Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Arweinydd Tim

Nant Gwrtheyrn

💰 £29k - £33k 📍 Llithfaen Ar gau

Mae Nant Gwrtheyrn yn edrych am Arweinydd Tim

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Ydych chi eisiau datblygu caffi Meinir i fod yn gyrchfan ar gyfer bwyd, ac yn sicrhau bod trefniadau staffio ar waith i gyflwyno cynnig llwyddiannus i ddysgwyr, priodasau a sesiynau galw heibio? Ydych chi yn medru adnabod anghenion hyfforddi cydweithwyr o fewn y tîm Arlwyo? Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod y gwasanaeth arlwyo yn bodloni'r holl safonau a rheoliadau iechyd a diogelwch ac iechyd yr amgylchedd gofynnol. A ydych chi eisiau bod yn aelod allweddol o dîm gweithredol Nant Gwrtheyrn, gan helpu i sicrhau bod pob archeb yn cael ei chyflwyno’n ddidrafferth ac yn llwyddiannus?

Prif gyfrifoldebau

  • Arwain a rheoli tîm arlwyo Nant Gwrtheyrn i ddarparu profiad ymwelwyr o ansawdd uchel
  • Cydweithio gyda’r Rheolwr Atyniadf a Digwyddiadau i sicrhau bod y caffi yn cyrraedd targedau incwm i ariannu cenhadaeth ehangach y mudiad
  • Sicrhau bod rotâu staff yn cael eu rheoli a'u cyfathrebu'n gywir
  • Recriwtio a sefydlu aelodau newydd o staff yn ôl yr angen
  • Rhoi adborth rheolaidd i aelodau’r tîm arlwyo, gan sicrhau eu bod yn gallu ymgymryd â dysgu a datblygu
  • Creu cyfleoedd ar gyfer dilyniant mewnol lle bo hynny'n bosibl ac yn briodol
  • Cydweithio gyda’r cogyddion i ddylunio bwydlenni a fydd yn tyfu'r busnes arlwyo yn Nant Gwrtheyrn a'i alluogi i ddod yn gaffi cyrchfan i'r gymuned leol ac ymwelwyr
  • Cydweithio gyda’r cogyddion i adlewyrchu hynodrwydd Nant Gwrtheyrn o fewn y seigiau a gynigir, gan ddefnyddio cynnyrch lleol lle bynnag y bo modd tra'n gwneud y mwyaf o elw
  • Rheoli dognau i sicrhau bod targedau elw yn cael eu cyflawni
  • Datblygu cynigion newydd o fewn y busnes arlwyo i gynyddu incwm a chodi proffil y busnes bwyd a diod
  • Gweithredu fel model rôl i weddill y tîm
  • Monitro prisiau cyflenwyr yn barhaus i sicrhau caffael gwerth gorau
  • Datblygu perthnasoedd cryf gyda chyflenwyr sy'n caniatáu hyblygrwydd ac ystwythder cyflenwad yn ôl gofynion y busnes
  • Mynd ati i geisio, gwerthuso a gweithredu ar adborth gan ymwelwyr i greu diwylliant o welliant parhaus o fewn y caffi
  • Bod yn gyfrifol am iechyd a diogelwch staff a chwsmeriaid o fewn yr adran arlwyo, cadw'n gyfoes â rheoliadau Iechyd yr Amgylchedd ac Iechyd a Diogelwch a sicrhau bod Nant yn cyflawni i'r safonau uchaf
  • Cydweithio ac yn agos ag arweinwyr, rheolwyr a chydweithwyr eraill o fewn tîm ehangach Nant Gwrtheyrn fel bod archebion yn cael eu cyflwyno'n llwyddiannus mewn ffordd gydgysylltiedig
  • Gweithio’n rhagweithiol gyda’r Arweinydd Cyfathrebu a Marchnata i ddarparu cynnwys ar gyfer y wefan, sianeli cyfryngau cymdeithasol a sianeli cysylltiadau cyhoeddus eraill er mwyn hyrwyddo’r arlwy arlwyo yn y Nant a sicrhau presenoldeb da ar gyfer digwyddiadau arbennig a.y.b.

Ymgeisiwch drwy anfon blaenlythyr a CV at [email protected]

Cyflog

💰 £28,822 - £33,143

Lleoliad

📍 Llithfaen

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau