Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Rheolwr Cystadlu

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

💰 £34k - £36k 📍 Caerdydd📍 Llanybydder +1 Ar gau

Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Cystadlu

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydyn ni'n chwilio am Reolwr Cystadlu i ymuno â'r tîm.

Cyfle i arwain ar holl elfennau marchnata a chyfathrebu’r Eisteddfod, gan gynnwys ein platfformau digidol a’n gwefan, gan gynnwys ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, llunio a gweithredu ein strategaethau cyfathrebu lleol a chenedlaethol, y wasg a’r cyfryngau, hysbysebu, creu copi mewn print ac ar-lein, a llawer mwy.  

DISGRIFIAD SWYDD

Prif Ddyletswyddau

- Arwain ar gynllun hyrwyddo’r cystadlu gan gydweithio gydag ystod o rhanddeiliaid e.e. prifysgolion, grwpiau ieuenctid, i ddenu cystadleuwyr newydd mewn cydweithrediad gyda’r Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu.

- Paratoi cynnwys, prawf ddarllen a threfnu’r Rhestr Testunau a’r elfen gystadlu ar gyfer y Rhaglen.

- Gweinyddu cytundebau’r beirniaid, y cyfeilyddion a’r cystadleuwyr.

- Creu, cynnal a diweddaru system gystadlu, beirniaid a rhanddeiliaid.

- Gweinyddu'r cystadlaethau cyfansoddi a chydweithio gyda’r Cyfarwyddwr Artistig i baratoi'r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau.

- Gweinyddu'r cystadlaethau llwyfan a gohebu gyda chystadleuwyr, arweinyddion, beirniaid, cyfeilyddion, clercod rhagbrofion ayyb yn unigol ar faterion sy’n ymwneud ag amserlenni, testunau cystadlu, mynediad a thocynnau bwyd, beirniadaethau ayyb fel bo’n briodol.

- Gweinyddu a chynghori’r Panelau Canolog a’r Pwyllgor Diwylliannol.

- Gweinyddu amserlenni cystadlaethau a threfnu amser ymarferiadau.

- Rheoli’r llyfrgell gerdd ac arwain ar ddigideiddio’r cynnwys.

- Gweinyddu’r broses sy’n ymwneud â darnau prawf a hunan ddewisiad, gan gynnwys prynu a chofnodi, ffeilio, cyfieithiadau, cyd-gysylltu gyda golygyddion, trwyddedu, hawlfraint, gosod geiriau, paratoi gwybodaeth i gystadleuwyr a chynorthwyo gyda phecynnau i’r beirniaid.

- Paratoi cylchlythyrau ar gyfer cystadleuwyr yn rhannu dyddiadau pwysig a chyfleoedd posibl mewn cydweithrediad gyda’r -Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu.

- Goruchwylio elfen gystadlu Y Lle Celf gan gydweithio gyda’r swyddogion celf.

Math o gytundeb: Parhaol

Cyflog: £34,250 - £36,352. Penodir ar waelod y raddfa.

Dyddiad cau: 8 Chwefror 2023

Cyfweliadau: 16 / 17 Chwefror (lleoliad i’w gadarnhau).

Sut i ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd at [email protected]. Mae croeso i chi gysylltu â [email protected] i drefnu sgwrs anffurfiol cyn y dyddiad cau.

Cyflog

💰 £34,250 - £36,352

Lleoliad

📍 Caerdydd, Llanybydder, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau