Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cydlynydd Artistig

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

💰 £23k - £24k 📍 Caerdydd📍 Llanybydder +1 Ar gau

Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn edrych am Gydlynydd Artistig

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydyn ni'n chwilio am Gydlynydd Artistig i ymuno â'r tîm.

Cyfle i gynorthwyo Adran Artistig yr Eisteddfod, gan gynnig cefnogaeth weinyddol, paratoi contractau, gwybodaeth i’w gyhoeddi yn y Rhaglen a’r platfformau digidol, a rheoli gweinyddiaeth prosiectau arbennig fel Côr yr Eisteddfod, ynghyd â chynorthwyo gyda’r elfen gystadlu drwy gydol y flwyddyn, a llawer mwy. 

DISGRIFIAD SWYDD

Prif Ddyletswyddau

- Cynorthwyo’r Cyfarwyddwr Artistig, y Dirprwy Gyfarwyddwr Artistig a’r Rheolwr Cystadlu.

- Gweinyddu cytundebau artistiaid, beirniaid a chyfeilyddion.

- Trefnu bywgraffiadau a lluniau’r artistiaid a chystadleuwyr buddugol.

- Trefnu a gweinyddu cyfarfodydd pwyllgorau gwaith a phanelau lleol a chanolog.

- Gweinyddu amserlen Cymdeithasau gan gydlynu trefniadau a gwybodaeth gyda sefydliadau perthnasol a pharatoi’r cynnwys ar gyfer y Rhaglen a phlatfformau amrywiol yr Eisteddfod.

- Cynorthwyo i gysylltu gydag artistiaid a chystadleuwyr yn ystod yr ŵyl, gan gyd-gordio rhwng cystadleuwyr, beirniaid a stiwardiaid; gweinyddu beirniadaethau a rhagbrofion.

- Gweinyddu'r broses o ddewis Cyflwynwyr yr Orsedd a’r ddawns flodau a gweinyddu ceisiadau i’r Panel Urddau.

- Cynnal a diweddaru bas-data o gystadleuwyr, beirniaid a rhanddeiliaid.

- Gweinyddu prosiectau arbennig, e.e. côr yr Eisteddfod a’r côr plant.

- Trefnu a chofnodi cyfarfodydd y tîm artistig.

Math o gytundeb: Parhaol

Cyflog: £23,000 - £24,411. Penodir ar waelod y raddfa.

Dyddiad cau: 3 Chwefror 2023

Sut i ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd at [email protected]. Mae croeso i chi gysylltu â [email protected] i drefnu sgwrs anffurfiol cyn y dyddiad cau.

Cyflog

💰 £23,000 - £24,411

Lleoliad

📍 Caerdydd, Llanybydder, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau