Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Uwch ymchwilydd – Practis Cymru

Odgers Berndtson

💰 Cystadleuol 📍 Hybrid📍 Caerdydd Ar gau

Mae Odgers Berndtson yn edrych am Uwch ymchwilydd – Practis Cymru

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Uwch ymchwilydd – Practis Cymru 

Rôl hybrid – yng Nghaerdydd am ran o’r wythnos

Cyflog cystadleuol a phecyn buddion a bonws yn ôl disgresiwn   Rydym yn chwilio am Ymchwilydd i ymuno â’n Practis llwyddiannus yng Nghymru i weithio ar aseiniadau chwilio am uwch swyddogion ar draws y sectorau Preifat, Cyhoeddus ac Nid er Elw. 

Odgers Berndtson yw prif gwmni chwilio am uwch swyddogion y DU, gyda’r tîm mwyaf o Ymchwilwyr arbenigol yn y DU ar draws ein rhwydwaith o 8 swyddfa ranbarthol. 

Ni yw’r unig gwmni rhyngwladol o’r radd flaenaf sy’n gweithredu yng Nghymru sy’n ymwneud â chwilio am uwch swyddogion ac rydym yn ffodus i gyflawni aseiniadau â’r proffil uchaf. Dyma gyfle unigryw i wneud cyfraniad gwych at ddyfodol Cymru trwy benodi gweithwyr proffesiynol dawnus. Mae ein penodiadau’n cynnwys rhai o’r prif rolau ar gyfer Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Adeiladu’r Principality, Cyfoeth Naturiol Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Dŵr Cymru, Admiral Financial Services a Chanolfan Mileniwm Cymru.

**Y rôl **

Rôl Ymchwilydd yw nodi, cysylltu ac ymhél â phenodiadau newydd posibl i’n cleientiaid. I wneud hyn yn effeithiol, rydym yn deall anghenion y cleient-sefydliad cyn nodi unigolion mewn cwmnïau perthnasol a chysylltu â nhw, gan asesu eu diddordeb yn y rôl a’u haddasrwydd ar ei chyfer. Mae’n rôl feichus sy’n mynnu dyfalbarhad, atebolrwydd personol a chreadigrwydd. Mae’n cynnig profiad o weithio gyda phrif gwmni chwilio am uwch swyddogion y DU a, hefyd, dod i gysylltiad ag amrywiaeth enfawr o sefydliadau, sectorau a swyddogaethau, a dysgu ohonynt.

Dyma’r gofynion hanfodol

Gweithio’n dda o dan bwysig a chyflwyno ymchwil o ansawdd uchel 

Sgiliau cyfathrebu eithriadol 

Bod yn drefnus a gallu talu sylw rhagorol i fanylder

Bod yn ddygn, yn greadigol a dangos atebolrwydd personol 

Bod yn wirioneddol angerddol tuag at faterion cyfoes yn gysylltiedig â busnes 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg ar unrhyw lefel yn fantais 

Cais 

Os byddai gwneud cais o ddiddordeb i chi, e-bostiwch eich CV a llythyr eglurhaol, yn esbonio pam y byddech chi’n addas ar gyfer y rôl, at Jemma Terry, Partner Rheoli, Practis Cymru, trwy [email protected] neu ffoniwch 029 2078 3050.

Cyflog

💰 Cyflog cystadleuol

Lleoliad

📍 Hybrid, Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Parc Cenedlaethol Eryri

💰 £28k - £33k 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £21k - £25k pro rata Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £21k pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

💰 £47k - £53k 📍 I'w gytuno Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

💰 £47k - £53k 📍 I'w gytuno Ar gau

Llywodraeth Cymru

💰 £95k 📍 Hyblyg Ar gau

Amgueddfa Cymru

💰 £53k - £63k 📍 Llanberis Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £43k - £52k pro rata 📍 Abertawe Ar gau

Menter Iaith Conwy

💰 £29k 📍 Llanrwst Ar gau

Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys

💰 £21k 📍 Y Drenewydd📍 Llandrindod Ar gau

Ysgol Glan Clwyd

📍 Llanelwy Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £25k - £28k 📍 Caernarfon Ar gau

Ysgol Glan Clwyd

📍 Llanelwy Ar gau

Ysgol Glan Clwyd

📍 Llanelwy Ar gau

Ysgol Glan Clwyd

📍 Llanelwy Ar gau

Antur Cymru

💰 £28k 📍 Castellnewydd Emlyn Ar gau

Ymddiriedolaeth Ynys Enlli

💰 £30k - £35k 📍 Gwynedd Ar gau

Partneriaeth Ogwen

💰 £20k 📍 Bangor Ar gau

Comisiynydd y Gymraeg

💰 £31k - £38k 📍 Caerdydd📍 Caernarfon +2 Ar gau

Telesgop

📍 Abertawe Ar gau