Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Uwch Swyddog Seilwaith TGCh (Diogelwch)

💰 40,444 - 42,123 * 📍 Ceredigion
Cais

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Uwch Swyddog Seilwaith TGCh (Diogelwch)

Rydym yn edrych i recriwtio Uwch Swyddog Seilwaith TGCh (Diogelwch) i ymuno â’r tîm Seilwaith a Diogelwch TGCh. Mae hwn yn gyfle pwysig i gefnogi gallu’r Cyngor i gryfhau ei wydnwch seiber, ei lywodraethiant technegol a’i sicrwydd corfforaethol. Ynglŷn â’r Rôl Bydd y rôl yn darparu capasiti penodol i gefnogi Rhaglen Gwydnwch Seiber y Cyngor, gan fynd i’r afael â gweithgareddau a nodwyd drwy asesiadau CAF, argymhellion Archwilio Cymru a blaenoriaethau ehangach o ran risg gorfforaethol. Er bod y swydd yn parhau i fod yn rhan o’r swyddogaeth diogelwch technegol, bydd hefyd yn cyfrannu at weithgareddau sicrwydd a gwydnwch sy’n helpu’r Cyngor i ddeall, rheoli ac adrodd ar ei sefyllfa seiber. Bydd y swydd yn cefnogi meysydd megis sicrwydd cadwyn gyflenwi a rheoli risg trydydd parti, gwella CAF a rheoli tystiolaeth, llywodraethu asedau a datblygu CMDB HALO, mapio gwasanaethau critigol a dibyniaethau seilwaith, blaenoriaethu adferiad, cynllunio gwydnwch ac adrodd ar sicrwydd seiber. Bydd y rôl hefyd yn gweithio’n agos gyda CPMP, y Swyddog Diogelu Data, y SIRO, Caffael a Chydnerthedd Sifil er mwyn cefnogi dull mwy integredig o ymdrin â gwydnwch seiber, parhad busnes a sicrwydd sefydliadol. Bydd hyn yn helpu i greu tîm diogelwch mwy gwydn, gyda gwell rhannu gwybodaeth, cysgodi a threfniadau croesglawr rhwng swyddogion diogelwch. Ynglŷn â’r Ymgeisydd Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad cryf mewn diogelwch TGCh, seilwaith neu rôl arweiniol dechnegol, ynghyd â dealltwriaeth dda o reoli risg, llywodraethu, rheoli asedau a gweithgareddau sicrwydd. Bydd y gallu i weithio gyda thimau technegol a rhanddeiliaid corfforaethol yn hanfodol, gan gynnwys cyfathrebu gwybodaeth dechnegol mewn ffordd glir a defnyddiol. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg. Bydd cefnogaeth lawn yn cael ei chynnig yn ystod oriau gwaith i ymgeiswyr llwyddiannus sydd angen cymorth i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg er mwyn cyrraedd y safon ofynnol. Ein Cynnig i Chi Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn yn darparu cefnogaeth i’ch galluogi i ymgymryd â meysydd cyfrifoldeb allweddol y swydd yn hyderus, yn ogystal â chefnogi eich datblygiad proffesiynol parhaus. Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi, gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, gweithio hybrid, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cefnogaeth iechyd a lles i weithwyr, a chynllun pensiwn hael. Gweithio Hybrid: Yn amodol ar anghenion gwasanaeth, gallwch weithio o gartref neu o swyddfa. Flexi-time: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth. Cyfweliadau Bydd manylion y cyfweliadau yn cael eu cadarnhau. Manylion Ychwanegol Disgrifiad Swydd a Manyleb Person Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion Cysylltwch â ni Am wybodaeth bellach neu drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, cysylltwch â Jason Taylor ar 01970 633295 neu e-bost [email protected] Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Cyflog

💰 40,444 - 42,123 *

Lleoliad

📍 Ceredigion

Dyddiad cau

Gwneud cais

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £25,019 - £28,399 📍 Caerdydd📍 Y Drenewydd Ar gau

💰 £21,979 - £23,749 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

💰 £32,020 - £35,411 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 £27.26 yr awr 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £20,919 - £22,367 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

💰 £24,657 - £30,205 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

💰 £32,960 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Cyflog a bonws yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Caerdydd +2 Ar gau

💰 £30,151 - £32,020 📍 Pwllheli Ar gau

💰 £16,252 - £18,138 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 £32,020 - £35,411 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 Cyflog a bonws yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Caerdydd +2 Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £20,758 - £21,318 📍 Nantgarw Ar gau

💰 Cystadleuol 📍 Talybont📍 O gartref +1 Ar gau

💰 £21,225 - £28,624 pro rata 📍 Bae Caerdydd Ar gau

💰 £28,505 - £31,757 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

💰 £36,386 - £42,155 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £25,895 - £29,890 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £37, 519 - £42,404 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £31,031 (+ Pwysiad Lleoliad) 📍 Caerdydd📍 O gartref +1 Ar gau

💰 £27,929 - £34,308 📍 Caernarfon📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £ 25,569 - £27,747 📍 Bangor Ar gau

💰 £21,197 - £23,144 📍 Caerdydd Ar gau