Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Gweinyddol

💰 £24,669 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Age Cymru yn edrych am Swyddog Gweinyddol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Age Cymru, yr elusen genedlaethol sy’n cefnogi pobl hŷn yng Nghymru, yn chwilio am swyddog gweinyddol i ymuno â thîm llwyddiannus. Dyma gyfle gwych i chi ddefnyddio eich sgiliau gweinyddol er mwyn sicrhau ein bod ni’n darparu gwasanaeth arbennig i bobl hŷn.

Fel Swyddog Gweinyddol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu Age Cymru i wireddu ein gweledigaeth strategol a’n cenhadaeth drwy ddarparu cefnogaeth gweinyddol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i drefnu cyfarfodydd gyda phartneriaid allanol ac yn cyflawni amrywiaeth o dasgau gweinyddol a fydd yn galluogi’r Elusen i weithredu’n effeithiol. 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhannu eu hamser rhwng gweithio mewn swyddfa a gweithio yn eu cartrefi, felly bydd angen iddynt deithio i’r swyddfa yng Nghaerdydd yn gyson yn ôl yr angen.  

A wnewch chi anfon llythyr eglurhaol gyda’ch cais, gan egluro sut rydych chi’n ateb y meini prawf a nodwyd ym manyleb y person. Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau heb lythyr eglurhaol.

Mi fydd gennych chi:

  • Brofiad o weithio mewn swyddfa brysur fel swyddog gweinyddol.
  • Profiad o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid arbennig, yn fewnol ac allanol.
  • Dull cadarnhaol a hyderus wrth ryngweithio.
  • Profiad o gadw cofnodion, defnyddio taenlenni a chronfeydd data, a delio gyda gwybodaeth gyfrinachol.
  • Y gallu i weithio’n hyblyg ac yn rhagweithiol ar eich liwt eich hun ac fel rhan o dîm.
  • Sgiliau ysgrifenedig a llafar gwych.
  • Rydych chi’n deall sut i weithio gyda phecyn Microsoft Office 365.

Yr hyn rydyn ni’n ei gynnig:

  • Cyflog cystadleuol, 27 diwrnod o wyliau blynyddol + gwyliau’r banc + system brynu gwyliau blynyddol
  • Cynllun pensiwn arbennig, sicrwydd bywyd, cynllun arian-yn-ôl ar gyfer iechyd a Rhaglen Cymorth i Weithwyr

Gwybodaeth ychwanegol:

Bydd angen bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus gar i deithio ledled Cymru. Bydd yr unigolyn yn teithio tu hwnt i Gymru ac yn gweithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol. Bydd trefniadau yn cael eu gwneud ymlaen llaw.

Mae Age Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal. Rydyn ni’n annog pob ymgeisydd cymwys i ymgeisio. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bawb, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd, crefydd neu gred, statws priodasol/partneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau i weithio’n hyblyg.

Mae Age Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu oedolion a phlant sy’n agored i niwed, camdriniaeth ac esgeulustod. Rydyn ni’n disgwyl i bawb sy’n gweithio gyda ni i rannu’r ymrwymiad hwn.

Rydyn ni’n eich annog i wneud cais cyn gynted â phosib. Byddwn ni’n edrych ar y ceisiadau drwy gydol y cyfnod hysbysebu, ac mae gennym hawl i gau’r hysbyseb ar unrhyw bryd.

Ni fyddwn ni’n derbyn cyfathrebiadau gan asiantaethau recriwtio nac asiantaethau gwerthu cyfryngau. Ni fyddwn yn derbyn CV ar hap gan asiantaethau recriwtio na’r ffioedd sy’n gysylltiedig â nhw.

Cytundeb: 35 awr yr wythnos - Cyfnod penodol tan ddiwedd mis Mawrth 2025 Dyddiad cau: 19 Tachwedd 2024

Cyflog

💰 £24,669

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £19,264 - £19,650 📍 Llandudno📍 O gartref Ar gau

💰 £25,000 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 Yn unol â phrofiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

💰 £27,024 - £32,739 📍 Caerdydd Ar gau

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £26,713 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £38,433 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £26,500 pro rata 📍 Porthmadog Ar gau

💰 £27,116 📍 Bangor Ar gau

💰 £10,000 📍 Sir Benfro📍 Abertawe +4 Ar gau

💰 £27,491 - £42,333 📍 Ceredigion Ar gau

💰 £19,601 - £22,058 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £25,913 - £28,049 📍 Sir Gaerfyrddin Ar gau

💰 £21,453 - £25,017 pro rata 📍 Ceredigion Ar gau

💰 £21,500 - £27,000 📍 Ceredigion Ar gau

💰 £33,486 - £35,336 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £22,129 - £24,920 📍 Ynys Môn Ar gau

💰 £19,601 - £22,058 📍 Llangrannog Ar gau

💰 £30,984 - £32,798 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £25,211 - £28,223 📍 Caerdydd Ar gau