Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Iechyd Cyhoeddus

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £32k - £35k 📍 Ynys Môn Ar gau

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn edrych am Swyddog Iechyd Cyhoeddus

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Disgrifiad:

1. Goruchwylio cydymffurfiad â gweithdrefnau a pholisïau rheoli clefydau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwyliadwriaeth mewn lleoliadau cymunedol, ymchwilio i achosion o wenwyn bwyd ac achosion o glefydau hysbysadwy statudol.

2. Ymateb i ac ymchwilio i hysbysiadau / rhybuddion o system rheoli digwyddiadau ar-lein Iechyd Cyhoeddus Cymru a elwir yn TARIAN ar hyn o bryd, ac asesu'r risg.

3. Darparu cyngor a chefnogaeth atal a rheoli heintiau i wahanol leoliadau fel gwasanaethau gofal, llongau eithwyr, ysgolion, a lleoliadau gofal plant ac ati i sicrhau bod rheolaethau heintiau priodol ar waith.

4. Cychwyn gorfodaeth a chamau cyfreithiol o dan ddeddfwriaeth Iechyd y Cyhoedd a'r Amgylchedd, ar ôl cyfeirio materion at y rheolwr llinell. Mae'r rhain yn cynnwys paratoi a chyflwyno rhybuddion, paratoi a rhoi tystiolaeth mewn achosion cyfreithiol. Ymgymryd â'r gweithgareddau gorfodi gofynnol yn ôl yr angen i sicrhau cydymffurfiad rheoliadol yn amrywio o gyngor anffurfiol i gamau ffurfiol ac erlyn yn unol â Chodau Arferion a chanllawiau.

Cyngor Sir Ynys Môn

Swydd Disgrifiad / Manyleb Person

RHAN A

  1. Cefnogi Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd a chydweithwyr atal heintiau eraill i adnabod, ymchwilio, rheoli ac adrodd yn brydlon am achosion sy'n gysylltiedig â chlefydau heintus hysbysadwy, clefydau trosglwyddadwy ac achosion o wenwyn bwyd.
  2. Casglu, trefnu, dilysu ac adrodd yn ôl i gydweithwyr a rheolwyr ar ddata o archwiliadau a gweithgareddau ymchwilio.
  3. Cynnal cofnodion cywir a chynhwysfawr. Cynnal ffeiliau safleoedd, nodiadau achos, a lle bo hynny'n briodol, paratoi ffurflenni blynyddol / paratoi adroddiadau i asiantaethau perthnasol eraill.
  4. Cynnal archwiliadau hylendid bwyd yn unol â Chod Ymarfer yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
  5. Sicrhau cymhwysedd a dangos Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn unol â safonau proffesiynol a gofynion statudol. Bod yn ymwybodol o’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â deddfwriaeth newydd sy'n effeithio ar waith yr adran.
  6. Sicrhau cydymffurfiad llawn â holl bolisïau a gweithdrefnau perthnasol y Cyngor Sir (e.e. Caffael yr UE a Rheoliadau Ariannol y Cyngor; Deddf Diogelu Data; Rhyddid Gwybodaeth; Deddf Cydraddoldeb 2010; Safonau’r Iaith Gymraeg).
  7. Cydymffurfio â Pholisi Diogelu Corfforaethol yr awdurdod lleol a'r dyletswyddau a chyfrifoldebau diogelu y mae'r polisi hwnnw'n eu gosod ar bob gweithiwr, yn cyd-fynd â gwerthoedd craidd yr Awdurdod sy'n cynnwys cefnogi plant, oedolion sydd mewn perygl a'u teuluoedd i'w cadw'n ddiogel ac iach.
  8. Gall bod gofyn i ddeiliad y swydd gyflawni unrhyw gyfrifoldebau eraill hefyd fel sy'n briodol o ran natur y swydd a'i gradd.

Cyflog

💰 £32,020 - £35,411

Lleoliad

📍 Ynys Môn

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau