Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Ymgysylltu - Dysgu Gydol Oes

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £16,252 - £18,138 📍 Ynys Môn Ar gau

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn edrych am Swyddog Ymgysylltu - Dysgu Gydol Oes

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Pwrpas Cyffredinol y Swydd

Cynorthwyo yn y gwaith o ddatblygu a chyflenwi cyfleoedd Dysgu Oedolion yn y Gymuned a ddarperir mewn lleoliadau ar draws Ynys Môn.

  • Cynllunio, trefnu a chyflenwi hyfforddiant Llythrennedd Digidol a Gwybodaeth i aelodau o’r cyhoedd a staff, ynghyd â hyrwyddo’r defnydd o blatfformau Digidol y Gwasanaeth.

  • Cynnal cysylltiadau da gyda phartneriaid o fewn y sector ar draws yr ardal ddaearyddol a chynrychioli’r Awdurdod mewn cyfarfodydd perthnasol ar lefel weithredol.

  • Bod yn gyfrifol am waith trefnu dydd i ddydd cyrsiau mewn amryw leoliadau, yn unol ag anghenion y Gwasanaeth ac mewn ymateb i anghenion dysgwyr.

  • Cadw cyswllt gyda grwpiau cymunedol a chyrff trydydd sector er mwyn deall am angen/awydd posibl am gyrsiau a dysgu anffurfiol mewn cymunedau ar draws Môn

Cy**ffredinol: **C_ydymffurfio â Pholisi Diogelu Corfforaethol yr awdurdod lleol a’r dyletswyddau a chyfrifoldebau diogelu y mae’r polisi hwnnw’n ei roi ar bob gweithiwr, gan gydweddu â gwerthoedd craidd yr Awdurdod sy’n cynnwys cefnogi plant, oedolion a all fod mewn perygl a’u teuluoedd er mwyn eu cadw’n ddiogel ac iach._

Prif Ddyletswyddau / Cyfrifoldebau

  • Cynorthwyo yn y gwaith o gyflenwi ystod o raglenni i aelodau o’r cyhoedd a staff, sy’n cynnwys cyfeirio ymlaen i lwybrau datblygu gyda darparwyr addysg, yn ogystal â gweithio i sefydlu perthynas gyda lleoliadau newydd ar mwyn ehangu’r cynnig Dysgu Oedolion yn y Gymuned o fewn ardal yr Awdurdod Lleol.

  • Cynorthwyo yn y gwaith o ddatblygu a chydlynu’r systemau a phrosesau a ddefnyddir ar gyfer ymgysylltu â chyfranogwyr, yn ogystal â’r rheiny a ddefnyddir i ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad.

  • Cynllunio, trefnu a chyflwyno gweithgareddau digidol a chreadigol i blant o bob oed gan ddefnyddio’r offer sydd ar gael o fewn y Gwasanaeth (Raspberry-Pi, Lego Education, I-Pad, Sgrîn werdd ac offer ffotograffiaeth)

  • Cynnal cysylltiadau effeithiol â darparwyr gwasanaeth a phartneriaid eraill, gan gynnwys (heb eithrio eraill) Grŵp Llandrillo Menai, Addysg Oedolion Cymru, CyG Môn, Teulu Môn a Dechrau’n Deg.

  • Gweithio gyda’r Tîm Llyfrgell a’r Tîm Cyfathrebu Corfforaethol i sicrhau marchnata a hyrwyddo’rgwasanaeth yn effeithiol.

  • Cyfrannu tuag at y Cynllun Cyflenwi Gwasanaeth ar gyfer gweithgareddau Dysgu i Oedolion yn y Gymuned.

  • Mynychu cyfarfodydd lleol a rhanbarthol perthnasol ar ran y gwasanaeth.

  • Cynorthwyo i gadw tudalennau gwe'r gwasanaeth llyfrgell yn gyfredol a pherthnasol sy’n gwneud hi’n haws i ddefnyddwyr gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau llyfrgell.

  • Cynorthwyo i ddatblygu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Gwasanaethau Llyfrgell a Dysgu Oedolion yn y Gymuned o ran cynnwys, effaith a chyrhaeddiad gan ddefnyddio ystod o ddulliau gwahanol i greu cynnwys digidol ar gyfer uchafu potensial hyrwyddo a marchnata.

  • Cyfranogi mewn unrhyw weithgareddau hyfforddiant a datblygu er mwyn cynnal datblygiad proffesiynol a hybu cymhwysedd o fewn rôl y swydd.

Cyflog

💰 £16,252 - £18,138

Lleoliad

📍 Ynys Môn

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £36,382 - £42,149 📍 Abertawe📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Barcud Cyf

💰 £23,174 - £25,579 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

Grŵp Ymgynghori Lafan

💰 £34,000 - £40,000 📍 O gartref Ar gau

IAITH

💰 £26,823 - £34,906 📍 Castellnewydd Emlyn📍 Hyblyg Ar gau

Cwmni Theatr Volcano

💰 £24K pro rata 📍 Abertawe Ar gau

Senedd Cymru

💰 £25,945 - £31,137 📍 Bae Caerdydd Ar gau

Innvois LTD

💰 I'w drafod 📍 Aberystwyth Ar gau

Comisiynydd y Gymraeg

💰 £25,860 - £29,430 📍 Hyblyg Ar gau

Menter Iaith Casnewydd

💰 £21,074- £23,111 📍 Casnewydd Ar gau

Menter a Busnes

💰 £24,657-£30,205 📍 Aberystwyth📍 Bangor +3 Ar gau

Barnardo's

💰 £46,380 📍 Ynys Môn📍 Gwynedd Ar gau

Cyngor Sir Penfro

💰 £30,095 - £34,373 📍 Sir Benfro Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £28,226 - £30,095 📍 Caernarfon Ar gau

Cyfoeth Naturiol Cymru

💰 £20,255 - £23,008 📍 Ponterwyd Ar gau

Menter Iaith Conwy

💰 £19,000 - £22,000 📍 Llanrwst Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

💰 £19,264 - £19,650 📍 Llandudno📍 O gartref Ar gau

Cymdeithas yr Iaith

💰 £25,000 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

CADMHAS

💰 £22,287 📍 O gartref Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £27,024 - £32,739 📍 Caerdydd Ar gau

S4C

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin Ar gau

S4C

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin Ar gau

WWF Cymru

💰 £26,713 📍 Caerdydd Ar gau

WWF Cymru

💰 £38,433 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau