Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Darlithydd - Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg

Ysgol Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd

💰 £35k - £42k pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Ysgol Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd yn edrych am Ddarlithydd - Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae cyfle wedi codi i ymuno â’r Ganolfan Addysg Feddygol fel Athro – Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg, i ehangu ei chyfadran academaidd ddwyieithog Cymraeg/Saesneg. Bydd yr ymgeisydd yn gweithio’n agos gyda thîm, staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid allanol y rhaglen i gyflwyno addysg sy’n seiliedig ar dystiolaeth a chefnogi’r myfyrwyr drwy eu taith addysgol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu yn rhan o’r rhaglen MBBCh israddedig, gan gynnwys datblygu, cyflwyno a gwerthuso modiwlau/rhaglenni cyfrwng Cymraeg/dwyieithog. 

Bydd deiliad y swydd yn rhan o gymuned ehangach o staff academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd a ledled Cymru sy’n gweithio tuag at gyflawni nod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sef rhoi statws llawn i’r Gymraeg fel cyfrwng addysgu ac ymchwil yn sector y prifysgolion. Mae angen y rôl yn benodol i hwyluso grwpiau Dysgu Seiliedig ar Achosion felly bydd angen iddynt allu ymrwymo i oriau addysgu penodol ar ddyddiau Llun/Gwener yn ystod semester yr Hydref a dyddiau Mawrth/Gwener yn ystod semester y Gwanwyn (mis Medi tan fis Mehefin).

Bydd hefyd yn goruchwylio a chefnogi myfyrwyr israddedig, ac yn ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol academaidd yn y rhaglen yn ôl y gofyn; gan geisio rhagoriaeth mewn addysgu ac ysbrydoli eraill i wneud yr un fath. 

Dylai ymgeiswyr feddu ar gymhwyster ôl-raddedig ar lefel 7 (neu gyfwerth) mewn pwnc sy’n gysylltiedig â’r biofeddygol neu ofal iechyd neu brofiad perthnasol, y gallu diamheuol i addysgu ar lefel israddedig/ôl-raddedig drwy gymhwyster addysgu, sgiliau cyfathrebu (Cymraeg/Saesneg) rhagorol a’r gallu i gyflwyno syniadau cymhleth a chysyniadol yn eglur ac amrywiaeth o gyfryngau.

Mae’r gallu i gynnig cefnogaeth fugeiliol briodol i fyfyrwyr, gwerthfawrogi anghenion ac amgylchiadau myfyrwyr unigol, a bod yn diwtor personol iddynt yn y Gymraeg a’r Saesneg yn allweddol i’r rôl.

Mae rhuglder yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. 

Os oes gennych ymholiadau anffurfiol ynglŷn â’r rôl hon, cysylltwch a Dr Awen Iorwerth, Darlithydd Clinigol (Arweinydd Academaidd y Gymraeg) drwy ebostio [email protected]

Oriau amrywiol sydd i’r swydd hon (rhagwelir y bydd yn cynnwys 168 o oriau’r flwyddyn, a byddwn yn cytuno ar y patrwm gwaith maes o law), yn benagroed ac mae ar unwaith.   Cyflog: £35,333 - £42,155 y flwyddyn, pro rata (Gradd 6), ond rhagwelir mai £35,333 y flwyddyn, pro-rata fydd uchafswm y cyflog cychwynnol.

Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 14 Mawrth 2023.   Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a sicrhau amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod o staff o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth drawsryweddol, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth helpu ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu’r swydd neu weithio’n hyblyg.

Cyflog

💰 £35,333 - £42,155 pro rata

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri

💰 £27k pro rata 📍 Porthmadog Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £27k 📍 Bangor Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £10k 📍 Sir Benfro📍 Abertawe +4 Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £27k - £42k 📍 Ceredigion Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £20k - £22k 📍 Hyblyg Ar gau

Eglwys Bresbyteraidd Cymru

💰 £26k - £28k 📍 Llandeilo Ar gau

Eglwys Bresbyteraidd Cymru

💰 £26k - £28k 📍 Sir Gaerfyrddin Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £21k - £25k pro rata 📍 Ceredigion Ar gau

Cyfrifwyr Aeron Accountants

💰 £22k - £27k 📍 Ceredigion Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £33k - £35k 📍 Caernarfon Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £20k - £22k 📍 Llangrannog Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £31k - £33k 📍 Caernarfon Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £25k - £28k 📍 Caerdydd Ar gau

EIDCymru

💰 £26k 📍 Aberystwyth Ar gau

Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen

💰 £19k 📍 Brynmenyn Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £26k - £29k 📍 Llangefni📍 O gartref Ar gau

Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

💰 £32k - £36k 📍 Hyblyg Ar gau

GwE

💰 £20k - £22k 📍 Bae Colwyn Ar gau

GwE

💰 S3 (pwynt 23-25) 📍 Caernarfon📍 Bae Colwyn +1 Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £22k pro rata 📍 Pont-y-pŵl Ar gau

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

💰 £26k - £32k 📍 O gartref Ar gau

Prifysgol Abertawe

💰 £26k 📍 Abertawe Ar gau

Cyfoeth Naturiol Cymru

💰 £31k - £35k 📍 Hyblyg📍 Hybrid Ar gau