Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Ymgynghorydd

Partneriaeth

💰 Soulbury 13 – 15 plus 3 SPA 📍 Hyblyg Ar gau

Mae Partneriaeth yn edrych am Ymgynghorydd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

DIBEN Y SWYDD

Meithrin cydweithredu effeithiol ag ysgolion ac Awdurdodau Lleol trwy ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel, i sicrhau bod yr holl staff, ym mhob ysgol yn y bartneriaeth, yn cael cefnogaeth dda mewn meysydd megis Cwricwlwm i Gymru, datblygu a darparu cymwysterau newydd, addysgeg a hunanwerthuso. Bydd y rôl yn hyblyg er mwyn ymateb i anghenion gwahanol pob Awdurdod Lleol, ac wrth wneud hynny i ddeall gofynion ysgolion ledled y Bartneriaeth o ran cymorth. Bydd cynghorwyr yn gweithio'n agos gyda chyd-weithwyr yn yr Awdurdodau Lleol ar ystod eang o fentrau a fydd yn newid wrth i flaenoriaethau newydd godi. Cyfrannu at y broses o lunio a datblygu polisi a chynlluniau strategol; paratoi adroddiadau yn ôl y gofyn; cynrychioli a/neu gynorthwyo'r Uwch-gynghorwyr Strategol ac ymateb i anghenion newidiol, a hynny er mwyn gweithredu'r blaenoriaethau yn y Cynllun Busnes. 

Ar gael yn barhaol neu ar secondiad 

Bydd opsiynau llawn-amser a rhan-amser/gweithio hyblyg yn cael eu hystyried (hyd at 1 FTE)

Cyflog – Soulbury 13-15 ynghyd â 3 phwynt SPA (neu'n cyfateb i'r telerau ac amodau cyflogaeth yn achos secondiad)

Dylai'r rheiny sy'n dymuno cael eu hystyried ar gyfer secondiad gael cymeradwyaeth eu Corff Llywodraethu cyn gwneud cais.

Dyddiad Dechrau – cyn gynted â phosibl

Cafodd Partneriaeth ei ffurfio ym mis Ebrill 2022 yn dilyn darfodiad ERW. Mae'r consortiwm newydd yn wasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol cwbl integredig, ac mae wedi'i gomisiynu gan dri awdurdod lleol – Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Penfro a Dinas a Sir Abertawe. Ei nod yw darparu dysgu proffesiynol o ansawdd uchel i bob arweinydd, athro ac aelod o staff cymorth i wella'r deilliannau ar gyfer yr holl ddysgwyr. Bydd Partneriaeth hefyd yn gweithio gyda chonsortia, partneriaethau ac Awdurdodau Lleol eraill ledled Cymru, sefydliadau ymchwil, a Llywodraeth Cymru i arwain y gwaith o ddatblygu a chyflwyno polisi ledled y tri ALl.

Rydym am benodi athro/athrawes tra effeithiol i swydd Ymgynghorydd, gyda ffocws penodol ar Gymraeg Ail Iaith (Uwchradd). Gan weithio mewn tîm o 12 o ymgynghorwyr eraill, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddatblygu cydweithredu effeithiol gydag ysgolion ac ALlau er mwyn sicrhau bod yr holl staff addysgu a dysgu yn cael cefnogaeth dda mewn meysydd megis Cwricwlwm i Gymru, datblygu a darparu cymwysterau newydd, addysgeg a hunanwerthuso.

Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar hanes profedig o addysgu rhagorol i gefnogi a gwella ymarfer ystafell ddosbarth. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus sicrhau cysondeb o ran mynediad at gyfleoedd a dysgu proffesiynol o ansawdd uchel i bawb, yn ogystal â sicrhau cysondeb o ran cymorth i ysgolion trwy bartneriaethau effeithiol ag Awdurdodau Lleol ac ysgolion.

Darperir manylion llawn am y rôl yn y swydd-ddisgrifiad sydd ynghlwm. Os hoffech drafod y cyfle ymhellach, cysylltwch â Gwennan Schiavone, Uwch Ymgynghorydd Strategol drwy e-bost: [email protected]

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16 Chwefror 2023.

Cynhelir y cyfweliadau yn yr wythnos yn dechrau ar 27 Chwefror 2023

Cyflog

💰 Soulbury 13 – 15 plus 3 SPA

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Llyfrau Cymru

💰 £41,591– £45,648 pro rata 📍 Castell Brychan Ar gau

Addysg Oedolion Cymru

💰 £25.84 fesul yr awr (yn cynnwys tâl gwyliau) 📍 Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Powys Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £19,138 pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

Menter Iaith Fflint a Wrecsam

💰 £19,680 📍 Sir y Fflint Ar gau

Menter a Busnes

💰 £21,979 - £23,748 📍 Hyblyg Ar gau

Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy

💰 £22,002 - £23,111 📍 Torfaen Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

💰 £30,095 📍 Cwm Clydach Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

💰 £32,798 📍 Cwm Clydach Ar gau

Coleg Cambria

💰 £27,382 - £39,357 pro rata 📍 Wrecsam Ar gau

Adra

💰 £37,823 - £41,166 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Brynhyfryd

💰 PRC/ URC CAD1b 📍 Rhuthun Ar gau

Ysgol Brynhyfryd

💰 PRC/ URC CAD2b 📍 Rhuthun Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £29,614 – £32,375 📍 De Ddwyrain Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £29,640 📍 Wrecsam Ar gau

Cyngor Caerdydd

💰 £30,095 - £34,373 📍 Caerdydd Ar gau

Coleg Cambria

💰 £27,382 - £39,357 pro rata 📍 Wrecsam Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £19,601 - £22,058 📍 Gorllewin Morgannwg Ar gau

Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr

💰 £38,052 - £43,757 📍 Bangor Ar gau

Tinopolis

💰 Yn ddibynnol ar brofiad 📍 Llanelli Ar gau

Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys

💰 £26016 - £28725 📍 Sir Gaerfyrddin Ar gau

Arnold Davies Vincent Evans

💰 £19,000 - £20,000 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

Business in Focus

💰 £30,000 📍 Pen-y-bont ar Ogwr Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £23,487 - £26,341 📍 Bangor Ar gau