Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cynorthwyydd Tîm (1.6 x FTE) (Cyfnod Mamolaeth)

Menter a Busnes

💰 £21k - £22k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

Mae Menter a Busnes yn edrych am Gynorthwyydd Tîm (1.6 x FTE) (Cyfnod Mamolaeth)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn brosiect integredig ac uchel ei broffil sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant i’r sector amaeth trwy Gymru gyfan. Ei brif ffocws yw i gynorthwyo ffermwyr i baratoi tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gan annog y sector i addasu ac i barhau i fod yn gystadleuol tra’n symud tuag at economi carbon isel.     Nod

Cefnogi Swyddogion y Gwasanaeth Cynghori i ddarparu gwasanaeth cwsmer ardderchog gan sicrhau bod yr holl ymholiadau’n cael eu cyfeirio at yr aelod tîm priodol yn brydlon a bod y data’n cael ei fewnbynnu’n gywir i system gyfrifiadurol y prosiect.   Prif Gyfrifoldebau

·    Darparu gwasanaeth cwsmer ardderchog i gwsmeriaid allanol a’r tîm mewnol, gan ymateb i ymholiadau yn llawn gwybodaeth, yn gywir ac yn amserol

·    Dilyn prosesau a chanllawiau yn ddiwyd 

·    Mewnbynnu data i system gyfrifiadurol y prosiect yn gywir e.e. BAS ac CMS

·    Cyflawni gwaith gweinyddol cyffredinol i safon uchel, gan gynnwys cefnogi timau perthnasol eraill Cyswllt Ffermio yn ôl y galw

·    Gofalu am a diweddaru proffiliau cwsmer, gan ofalu eu bod yn gynhwysfawr

·    Delio gyda cheisiadau cwsmer a chwblhau’r gwiriadau angenrheidiol, yn unol â’r canllawiau

·    Delio gyda Hawliad gan y is-gontractiwyr a chwblhau’r gwiriadau angenrheidiol, yn unol â’r canllawiau

·    Cysylltu gydag is-gontractiwyr i sicrhau fod y prosesau yn dilyn y drefn cywir

·    Sicrhau fod pawb perthnasol yn derbyn y wybodaeth angenrheidiol ddiweddaraf 

·    Cefnogi cydweithwyr i goladu’r holl wybodaeth angenrheidiol i gwblhau tasgau

·    Pwynt cyswllt cyntaf ar y ffôn i’r Ganolfan Wasanaeth

·    Tynnu sylw cydweithwyr at unrhyw broblemau posib fel y bo'n briodol, a chyn gynted ag y bo modd

·    Hybu holl weithgareddau a digwyddiadau’r prosiect lle bynnag y bo’n bosibl

·    Cynrychioli Cyswllt Ffermio mewn digwyddiadau o bryd i’w gilydd 

·    Galluogi integreiddiad ar draws holl agweddau’r Rhaglen Cyswllt Ffermio drwy hybu’r holl weithgareddau a digwyddiadau Cyswllt Ffermio lle bynnag y bo’n bosibl

·    Cefnogi gyda’r prosesau i ymwneud gyda sichrau ansawdd, bydd pwysigrwydd yma ar mewngofnodi data yn gywir.

·    Cefnogi digwyddiadau CPD yn ôl yr angen.   **Arall **

·    Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd ar gyfer gwasanaethau’r cwsmer, ansawdd, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch

·    Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau eraill a chynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw   Sgiliau a Phrofiad

·    Addysg hyd at o leiaf NVQ lefel 3 neu lefel gyfatebol, a/neu brofiad gwaith dangosadwy mewn maes perthnasol

·    Sgiliau rhyngbersonol a gweinyddol cyffredinol gwych

·    Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys - Windows; Meddalwedd cynhyrchiant (e-bost, prosesu geiriau, taenlenni, ffeilio data); Defnydd diogel o gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd (chwilio a phori'r we, defnyddio gwefannau a chymwysiadau ar-lein)

·    Os yn gweithio o adref am unrhyw adeg, bydd gofyn bod gennych gysylltiad rhyngrwyd addas yn barod

·    Sgiliau cyfathrebu dwyieithog rhagorol yn llafar ac yn ysgrifenedig

·    Gallu mewnbynnu data’n gywir a chadw data i gydymffurfio â deddfau diogelu data perthnasol

·    Sgiliau trefnu, cydgysylltu a rheoli amser da

·    Sgiliau gwasanaeth cwsmer rhagorol

·    Bod yn flaengar a brwdfrydig am waith yr Adran Wledig

·    Gallu bod yn rhagweithiol a gyrru pethau yn eu blaen yn effeithiol

·    Gallu gweithio’n annibynnol yn ogystal ag o fewn tîm   Gwneud Cais

Gellir gwneud ceisiadau am y swydd hon drwy lawrlwytho a chwblhau’r ffurflen gais a’r ffurflen monitro cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan: www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected]   Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch a Lowri James ar 01970 636 294 neu [email protected]   Dyddiad Cau

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 10.00yb, dydd Mawrth, 28 Mawrth 2023.    Cyfweliadau

Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar wythnos cychwyn 03 Ebrill 2023. Os yw’r dyddiad yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais.   **Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth **

Mae ein Polici Cydraddoldeb ac Amyrwiaeth i’w weld ar ein gwefan.

Cyflog

💰 £20,919-£22,367

Lleoliad

📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, Hybrid

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau