Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Dadansoddwr Data (1 FTE)

Menter a Busnes

💰 £27k - £33k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

Mae Menter a Busnes yn edrych am Ddadansoddwr Data (1 FTE)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn brosiect integredig ac uchel ei broffil sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant i’r sector amaeth trwy Gymru gyfan. Ei brif ffocws yw i gynorthwyo ffermwyr i baratoi tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gan annog y sector i addasu ac i barhau i fod yn gystadleuol tra’n symud tuag at economi carbon isel.   Nod

I ddarparu gwybodaeth ansoddol a meintiol i Bennaeth y Canolfan Wasanaeth a'r Cleient yn ôl yr angen. Arwain ar yr arolygon dadansoddi effaith yn ogystal ag ymchwil wedi'i dargedu at rhai nad ydynt yn cymryd rhan yn y rhaglen ar rhai nad ydynt wedi ymuno ar raglen.    Prif Gyfrifoldebau

·   Cyflawni’r arolwg dadansoddi effaith blynyddol a fydd yn cynnwys;

• Cysylltu â’r arbenigwyr allanol i ddatblygu’r holiadur

• Cyflwyno’r holiaduron

• Casglu data yn barod i’w ddadansoddi

• Dadansoddi data

• Cynhyrchu adroddiad ar y canfyddiadau

·   Sicrhau fod terfynau amser a chwestiynau'r holiaduron yn addas ac o ansawdd

·   Ymateb i anghenion data gan Reolwyr a Llywodraeth Cymru yn ôl yr angen a chynhyrchu adroddiadau ad-hoc

·   Gweithio gyda’r Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth er mwyn darganfod pam nad yw rhai ffermwyr yn ymgysylltu gyda’r prosiect a chynhyrchu adroddiad blynyddol ar y canfyddiadau

·   Monitro siwrnai cleientiaid trwy ein gwasanaethau ac adnabod unrhyw dueddiadau

·   Dadansoddi data gwerthuso a chreu adroddiadau fel yr angen

·   Cynrychioli’r prosiect mewn cyfarfodydd

·   Gwirio safonau rheoli ansawdd y prosiect   Arall

·   Darparu gwasanaeth cwsmer ardderchog i gwsmeriaid allanol a thîm mewnol Cyswllt Ffermio, gan ymateb i ymholiadau yn llawn gwybodaeth, yn gywir ac yn amserol (dros y ffôn, e-byst a dulliau eraill i gysylltu â’r tîm)

·   Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd ar gyfer gwasanaethau’r cwsmer, ansawdd, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch

·   Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau eraill fel y bo’n ofynnol

·   Cynrychioli Menter a Busnes fel y bo’n ofynnol   Sgiliau a Phrofiad   Hanfodol

·   Addysg hyd lefel gradd, neu gymwysterau cyfwerth mewn mathemateg, economeg / busnes, ymchwil ystadegol neu bwnc perthnasol. Neu brofiad yn y maes

·   Profiad dangosadwy o gwblhau prosiectau ymchwil gan ddefnyddio ffynonellau data amrywiol

·   Sgiliau mathemategol cryf a’r gallu i ddatblygu datrysiadau creadigol

·   Sgiliau cynhwysfawr o ran ysgrifennu adroddiadau yn seiliedig ar ddata ansoddol a meintiol a’r gallu i gyfleu gwybodaeth yn gywir ac yn gadarn, gan gynnwys cyfathrebu gwybodaeth dechnegol i ddefnyddwyr nad ydynt yn dechnegol mewn modd clir a chryno

·   Sgiliau dehongli a dadansoddi cryf, a’r gallu i drin a gwerthuso setiau data eang i gynhyrchu gwybodaeth reoli sy’n gywir ac o ansawdd uchel

·   Person hunan ysgogol a hyblyg, sy’n gallu rheoli sawl tasg ar yr un pryd, a gweithio dan bwysau i gwrdd â therfynau amser

·   Gallu gweithio’n annibynnol mewn modd strwythuredig a dadansoddol, yn ogystal â fel rhan o dîm

·   Sgiliau cyflwyno a rhyngbersonol clir

·   Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhagorol

·   Trwydded yrru lawn a defnydd o gar (bydd teithio ledled Cymru a thu hwnt yn rhan annatod o’r swydd)

·   Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys - Windows; Meddalwedd cynhyrchiant (e-bost, prosesu geiriau, taenlenni, ffeilio data); Defnydd diogel o gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd (chwilio a phori'r we, defnyddio gwefannau a chymwysiadau ar-lein)

·   Os yn gweithio o adref am unrhyw adeg, bydd gofyn bod gennych gysylltiad rhyngrwyd addas yn barod   Dymunol 

·   Dealltwriaeth a/neu brofiad mewn maes sy’n gysylltiedig â’r sector amaeth 

·   Profiad o reoli prosiect   Gwneud Cais

Gellir gwneud ceisiadau am y swydd hon drwy lawrlwytho a chwblhau’r ffurflen gais a’r ffurflen monitro cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan: www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]   Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Rhian Jones ar 01970 600 181 neu [email protected]   Dyddiad Cau

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10.00yb, dydd Llun, 13 Mawrth 2023   Cyfweliadau

Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar wythnos cychwyn 20 Mawrth 2023. Os yw’r dyddiad yn anghyfleous, nodwch hynny ar eich ffurflen gais.

Cyflog

💰 £27,433 - £32,980

Lleoliad

📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, Hybrid

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau