Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Pennaeth y Gronfa Twf

S4C

💰 Yn ôl profiad + bonws 📍 Caerfyrddin📍 Caerdydd +2 Ar gau

Mae S4C yn edrych am Bennaeth y Gronfa Twf

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae cangen fasnachol S4C, S4C Masnachol, yn lansio Cronfa Twf: cronfa fuddsoddi i fuddsoddi mewn busnesau sy’n agos at ac yn cyd-fynd â chylch gorchwyl S4C, sydd â photensial ar gyfer twf ac i sicrhau enillion strategol ac ariannol. Mae S4C yn chwilio am Bennaeth y Gronfa Twf i arwain y gweithgaredd ynghylch Cronfa Twf S4C, gan oruchwylio buddsoddiad mewn cwmnïau sy’n cyd-fynd ag amcanion strategol y Gronfa ac i weithio mewn partneriaeth â chwmnïau y buddsoddwyd ynddyn nhw i’w cefnogi i gyflawni twf llwyddiannus.

Bydd eich prif ddyletswyddau yn cynnwys goruchwylio Cronfa Twf S4C Masnachol gydag atebolrwydd am ei pherfformiad, hyrwyddo gwaith y gronfa, gyda ffocws penodol ar greu rhwydweithiau cryf ar draws yr economi greadigol yng Nghymru a gweithio gyda darpar fusnesau i’w buddsoddi ynddynt er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio’n effeithiol gydag S4C Masnachol yn ystod y broses fuddsoddi a’u bod yn barod ar gyfer buddsoddiad.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl yma.

Gallwn rannu manylion o’r gronfa gyda darpar ymgeiswyr, ond mi fydd disgwyl i chi lofnodi cytundeb cyfrinachedd i allu derbyn rhain. Plîs cysylltwch ag [email protected].

Disgrifiad:

Manylion eraill

**Lleoliad: **Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn. 

**Cyflog: **Cyflog a bonws yn unol â phrofiad

**Oriau gwaith: **35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc. 

**Cytundeb: **Parhaol

**Cyfnod prawf: **6 mis

**Gwyliau: **Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

**Pensiwn: **Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Ceisiadau 

Dylid anfon ceisiadau erbyn 13.00 ar ddydd Gwener 24 Mawrth 2023 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cyflog

💰 Cyflog a bonws yn unol â phrofiad

Lleoliad

📍 Caerfyrddin, Caerdydd, Caernarfon, Hybrid

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau