Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Pennaeth y Gronfa Cynnwys Masnachol

S4C

💰 Yn ôl profiad + bonws 📍 Caerfyrddin📍 Caerdydd +2 Ar gau

Mae S4C yn edrych am Bennaeth y Gronfa Cynnwys Masnachol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae S4C yn chwilio am Bennaeth y Gronfa Cynnwys Masnachol fydd yn gweithio o fewn S4C i wneud y mwyaf o’r cyfle masnachol ar gyfer comisiynau S4C a’r enillion ohonyn nhw, gan weithio’n agos gyda thimau comisiynu S4C a chwmnïau cynhyrchu annibynnol. Mae'r rôl yn gyfrifol am weithrediad a llwyddiant Cronfa Cynnwys Masnachol S4C.

Bydd eich prif ddyletswyddau yn cynnwys gweithredu fel ffynhonnell awdurdodol o arbenigedd ar gynnwys masnachol i Grŵp S4C, goruchwylio Cronfa Cynnwys Masnachol S4C gydag atebolrwydd am ei pherfformiad a datblygu presenoldeb gweladwy yn y diwydiant wrth greu rhwydwaith o bartneriaid cynhyrchu ac ariannu, a hyrwyddo Grŵp S4C.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl yma.

Gallwn rannu manylion o’r gronfa gyda darpar ymgeiswyr, ond mi fydd disgwyl i chi lofnodi cytundeb cyfrinachedd i allu derbyn rhain. Plîs cysylltwch ag [email protected].

Disgrifiad:

Manylion Eraill

**Lleoliad: **Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.

**Cyflog: **Cyflog a bonws yn unol â phrofiad.

**Oriau gwaith: **35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc. 

Cytundeb: Parhaol

Cyfnod prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Ceisiadau 

Dylid anfon ceisiadau erbyn 13.00 ar ddydd Gwener 24 Mawrth 2023 at [email protected] neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cyflog

💰 Cyflog a bonws yn unol â phrofiad

Lleoliad

📍 Caerfyrddin, Caerdydd, Caernarfon, Hybrid

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau