Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cyllid

Estyn

💰 £27k - £31k 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

Mae Estyn yn edrych am Swyddog Cyllid

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n angerddol ynghylch Cyllid a Gwasanaeth Cwsmeriaid i ymuno â ni fel Swyddog Cyllid. Byddwch yn cefnogi datblygu a chynnal ein cofnodion ariannol, yn darparu cymorth technegol i’n deiliaid cyllideb ac uwch reolwyr ac yn helpu cynorthwyo’r Tîm Cyllid ehangach. 

Fel Swyddog Cyllid, bydd gennych chi rôl bwysig mewn rheoli a chyflawni’r prosesau ariannol sy’n darparu ar gyfer monitro cyllidebau, adrodd a chreu ein cyfrifon adnoddau blynyddol. Byddwch yn cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaethau Ariannol i ddatblygu a chynnal systemau, polisïau a gweithdrefnau cyllid. Byddwch yn rheolwr llinell ar 3 swyddog gweinyddol. Os ydych chi’n siarad Cymraeg, byddwch chi’n defnyddio eich medrau cyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg, fel ei gilydd.

Meini prawf yn benodol i’r swydd

Mae’n hanfodol eich bod:

·   yn meddu ar gymhwyster cyllid (o leiaf AAT lefel 3 neu gyfwerth)

·   yn meddu ar brofiad mewn cynnal cofnodion manwl a chywir, e.e. cofnodion cyllid neu asedau a stocrestrau

·   yn meddu ar fedrau cyfathrebu, llythrennedd, rhifedd a TG da (gan gynnwys Microsoft Office)

·   yn drefnus ac yn meddu ar alluoedd da o ran rheoli amser ac yn gallu blaenoriaethu gwaith a chwblhau tasgau o fewn graddfeydd amser cytunedig 

·   yn unigolyn hawdd mynd atoch ac yn gallu ffurfio perthnasoedd gweithio effeithiol

·   yn deall sut i gyflwyno gwasanaeth cwsmeriaid da

·   yn gallu nodi tueddiadau a materion mewn data er mwyn cyfleu a chyflwyno gwybodaeth dechnegol / arbenigol mewn ffordd y gall pobl eraill (gan gynnwys pobl nad ydynt yn arbenigwyr) ei deall 

·   yn gallu canfod a datrys problemau yn gyflym, gan ddilyn prosesau sefydledig

·   yn gallu gweithio’n gywir gan roi sylw i fanylder

·   yn gallu gweithio’n annibynnol a defnyddio’ch blaengaredd, tra byddwch chi hefyd yn cydweithio ag aelodau’r tîm a phobl eraill yn y sefydliad

·   yn gallu canolbwyntio a chyflwyno mewn amgylchedd gweithio hybrid

Mae’n fanteisiol eich bod:

yn meddu ar ymwybyddiaeth o weithgarwch a mentrau twyll cyfredol a nodwyd ac ystyried yr effaith ar sefydliadau

yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) 

Ymddygiadau allweddol

·   Gweld y darlun mawr

·   Newid a gwella

·   Rheoli gwasanaeth o ansawdd da

·   Cyflawni ar gyflymdra

·   Gweithio gyda’n gilydd

Cyflog - £26,900 - £30,610 y flwyddyn

Oriau gwaith a gweithio hyblyg: Yr oriau amser llawn yw 37 awr, 5 diwrnod yr wythnos (dydd Llun i ddydd Gwener), ac eithrio breaks. Rydym yn croesawu ceisiadau i weithio’n rhan-amser/oriau llai, rhannu swydd neu ar sail hyblyg arall.

Lleoliad – Caerdydd, lle mae lleoedd parcio ar gael am ddim. Rydym yn gweithredu trefniadau gweithio hybrid anffurfiol ar hyn o bryd, yn amodol ar anghenion y busnes a chytundeb eich rheolwr.

Mae manylion ar sut i wneud cais ar gael o www.estyn.llyw.cymru

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10:00am, Ddydd Llun, 6 Chwefror 2023.

Cyflog

💰 £26,900 - £30,610

Lleoliad

📍 Caerdydd, Hybrid

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £36,382 - £42,149 📍 Abertawe📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Barcud Cyf

💰 £23,174 - £25,579 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

Grŵp Ymgynghori Lafan

💰 £34,000 - £40,000 📍 O gartref Ar gau

IAITH

💰 £26,823 - £34,906 📍 Castellnewydd Emlyn📍 Hyblyg Ar gau

Cwmni Theatr Volcano

💰 £24K pro rata 📍 Abertawe Ar gau

Senedd Cymru

💰 £25,945 - £31,137 📍 Bae Caerdydd Ar gau

Innvois LTD

💰 I'w drafod 📍 Aberystwyth Ar gau

Comisiynydd y Gymraeg

💰 £25,860 - £29,430 📍 Hyblyg Ar gau

Menter Iaith Casnewydd

💰 £21,074- £23,111 📍 Casnewydd Ar gau

Menter a Busnes

💰 £24,657-£30,205 📍 Aberystwyth📍 Bangor +3 Ar gau

Barnardo's

💰 £46,380 📍 Ynys Môn📍 Gwynedd Ar gau

Cyngor Sir Penfro

💰 £30,095 - £34,373 📍 Sir Benfro Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £28,226 - £30,095 📍 Caernarfon Ar gau

Cyfoeth Naturiol Cymru

💰 £20,255 - £23,008 📍 Ponterwyd Ar gau

Menter Iaith Conwy

💰 £19,000 - £22,000 📍 Llanrwst Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

💰 £19,264 - £19,650 📍 Llandudno📍 O gartref Ar gau

Cymdeithas yr Iaith

💰 £25,000 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

CADMHAS

💰 £22,287 📍 O gartref Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £27,024 - £32,739 📍 Caerdydd Ar gau

S4C

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin Ar gau

S4C

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin Ar gau

WWF Cymru

💰 £26,713 📍 Caerdydd Ar gau

WWF Cymru

💰 £38,433 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau