Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Recriwtio ac Ehangu Mynediad y Gymraeg

💰 £29k - £33k 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Ysgol Deintyddiaeth, Prifysgol Caerdydd yn edrych am Swyddog Recriwtio ac Ehangu Mynediad y Gymraeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae cyfle cyffrous wedi codi i siaradwr Cymraeg rhugl ymuno â Thîm Addysg yr Ysgol Deintyddiaeth. Bydd yn cefnogi’r Ysgol i weithredu a gwerthuso rhaglen waith sydd â’r nod o gynyddu ceisiadau i’r rhaglenni israddedig gan ymgeiswyr Cymraeg eu hiaith, a chynyddu nifer ac amrywiaeth y cyfleoedd i fyfyrwyr gyflawni eu hyfforddiant meddygol israddedig mewn sefydliad cyfrwng Cymraeg.

Wedi ei hariannu gan y Coleg Cymraeg, bydd y swydd cyfnod penodol o dair blynedd hon ar gael ar sail ran-amser (21 awr yr wythnos). Mae’r Ysgol yn hyblyg o ran y patrwm gwaith.

Rydym yn chwilio am gyfathrebwr rhagorol sy’n gallu cyflwyno gwybodaeth fanwl a chymhleth yn ddwyieithog mewn modd effeithiol, proffesiynol a deniadol i ystod eang o gynulleidfaoedd ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Bydd angen i chi fod yn llawn cymhelliant a brwdfrydig gyda chofnod diamheuol o gyflwyno portffolio o weithgareddau marchnata a chyfathrebu, a gallu gweithredol i nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliant a datblygiad.

Dylid cyfeirio ymholiadau anffurfiol ynghylch y rôl at Reolwr yr Ysgol, Riah-Jayne Jones [email protected]

Dyddiad Cau: Dydd Sul, 29 Ionawr 2023.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cadw’r hawl i roi’r gorau i hysbysebu’r swydd hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymroi i gefnogi a hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth, gan greu awyrgylch cynhwysol i’w gweithwyr. Rydyn ni o’r farn bod modd gwneud hynny trwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o sawl cefndir gwahanol a hoffai greu prifysgol sy’n ceisio cyflawni ei dyletswydd gymdeithasol, diwylliannol ac economaidd dros Gaerdydd, Cymru a’r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Cyflog

💰 £28,762 - £33,31

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £19,264 - £19,650 📍 Llandudno📍 O gartref Ar gau

💰 £25,000 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £27,024 - £32,739 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £26,713 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £38,433 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £26,500 pro rata 📍 Porthmadog Ar gau

💰 £27,116 📍 Bangor Ar gau

💰 £10,000 📍 Sir Benfro📍 Abertawe +4 Ar gau

💰 £27,491 - £42,333 📍 Ceredigion Ar gau

💰 £19,601 - £22,058 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £25,913 - £28,049 📍 Sir Gaerfyrddin Ar gau

💰 £21,453 - £25,017 pro rata 📍 Ceredigion Ar gau

💰 £21,500 - £27,000 📍 Ceredigion Ar gau

💰 £33,486 - £35,336 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £22,129 - £24,920 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 £19,601 - £22,058 📍 Llangrannog Ar gau

💰 £30,984 - £32,798 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £25,211 - £28,223 📍 Caerdydd Ar gau