Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cydlynydd Corfforaethol

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

💰 £23k - £24k 📍 Caerdydd📍 Llanybydder +1 Ar gau

Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn edrych am Gydlynydd Corfforaethol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydyn ni'n chwilio am Gydlynydd Corfforaethol i ymuno â'r tîm.

Cyfle i gynorthwyo timoedd y Prif Weithredwr, Cyllid a Strategol, ynghyd â gweinyddu trefniadau cyfarfodydd y Bwrdd Rheoli a’r Cyngor, a rheoli swyddfa’r Eisteddfod yng Nghaerdydd, gan ateb y ffôn, ymateb i ymholiadau a chroesawu ymwelwyr i’r swyddfa, a llawer mwy. 

DISGRIFIAD SWYDD

Prif Ddyletswyddau

- Cynnig gwasanaeth cefnogol effeithiol i dimoedd y Prif Weithredwr, Cyllid a Strategol.

- Gweinyddu trefniadau ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor a’r Bwrdd gan gynnwys anghenion teithio a llety fel bo angen.

- Ymateb fel bo’n briodol i e-byst cyffredinol [email protected], i ymwelwyr i’r swyddfa, a galwadau ffôn allanol.

- Rheoli’r swyddfa o ddydd i ddydd gan gynnwys ateb y ffôn, ymdrin â’r post ac e-byst, croesawu ymwelwyr a dyletswyddau clerigol eraill gan gynnwys goruchwylio’r cyflenwad offer swyddfa, llungopïo a sganio. 

- Cyfrifoldeb dros restr llety staff a gwirfoddolwyr blynyddol.

- Cyd-lynu’r trefniadau ar gyfer byrbryd noddwyr blynyddol yr Eisteddfod yn ystod yr ŵyl.

- Sicrhau bod cyfleusterau/lluniaeth yn eu lle, boed hynny yn y swyddfa neu mewn canolfannau eraill. 

- Trefnu a chynnal ffeiliau electroneg ar gyfer prosiectau penodol.

- Cadw cofnodion mewn cyfarfodydd amrywiol.

Math o gytundeb: Parhaol

Cyflog: £23,000 - £24,411. Penodir ar waelod y raddfa.

Dyddiad cau: 3 Chwefror 2023

Sut i ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd at [email protected]. Mae croeso i chi gysylltu â [email protected] i drefnu sgwrs anffurfiol cyn y dyddiad cau.

Cyflog

💰 £23,000 - £24,411

Lleoliad

📍 Caerdydd, Llanybydder, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau