Swyddog Iaith Croesi’r Bont Sir Gâr a Sir Benfro
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Iaith Croesi’r Bont Sir Gâr a Sir Benfro
Ar gau. Mae’r swydd hon ar gau. Nid oes dyddiad cau wedi ei gofnodi.
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin drwy Reolwr Cenedlaethol Croesi’r Bont am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
- Cefnogi a chynorthwyo Cylchoedd Meithrin i sicrhau’r ansawdd ieithyddol orau o fewn y ddarpariaeth gan ddefnyddio cynllun arloesol Mudiad Meithrin, ‘Croesi’r Bont’.
- Darparu gwasanaeth cefnogi’r iaith Gymraeg trwy gynllun trochi Croesi’r Bont yn y gweithle i staff sydd angen datblygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach.
- Trefnu ymweliadau rheolaidd i'r Cylchoedd gan arwain trafodaethau a chyfathrebu’n broffesiynol gydag arweinyddion y Cylchoedd, athrawon / penaethiaid ysgol, rheolwyr a’r oedolion eraill o fewn y lleoliad
- Datblygu a chytuno ar gynlluniau realistig ar gyfer cynllun Croesi’r Bont gyda’r staff, gan gymryd i ystyriaeth anghenion y staff, y plant a’r ddarpariaeth yn gyffredinol.
- Cytuno ar y cyd â staff y Cylch ar ddulliau priodol i gynyddu’r defnydd o gynllun Croesi’r Bont a throchi iaith gan osod targedau ar gyfer yr ymweliad nesaf. Sicrhau fod yr arweinydd a staff y Cylch yn derbyn adborth teg ac adeiladol a chadarnhad o’r targedau trwy ddarparu adroddiad ffurfiol ar ôl bob ymweliad.
- Mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog cynorthwyo a chydweithio â’r awdurdod lleol i sicrhau bod y cylchoedd yn ateb gofynion Estyn o ran datblygu’r Iaith Gymraeg
- Mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog, trefnu a chynnal hyfforddiant / gweithdai iaith perthnasol yn dymhorol o fewn y dalaith/ yn genedlaethol i atgyfnerthu trochi iaith a defnydd cynllun Croesi’r Bont yn y Cylchoedd Meithrin.
- Hyrwyddo’r defnydd o Dewin a Doti ac adnoddau pellach y Mudiad o fewn ein Cylchoedd Meithrin
- Datblygu deunyddiau ieithyddol pellach dan arweiniad y Prif swyddog.
- Cyd weithio’n agos gyda Swyddog Cefnogi’r sir gan rannu gwybodaeth er mwyn sicrhau cysondeb.
- Mynychu cyfarfodydd tîm lleol yn ol y galw, a chyfarfod Tîm cenedlaethol unwaith bob tymor.
- Mynychu cyfarfodydd talaith yn rheolaidd er mwyn adrodd ar waith Croesi’r Bont yn y Cylchoedd Meithrin
- Ymgymryd ag unrhyw waith arall perthnasol fydd yn hybu sgiliau iaith yr oedolion a’r plant
- Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr
Cyflog
💰 MM14 £21,049 pro rata
Lleoliad
📍 Sir Benfro
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Polisi
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych am Swyddog Polisi
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae gennym gyfle cyffrous i berson brwdfrydig a chreadigol sy'n dymuno gweithio gyda thîm y Comisiynydd i sicrhau bod y Gymraeg yn ystyriaeth ganolog mewn polisi a deddfwriaeth.
PRIF DDYLETSWYDDAU
Craffu ar ddeddfwriaeth a dylanwadu ar bolisi
Cyfrannu i waith y Tîm Polisi er mwyn gweithredu amcan Cynllun Strategol Comisiynydd y Gymraeg o sicrhau bod y Gymraeg yn ystyriaeth ganolog mewn polisi a deddfwriaeth. Rhoi sylw neilltuol i'r meysydd sydd fwyaf eu dylanwad ar hyfywedd yr iaith Gymraeg, megis Addysg a Sgiliau; Iechyd; Cymunedau Cymraeg a Darlledu.
Cyflwyno sylwadau ar bolisi a deddfwriaeth yn y ffordd fwyaf addas, a chynnig cyngor neu argymhellion a fydd yn cyfrannu at gynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yng Nghymru.
Tracio datblygiadau polisi a deddfwriaeth mewn gwahanol feysydd yn barhaus.
Cadw trosolwg o effaith pob darn gwaith y mae'r swyddog yn gyfrifol amdanynt, lle ymdrechwyd i ddylanwadu ar gwrs polisi neu ddeddfwriaeth gan ystyried ffyrdd o symud yr agenda ieithyddol yn ei blaen.
Darparu tystiolaeth i Bwyllgorau Senedd Cymru a Senedd y DU fel rhan o brosesau datblygu polisi a llunio Biliau a Deddfau, fel sy'n briodol.
Bydd gofyn briffio'r Comisiynydd yn ogystal â chynulleidfaoedd allanol a chwilio am gyfleoedd i gydweithio a rhannu gwybodaeth.
Cydweithio a rhannu gwybodaeth
Cydweithio a rhannu gwybodaeth â phartneriaid perthnasol i ddylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth a chyfrannu yn adeiladol at drafodaethau yn ymwneud â meysydd sy'n effeithio ar y Gymraeg.
Mynychu fforymau perthnasol a threfnu cyfarfodydd gyda gweision sifil er mwyn dylanwadu'n gadarnhaol ar yr ystyriaeth a roddir i'r Gymraeg.
Ar y cyd â thîm cyfathrebu'r Comisiynydd, canfod ffyrdd o rannu gwybodaeth am safbwynt y Comisiynydd ar bolisi a deddfwriaeth a gwaith y Comisiynydd yn sicrhau bod y Gymraeg yn ystyriaeth ganolog mewn polisi a deddfwriaeth.
Ymchwilio ac Adrodd
Cydweithio â phartneriaid allanol a swyddogion sy'n gyfrifol am gydlynu gwaith ymchwil y Comisiynydd er mwyn sicrhau bod gan y Comisiynydd y sail tystiolaeth angenrheidiol i allu dylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth.
Cyfrannu at brosiectau ymchwil y Comisiynydd i sicrhau bod gennym y sail tystiolaeth angenrheidiol i allu dylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth
Datblygu dulliau rhagweithiol a chreadigol o gyfleu barn a safbwynt y Comisiynydd ar wahanol feysydd polisi.
Dyletswyddau Cyffredinol
Gweithredu'n gyson ac yn amserol yn unol â holl bolisïau a chanllawiau'r Comisiynydd.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol eraill yn ôl y galw.
Cyflog
💰 £32,460 - £39,690
Lleoliad
📍 Hyblyg, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Datblygu Busnes
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Reolwr Datblygu Busnes
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae cyfle unigryw wedi codi i ymuno gydag Adran Brentisiaethau’r Urdd fel Rheolwr Datblygu Busnes. Bydd y rôl hanfodol hon yn creu a chynnal perthnasau gyda chyflogwr led led Cymru, er mwyn sicrhau mynediad at raglennu prentisiaeth Chwaraeon, Gofal Plant, Awyr Agored a Gwaith Ieuenctid.
Amdanom ni
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.
Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.
Y Swydd
Mae cyfle unigryw wedi codi i ymuno gydag Adran Brentisiaethau’r Urdd fel Rheolwr Datblygu Busnes. Bydd y rôl hanfodol hon yn creu a chynnal perthnasau gyda chyflogwr led led Cymru, er mwyn sicrhau mynediad at raglennu prentisiaeth Chwaraeon, Gofal Plant, Awyr Agored a Gwaith Ieuenctid. Am fwy o fanylioncysylltwch â Catrin Davis (Pennaeth Prentisiaethau) ar 07930 964625 neu [email protected]
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at [email protected] Dyddiad Cau – 28/03/23 Dyddiad Cyfweld – i'w gadarnhau Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Cyflog
💰 £32,074 - £36,425
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Tîm (1.6 x FTE) (Cyfnod Mamolaeth)
Mae Menter a Busnes yn edrych am Gynorthwyydd Tîm (1.6 x FTE) (Cyfnod Mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn brosiect integredig ac uchel ei broffil sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant i’r sector amaeth trwy Gymru gyfan. Ei brif ffocws yw i gynorthwyo ffermwyr i baratoi tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gan annog y sector i addasu ac i barhau i fod yn gystadleuol tra’n symud tuag at economi carbon isel. Nod
Cefnogi Swyddogion y Gwasanaeth Cynghori i ddarparu gwasanaeth cwsmer ardderchog gan sicrhau bod yr holl ymholiadau’n cael eu cyfeirio at yr aelod tîm priodol yn brydlon a bod y data’n cael ei fewnbynnu’n gywir i system gyfrifiadurol y prosiect. Prif Gyfrifoldebau
· Darparu gwasanaeth cwsmer ardderchog i gwsmeriaid allanol a’r tîm mewnol, gan ymateb i ymholiadau yn llawn gwybodaeth, yn gywir ac yn amserol
· Dilyn prosesau a chanllawiau yn ddiwyd
· Mewnbynnu data i system gyfrifiadurol y prosiect yn gywir e.e. BAS ac CMS
· Cyflawni gwaith gweinyddol cyffredinol i safon uchel, gan gynnwys cefnogi timau perthnasol eraill Cyswllt Ffermio yn ôl y galw
· Gofalu am a diweddaru proffiliau cwsmer, gan ofalu eu bod yn gynhwysfawr
· Delio gyda cheisiadau cwsmer a chwblhau’r gwiriadau angenrheidiol, yn unol â’r canllawiau
· Delio gyda Hawliad gan y is-gontractiwyr a chwblhau’r gwiriadau angenrheidiol, yn unol â’r canllawiau
· Cysylltu gydag is-gontractiwyr i sicrhau fod y prosesau yn dilyn y drefn cywir
· Sicrhau fod pawb perthnasol yn derbyn y wybodaeth angenrheidiol ddiweddaraf
· Cefnogi cydweithwyr i goladu’r holl wybodaeth angenrheidiol i gwblhau tasgau
· Pwynt cyswllt cyntaf ar y ffôn i’r Ganolfan Wasanaeth
· Tynnu sylw cydweithwyr at unrhyw broblemau posib fel y bo'n briodol, a chyn gynted ag y bo modd
· Hybu holl weithgareddau a digwyddiadau’r prosiect lle bynnag y bo’n bosibl
· Cynrychioli Cyswllt Ffermio mewn digwyddiadau o bryd i’w gilydd
· Galluogi integreiddiad ar draws holl agweddau’r Rhaglen Cyswllt Ffermio drwy hybu’r holl weithgareddau a digwyddiadau Cyswllt Ffermio lle bynnag y bo’n bosibl
· Cefnogi gyda’r prosesau i ymwneud gyda sichrau ansawdd, bydd pwysigrwydd yma ar mewngofnodi data yn gywir.
· Cefnogi digwyddiadau CPD yn ôl yr angen. **Arall **
· Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd ar gyfer gwasanaethau’r cwsmer, ansawdd, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch
· Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau eraill a chynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw Sgiliau a Phrofiad
· Addysg hyd at o leiaf NVQ lefel 3 neu lefel gyfatebol, a/neu brofiad gwaith dangosadwy mewn maes perthnasol
· Sgiliau rhyngbersonol a gweinyddol cyffredinol gwych
· Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys - Windows; Meddalwedd cynhyrchiant (e-bost, prosesu geiriau, taenlenni, ffeilio data); Defnydd diogel o gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd (chwilio a phori'r we, defnyddio gwefannau a chymwysiadau ar-lein)
· Os yn gweithio o adref am unrhyw adeg, bydd gofyn bod gennych gysylltiad rhyngrwyd addas yn barod
· Sgiliau cyfathrebu dwyieithog rhagorol yn llafar ac yn ysgrifenedig
· Gallu mewnbynnu data’n gywir a chadw data i gydymffurfio â deddfau diogelu data perthnasol
· Sgiliau trefnu, cydgysylltu a rheoli amser da
· Sgiliau gwasanaeth cwsmer rhagorol
· Bod yn flaengar a brwdfrydig am waith yr Adran Wledig
· Gallu bod yn rhagweithiol a gyrru pethau yn eu blaen yn effeithiol
· Gallu gweithio’n annibynnol yn ogystal ag o fewn tîm Gwneud Cais
Gellir gwneud ceisiadau am y swydd hon drwy lawrlwytho a chwblhau’r ffurflen gais a’r ffurflen monitro cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan: www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected] Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch a Lowri James ar 01970 636 294 neu [email protected] Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 10.00yb, dydd Mawrth, 28 Mawrth 2023. Cyfweliadau
Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar wythnos cychwyn 03 Ebrill 2023. Os yw’r dyddiad yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais. **Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth **
Mae ein Polici Cydraddoldeb ac Amyrwiaeth i’w weld ar ein gwefan.
Cyflog
💰 £20,919-£22,367
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Uwch-reolwr – Arolygu Gofal Plant a Chwarae - Cymraeg Hanfodol
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn edrych am Uwch-reolwr – Arolygu Gofal Plant a Chwarae - Cymraeg Hanfodol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Arolygiaeth Gofal Cymru yn chwilio am Uwch-reolwr – Arolygu Gofal Plant a Chwarae - Cymraeg Hanfodol i ddarparu arweiniad i bedwar Rheolwr Tîm a cefnogi'r Pennaeth Arolygu Gofal Plant a Chwarae er mwyn sicrhau y darperir gwasanaethau cyson, effeithiol, effeithlon ac o ansawdd da.
Mae Arolygu Gofal Plant a Chwarae yn destun rhaglen newid sylweddol er mwyn cefnogi ffocws cliriach ar wella gwasanaethau. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at agweddau allweddol ar y prosiect ac yn eu cefnogi.
Dyddiad Cau: 16:00pm ar 28/03/2023
**Am sgwrs anffurfiol: **[email protected] - 03000 628822
*Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon
Cyflog
💰 £53,440 - £63,900
Lleoliad
📍 Cyffordd Llandudno, Merthyr, Caerfyrddin, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Is-gadeirydd
Mae Amgueddfa Cymru yn edrych am Is-gadeirydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Amgueddfa Cymru yn chwilio am unigolyn â chymhelliant uchel sy’n frwdfrydig dros ddiwylliant a threftadaeth yng Nghymru, ac a fydd yn dod â gwell amrywiaeth a chynrychiolaeth i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Ai chi yw’r unigolyn yma?
Bydd gan ein hymgeiswyr delfrydol:
· ymrwymiad at werthoedd a gweledigaeth Amgueddfa Cymru, a gwerthfawrogiad o’i rôl a’i diben fel sefydliad cenedlaethol yng Nghymru;
· profiad o weithredu fel uwch arweinydd mewn sefydliad mawr, eang ei gwmpas neu aml-ddisgyblaethol;
· y gallu i ddangos eu hymrwymiad at ffyrdd strategol, sensitif a chydweithredol o weithio;
· ymrwymiad profedig i gynyddu amrywiaeth, a hyrwyddo llesiant, cynhwysiant a chydraddoldeb.
Mae’r rôl hon yn wirfoddol, fodd bynnag, bydd yr holl dreuliau rhesymol yr aed iddynt yn cael eu had-dalu. Darperir hyfforddiant a sesiynau cynefino priodol, a bydd cymorth mentora ar gael i ymgeiswyr llai profiadol.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am swydd yr Is-gadeirydd, cysylltwch drwy anfon e-bost at Nicola Guy, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Adran Ddiwylliant, Llywodraeth Cymru, [email protected] neu Manon Maragakis, Pennaeth Noddi, yr Adran Ddiwylliant, Llywodraeth Cymru, [email protected]
Ymrwymiad: Isafswm o 12 diwrnod y flwyddyn am gyfnod o bedair blynedd yn y swydd.
Gofyniad y Gymraeg: Rhaid i bob ymgeisydd ymrwymo i waith Amgueddfa Cymru mewn Cymru ddwyieithog. Rydym hefyd wrthi’n recriwtio ar gyfer swydd Cadeirydd felly, o ystyried cydbwysedd ieithyddol presennol Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer un o’r swyddi hyn a bydd y gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol i’r swydd arall.
Polisi Llywodraeth Cymru ac Amgueddfa Cymru yw annog ac integreiddio cyfleoedd cyfartal i bob agwedd ar y busnes, gan gynnwys penodiadau cyhoeddus. Croesewir ceisiadau gan bawb ac rydym yn sicrhau na chaiff yr un ymgeisydd cymwys ar gyfer swydd gyhoeddus driniaeth lai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, beichiogrwydd neu gyfnod mamolaeth.
Rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sy'n anabl cyn belled â bod ei gais yn bodloni'r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd dan sylw. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod rhaid ichi roi tystiolaeth yn eich cais sy’n dangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau a ddiffinnir yn rhai hanfodol.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu pobl anabl yn eu swydd a’u gyrfa. Os hoffech warant o gyfweliad, cysylltwch â’r Tîm Penodiadau Cyhoeddus trwy e-bostio [email protected] i roi gwybod iddyn nhw.
Dyddiad Cau: 11 Ebrill 17:00. Ni fyddwn yn ystyried unrhyw geisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad a’r amser yma.
Bydd ymgeiswyr sy’n cael eu gwahodd am gyfweliad yn cael gwybod o leiaf bythefnos cyn dyddiad y cyfweliad.
Cyflog
💰 Mae swydd yr Is-gadeirydd yn swydd ddi-dâl ond caiff pob ymddiriedolwr hawlio costau teithio a chynhaliaeth.
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cadeirydd
Mae Amgueddfa Cymru yn edrych am Gadeirydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Amgueddfa Cymru yn chwilio am unigolyn â chymhelliant uchel sy’n frwdfrydig dros ddiwylliant a threftadaeth yng Nghymru, ac a fydd yn dod â gwell amrywiaeth a chynrychiolaeth i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Ai chi yw’r unigolyn yma?
Bydd gan ein hymgeiswyr delfrydol:
· ymrwymiad at werthoedd a gweledigaeth Amgueddfa Cymru, a gwerthfawrogiad o’i rôl a’i diben fel sefydliad cenedlaethol yng Nghymru;
· profiad o weithredu fel uwch arweinydd mewn sefydliad mawr, eang ei gwmpas neu amlddisgyblaethol;
· hanes profedig o gynyddu amrywiaeth a hyrwyddo cynhwysiant a chydraddoldeb gydag ymrwymiad i ehangu mynediad a chyfranogiad ym maes diwylliant ledled Cymru;
· profiad o ddatblygu partneriaethau strategol a dealltwriaeth drylwyr o lywodraethu da, atebolrwydd a chyfrifoldeb ariannol.
Fel swydd uwch sy’n atebol i Weinidogion Cymru, Senedd Cymru a’r Comisiwn Elusennau, mae hon yn rôl â chyflog o £35,182.80 y flwyddyn.
Mae’r fanyleb person llawn a’r meini prawf hanfodol wedi’u cynnwys yn y pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am swydd y Cadeirydd, cysylltwch drwy anfon e-bost at Jason Thomas, Cyfarwyddwr, yr Adran Ddiwylliant, Llywodraeth Cymru, [email protected] neu Manon Maragakis, Pennaeth Noddi, yr Adran Ddiwylliant, Llywodraeth Cymru, [email protected]
Ymrwymiad: Isafswm o 2 ddiwrnod yr wythnos am gyfnod o bedair blynedd yn y swydd.
Gofyniad y Gymraeg: Rhaid i bob ymgeisydd ymrwymo i waith Amgueddfa Cymru mewn Cymru ddwyieithog. Rydym hefyd wrthi’n recriwtio ar gyfer swydd yr Is-gadeirydd felly, o ystyried cydbwysedd ieithyddol presennol Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer un o’r swyddi hyn a bydd y gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol i’r swydd arall.
Polisi Llywodraeth Cymru ac Amgueddfa Cymru yw annog ac integreiddio cyfleoedd cyfartal i bob agwedd ar y busnes, gan gynnwys penodiadau cyhoeddus. Croesewir ceisiadau gan bawb ac rydym yn sicrhau na chaiff yr un ymgeisydd cymwys ar gyfer swydd gyhoeddus driniaeth lai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, beichiogrwydd neu gyfnod mamolaeth.
Rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sy'n anabl cyn belled â bod ei gais yn bodloni'r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd dan sylw. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod rhaid ichi roi tystiolaeth yn eich cais sy’n dangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau a ddiffinnir yn rhai hanfodol.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu pobl anabl yn eu swydd a’u gyrfa. Os hoffech warant o gyfweliad, cysylltwch â’r Tîm Penodiadau Cyhoeddus trwy e-bostio [email protected] i roi gwybod iddyn nhw.
Dyddiad Cau: 11 Ebrill 17:00. Ni fyddwn yn ystyried unrhyw geisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad a’r amser yma.
Bydd ymgeiswyr sy’n cael eu gwahodd am gyfweliad yn cael gwybod o leiaf bythefnos cyn dyddiad y cyfweliad.
Cyflog
💰 £35,182
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Ymgynghorydd Bwyd A Diod
Mae Grŵp Ymgynghori Lafan yn edrych am Ymgynghorydd Bwyd A Diod
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ymunwch â ni yn Grŵp Ymgynghori Lafan i ychwanegu gwerth i’n cleientiaid a’u cefnogi i wireddu eu cynlluniau. “Gwireddu gyda'n gilydd.”
Disgrifiad:
Rydym yn chwilio am unigolyn blaengar, sy’n rhannu ein brwdfrydedd a’n hangerdd i wella ansawdd bywyd mewn ardaloedd gwledig.
**Rydym yn cynnig: **
- Oriau gwaith hyblyg o’ch cartref.
- Cyfle i gynnig eich arbenigedd er budd cleientiaid Lafan.
- Cefnogaeth reolaidd i'ch arwain a’ch dysgu am yr economi wledig.
- Cyfle i fod yn rhan o’r uchelgais i gefnogi busnesau a chymunedau yng nghefn gwlad Cymru i ffynnu.
- Gweithio fel rhan o dîm sydd am weld economi wledig gref a phawb ar hyd y gadwyn gyflenwi yn llwyddo.
Dyddiad Cau: 24.04.2023
Cyflog: £36,000 - £40,000 y flwyddyn
Yn ddibynnol ar brofiad perthnasol.
Swydd llawn amser (40 awr yr wythnos). Rydym yn agored i geisiadau i weithio’n rhan amser.
E-bostiwch [email protected] am fanylion llawn, neu ffoniwch 01248 665 624.
Cyflog
💰 £36,000 - £40,000
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hyblyg, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Is-ddatblygwr Meddalwedd / Is-ddatblygwr y We
Mae Delwedd Ltd yn edrych am Is-ddatblygwr Meddalwedd / Is-ddatblygwr y We
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Delwedd yn Gwmni Dylunio Gwefannau o Gaernarfon. Sefydlwyd y Cwmni yn 1998, ac mae gennym ni bellach bortffolio o dros 400 o wefannau byw ar draws amrywiaeth o sectorau.
Rydym ni’n dîm bach, ac yn chwilio am rywun i ymuno â ni i helpu gydag agweddau mwy technegol ar ein gwaith.
Bydd eich tasgau yn cynnwys / gallant gynnwys:
• Gosod a Diweddaru System Rheoli Cynnwys (CMS)
• Profi Meddalwedd
• Cymorth Technegol
• Ysgrifennu Dogfennau Technegol
Byddwn ni’n darparu hyfforddiant, ond byddai gwybodaeth am y canlynol yn ddefnyddiol:
• PHP
• MySQL
• Gosod a Rheoli E-Bost
Gofynnol:
• Rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg
• Cyfforddus yn gweithio i derfynau amser
• Gallu i weithio’n dda mewn tîm yn ogystal ag yn annibynnol
Oriau: Llawn Amser / Rhan Amser (gellir negodi’r oriau)
Cyflog: £20,000 - £24,000. Gan ddibynnu ar Sgiliau a Phrofiad.
Contract: 1 blwyddyn (cyfnod mamolaeth)
Lleoliad: Mae ein swyddfa yn y Galeri yng Nghaernarfon, Gogledd Cymru.
**Dyddiad Cau: **31/03/23
Cyflog
💰 £20,000 - £24,000
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Gweinyddwr Gwefannau
Mae Delwedd Ltd yn edrych am Weinyddwr Gwefannau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Delwedd yn gwmni dylunio gwefannau wedi ei leoli yng Nghaernarfon. Sefydlwyd y cwmni yn 1998 ac erbyn hyn mae gennym bortffolio o dros 400 gwefan byw ar draws sawl sector.
Rydym yn chwilio am Weinyddwr Gwefannau i ymuno a’n tîm.
Prif bwrpas y rôl yma fydd / Tasgau allweddol:
• Diweddariad dyddiol i wefannau cwsmeriaid – e.e. diweddaru cynnwys gwefan
• Gwasanaeth cwsmer – Ffôn ac e-bost
• Dyletswyddau Gweinyddol Cyffredinol
Gall y rôl yma hefyd gynnwys:
• Ffotograffiaeth ar gyfer gwefannau - gan gynnwys ymweld â chwsmeriaid
Yn ofynnol:
• Profiad & Sgiliau TG
• Yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg
• Yn gyfforddus yn gweithio i gyfyngiadau amser
Yn ddymunol:
• Profiad Gwasanaeth Cwsmer
• Profiad o weithio mewn swyddfa brysur
• Profiad / Diddordeb mewn Ffotograffiaeth
• Trwydded yrru llawn
Nodwch os gwelwch yn dda: Darperir hyfforddiant
Oriau: Llawn Amser / Rhan Amser (oriau yn drafodadwy)
Cyflog: £20,000 - £22,000. Yn ddibynnol ar Sgiliau a Phrofiad.
Contract: 1 blwyddyn (cyfnod mamolaeth)
**Lleoliad: **Mae ein swyddfa yn y Galeri, Caernarfon, Gwynedd.
Dyddiad Cau: 31/03/23
Cyflog
💰 £20,000 - £22,000
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prentis Datblygiad Cynnar Plant
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Brentis Datblygiad Cynnar Plant
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwnewch y dewis doeth, dewiswch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd!
Wyt ti wedi ystyried gyrfa yn y maes plant?
Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y brentisiaeth hon, rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy’n barod i ddysgu. Rydym hefyd yn chwilio am unigolyn sy’n gallu cyfathrebu gyda hyder, gweithio’n rhan o dîm, a dangos eu potensial i lwyddo fel prentis.
Dim ond dechrau'r daith yw dilyn prentisiaeth, achos fe all arwain at nifer o lwybrau gyrfa cyffrous. Felly peidiwch â cholli’r cyfle - ymgeisiwch heddiw!
**DYDDIAD CAU: **10.00a.m, DYDD IAU 13eg o Ebrill 2023
Cofiwch ddilyn y canllawiau yn y PECYN GWYBODAETH wrth gwblhau’r ffurflen gais.
Os byddwch yn cael eich dewis i fod ar y rhestr fer, byddwn yn eich ffonio.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch [email protected]
• Cyflog yn gyfwerth i isafswm cyflog cenedlaethol
• 26.5 diwrnod o wyliau blynyddol + 8 diwrnod gwyl y banc blynyddol
• Gweithio yn hyblyg - Gweithio o adref, yn y swyddfa neu cymysgedd o'r ddau
• Amodau a thelerau gwaith gorau yn yr ardal
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch [email protected]
Cyflog
💰 Cyflog yn gyfwerth i isafswm cyflog cenedlaethol
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prentis Chwaraeon x6
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Brentis Chwaraeon x6
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwnewch y dewis doeth, dewiswch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd!
Wyt ti wedi ystyried gyrfa yn y maes chwaraeon?

📍 Amrywiol
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prentis Cefnogi Busnes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Brentis Cefnogi Busnes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwnewch y dewis doeth, dewiswch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd!
Wyt ti wedi ystyried gyrfa yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol?
Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y brentisiaeth hon, rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy’n barod i ddysgu. Rydym hefyd yn chwilio am unigolyn sy’n gallu cyfathrebu gyda hyder, gweithio’n rhan o dîm, a dangos eu potensial i lwyddo fel prentis.
Dim ond dechrau'r daith yw dilyn prentisiaeth, achos fe all arwain at nifer o lwybrau gyrfa cyffrous. Felly peidiwch â cholli’r cyfle - ymgeisiwch heddiw!
DYDDIAD CAU: 10.00a.m, DYDD IAU 13eg o Ebrill 2023
Cofiwch ddilyn y canllawiau yn y PECYN GWYBODAETH wrth gwblhau’r ffurflen gais.
Os byddwch yn cael eich dewis i fod ar y rhestr fer, byddwn yn eich ffonio.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch [email protected]
• Cyflog yn gyfwerth i isafswm cyflog cenedlaethol
• 26.5 diwrnod o wyliau blynyddol + 8 diwrnod gwyl y banc blynyddol
• Gweithio yn hyblyg - Gweithio o adref, yn y swyddfa neu cymysgedd o'r ddau
• Amodau a thelerau gwaith gorau yn yr ardal
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch [email protected]
Cyflog
💰 Cyflog yn gyfwerth i isafswm cyflog cenedlaethol
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prentis Cefnogi Busnes Gwaith Gwynedd
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Brentis Cefnogi Busnes Gwaith Gwynedd

Prentis Cefnogi Busnes a Systemau
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Brentis Cefnogi Busnes a Systemau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwnewch y dewis doeth, dewiswch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd!
Wyt ti wedi ystyried gyrfa yn y maes cefnogi busnes?
Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y brentisiaeth hon, rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy’n barod i ddysgu. Rydym hefyd yn chwilio am unigolyn sy’n gallu cyfathrebu gyda hyder, gweithio’n rhan o dîm, a dangos eu potensial i lwyddo fel prentis.
Dim ond dechrau'r daith yw dilyn prentisiaeth, achos fe all arwain at nifer o lwybrau gyrfa cyffrous. Felly peidiwch â cholli’r cyfle - ymgeisiwch heddiw!
DYDDIAD CAU: 10.00a.m, DYDD IAU 13eg o Ebrill 2023
Cofiwch ddilyn y canllawiau yn y PECYN GWYBODAETH wrth gwblhau’r ffurflen gais.
Os byddwch yn cael eich dewis i fod ar y rhestr fer, byddwn yn eich ffonio.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch [email protected]
**Am ragor o wybodaeth - **
https://www.gwynedd.llyw.cymru/apprenticeships
• Cyflog yn gyfwerth i isafswm cyflog cenedlaethol
• 26.5 diwrnod o wyliau blynyddol + 8 diwrnod gwyl y banc blynyddol
• Gweithio yn hyblyg - Gweithio o adref, yn y swyddfa neu cymysgedd o'r ddau
• Amodau a thelerau gwaith gorau yn yr ardal
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch [email protected]
Cyflog
💰 Cyflog yn gyfwerth i isafswm cyflog cenedlaethol
Lleoliad
📍 Dolgellau
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cymorth Cyfathrebiadau Digidol
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn edrych am Swyddog Cymorth Cyfathrebiadau Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni’n chwilio am unigolyn brwdfrydig a chreadigol i ymuno â’n tîm cyfathrebu a marchnata dynamig fel ‘Swyddog Cymorth Cyfathrebiadau Digidol’ CGGC.
Disgrifiad:
Rydyn ni’n chwilio am siaradwr Cymraeg i ymuno ag CGGC fel Swyddog Cymorth Cyfathrebiadau Digidol. Mae hwn yn gyfle rhagorol i rywun sydd eisiau dechrau ar yrfa mewn cyfathrebu a marchnata. Mae hefyd yn gyfle i unrhyw un â sgiliau pobl cryf i wneud defnydd da ohonynt drwy helpu CGGC i gyflawni ei ddiben – i alluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd.
PAM GWEITHIO YN CGGC?
Mae CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) yn cynnig nifer o fuddion fel cynllun gweithio’n hyblyg, pensiwn ar 9% o’ch cyflog a mynediad at raglen cymorth i gyflogeion.
Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a’u datblygiad. Rydyn ni’n Gyflogwr Cyflog Byw, sy’n ymrwymedig i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i staff, ac rydyn ni hefyd wedi ennill yr achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.
Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC: https://wcva.cymru/cy/gweithio-i-cggc/
SWYDDOG CYMORTH CYFATHREBIADAU DIGIDOL
Cymraeg yn hanfodol
35 awr yr wythnos
£23,307 yn cynyddu i £24,830 pro rata y flwyddyn
Bydd CGGC yn cyfrannu 9% o’i gyflog blynyddol at ei gynllun pensiwn cymeradwy.
Lleoliad:
Mae gan CGGC bolisi gweithio hybrid a hyblyg ar waith, sy’n golygu y gallwch chi weithio yn ein swyddfeydd neu o bell (gan gynnwys gartref). Rydyn ni’n fudiad Cymru gyfan gyda swyddfeydd yn Aberystwyth, Caerdydd a’r Rhyl. Bydd angen mynychu rhai digwyddiadau a threfniadau gwaith penodol yn ein swyddfeydd a lleoliadau eraill, ond y mwyafrif o’r amser, gallwch chi ddewis ble rydych chi’n gweithio fel y bo’n briodol i’ch ffordd o fyw.
Ynglŷn â’r rôl:
Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn creadigol a brwdfrydig weithio gyda’n tîm cyfathrebu a marchnata dynamig. Byddwch chi’n cael profiad gwerthfawr o weithio gyda’n harbenigwyr yn y diwydiant ar ymgyrchoedd amlgyfrwng at ddibenion a chynulleidfaoedd amrywiol.
Mae’r rôl yn ddelfrydol i rywun sy’n dymuno dechrau ar yrfa yn y maes cyfathrebu a marchnata. Os oes gennych chi sgiliau pobl ac ochr greadigol, mae’r swydd hon yn rhoi digonedd o gyfleoedd i chi ehangu a datblygu eich sgiliau, wrth ddylunio cyfathrebiadau diddorol i gefnogi a hyrwyddo’r sector gwirfoddol yng Nghymru.
Bydd rhai o’ch prif ddyletswyddau yn cynnwys:
Datblygu, gweithredu a gwerthuso cyfathrebiadau ar gyfer platfformau amrywiol, gan gynnwys ein gwefan, sianeli cyfryngau cymdeithasol ac e-gylchlythyrau
Gweithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol gwahanol i ganfod cyfleoedd i greu cynnwys diddorol sy’n hyrwyddo gwaith y sector gwirfoddol
Cyfrannu at y gwaith o gynllunio cyfathrebiadau a marchnata er mwyn sicrhau mai’r un yw ein llais yn Gymraeg a Saesneg
Byddwch chi hefyd yn gweithio’n agos gyda thimau eraill CGGC a chyda phartneriaid allanol, lle byddwch chi’n cael cyfle i weld yr holl brosiectau gwahanol a chyffrous rydyn ni’n gysylltiedig â nhw. Byddwch chi’n clywed o lygad y ffynnon (ac yn helpu i adrodd) straeon hollol ysbrydoledig elusennau a grwpiau gwirfoddol ledled Cymru.
Mae’r swydd hon yn amrywiol iawn, ac nid yw’r un dau ddiwrnod yr un fath. Mae hon yn rôl hynod o werth chweil ar gyfer unigolyn trefnus ac uchel ei gymhelliant sy’n hoffi her ac eisiau defnyddio’i sgiliau i wneud cyfraniad positif at y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Darllenwch y swydd-ddisgrifiad lawn: https://wcva.cymru/cy/cyfle-gwaith-newydd-yn-cggc/
SUT I YMGEISIO
I ymgeisio, lawrlwythwch y pecyn cais isod: https://wcva.cymru/cy/cyfle-gwaith-newydd-yn-cggc/
Dyddiad cau: 20 Mawrth 2023, 10am
Cyflog
💰 £23,307 - £24,830 pro rata
Lleoliad
📍 Hybrid, Hyblyg, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Cynrychiolaeth
Mae Undeb Myfyrwyr, Prifysgol Bangor yn edrych am Gydlynydd Cynrychiolaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd lawn amser barhaol uchod yn gweithio yn Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor).
Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol a brwdfrydig i weithio yn adran Datblygu Aelodaeth Undeb Bangor fel Cydlynydd Cynrychiolaeth. Byddwch yn gweithio'n agos gyda Swyddogion Sabothol etholedig Undeb y Myfyrwyr ac yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu a darparu gweithgarwch democratiaeth a chynrychiolaeth yn yr Undeb, gan gynnwys Cynrychiolwyr Cwrs, y Cyngor Myfyrwyr, etholiadau a pholisi a gweithgarwch cynrychioliadol UMCB.
Byddwch wedi cael addysg i safon Lefel A (neu gymhwyster cyfwerth) a byddwch yn gweithio fel rhan o'r Tîm Llais Myfyrwyr ac yn gyfrifol am gydlynu a chefnogi'r gweithgarwch democratiaeth a chynrychiolaeth yn unol ag amcanion strategol yr Undeb.
Mae hon yn rôl mewn adran brysur a deinamig ac felly mae'n rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol ynghyd â'r gallu i fod yn hyblyg a medru addasu. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o weithio mewn maes cynrychioliadol a democrataidd a chyda dealltwriaeth dda o faterion sy'n bwysig i fyfyrwyr. Byddai profiad o weithio mewn sefydliad amrywiol a gallu i ffynnu mewn sefyllfa waith gyflym ei naws dan arweiniad myfyrwyr yn fantais.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau mor fuan ag sydd yn rhesymol bosib.
Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg, neu dangos ymrwymiad i ddysgu hyd at safon benodedig, yn hanfodol i'r swydd hon.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hynny ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan-amser neu rannu’r swydd.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk.
Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 20 Mawrth 2023.
Dyddiad y cyfweliad: 29 Mawrth 2023.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £24,285 - £27,131
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Fideograffydd
Mae Rondo yn edrych am Fideograffydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Grŵp Rondo Media yn chwilio am Fideograffydd i gynllunio, saethu a golygu cynnwys ar gyfer ein platfformau digidol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn berson brwdfrydig, creadigol gyda’r weledigaeth a’r gallu technegol i fynd â phrosiect o’r syniad cychwynol drwodd i’w gyhoeddi ar amrywiol lwyfannau.
Bydd cyfrifoldebau yn cynnwys:
- Gweithio’n agos gydag adran olygyddol Rownd a Rownd i adnabod cyfleon i dyfu’r brand arlein
- Creu, datblygu, saethu a golygu cynnwys sy’n apelgar i’n cynulleidfa arlein, ar ba bynnag blatfform
- Adnabod targedau ar gyfer gwahanol lwyfannau a rhoi camau yn eu lle i’w cyrraedd
- Ymchwilio tueddiadau digidol ar draws llwyfannau amrywiol ac ymateb yn gyflym i fanteisio arnynt
- Dod yn gyfarwydd â chynnwys Rondo gan fod yn barod i awgrymu strategaeth ddigidol i fynd law yn llaw â hynny
- Tyfu dealltwriaeth o gynulleidfa ein brandiau, a sut y mae’r gynulleidfa yna yn amrywio o blatfform i blatfform, gan gynllunio cynnwys yn benodol i garfannau arbennig
- Sicrhau fod popeth sy’n cael ei gyhoeddi yn weddus i’r brand dan sylw
- Cynnig syniadau a bod â’r gallu i weithio law yn llaw â chynhyrchiadau i fynd a’r syniadau yna drwy bob cam o’r broses gynhyrchu
Byddwch:
- Yn gyfarwydd â meddalweddau golygu fideo megis Premiere Pro
- Yn hyderus wrth ddefnyddio camerâu, yn benodol camerâu DSLR neu mirrorless
- Ag ymwybyddiaeth o offer recordio sain syml
- Â phrofiad o saethu ar gyfer fideos cymhareb agwedd (aspect ratio) amrywiol
- Yn greadigol, gydag angerdd tuag at greu cynnwys o’r safon uchaf
- Yn gallu creu deunydd mewn amryw o steiliau gwahanol gan fod yn ysgafn neu ddwys yn ôl y galw
- O fewn rheswm, yn hyblyg i ymateb i ddigwyddiadau penodol arlein
- Yn gallu cyfathrebu yn hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg.
**Cytundeb: **12 mis
**Lleoliad: **Porthaethwy/Llangefni
**Cyflog: **Yn ddibynnol ar brofiad
**Oriau Gwaith arferol: **0900 – 1700 Llun i Gwener, gall yr oriau amrywio ar adegau
**Dyddiad cau: **Ebrill 6ed 2023
Cyflog
💰 Yn ddibynnol ar brofiad
Lleoliad
📍 Porthaethwy, Llangefni
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cefnogi Busnes
Mae GwE yn edrych am Swyddog Cefnogi Busnes
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
GwE yw’r gwasanaeth Gwella Ysgolion dros ogledd Cymru. Mae’n wasanaeth a gydrennir ar draws chwe Awdurdod Lleol, gan gydweithio’n agos ag ysgolion. Craidd ein gwaith yw uchelgais gwirioneddol i weld yr ysgolion a’r sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw yn cyflawni eu dyheadau a gweld pob dysgwr yn llwyddo.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gefnogi meysydd neu fentrau penodol o fewn y gwasanaeth gan ddarparu cefnogaeth fusnes gyffredinol. Bydd dyletswyddau yn cynnwys yr holl drefniadau cefnogi busnes, h.y. cefnogi rhaglenni, cadw cofnodion i safon uchel, ymgymryd â gweinyddu ariannol, tracio a chofnodi gwariant, casglu data, bod yn brif pwynt cyswllt i’r holl randdeiliaid.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Bydd Telerau ac Amodau Llywodraeth Leol yn berthnasol.
DYDDIAD CAU: 10.00yb, Dydd Iau, 6 Ebrill 2023
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Ann Grenet ar 07580 711022 neu 01286 685044, neu e-bost [email protected]
Am ragor o fanylion a ffurflen gais defnyddiwch y ddolen ymgeisio neu ffonio 01286 679076.
Cyflog
💰 £22,369 - £24,054
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Canolfan Wybodaeth (Rhan-Amser, FTC)
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn edrych am Gynorthwyydd Canolfan Wybodaeth (Rhan-Amser, FTC)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwarchod harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Gan orchuddio 823 milltir o dirwedd amrywiol, mae’r Parc yn gartref i dros 26,000 o bobl, mynydd uchaf Cymru a llyn naturiol mwyaf Cymru.
Rydym nawr yn chwilio am Gynorthwyydd Canolfan Wybodaeth i ymuno â ni yn rhan amser, gan weithio pedwar i bum diwrnod yr wythnos ar gontract tymor penodol.
Y Manteision
- Cyflog o £20,812 - £21,968 y flwyddyn (pro rata)
- Pensiwn
- Lwfans Gwyliau (24 diwrnod) (pro rata)
- Dydd Gwyl Dewi i ffwrdd (1af o Fawrth)
- Gweithio Hybrid
- Cynllun beicio i'r gwaith
- Cynllun Cymorth Prynu Car
- Y cyfle i weithio mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol
Y Rôl
Fel Cynorthwy-ydd Canolfan Wybodaeth, byddwch yn gyfrifol am roi arweiniad a chymorth i'n hymwelwyr yn ein canolfan yn Aberdyfi.
Yn y rôl hon sy'n delio â chwsmeriaid, byddwch yn gwneud ymholiadau, yn hyrwyddo atyniadau lleol, yn tynnu sylw at rinweddau arbennig y parc ac yn hyrwyddo gwaith Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Byddwch yn helpu i adeiladu ein presenoldeb ar-lein trwy gynnwys a chyfryngau cymdeithasol a chynorthwyo gyda rhedeg y ganolfan, gwerthu nwyddau, archebu stoc a sicrhau ei bod yn lân ac yn daclus.
Yn ogystal, byddwch yn:
- Cynorthwyo mewn digwyddiadau, sioeau ac arddangosfeydd lleol
- Cefnogi gweithgareddau addysgol ac iechyd a lles
- Archebu llety a chofnodi lleoedd gwag
Amdanoch chi
Er mwyn cael eich ystyried yn Gynorthwyydd Canolfan Wybodaeth, bydd angen:
- Y gallu i siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl
- Gwybodaeth leol a brwdfrydedd dros rinweddau'r Parc Cenedlaethol a'r ardal
- Gwybodaeth dda am ddaearyddiaeth ac atyniadau Cymru
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol
- Sgiliau TG sylfaenol
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 27 Mawrth 2023.
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Gynorthwyydd Gwasanaeth Cwsmer, Cynorthwyydd Canolfan Groeso, Cynorthwyydd Canolfan Ymwelwyr, Cynorthwyydd Profiad Ymwelwyr neu Gynorthwyydd Gwybodaeth Ymwelwyr.
Felly, i ymuno â'n sefydliad anhygoel mewn rôl werth chweil fel Cynorthwyydd Canolfan Wybodaeth, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Cyflog
💰 £20,812 - £21,968 pro rata
Lleoliad
📍 Aberdyfi, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynghorydd y Gymraeg
Mae Ofcom Cymru yn edrych am Gynghorydd y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae tîm Ofcom yng Nghymru yn chwilio am Gynghorydd y Gymraeg i arwain ei gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg ac i sicrhau cydymffurfiaeth â’i Safonau Cymraeg. Yn unigolyn medrus sy’n siarad Cymraeg, bydd yr unigolyn hwn yn hyrwyddo gwaith Ofcom drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws y sefydliad.
Bydd eich rôl yn cynnwys sicrhau bod Ofcom yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg drwy godi ymwybyddiaeth ohonynt i dimau ar draws y sefydliad; goruchwylio’r gwaith o gyfieithu dogfennau Ofcom yn Gymraeg yn unol â’i phrosesau cymeradwy a’i hamserlenni cyhoeddi tynn; a chynnal a datblygu’r berthynas â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.
Mae’r iaith Gymraeg yn bwysig i Ofcom, ac mae’r tîm yn falch o’i hymroddiad a’r ffordd y maent yn integreiddio’r Gymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd.
Mae Ofcom yn trin yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg yn gyfartal yn ei gwaith yng Nghymru ac yn credu bod ei dull gweithredu yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at allu siaradwyr Cymraeg i ymgysylltu â materion cyfathrebu yn eu dewis iaith.
Mae hon yn rôl lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol. Mae Ofcom yn croesawu ceisiadau yn yr iaith Gymraeg a chynhelir y cyfweliad ar gyfer y swydd hon yn Gymraeg.
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae Ofcom yn gyflogwr blaengar a chynhwysol ac mae’n cydnabod gwerth amrywiaeth i “sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb”. Mae’r sefydliad yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â’r cymwysterau priodol beth bynnag fo’u cefndir, yn enwedig ymgeiswyr sy’n fenywod, yn anabl ac yn Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig gan nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n deg yn ei gweithlu ar hyn o bryd. Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, mae Ofcom yn gwarantu y bydd yn cyfweld unrhyw ymgeisydd anabl sy’n bodloni’r meini prawf dethol hanfodol. Mae gan Ofcom fodel gweithio ystwyth, sy’n ei galluogi i gael dull niwtral o ran lleoliad wrth lenwi swyddi gwag. Mae hefyd yn cefnogi dulliau gweithio'n hyblyg, lle bo’n bosibl. Mae cydweithwyr yn rhydd i symud o gwmpas ei swyddfeydd, gan alluogi iddynt weithio ochr yn ochr â thimau a grwpiau eraill, a chydweithio â nhw. Mae'r mentrau hyn yn helpu cydweithwyr Ofcom i weithio’n hyblyg mewn ffordd sy’n eu cefnogi.
I drafod yn anffurfiol, cysylltwch â thîm Goodson Thomas ar 029 2167 4422 / [email protected].
Bydd pob cais yn cael ei gydnabod.
Cyflog
💰 £55,000
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Prentis Chwaraeon x6
Mae Byw'n Iach yn edrych am Brentis Chwaraeon x6
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
**PWRPAS Y SWYDD **
Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau prentisiaeth ac i ennill cymwysterau yn y maes Chwaraeon a Hamdden.
Hybu a chefnogi ffordd iach o fyw.
Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Disgrifiad:
**NODWEDDION PERSONOL **
**HANFODOL **
Dangos ymddygiad ac agwedd cywir
Bod yn deg a gallu trin pobl gyda pharch
I fod yn gwrtais ac yn bositif Dangos ymrwymiad i waith neu brosiect
I fod yn gyfrifol am wneud y dyletswyddau a chyfrifoldebau rôl prentis i’r lefel uchaf bosib
I gyflawni pob dyletswydd sy’n ofynnol Gweithio fel rhan o dîm
Gallu gweithio mewn tîm
I gyfrannu at gyfarfodydd tîm a chyfathrebu'n rheolaidd ac yn effeithiol gydag aelodau eraill y tîm Cyfathrebu gyda hyder
Y gallu i gyfathrebu gyda hyder yn y Gymraeg a’r Saesneg
Y gallu i ddangos y sgiliau cywir i allu cyfathrebu yn gywir ar gyfer unrhyw gynulleidfa Bod yn barod i ddysgu
I ymrwymo i’th ddatblygiad i gyflawni dy swydd a’r brentisiaeth
Adnabod anghenion datblygu personol yn barhaus a gweithredu arnyn nhw Deall beth sydd ei angen i weithio i’r Cyngor
Deall y sialensiau sydd yn ein wynebu fel Cyngor
Manteisio ar gyfleoedd i fod yn greadigol
Sicrhau dy fod yn rhoi pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr wyt yn ei wneud
**DYMUNOL ** **CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL **
**HANFODOL **
Wedi cymhwyso i lefel 2 o leiaf gan gyrraedd y gofynion isod: **Un ai **
4 TGAU gradd D neu uwch (gradd C neu uwch mewn mathemateg)
Cymhwyster galwedigaethol Lefel 2 cyfatebol (e.e. BTEC Cyntaf Lefel 2 Diploma) Er gwybodaeth, bydd unrhyw gyfuniad o gymwysterau gyda gradd gyfatebol yn dderbyniol. **ANGHENION IEITHYDDOL ** Gwrando ac siarad
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.
Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau. **Darllen a deall **
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith. Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.) Ysgrifennu
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Cyflog
💰 Gweler Pecyn Gwybodaeth
Lleoliad
📍 Amrywiol
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Datblygu Prosiect Academi Heddwch
Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ar ran Climate.Cymru yn edrych am Reolwr Datblygu Prosiect Academi Heddwch
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae hwn yn gyfle unigryw i chwarae rhan allweddol yn natblygiad Academi Heddwch Cymru – Sefydliad Heddwch cyntaf Cymru – ac i weithio tuag at weledigaeth o Gymru fel Cenedl Heddwch. Bydd y Rheolwr Datblygu Prosiectau yn gyfrifol am reoli, cyflwyno a datblygu Academi Heddwch Cymru. Mae hyn yn cynnwys rheoli staff y prosiect, datblygu partneriaeth effeithiol rhwng holl randdeiliaid y prosiect, ac adrodd i’r cyllidwyr, Grŵp Llywio’r Academi Heddwch a Bwrdd Ymddiriedolwyr WCIA. Mae’r tîm staff yn cynnwys Cydlynydd (0.8) ac rydym ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Arweinydd Rhwydwaith Ymchwil Academaidd (0.5).
Un o’r prosiectau sy’n cael eu cydlynu ar hyn o bryd gan Academi Heddwch yw Deiseb Heddwch Merched Cymru, sy’n dathlu canmlwyddiant y ddeiseb hon a lofnodwyd gan 390,296 o fenywod Cymru a’i hanfon i UDA yn apelio arnynt i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd. Rydym wedi gwneud cais am gyllid ar gyfer y Prosiect Deiseb Heddwch Merched a oedd yn cynnwys recriwtio Rheolwr Prosiect i reoli’r dasg o gyflawni’r rhaglen waith. Os byddwn yn llwyddiannus, yna bydd Rheolwr Datblygu Prosiect yr Academi Heddwch hefyd yn rheoli’r Rheolwr Prosiect Deiseb Heddwch Merched. Bydd y Rheolwr Datblygu Prosiect yn darparu gweithgareddau presennol yr Academi Heddwch ac, yn hollbwysig, yn sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau newydd sy’n cyd-fynd â dibenion yr Academi Heddwch ac yn eu rheoli. Byddant yn sicrhau bod gweithgareddau’n cael eu darparu ar amser ac o fewn y gyllideb, a bod mecanweithiau monitro a gwerthuso priodol yn cael eu sefydlu a’u dilyn.
**Cyflogir gan: **Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA)
Cyflog: Yn cychwyn o £36,305
**Oriau: **37 awr y wythnos
Y dyddiad cau: 12.00pm, 22 Mawrth 2023 – dyddiad cau wedi ymestyn
Cyflog
💰 Yn cychwyn o £36,305
Lleoliad
📍 Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cymhorthydd Hamdden Byw’n Iach Glaslyn, Porthmadog
Mae Byw'n Iach yn edrych am Gymhorthydd Hamdden Byw’n Iach Glaslyn, Porthmadog
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Paul Williams ar 01766 512711
Cynnal cyfweliadau 30/03/2023.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan, Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: [email protected]
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU 23/03/2023.
Pwrpas y swydd
Hybu a chefnogi ffordd iach o fyw i’r sawl sy’n defnyddio’r Canolfannau Hamdden a’r gymuned ehangach.
Sicrhau bod y sawl sy’n ymweld â’r Ganolfan yn gallu ei ddefnyddio’n ddiogel, tra’n cynnig gofal cwsmer o safon uchel.
Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer.
•Paratoi offer a chyfleusterau trwy osod offer i fyny a’i dynnu i lawr fel bo angen.
•Cynnal a chadw rhestrai, glanhau a pharatoi cyfleusterau fel gall y cyhoedd eu mwynhau yn ddiogel.
•Trin arian a chynorthwyo gyda rhedeg system archebu’r Canolfan Hamdden.
Prif ddyletswyddau
•Cyflwyno rhaglenni o weithgareddau mewn dull ysgogiadol ac ysbrydoledig fel y cytunwyd gan y Rheolwr Ardal/Rheolwr ar Ddyletswydd.
•Cyflwyno rhaglen o weithgareddau nofio gan ddarparu cyfarwyddyd cymwys a diogel, sy’n defnyddio sgiliau sy’n cael eu cydnabod yn sefydledig gan y Gymdeithas Nofio Amatur, ynghyd a dilyn llwybr nofio Pasbort Dwr Cymru.
•Sicrhau fod y drefn anwytho yn y gampfa o safon uchel ac yn ysgogi cwsmeriaid i ddychwelyd i’r Ganolfan yn rheolaidd.
•Hybu pecynnau ffitrwydd y Ganolfan i’r cwsmeriaid ynghyd â throsi sgyrsiau cychwynnol gyda chwsmeriaid i mewn i werthiant.
•Ymgysylltu gyda’r cwsmeriaid er mwyn adnabod eu hamcanion a’u dyheadau ynglŷn â dilyn ffordd iach o fyw.
•Cefnogi’r cwsmeriaid trwy nifer o ddulliau i’w ysgogi a’u hysbrydoli i fyw yn iach.
•Ymgysylltu gyda’r cwsmeriaid a’r darpar gwsmeriaid er mwyn adnabod pa dechnegau marchnata sy’n fwyaf effeithiol i ddefnyddio.
•Ymgymryd â dyletswyddau’r dderbynfa fel bo’r angen.
•Sicrhau safon uchel o ofal cwsmer gan hyrwyddo’r berthynas rhwng y Ganolfan a’r cwsmer ar bob achlysur.
•Sicrhau bod glendid y Ganolfan o safon uchel, yn ôl canllawiau’r Ganolfan.
•Sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu goruchwylio’n ddiogel mewn ffordd gwrtais a boneddigaidd.
•Sicrhau ffyniant y Ganolfan drwy gynnig adborth a syniadau newydd ar sut i wella’r gwasanaeth.
•Ymgysylltu gyda’r cwsmeriaid hynny ar raglenni arbennig o fewn y Ganolfan, e.e. NERS, er mwyn sicrhau fod y llwybr dilyniant ar ôl gorffen y rhaglenni yn un esmwyth i’r cwsmer.
•Hyrwyddo’r iaith Gymraeg o fewn y Ganolfan gan ddefnyddio’r iaith fel yr un cyntaf yn y gweithlu.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cwmni.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cwmni yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cwmni. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cwmni yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cwmni.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau arbennig
•Cymrydrhan yn Rhaglen Hyfforddi’r Ganolfan pan fo angen a bod yn gyfrifol am ddiweddaru cymwysterau er mwyn sicrhau eu bod yn gyfredol.
•Dylai deilydd y swydd fod yn hyblyg ynghylch patrwm/shifftiau gwaith.
•Bydd angen gweithio shifftiau yn cynnwys gwaith gyda’r nos ac ar ben wythnosau.
•Telir lwfans ychwanegol pan yn darparu sesiynau ffitrwydd/nofio.
•Mae’r Gyfadran yn rhedeg rhaglen barhaus o hyfforddiant a datblygu medrau personol. Gweithredir Cynllun Gwerthuso er mwyn cyfrannu tuag at y ddarpariaeth hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd gymryd rhan yn y rhaglen.
Nodweddion personol
Hanfodol
•Brwdfrydig
•Gallu i ysgogi eraill
•Meddyfryd i allu ‘gweld gwaith’, yn lle aros am gyfarwyddid
•Gofal cwsmer o safon uchel
•Gonestrwydd
•Barod i ddysgu a chadw meddwl agored
•Gallu i weithio o fewn tîm yn effeithiol
•Gallu i weithio’n annibynnol o dan oruchwyliaeth gyfyngedig
•Brwdfrydedd i eisiau cyfrannu i weithgareddau’r ganolfan, drwy gynnig dosbarthiadau ffitrwydd/gweithgareddau.
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
•Safon gyffredinol dda o addysg.
Dymunol
•BTEC (neu gyfystyr) mewn Gwyddor Chwaraeon/Hamdden/Iechyd a Gofal Cymdeithasol)
•Lefel 2 Hyfforddwr Gampfa, gyda modiwlau arbenigol, fel Sbin, Ymarfer Cylchol, Kettlebells
•Cymhwyster Achub Bywyd Pwll Cenedlaethol (canolfan gwlyb)
Dymunol
•Profiad blaenorol o weithio yn y maes hamdden/chwaraeon/iechyd
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
•Sgiliau rhifedd a llythrennedd o safon da
•Gwybodaeth eang o iechyd a ffitrwydd er mwyn gallu cyfathrebu hyn gyda chwsmeriaid
•Sgiliau cwsmer arbennig
•Sgiliau gwerthu da
•Sgiliau negodi da
•Gwybodaeth am Gyfweliadau Ysgogol
Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Lefel Sylfaen
Darllen a deall negeseuon syml a thaflenni gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg sy'n ymwneud â'r swydd, a deall adroddiadau byr a syml ar bwnc cyfarwydd.
Ysgrifennu - Lefel Sylfaen
Gallu llenwi ffurflen syml a llunio llythyr neu neges ebost byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg drwy ddefnyddio cyfres o frawddegau allweddol i gyfleu gwybodaeth syml.
Cyflog
💰 £19,266 - £19,650
Lleoliad
📍 Porthmadog
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!