Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cyswllt Dysgu Seiliedig ar Ymarfer

Prifysgol De Cymru

💰 £37k 📍 Pontypridd Ar gau

Mae Prifysgol De Cymru yn edrych am Swyddog Cyswllt Dysgu Seiliedig ar Ymarfer

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae'r Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg yn dymuno penodi swyddog cyswllt dysgu seiliedig ar ymarfer gyda phrofiad Nyrsio / Bydwreigiaeth i ymuno â thîm staff sydd eisoes yn bodoli o yn cyflwyno rhaglenni nyrsio, bydwreigiaeth a pherthynol i iechyd. Ffocws y swyddi yw cefnogi'r goruchwylwyr/aseswyr ymarfer sy'n darparu cydrannau ymarfer y rhaglenni cyn-gofrestru. Cyflwynir hyn mewn ystod o amgylcheddau ymarfer a gwahoddir ymgeiswyr sydd â phrofiad o amgylcheddau gofal y GIG a chyrff/sefydliadau eraill, ac sydd ag ystod o arbenigeddau. Bydd deiliaid y swyddi’n rhoi arweiniad a chefnogaeth ymarferol i fyfyrwyr a staff lleoliad, yn cydgysylltu â'r Brifysgol, ac yn cynorthwyo Penaethiaid Pwnc a'r Pennaeth Dysgu ar Leoliad i gynnal ansawdd y lleoliadau presennol, ac ehangu'r ystod o leoliadau ymarfer a ddefnyddir. Byddant yn dod yn fedrus wrth weinyddu'r ddogfen asesu arferion electronig, yn cyfrannu at brosesau archwilio ac ansawdd/llywodraethu, a bydd yn ofynnol iddynt weithio ar draws sefydliadau darparwyr gofal iechyd yng Nghymru.

Rhaid i ddeiliaid y swydd:

·   fod â phrofiad nyrsio ôl-gofrestru a/neu brofiad Bydwreigiaeth ac o hwyluso dysgu ac asesu myfyrwyr mewn ystod o leoliadau gofal iechyd

·   meddu ar Gofrestriad Gweithredol gyda'r CNB

·   bod yn barod i deithio a gweithio'n hyblyg ledled Cymru.

Bydd gan ddeiliad y swydd ganolfan ar Safle Glyn-taf ond bydd gofyn gweithio o safleoedd darparwyr gofal iechyd ledled Cymru.

I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â Fiona Hook-MacKenzie [email protected]

Os ydych yn ymgeisydd llwyddiannus ac mai hon fydd eich rôl gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Brifysgol (neu os ydych yn gyflogedig gan PSS Ltd ar hyn o bryd), byddwch yn cael eich cyflogi gan Wasanaethau Proffesiynol a Chymorth Cyf, is-gwmni sy'n eiddo'n gyfan gwbl i Brifysgol De Cymru ac sy'n darparu gwasanaethau i'r Brifysgol a Cholegau. Os ydych yn ymgeisydd gwasanaethau proffesiynol mewnol, byddwch yn parhau i gael eich cyflogi gan Brifysgol De Cymru. 

I gael gweld mwy am fanteision gweithio yn PDC: http://tiny.cc/PSSatUSW

Cyflog

💰 £37,474

Lleoliad

📍 Pontypridd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Menter Iaith Bro Morgannwg

Ar gau

Cyngor Llyfrau Cymru

Ar gau

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

💰 £41k - £46k 📍 Caerdydd Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Ar gau

Ysgol Gynradd Groeswen

Ar gau