Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Gwybodaeth a Dysgu

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

💰 £25k - £28k 📍 Caerdydd📍 Y Drenewydd Ar gau

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn edrych am Swyddog Gwybodaeth a Dysgu

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw ariannwr cymunedol mwyaf y DU. Rydym yn dyfarnu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i brosiectau cymunedol sy’n dod â syniadau ac uchelgeisiau pobl yn fyw. Rydym yn cefnogi ystod eang o brosiectau iechyd, addysgol, amgylcheddol ac elusennol gyda grantiau’n amrywio o gyn lleied â £500 i raglenni gwerth miliynau o bunnoedd. Roedd 86% o'n grantiau newydd am lai na £10k.

Mae arian y Loteri Genedlaethol yn agored i bawb, ac mae’n fraint i ni allu gweithio gyda’r grwpiau lleiaf ar lawr gwlad hyd at elusennau mawr ledled y DU.

Mae cyfle wedi codi i ddau Swyddog Gwybodaeth a Dysgu parhaol llawn amser i ymuno â’n tîm yng Nghymru i gefnogi cydweithwyr, deiliaid grant a rhanddeiliaid i rannu, creu a defnyddio Gwybodaeth a Dysgu yn effeithiol drwy:

- Cefnogi datblygiad ein rhaglenni grant a dangos eu heffaith i’n rhanddeiliaid

- Ein helpu i ddeall ac ymateb i anghenion cymunedau ledled Cymru

- Cynnal gweithgareddau sy'n rhannu ac yn cyfnewid Gwybodaeth a Dysgu i gefnogi ein gwaith ni a gwaith eraill.

- Yn ogystal â defnyddio Gwybodaeth a Dysgu i lywio polisi ac arferion o fewn a thu allan i'r Gronfa, byddwch hefyd yn hwyluso gweithgareddau dysgu ar gyfer staff, deiliaid grant a rhanddeiliaid. Byddwch yn arwain gweithgarwch o amgylch ein themâu dysgu blaenaf ac yn cefnogi ein tri thîm rhanbarthol yng Nghymru i wneud hynny hefyd. Byddwch hefyd yn sganio'r amgylchedd allanol i gael gwybodaeth am yr hyn y mae eraill yn ei wneud.

Gan dynnu ar eich gwybodaeth am bolisi, a’r sectorau gwirfoddol a chyhoeddus yng Nghymru, byddwch yn cynghori cydweithwyr a phenderfynwyr am sut y gall ein cyllid gael yr effaith fwyaf.

Dyddiad y cyfweliad: Wythnos yn dechrau 20fed o Fawrth

**Lleoliad: **Caerdydd neu’r Drenewydd

Mae gennym ddull hybrid o weithio, a bydd patrwm gwaith a lleoliad yn cael eu cytuno arnynt gyda'r ymgeisydd llwyddiannus. Gall y rôl fod yn ein swyddfa yng Nghaerdydd neu'r Drenewydd.

Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â: [email protected]

Meini prawf hanfodol

- Sgiliau ymchwil a dadansoddi

- Y gallu i ysgrifennu a siarad am syniadau a gwybodaeth gymhleth mewn ffordd ddifyr a syml

- Sgiliau hwyluso – profiad o gynnull a hwyluso trafodaethau lle mae pobl yn rhannu ac yn trafod syniadau gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau

- Wedi’ch ysgogi gan werthoedd ac yn angerddol dros bwrpas y Gronfa

Meini prawf dymunol

- Gwybodaeth am amgylchedd polisi Cymru, yn enwedig Llywodraeth Cymru

- Gwybodaeth am y sector gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru

- Y gallu i weithio'n hyblyg ac ymdrin â blaenoriaethau cystadleuol lluosog o fewn tîm bach

- Y gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg

Cyfle Cyfartal

Mae cymunedau yn y DU yn dod o bob siâp a maint. Mae arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer pawb – rydym wedi ymrwymo i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant ac rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein cyllid yn cyrraedd lle mae ei angen.

Credwn hefyd y dylai ein pobl gynrychioli'r cymunedau, y sefydliadau a'r unigolion rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym wedi ymrwymo i fod yn lle cynhwysol a gwych i weithio, ac rydym yn cydnabod bod ein pobl yn dod o gefndiroedd amrywiol. O'r herwydd, rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan bobl ag anableddau, cefndiroedd Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig (B.A.M.E), LGBTQ+ ac o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol ac addysgol.

Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl anabl a byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol os bydd angen drwy'r broses recriwtio ac yn ystod cyflogaeth. Gall hyn fod yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd corfforol a meddyliol.

Cyflog

💰 £25,019 - £28,399

Lleoliad

📍 Caerdydd, Y Drenewydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau