Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cyfreithiwr (Oedolion Ac Addysg) – Gwasanaeth Cyfreithiol

Cyngor Gwynedd

💰 £45k 📍 Caernarfon Ar gau

Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Gyfreithiwr (Oedolion Ac Addysg) – Gwasanaeth Cyfreithiol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae’r Gwasanaeth yn agored i gytuno trefniadau gweithio hybrid.

CYFREITHIWR (Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg ) - Mae’r Cyngor wedi gosod ychwanegiad y farchnad ar y swydd hon, sydd yn golygu mai’r uchafswm cyflog ydi £45,496.

Mae’r Cyngor edrych i gyflogi Cyfreithiwr neu Fargyfreithiwr i ymuno a’r tim mewn swydd sydd yn cynghori a gweithredu ar ran y Cyngor ar faterion gofal cymdeithasol oedolion ac addysg. Mae’r gwaith yn cynnwys:

Materion darparu a comisiynu gofal, iechyd meddwl, anabledd, achosion amddifadu o ryddid a chartrefi cofrestredig. 

Materion addysg ,cyfrifoldebau athrawon ac ysgolion, gwaharddiadau, anghenion addysg ychwanegol , dyletswyddau llywodraethwyr.

Mae’r Cyngor am gyflogi unigolyn sydd yn gallu dangos agwedd gadarnhaol a rhagweithiol tuag at y meysydd gwaith ynghyd a’r gallu i weithio fel aelod effeithiol o dîm cyfreithiol yn darparu ystod o wasanaethau i’r Cyngor a’i gleientiaid.

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y [Pecyn Gwybodaeth](https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/cyngor/swyddi/gweithio-i-ni.aspx)

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Iwan G D Evans ar 01286 679015

Rhagwelir cynnal cyfweliadau dydd Iau, 23/02/2023.

Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

E-Bost: [email protected]

DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 16/02/2023

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Cyflog

💰 £45,496

Lleoliad

📍 Caernarfon

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Llyfrau Cymru

💰 £42k - £46k pro rata 📍 Castell Brychan Ar gau

Addysg Oedolion Cymru

💰 £25.84 yr awr 📍 Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Powys Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £19k pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

Menter Iaith Fflint a Wrecsam

💰 £20k 📍 Sir y Fflint Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Hyblyg Ar gau

Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy

💰 £22k - £23k 📍 Torfaen Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

💰 £30k 📍 Cwm Clydach Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

💰 £33k 📍 Cwm Clydach Ar gau

Coleg Cambria

💰 £27k - £39k pro rata 📍 Wrecsam Ar gau

Adra

💰 £38k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Brynhyfryd

💰 PRC/ URC CAD1b 📍 Rhuthun Ar gau

Ysgol Brynhyfryd

💰 PRC/ URC CAD2b 📍 Rhuthun Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £30k 📍 Wrecsam Ar gau

Cyngor Caerdydd

💰 £30k - £34k 📍 Caerdydd Ar gau

Coleg Cambria

💰 £27k - £39k pro rata 📍 Wrecsam Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £20k - £22k 📍 Gorllewin Morgannwg Ar gau

Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr

💰 £38k - £44k 📍 Bangor Ar gau

Tinopolis

💰 Yn ôl profiad 📍 Llanelli Ar gau

Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys

💰 £26k - £29k 📍 Sir Gaerfyrddin Ar gau

Arnold Davies Vincent Evans

💰 £19k - £20k 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

Business in Focus

💰 £30k 📍 Pen-y-bont ar Ogwr Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £23k - £26k 📍 Bangor Ar gau