Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Rheolwr Gweinyddol

Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

💰 £30k 📍 Bangor📍 Hybrid Ar gau

Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn edrych am Reolwr Gweinyddol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dawnus i’r swydd hon.

Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yw’r corff cenedlaethol sy’n arwain, datblygu a hyrwyddo cyfieithu proffesiynol ar gyfer cyfieithwyr Cymraeg i/o’r Saesneg. Mae rôl y Gymdeithas yn ganolog i gyrraedd 1,000,000 o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Prif bwrpas y swydd hon yw:

  • Gweinyddu’r broses ymaelodi.
  • Gweinyddu’r drefn arholi.
  • Cydweithio i drefnu rhaglen o gyrsiau a gweithdai hyfforddi.
  • Cydweithio i drefnu rhaglen o ddigwyddiadau cymdeithasol.
  • Sicrhau cyswllt cyson gyda’r aelodau.
  • Yn gyffredinol sicrhau gweinyddiaeth esmwyth ac effeithiol y Gymdeithas.

Does dim rhaid ichi fod yn gyfieithydd i lwyddo yn y swydd yma.

Lleoliad: Bangor/Hybrid

Oriau: Llawn amser, ond mae modd cynnig trefniadau gweithio hyblyg ac rydyn ni’n croesawu ceisiadau sy'n gofyn am weithio rhan amser, neu gytundeb sy'n amrywio yn ol tymhorau ysgol.

Cyflog: hyd at £30,000 + 6% cyfraniad pensiwn

Rhagor o wybodaeth Os hoffech sgwrs anffurfiol am y swydd, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Gwyn Williams, y Prif Swyddog, naill ai trwy ffonio 07831 092524 neu trwy e-bost [email protected]

I dderbyn pecyn ymgeisydd e-bostiwch [email protected]

I gael gwybod mwy am y Gymdeithas, ewch i’n gwefan www.cyfieithwyr.cymru

Cyflog

💰 hyd at £30,000 + 6% pensiwn

Lleoliad

📍 Bangor, Hybrid

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau