Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Uwch Weithiwr Chwarae

💰 £21k 📍 Casnewydd Ar gau

Mae Menter Iaith Casnewydd yn edrych am Uwch Weithiwr Chwarae

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Menter Iaith Casnewydd yn chwilio am Uwch-Weithiwr Chwarae i weithio yn ei Clybiau Sbort a Sbri.

Pwrpas y swydd:

      •     Datblygu a chynnal amgylchedd chwarae cyfoethog, effeithiol, hyblyg ac ysgogol

      •     Goruchwylio cynllunio ar gyfer chwarae plant a phobl ifanc

      •     Goruchwylio systemau rheoli budd risg sy’n effeithiol

      •     Sicrhau cydymffurfiad â’r rheoliadau ar ofal dydd, gan gyfeirio at y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir.

**Prif ddyletswyddau  **  

•     Sicrhau’r ddarpariaeth o amgylchedd chwarae cyfoethog, effeithiol, hyblyg ac ysgogol, lle gall y plant chwarae’n rhydd yn ôl yr hyn a ddarperir.

•     Cydlynu a sicrhau y cesglir y plant o'r ysgol/ion.

•     Goruchwylio cynllunio a pharatoi’r gweithgareddau chwarae, paratoi’r ardal chwarae a’r adnoddau, a fydd yn ateb eu hanghenion chwarae unigol.

•     Meithrin perthnasoedd effeithiol ac onest gyda phlant a phobl ifanc, a’u rhieni/gofalwyr.

•     Sicrhau bod asesiadau risg yn cael eu cynnal, a lle bo’n briodol yn cynnwys ymgymryd ag asesiadau risg: budd ar chwarae plant a phobl ifanc a chefnogi staff yn y broses hon.

•     Creu cysylltiadau â’r gymuned ehangach er mwyn rhoi amryw o gyfleoedd i blant a phobl ifanc a chefnogi’r dealltwriaeth o hawl plant i chwarae.

•     Dilyn y canllawiau a’r gweithdrefnau ar Ddiogelu fel yr argymhellir gan yr awdurdod sy’n cofrestru.

•     Dilyn ac adolygu polisïau a gweithdrefnau’r Clwb, gan gynnwys diogelu, iechyd a diogelwch, ymddygiad, gweithdrefnau brys, a chyfrinachedd fel y cymeradwyir gan yr awdurdod sy’n cofrestru.

•     Sicrhau bod staff yn dilyn, ac yn ymgysylltu â’r polisïau a’r gweithdrefnau, a’u hadolygu.

•     Sicrhau y goruchwylir y plant a’r bobl ifanc yn briodol drwy gydol y sesiynau.

•     Gweinyddu Cymorth Cyntaf fel y bo’n gymwys.

•     Sicrhau y cesglir y plant a’r bobl ifanc gan rieni/gofalwyr yn gweithio o fewn y canllawiau polisi.

•     Sicrhau y darperir ystod o opsiynau bwyd a diod yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau.

•     Unrhyw ddyletswydd arall perthynol i’r swydd ar gais y pwyllgor/perchennog/rheolwr.

Mae Menter Iaith Casnewydd yn gwmni cymunedol dielw sydd â’r nod o gynyddu defnydd y Gymraeg gan blant ac oedolion Casnewydd ac i alluogi pobl Casnewydd i fyw a gweithio yn y Gymraeg.

Mae Menter Iaith Casnewydd wedi ymrwymo i gefnogi egwyddorion cyfle cyfartal ac yn cydnabod manteision denu, cadw ac ysgogi gweithlu amrywiol a chynrychioliadol. Cysylltwch gyda [email protected] am fanylion pellach

Cyflog

💰 £21,000 pro rata

Lleoliad

📍 Casnewydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £28k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £23,481 - £27,222 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £23k 📍 Hybrid Ar gau

💰 £29,116 - £35,627 📍 Caerdydd📍 Hybrid +1 Ar gau

💰 £30,151 - £32,020 📍 Dolgellau Ar gau

💰 £24,285 - £27,131 📍 Bangor Ar gau

💰 £27,450-£38,740 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £33,706 - £40,588 📍 Nantgarw Ar gau

💰 £ 25,569 - £27,747 📍 Bangor Ar gau

💰 £51,675 - £59,979 📍 Cymru📍 Hybrid Ar gau

💰 £42,729- £49,600 📍 Cymru📍 Hybrid Ar gau

💰 £27,055 - £32,934 📍 Llanelwy Ar gau

💰 £28,866 - £44,450 pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £40,561 pro rata 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hyblyg Ar gau

💰 £27,433 - £32,980 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £28,505 - £31,757 📍 Llanuwchlyn Ar gau

💰 £35,333 - £42,155 📍 Bangor Ar gau

💰 £43,000 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £33,000 – £36,961 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £22,017 – £32,956 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £28,371 - £32,909 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £36,000 - £40,000 📍 Ynys Môn Ar gau