordeb mewn gweithio’n agos gyda’r disgyblion, sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu da, a sydd hefyd yn medru gweithio’n effeithiol a hwyliog gyda gweddill tîm yr ysgol.
Dyma gyfle euraidd i weithio mewn ysgol ardal newydd sydd â chyfleusterau modern o’r radd flaenaf, gyda Chanolfan ADY, Canolfan Iaith ac adnoddau chwaraeon gwych yn rhan o’r campws, mewn ardal odidog yng ngorllewin Cymru.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Os am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Pennaeth, Ms Nia Lloyd Thomas ar 01545 908 908 neu ar [email protected]
Noder: Cedwir yr hawl i newid y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cyflog
💰 £26,016 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!