Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Gweinyddol (20 awr yr wythnos)

Menter Iaith Rhondda Cynon Taf

💰 £24k pro rata 📍 Rhondda Cynon Taf Ar gau

Mae Menter Iaith Rhondda Cynon Taf yn edrych am Swyddog Gweinyddol (20 awr yr wythnos)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Amcan y swydd

Cynnal gweithredoedd gweinyddol i gefnogi gwaith y Fenter - gwasanaethau plant, cynlluniau chwarae, ieuenctid, addysg oedolion a digwyddiadau.

Disgrifiad:

Prif Ddyletswyddau

Sicrhau bod systemau gweinyddol yn gywir a wedi ei ddiweddaru yn ddyddiol

Sicrhau bod manylion talu, cofrestr wythnosol a dyddiol a manylion cyswllt gofal plant yn gywir ac yn cael eu cadw’n ddiogel yn ddigidol

Gweinyddu a monitro trefniadau a thaliadau dros ffôn ac e-bost

Cyfathrebu yn glir ac yn safonol ar lafar ac yn ysgrifenedig yn Gymraeg a Saesneg

Diweddaru taenlen cofrestrau plant a’u danfon yn ddyddiol at yr Arweinwyr y Clybiau Carco a’r ysgolion

Paratoi dosraniadau unigol a dosbarthu biliau i rieni fel rhan o’r tîm

Chwilio am a chynorthwyo gyda ceisiadau grant 

Sicrhau bod rhediad arferol y swyddfa yn llyfn a bod amserlen waith pawb wedi ei arddangos yn glir

Rheoli gweithredoedd y swyddfa gan gynnwys iechyd a diogelwch a sicrhau bod adnoddau a deunyddiau angenrheidiol ar gael

Mynychu hyfforddiant datblygiad personol

Ymateb i anghenion a gweithredu yn ôl y galw

Unrhyw ddyletswyddau rhesymol arall yn ôl y galw

Dyletswyddau eraill:

Cyfeirio cysylltiadau i’r personau cywir

Cynorthwyo i ddosbarthu taflenni, adnoddau a gwaith papur i’r darpariaethau angenrheidiol

Cynorthwyo i farchnata’r darpariaethau ar y cyfryngau cymdeithasol

Ymweld a darpariaethau pan fo’r angen

Gofynion angenrheidiol

1.   Y gallu i gyfathrebu i safon uchel yn Gymraeg a Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig 

2.   Y gallu i drefnu amserlenni a gwaith papur yn effeithiol a chywir

3.   Y gallu i ymateb i ofynion amrywiol y gwasanaethau gan ddilyn gweithdrefnau cadarn

4.   Parodrwydd i fynychu hyfforddiant datblygiad personol

5.   Y gallu i weithio’n annibynnol a gweithio fel rhan o dîm y Fenter   6.   Bod yn weinyddol effeithiol, yn drefnus a chydwybodol 

7.   Meddu ar drwydded yrru lawn 

8.   Sgiliau cyfrifiadurol da iawn gan gynnwys Microsoft Office/Microsoft Office 365 yn enwedig Excel  

Cyflog

💰 £23,620 pro rata

Lleoliad

📍 Rhondda Cynon Taf

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau