Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Ymddiriedolwyr (x2)

Cyngor Llyfrau Cymru

💰 Di-dâl 📍 Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad Ar gau

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn edrych am Ymddiriedolwyr (x2)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Disgrifiad: Cyngor Llyfrau Cymru: Ymddiriedolwyr Ydych chi’n frwd dros annog rhagor o bobl i godi llyfr ac elwa o’r holl fuddion sydd ynghlwm â darllen? Ydych chi’n awyddus i gyfrannu at y gwaith pwysig o gefnogi’r diwydiant cyhoeddi ar hyd a lled Cymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg?  Mae Cyngor Llyfrau Cymru’n awyddus i benodi hyd at ddau o ymddiriedolwyr newydd i ymuno â’r un ar ddeg presennol fel aelodau o’i Fwrdd i sicrhau bod gan y Cyngor drefn rheoli sy’n briodol ar gyfer gofynion y presennol a’r dyfodol. Rydym yn sefydliad sy’n credu mewn amrywiaeth a chynhwysiant ac sydd â gweithlu, bwrdd o ymddiriedolwyr a deunydd cyhoeddedig sy’n adlewyrchu’r gymdeithas gyfan. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd, diwylliannau a lefelau profiad, sydd â diddordeb byw ym myd llyfrau, ac sy’n credu y gallant helpu i gefnogi’n gwaith a’n hamcanion strategol i gyflawni’r Gymru gynhwysol rydym wedi ymrwymo iddi fel sefydliad. Bydd y penodiadau am gyfnod cychwynnol o bedair blynedd, a disgwylir i aelodau fynychu pedwar cyfarfod o’r Bwrdd bob blwyddyn. Swyddi gwirfoddol yw’r rhain, ond ad-delir unrhyw dreuliau rhesymol. Am ragor o fanylion ac i wneud cais – www.llyfrau.cymru, neu ar gyfer ymholiadau, cysylltwch â [email protected]. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw canol dydd, ddydd Llun, 11 Medi 2023. 

Gwybodaeth Ychwanegol: Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Pecyn Ymddiriedolwyr

Cyflog

💰 Mae swydd Ymddiriedolwr yn ddi-dâl. Fodd bynnag, bydd pob cost resymol a achoswyd gan fusnes yr elusen yn cael ei had-dalu yn unol â’n polisi treuliau.

Lleoliad

📍 Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau