Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Rheolwr Cyfleusterau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £30k 📍 Bangor Ar gau

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Cyfleusterau

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae gennym gyfle i Reolwr Cyfleusterau trefnus i sicrhau bod ein heiddo a'n cyfleusterau yn cydymffurfio â safonau Iechyd a Diogelwch, Amgylcheddol, Tân a Diogelwch perthnasol. Byddwch yn arwain ar sicrhau bod ein hadeiladau'n cael eu cynnal a'u gofalu amdanynt i'r safonau uchaf.                   Sut brofiad yw gweithio yma

Mae Penrhyn yn dŷ Fictoraidd wedi'i guddio fel castell neo-Sioraidd anferth, sy’n cynnwys 204 o ystafelloedd a 70 to. Mae hanes Penrhyn wedi'i seilio ar gaethwasiaeth, llechi, ysblander a streiciau, ac ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar drawsnewid sut ydym yn adrodd hanes y lle arbennig hwn i gyffroi, addysgu ac ysbrydoli ein hymwelwyr. Mae atyniadau allweddol Penrhyn yn cynnwys ei Ystafelloedd Swyddogol a'r ystafelloedd 'cudd' a 'heb eu cyffwrdd' yn y Gorthwr. Mae'r gerddi 60 acer, trawiadol yn cynnwys gardd furiog Fictoraidd a golygfeydd godidog o Eryri.

Mae rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau’n cael ei chynnal, sy'n dod â'r eiddo unigryw hwn yn fyw. Fel rhan o’r tîm hwyliog a chreadigol, byddwch yn gyfrifol am y tîm cyfleusterau bach sy’n gofalu am yr adeilad anferthol hwn a'r tir o’i amgylch. Bydd gennych ddigonedd o brosiectau cynnal a chadw i’ch cadw’n brysur trwy’r amser.

**Beth fyddwch chi’n ei wneud **

Nid cyfrifoldeb y swyddfa gefn yw’r cyfleusterau yn ein barn ni, felly byddwch chi allan yn arolygu ein heiddo ac yn cadw ar flaen ein systemau. Fel rhan o’r tîm eiddo, byddwch yn adrodd i’r Rheolwr Cyffredinol, ac yn gyfrifol am redeg pob agwedd ar reolaeth cyfleusterau ledled ein heiddo, gan sicrhau ein bod yn ddiogel ac yn cydymffurfio.

Darllenwch y proffil sydd ynghlwm i gael rhagor o wybodaeth. 

Am bwy ydym yn chwilio

- Dealltwriaeth o reoli cyfleusterau a gofynion cynnal a chadw

- Profiad da o reoli risg a chydymffurfiaeth gyffredinol, gan gynnwys dealltwriaeth o reoliadau CDM, Iechyd a Diogelwch, gweithdrefnau Brys a gweithdrefnau Tân a Diogelwch

- Sgiliau pobl a gwasanaeth cwsmeriaid da

- Profiad o reoli cyllidebau, cyllid, prosiectau a chontractau/contractwyr Sgiliau TG uwch 

Y Pecyn

Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw 'I bawb, am byth'. Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a'r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo'n gartrefol yn ein timau hefyd.    - Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol

- Mynediad am ddim i eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a'ch plant (dan 18 oed)

- Cynllun gofal plant di-dreth

- Cynllun benthyciad blaendal rhent

- Benthyciad tocyn tymor

- Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema

- Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol

- Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo'n bosibl

- Rhaglen cynorthwyo cyflogai

- Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau

- Cyngor ariannol annibynnol

Cyflog

💰 £29,640

Lleoliad

📍 Bangor

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £36k - £42k 📍 Abertawe📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Barcud Cyf

💰 £23k - £26k 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

Grŵp Ymgynghori Lafan

💰 £34k - £40k 📍 O gartref Ar gau

IAITH

💰 £27k - £35k 📍 Castellnewydd Emlyn📍 Hyblyg Ar gau

Cwmni Theatr Volcano

💰 £24K pro rata 📍 Abertawe Ar gau

Senedd Cymru

💰 £26k - £31k 📍 Bae Caerdydd Ar gau

Innvois LTD

💰 I'w drafod 📍 Aberystwyth Ar gau

Comisiynydd y Gymraeg

💰 £26k - £29k 📍 Hyblyg Ar gau

Menter Iaith Casnewydd

💰 £21k - £23k 📍 Casnewydd Ar gau

Menter a Busnes

💰 £25k - £30k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +3 Ar gau

Barnardo's

💰 £46k 📍 Ynys Môn📍 Gwynedd Ar gau

Cyngor Sir Penfro

💰 £30k - £34k 📍 Sir Benfro Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £28k - £30k 📍 Caernarfon Ar gau

Cyfoeth Naturiol Cymru

💰 £20k - £23k 📍 Ponterwyd Ar gau

Menter Iaith Conwy

💰 £19k - £22k 📍 Llanrwst Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

💰 £19k - £20k 📍 Llandudno📍 O gartref Ar gau

Cymdeithas yr Iaith

💰 £25k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

CADMHAS

💰 £22k 📍 O gartref Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £27k - £33k 📍 Caerdydd Ar gau

S4C

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin Ar gau

S4C

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin Ar gau

WWF Cymru

💰 £27k 📍 Caerdydd Ar gau

WWF Cymru

💰 £38k 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau