Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Prentis Cyfieithu Cymraeg

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

💰 £21k 📍 Nantgarw Ar gau

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn edrych am Brentis Cyfieithu Cymraeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae rôl gyffrous wedi codi (yn sgil dyrchafiad mewnol) yn AaGIC i ddatblygu fel cyfieithydd ac i ennill cymhwyster Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn dehongli a chyfieithu Cymraeg.

Disgrifiad:

Sefydlwyd ar 1 Hydref 2018, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r unig Awdurdod Iechyd Arbennig o fewn GIG Cymru. Rydym yn eistedd wrth ochr Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau, ac yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o addysgu, hyfforddi, datblygu a llunio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru, er mwyn sicrhau gofal o safon uchel i bobl Cymru.

Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:

• Gweithio'n agos gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol, a chynllunio ymlaen llaw i sicrhau bod y gweithlu iechyd a gofal yn diwallu anghenion y GIG a phobl Cymru, nawr ac yn y dyfodol;

• Bod yn ffynhonnell wybodaeth ddibynadwy am weithlu iechyd a Gofal Cymru;

• Comisiynu, dylunio a darparu addysg a hyfforddiant gwerth am arian o ansawdd uchel, yn unol â'r safonau;

• Defnyddio addysg, hyfforddiant a datblygiad i annog a hwyluso datblygiad gyrfaol;

• Cefnogi addysg, hyfforddiant a rheoleiddio gwasanaethau drwy chwarae rôl allweddol wrth gynrychioli Cymru, a gweithio'n agos gyda rheoleiddwyr;

• Datblygu arweinwyr gofal iechyd heddiw a'r dyfodol;

• Darparu cyfleoedd i'r gweithlu iechyd a gofal ddatblygu sgiliau newydd;

• Hyrwyddo gyrfaoedd ym maes iechyd a gofal yng Nghymru, a Chymru fel lle i fyw ynddo;

• Cefnogi proffesiwn datblygu'r gweithlu a'r sefydliad proffesiynol gyda Chymru;

• Gwella'n barhaus yr hyn a wnawn a sut rydym yn ei wneud.

Am ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o drafod ei cyfle am gyflogaeth gyda chi.

Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost a gofrestrir ar y ffurflen gais.

Mae'r sefydliad hefyd yn cadw'r hawl i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw adeg o'r broses, er mwyn adleoli staff mewnol i rolau addas.

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.

Trosolwg o'r swydd

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

MAE'R SWYDD HON DAN GONTRACT CYFNOD PENODOL AM 2 FLYNEDD YN SGIL NATUR YR HYFFORDDIANT.

Mae rôl gyffrous wedi codi (yn sgil dyrchafiad mewnol) yn AaGIC i ddatblygu fel cyfieithydd ac i ennill cymhwyster Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn dehongli a chyfieithu Cymraeg.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae galw cynyddol am gyfieithu gwahanol ddeunyddiau i'r Gymraeg. Fel aelod o'r tîm, byddwch yn delio â'r galw hwn yn ogystal â derbyn arweiniad, cymorth a mentoriaeth gan Dîm Gwasanaethau Cymraeg AaGIC. Bydd hyn er budd darparu gwasanaeth cyfieithu arbenigol o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o’r Gymraeg i'r Saesneg. Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo gyda gwaith gweithredol y tîm o ddydd i ddydd a fydd yn cynnwys cysylltu â staff ar draws AaGIC. Bydd hefyd gyfle i ddatblygu sgiliau arbenigol fel Cyfieithydd ar y Pryd, os dymunwch. Y nod yw y byddwch yn datblygu eich sgiliau dros y cyfnod i allu ceisio am Swydd Cyfieithydd Band 5 oddi mewn i’r gyfundrefn. Does dim angen profiad blaenorol o gyfieithu arnoch, dim ond sgiliau safonol yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ogystal â brwdfrydedd dros gyfieithu, angerdd am eiriau a chymhelliant cadarn.

Mae AaGIC wedi ymrwymo i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gydradd yn unol â Safonau'r Gymraeg.

Cynhelir un diwrnod yr wythnos gan Goleg Gŵyr Abertawe (ar-lein neu wyneb yn wyneb) a fydd yn gyfrifol am y cymhwyster. Cewch gymorth gan gydweithwyr eraill sydd eisoes yn dilyn y cwrs, yn ogystal â chael hyfforddiant gan y Coleg a chan y tîm yn AaGIC. Mae nifer o’n Prentisiaid eisoes wedi cael eu dyrchafu, a byddant yn hapus i rannu eu profiadau gyda chi.

Gweithio i'n sefydliad

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r corff strategol ar gyfer gweithlu GIG Cymru. Ymhlith ei swyddogaethau statudol mae addysg a hyfforddiant, cynllunio'r gweithlu, datblygu a thrawsnewid y gweithlu, cynllunio arweinyddiaeth ac olyniaeth, a gyrfaoedd. Ein pwrpas yw datblygu gweithlu sy'n darparu gofal rhagorol i gleifion / defnyddwyr gwasanaethau a hybu iechyd poblogaethau. Awdurdod Iechyd Arbennig ydym ni sy'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid; Gofal Cymdeithasol Cymru, darparwyr addysg, cyrff proffesiynol a rheoleiddiol a Llywodraeth Cymru.

Mae AaGIC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant o ddewis. Mae ein Gwerthoedd yn adlewyrchiad o’n meddyliaeth, ein teimladau a'n credoau o ran ein hymarweddiad a’n triniaeth o eraill:

– Parch at Bawb – ym mhob cyswllt a gawn ag eraill,

– Syniadau sy’n Gwella: Harneisio creadigrwydd ac arloesi, arfarnu a gwella'n barhaus,

– Gyda’n Gilydd fel Tîm: Gweithio gyda chydweithwyr ar draws GIG Cymru a chyda sefydliadau partner.

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl:

- cyfnod ymsefydlu corfforaethol ag amserlen Croeso 90 diwrnod,

- arweinyddiaeth dosturiol,

- proses arfarnu cyflawniad ystyrlon, sy'n seiliedig ar werthoedd,

- y cyfle i ddylanwadu ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac ar fywydau a lles pobl Cymru.

Cyflog

💰 £20,758 - £21,318

Lleoliad

📍 Nantgarw

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau