Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cyhoeddwr (rhan amser)

S4C

💰 £33k pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

Mae S4C yn edrych am Gyhoeddwr (rhan amser)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae S4C yn chwilio am Gyhoeddwr rhan amser i ymuno a’r adran Gyhoeddi. Byddwch yn gyfrifol am gyflwyno a chyfansoddi 'lincs' rhwng rhaglenni S4C ac yn ystod toriadau hysbysebion gan gynnwys unrhyw waith llenwi sy'n angenrheidiol er mwyn cywiro’r amserlen darlledu neu er mwyn cyfleu gwybodaeth i'r cyhoedd, a pha bynnag waith cyflwyno arall y bo ei angen ar S4C yn ystod eich oriau gwaith. 

Bydd y gwaith yma yn cynnwys yr holl waith gweinyddol sy'n deillio o'ch dyletswyddau fel Cyhoeddwr, gwaith hyrwyddo a chyhoeddusrwydd ar ran S4C gan gynnwys ond heb gyfyngiad ymddangosiadau cyhoeddus, dybio a throsleisio ar gyfer unrhyw waith hyrwyddo neu gynnyrch eraill a gynhyrchir neu a gomisiynir gan S4C. 

Mae’r gallu i gyfathrebu ar lafar yn gywir ac yn raenus yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma. Yn ogystal, mae’r gallu i ysgrifennu yn gywir yn y Gymraeg a’r Saesneg i safon uchel yn hanfodol.

Fel rhan o’r cais, bydd angen recordiad o’ch llais yn cyhoeddi’r sgriptiau y byddwn yn ei ddarparu ar eich cyfer. Pob recordiad i fod dim llai na 10 eiliad o hyd a dim mwy na 25 eiliad. 

Manylion eraill

Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Sgwâr Canolog, Caerdydd, CF10 1FT ond disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.

Cyflog: £33,075.56 y flwyddyn. Byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r cyflog ar gyfer hyd y cytundeb.

Oriau gwaith: 23.33 yr wythnos. Patrwm shift dydd Sadwrn 12.00 - 24.00 a dydd Sul 12.00 - 24.00 bob tair wythnos. Mi fyddwch yn derbyn brêc di-dâl o 20 munud y dydd. 

Cytundeb: 26 wythnos

Cyfnod prawf: 12 wythnos

Gwyliau: 7 diwrnod, sef swm pro rata am y cyfnod.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Ceisiadau 

Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Mercher 8 Mawrth 2023 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth 

Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol. 

Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod. 

Cyflog

💰 £33,075 pro rata

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau