Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Uwch Swyddog Gwirfoddoli a Chymuned

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £26k 📍 Ynys Môn Ar gau

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Uwch Swyddog Gwirfoddoli a Chymuned

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn awyddus i benodi Uwch Swyddog Gwirfoddoli a Chymuned i ymuno â'n tîm arbennig yma yn Ynys Môn a Llŷn. Os oes gennych chi brofiad o reoli gwirfoddolwyr ac ymgysylltiad cymunedol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi – gyda thîm o 150 o wirfoddolwyr a chymunedau lleol bywiog, mae cysylltu â phobl yn ganolog i’r rôl hon.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y rôl hon, cysylltwch ag [email protected]

Mae Ynys Môn a Llŷn yn bortffolio gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a ffurfiwyd yn ddiweddar gan ddwyn y ddwy ardal ynghyd i ganolbwyntio’n well ar ein safleoedd arfordirol a’n cymunedau yng ngogledd orllewin Cymru.

Fel portffolio mae ein gwaith yn ymwneud â gofalu am wledd o gynefinoedd arfordirol sy’n gyfoeth o fioamrywiaeth. Nid yw'n syndod felly y bydd llawer o'ch gwaith yn canolbwyntio ar ymgysylltu pobl â'r amgylchedd naturiol y gofalwn amdano. Wrth weithio ar draws ein hadrannau a safleoedd, byddwch yn hyrwyddo ein cynllun portffolio ar gyfer gwirfoddoli ac ymgysylltiad cymunedol, gan gynnwys datblygu ffyrdd newydd o weithio ac atgyfnerthu cysylltiadau gyda chynulleidfaoedd hen a newydd.

Mae gennym hefyd lawer o draethau poblogaidd a mannau mynediad arfordirol dan ein gofal, yn ogystal â gerddi ac eiddo adeiledig. Mae Tŷ a Gardd Plas Newydd yn blasty godidog ac yn ardd restredig Gradd 1 ar lannau’r Fenai. Maenordy bychan yw Plas yn Rhiw sy’n swatio mewn gardd brydferth a choetir o’i amgylch ar arfordir de Pen Llŷn, ac mae Porth y Swnt yn ganolfan ymwelwyr ddifyr yn Aberdaron a gynlluniwyd i ysbrydoli pobl i grwydro rhagor ym Mhen Llŷn. Mae’r holl eiddo yn wahanol iawn, ac mae’r rôl hon yn cynrychioli cyfle cyffrous i gyflawni dyheadau gwirfoddoli a chymuned Ynys Môn a Llŷn ledled y portffolio. 

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru yn sefydliad dwyieithog a rhaid i'r holl staff a gwirfoddolwyr ddangos ymrwymiad i weithio mewn amgylchedd cwbl ddwyieithog. Cwblhewch yr Asesiad Cymhwysedd Iaith Gymraeg ynghlwm a'i uwchlwytho ochr yn ochr â'ch CV. Ar gyfer y swydd hon mae angen cymhwysedd Gwrando, Deall a Siarad ar lefel 4 o leiaf.

Byddwch yn arwain y gwaith o ddatblygu a chyflwyno cynllun strategol y portffolio hwn ar gyfer gwirfoddoli a chymunedau, ochr yn ochr â thîm rheoli’r eiddo. Gyda ffocws clir ar ganfod a meithrin cysylltiadau gyda grwpiau cymunedol phartneriaid presennol a darpar bartneriaid, byddwch hefyd yn gwella hyder a gallu ein rheolwyr gwirfoddoli. Byddwch yn hyfforddi’r holl reolwyr gwirfoddoli a’n cydweithio i ymgorffori newid, lle bo angen, wrth ehangu a chyfoethogi ein cysylltiadau â’n cynulleidfaoedd. 

Ynghyd â'n rheolwyr gwirfoddolwyr, byddwch yn gyfrifol am greu amgylchedd cydweithredol, cynhwysol, hygyrch a chefnogol ar gyfer ein gwirfoddolwyr, cymunedau a phartneriaid, hen a newydd, wrth gadw gwerth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, bod Croeso i Bawb, yn y cof. Byddwch hefyd yn arwain gweithgareddau ymgysylltu gyda’n cymunedau wrth inni ymgymryd â sawl prosiect adeiladau ledled y portffolio, gan gynnwys gwaith i uwchraddio’r gwasanaethau drwy gydol y plasty ym Mhlas Newydd.

Byddwch wedi’ch lleoli ym Mhlas Newydd, lle byddwch yn chwarae rhan weithredol yn y tîm gweithrediadau eiddo ac ar y rota rheoli dyletswydd yn rheolaidd. Byddwch hefyd yn treulio amser ar grwydr ledled y portffolio, yn rhyngweithio â chydweithwyr ac yn ymweld ag eiddo eraill a threulio amser gyda’n cymunedau. 

Mae disgwyl ichi weithio gyda’r nos, ar benwythnosau ac ar wyliau banc. Byddai trafnidiaeth eich hun yn fuddiol oherwydd lleoliadau amrywiol ein safleoedd ar draws y portffolio.

Gofynnir i chi hefyd ddarllen y proffil swydd llawn sydd ynghlwm â'r hysbyseb hon.

Er mwyn cyflawni'r swydd hon yn llwyddiannus, bydd angen ichi feddu ar y canlynol; 

- Dealltwriaeth o arfer da o ran cyfranogiad ac ymgysylltiad cymunedol, yn ogystal â chyfranogiad a gwaith partner ehangach

- Y gallu i ymgysylltu'n rhagweithiol o fewn cymuned 

- Yn gallu siarad Cymraeg

- Dealltwriaeth dda o reoli gwirfoddolwyr

- Profiad ymarferol a datblygu a gweithredu cyfleoedd a dulliau gwirfoddoli newydd

- Yn hyderus wrth hyfforddi a chefnogi unigolion sy’n rheoli a goruchwylio gwirfoddolwyr a phartneriaid cymunedol, a’n gweithio ochr yn ochr â nhw

- Sgiliau trefnu a chynllunio rhagorol

- Sgiliau rhyngbersonol a rhwydweithio rhagorol

Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw 'I bawb, am byth'. Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a'r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo'n gartrefol yn ein timau hefyd.  

- Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol

- Mynediad am ddim i eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a'ch plant (dan 18 oed)

- Cynllun gofal plant di-dreth

- Cynllun benthyciad blaendal rhent

- Benthyciad tocyn tymor

- Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema

- Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol

- Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo'n bosibl

- Rhaglen cynorthwyo cyflogai

- Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau

- Cyngor ariannol annibynnol 

Cyflog

💰 £25,662

Lleoliad

📍 Ynys Môn

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau